Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni

Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi’i ddweud wrthym

Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn yr wybodaeth a’r cyngor cywir pan roeddynt ei angen

Roedd 72% o ofalwyr, 77% o blant a 79% o oedolion yn cytuno gyda’r datganiad hwn. Nid oedd rhai pobl yn siŵr beth oedd ar gael iddynt ac felly nid oeddent yn teimlo y gallant ofyn y cwestiynau cywir. Roedd eraill yn ei chael yn anodd cael mynediad i wybodaeth ac yn teimlo y byddant yn manteisio o gyswllt amlach a mwy cyson gyda ni pan fydd eu cynllun gofal a chymorth ar waith.

Pobl yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch
Roedd 98% o ofalwyr, 80% o blant a 93% o oedolion yn cytuno eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff Gofal Cymdeithasol.

Mae gen i dîm gwych o ofalwyr sydd bob amser yn glên a gofalus ohonof

Bob amser, ac mae dealltwriaeth ein gweithwyr cymdeithasol wedi gwneud y broses o ofalu yn haws.

Pobl sydd â chynllun gofal a chymorth yn dweud eu bod wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am eu gweithiwr penodedig yn y gwasanaethau cymdeithasol
Mae 83% o ofalwyr, 85% o blant a 81% o oedolion yn cytuno eu bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw am eu gofal a chefnogaeth, ond, mae sylwadau ychwanegol yn datgelu bod rhai yn teimlo rhwystredigaeth gyda’r broses o gael cefnogaeth ac yn teimlo eu bod yn cael eu pasio o un adran i’r llall. Nododd rhai gofalwyr pa mor werthfawr oedd aelodau staff penodol wrth gefnogi eu dyletswyddau gofalu a gwahaniaeth mor gadarnhaol y mae wedi’i wneud i’w bywydau.

Cymorth gyda gofal seibiant yw’r unig beth sydd wedi ein cadw yn gall a’n galluogi i fynd ar wyliau gyda theulu a ffrindiau heb boeni – cefnogaeth ardderchog, Diolch.

Pobl yn rhoi gwybod eu bod yn teimlo yn rhan o unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’u gofal a chymorth
Roedd 81% o ofalwyr, 76% o blant a 76% o oedolion yn cytuno, gydag ymatebwyr o bob grŵp yn nodi bod hwn yn gyfrifoldeb ar y cyd, neu ar ran aelodau eraill o’r teulu.

Pobl sydd yn fodlon gyda’r gofal a chymorth y maent wedi’i dderbyn
Roedd 70% o ofalwyr, 78% o blant a 87% o oedolion yn fodlon gyda’r gofal a chymorth y maent wedi’i dderbyn gan Gonwy. Mae’r sylwadau ychwanegol a gafwyd yn arddangos ystod o safbwyntiau; hoffai rhai gael mwy o gefnogaeth ond yn cydnabod bod adnoddau yn gyfyngedig. Roedd eraill yn gwerthfawrogi bod angen cefnogaeth ar gyfer eu llesiant ac yn canmol y staff oedd ynghlwm â’u gofal.

Os oes un peth roeddwn yn hapus gydag o, y merched oedd yn gofalu amdanaf oedd hynny, roedd pob un ohonynt yn A1.

Mae’n bwysig i ni bod pobl sy’n cael gofal a chefnogaeth yng Nghonwy yn cael eu trin ag urddas, parch a charedigrwydd, felly mae’n bleser derbyn adborth a diolch gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd sy’n cadarnhau hyn. Mae ein tîm ailalluogi Pobl Hŷn yn derbyn llythyrau a chardiau yn rheolaidd sy’n dangos y rhyddhad a’r gwerthfawrogiad bod gofal o ansawdd yn cael ei ddarparu. Dyma rai enghreifftiau o’r sylwadau a gafwyd:

Roedd fy ngwraig yn gwerthfawrogi’r modd cyfeillgar, proffesiynol ac ymroddedig y gwnaeth [y gofalwyr] eu dyletswyddau …….hoffwn innau hefyd ddiolch i’r merched am dawelu unrhyw bryder oedd gennym, gan fod y rhain yn brofiadau newydd i ni.

Roedd gan y staff berthynas hyfryd gyda fy mam a gwnaethant ddiwallu ei hanghenion gyda chyfeillgarwch a chynhesrwydd …..hoffwn i chi wybod pa mor werthfawr yw’r gwasanaeth hwn i bobl fel fy niweddar fam a gofynnaf i chi basio ein gwerthfawrogiad i’r tîm bendigedig o staff gofal a wnaeth eu gorau iddi.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bob dynes ddaeth ataf yn ystod fy nghyfnod gofal o chwech wythnos. Roeddech i gyd mor hyfryd a charedig, ni fyddwn wedi gallu ymdopi heboch chi. Rwy’n eich caru chi i gyd.

Perfformiad Arall
Nid oedd 81% o oedolion a gafodd gyngor a chefnogaeth gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth angen cysylltu â’r gwasanaeth eto o fewn 6 mis. Rydym yn falch o’r llwyddiant hwn gan ein bod yn sylweddol uwch na Chyfartaledd Cymru gyda’r canlyniad hwn. (PMA23)

Gwnaethom gwblhau 100% o asesiadau ar gyfer plant o fewn y graddfeydd amser statudol (PMC24)

Rhaglen Timau Adnoddau Cymunedol

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac ystyried ffyrdd o wella ein hygyrchedd i ddinasyddion ledled Conwy. Rydym yn bwriadu sefydlu Timau Adnoddau Cymunedol a fydd yn cynnwys timau o weithwyr proffesiynol, yn gweithio mewn cymunedau i ddarparu cefnogaeth iechyd, lles a gofal cymdeithasol i ardaloedd dynodedig.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu i drafod sut y gall timau amrywiol weithio mewn ffordd mwy integredig a sicrhau bod y model gwasanaeth newydd yn addas ar gyfer ei bwrpas ac yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae adborth wedi tynnu sylw at themâu ailadroddus mewn perthynas â thechnoleg gwybodaeth, yr angen am gydlyniad a chyfathrebu lleol, symleiddio prosesau cyfredol a phwysigrwydd defnyddio arbenigedd y staff cywir ym mhob lleoliad.

Amcanion y Rhaglen Tîm Adnoddau Cymunedol yw sicrhau:

  • Model darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer bob cymuned
  • Gwasanaethau wedi’u cydlynu ac yn canolbwyntio ar y person ar gyfer pob dinesydd sydd eu hangen
  • Gwaith partneriaeth ynghylch yr unigolyn
  • Agwedd ataliol i wneud y gorau o annibyniaeth a gwytnwch
  • Model gwaith effeithlon ac integredig
  • Gwasanaethau sy’n gweithredu 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos

Bydd gwaith yn parhau i archwilio’r cyfleoedd i adeiladu ar y trefniadau gwaith partneriaeth cyfredol a sefydlu’r model gwaith mwyaf effeithiol. Yn syml, dylai edrych fel y model hwn ar y dde:

Sgyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Ganlyniadau

Mae sgyrsiau seiliedig ar ganlyniadau yn ganolog i brosiect arbrofol yng Ngwasanaeth Plant a Theuluoedd Conwy ac eisoes wedi’i sefydlu yn y Gwasanaeth Pobl Hŷn. Pwrpas y prosiect arbrofol yw archwilio cyfleoedd a heriau gweithredu ffocws ar ganlyniadau personol a theuluoedd.

Mae agwedd seiliedig ar ganlyniadau yn dechrau trwy dreulio amser yn deall beth sy’n bwysig i’r unigolyn a’u teulu. Mae hyn yn annog sefydliadau i symud oddi wrth agweddau a arweinir gan wasanaethau a’u herio i feddwl mewn modd sy’n canolbwyntio ar y person. Ni ellir cyflawni canlyniadau trwy ddarparwr gwasanaeth sengl bob amser. Mae elfennau cadarnhaol yr agwedd hon yn cynnwys gwelliannau mewn perthnasau rhwng gweithwyr cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaeth, a materion craidd yn cael eu nodi mewn modd newydd, a defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso i wneud penderfyniadau am eu dyfodol.

Mae’r agwedd hon yn cydnabod bod canlyniadau yn cael eu cyflawni o fewn rhwydwaith ehangach y teulu, y gymuned leol a systemau gofal Cymdeithasol.

Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol:

Pan oeddwn yn cwffio gyda fy mrawd byddai hi [Gweithiwr Cymdeithasol] yn siarad gyda mi ac yn fy mhwyllo. Ceisiodd hefyd fy helpu cymaint â phosibl, a gwrando arnaf.

Mae hi [Gweithiwr Cymdeithasol] yn fy mhwyllo pan fyddaf yn ei gweld hi. Mae’n hawdd siarad gyda hi hefyd. Mae hi wir wedi ein helpu.

Rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i weithredu’r newid agwedd hwn. Bydd hefyd yn gofyn am drafodaethau medrus i gael cydbwysedd rhwng darparu gofal a diogelu rhag niwed, tra’n parchu’r gwahanol aelodau o’r teulu.

I’r dyfodol, y nod yw i unigolion ymgysylltu â’r canlyniadau sy’n bwysig, tra bod ymarferwyr yn gweithio tuag at newidiadau cynaliadwy. Gobeithir y bydd yr agwedd hon yn arwain at leihad mewn atgyfeiriadau, lleihad mewn llwyth achosion a lleihad yn nifer y plant sydd dan ofal neu ar y Gofrestr Diogelu Plant. Yn seiliedig ar yr effaith, bydd cyflwyniad parhaus yn y Gwasanaeth Pobl Hŷn a’r holl wasanaethau eraill yn 2018-19. 

Tîm Ymylon Gofal

Yng Nghonwy rydym yn ceisio cefnogi teuluoedd i gadw pobl ifanc yn ddiogel, gartref, ac atal plant a phobl ifanc rhag gorfod mynd i’r system ofal. Mae ein Tîm Ymylon Gofal wedi’i greu i helpu i atal rhwyg mewn teuluoedd, lleihau’r angen i dderbyn plant i ofal a gwella profiadau plant sydd eisoes dan ofal. Trwy ddarparu cefnogaeth ddwys ac ymarferol i’r teulu yn eu hamgylchedd cartref, mae gwaith y tîm yn canolbwyntio ar anghenion unigol y teulu ac yn mabwysiadu agwedd integredig i osgoi argyfwng yn y cartref. Mae staff yn brofiadol ac wedi’u hyfforddi i safon uchel i gydbwyso’r angen am ymyrraeth uniongyrchol ac wedi’i dargedu, ac mae gweithio gyda theuluoedd ar nodau tymor hir yn ceisio datblygu sgiliau datrys problemau, gwella gwytnwch a chyflawni newid ymddygiad cadarnhaol a chynaliadwy.

Mae’r tîm yn gweithio ochr yn ochr â thimau ac asiantaethau eraill fel y Tîm o Amgylch y Teulu, y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau, Tai, gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, ac eraill, i sicrhau bod ymyraethau mor effeithiol â phosibl.

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English