Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt

Comisiynu

Rydym newydd gynhyrchu ein strategaeth gomisiynu sy’n nodi sut y bydd Gofal Cymdeithasol Conwy yn cydweithio gyda dinasyddion, staff, cymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid i gomisiynu gwasanaethau sy’n darparu canlyniadau, gwell iechyd a lles, gweithlu y gofalir amdanynt a gwell gwerth am arian. Mae’n ceisio darparu’r hyn sy’n bwysig i ddinasyddion a rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu bywydau, yn ogystal â chyflawni ein gweledigaeth, “cydweithio gyda’n cymunedau i sicrhau bod pawb yn gallu cael y gorau allan o fywyd”.
Mae’n rhaid i ni newid y modd y byddwn yn comisiynu a gweithio, gan fod galw cynyddol ar wasanaethau a bod anghenion dinasyddion yn dod yn fwy cymhleth. Mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaethau lleol, o ansawdd gyda llai o adnoddau.
Rydym wedi datblygu wyth amcan strategol a’n cynllun comisiynu, sy’n nodi beth yr ydym yn bwriadu ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf. Rydym wedi eu seilio ar y Nodau Pedwarplyg, a nodwyd yn yr Adolygiad Seneddol o Ofal Cymdeithasol (Ionawr 2018), ac ymchwil, data a’r hyn y mae dinasyddion a phartneriaid wedi’i ddweud wrthym trwy Sgwrs y Sir ac ymgynghoriad.

Amcanion Strategol

Amcan Strategol 1 – Canolbwyntio ar ganlyniadau lles

  • Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio’r canlyniadau llesiant cenedlaethol (Adran 10) a byddwn yn parhau i weithio tuag at gynnwys y rhain ym mhob agwedd o’n gwaith a chefnogi darparwyr i wneud yr un fath.
  • Mae’r canlyniadau hyn yn cynnwys cyfrifoldebau y bydd y dinasyddion eu hunain yn ymgymryd â nhw i’w helpu i gyflawni eu llesiant eu hunain.
  • Mae’r Iaith Gymraeg a’n cynnig gweithredol yn sylfaenol i ddarparu’r canlyniadau hyn.

Amcan Strategol 2 – Atal

  • Rydym eisiau i ddinasyddion fod yn iach, aros yn iach am hirach ac atal neu oedi eu hangen am ofal a chefnogaeth.

Amcan Strategol 3 – Ymyrraeth gynnar

  • Byddwn yn cydweithio i nodi meysydd ar gyfer ymyrraeth gynnar a gweithredu cyn gynted â phosibl fel bod dinasyddion yn aros yn annibynnol, bod teuluoedd yn wydn a bod anghenion plant yn lleihau.

Amcan Strategol 4 – Cydweithio

Byddwn yn cydweithio:

  • Gydag unigolion, teuluoedd a chymunedau gan ddefnyddio agwedd wedi’i chyd-gynllunio a’i chyd-gynhyrchu fel y bydd gan ddinasyddion fwy o farn, dewis a rheolaeth. Sicrhau ymglymiad cyfartal.
  • Gydag ystod eang o bartneriaid a phartneriaid corfforaethol yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol i ddatblygu modelau newydd o ofal a gwneud defnydd gorau o lywodraethu ac adnoddau ar y cyd.
  • Defnyddio cryfderau cymunedol cyfredol i greu cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy.
  • Canolbwyntio ein darpariaeth ar lefel leol fel bod anghenion dinasyddion yn cael eu diwallu yn lleol, rŵan ac yn y dyfodol.
  • Trwy ddefnyddio ffyrdd arloesol o gynnwys dinasyddion, yn enwedig y rhai anodd i’w cyrraedd.
  • Datblygu perthnasau da gyda’n holl bartneriaid a dysgu gyda’n gilydd.

Amcan Strategol 5 – Deall ein cwsmeriaid, ein gweithlu a’n marchnadoedd

  • Byddwn yn parhau i ddefnyddio ystod eang o ddata a gwybodaeth i ddatblygu arferion seiliedig ar dystiolaeth fel ein bod yn adnabod ein dinasyddion, ein gweithlu a’r marchnadoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw rŵan ac yn y dyfodol.
  • Bydd y gweithlu gofal wedi’u hymgysylltu, eu cefnogi, eu hyfforddi ac ag agwedd o welliant parhaus. Rydym eisiau i Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy fod yn lle gwych i weithio.
  • Bydd sefydlogrwydd a chynaladwyedd y farchnad yn sylfaenol i’r gwaith yr ydym yn ei wneud a byddwn yn datblygu ein hagwedd at siapio’r farchnad, cyflenwi a’r galw am wasanaethau fel y gallwn ddatblygu ffyrdd arloesol o weithio i ddiwallu anghenion lleol a datblygu cadwyni cyflenwi moesol.

Amcan Strategol 6 – Mae dinasyddion yn ddiogel

  • Bydd diogelu yn cael ei integreiddio ym mhopeth yr ydym yn ei wneud, fel y gall ddinasyddion fyw yn rhydd rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
  • Bydd y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu yn ddiogel.
  • Mae arferion cyflogaeth moesegol yn ein gwasanaethau a gomisiynwyd yn bwysig a byddwn yn gweithio gyda’n darparwyr i sicrhau bod ein holl arferion yn foesegol o fewn ein cadwyn gyflenwi mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol. Mae gan Gomisiynu hefyd ran allweddol i’w chwarae wrth ddweud NA i gaethwasiaeth fodern.

Amcan Strategol 7 – Ansawdd a gwerth am arian

  • Bydd ansawdd hefyd wedi’i integreiddio ym mhopeth a wnawn.
  • Rydym wedi ymrwymo i sicrhau darpariaeth gwasanaethau a gofal o ansawdd uchel, pwy bynnag sy’n ei ddarparu.
  • Byddwn yn comisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel ac wedi’u personoleiddio a byddwn yn gwirio ansawdd ein gwasanaethau, profiadau dinasyddion a chynllun gwella ansawdd fel ein bod yn dysgu a gwella yn barhaus.
  • Bydd gennym agwedd wedi’i thargedu at ddefnyddio adnoddau a byddant yn cael eu defnyddio yn effeithlon ac effeithiol a byddwn yn canfod a dileu gwastraff a fydd yn moderneiddio ein hagwedd at gomisiynu.
  • Byddwn yn dechrau edrych ar y Gwerth Cymdeithasol y gallwn ei greu trwy wasanaethau sy’n cael eu darparu a’r effaith y maent yn ei gael ar ein cymunedau.

Amcan Strategol 8 – Technoleg

  • Byddwn yn datblygu ymhellach ein defnydd o dechnoleg arloesol, er enghraifft trwy ymestyn teleofal/technoleg gynorthwyol/teleiechyd i wella ein gwasanaethau, i gynnal/hyrwyddo annibyniaeth unigolion a lleihau’r angen am ofal a chefnogaeth uniongyrchol.
  • Byddwn yn archwilio lle y gallwn weithio yn fwy effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio technoleg, gan ganolbwyntio ar awtomatiaeth yn fewnol a gyda’n darparwyr.

Sut fyddwn ni’n gwybod pa mor effeithiol rydym yn comisiynu?

  • Gan fod y strategaeth gomisiynu yn ceisio cyflawni canlyniadau i ddinasyddion Conwy, bydd yn cyfrannu at ddarpariaeth y canlyniadau llesiant, a bydd y rhain yn cael eu defnyddio fel mesurau i asesu llwyddiant y strategaeth, ochr yn ochr â darpariaeth ein wyth amcan strategaeth a’n cynllun comisiynu.
  • Yn flynyddol, byddwn yn rhoi gwybod sut bydd ein dinasyddion yn diwallu’r canlyniadau llesiant hyn.
  • Bydd y strategaeth gomisiynu yn cael ei hadolygu ar ôl tair blynedd, neu’n gynt os oes angen gwneud newidiadau.
  • Bydd y cynllun comisiynu yn cael ei fonitro yn flynyddol a rhoddir gwybod i’r Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English