Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Cyflwyniad

Pwrpas yr adroddiad blynyddol yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i breswylwyr Conwy. Mae’r adroddiad yn ceisio dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles a rhoi cyfrif am ddarparu safonau llesiant. Mae’n rhoi gwybod am feysydd datblygiad newydd – yn hytrach na phob agwedd o’n gwaith, ac yn gwerthuso ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r adroddiad blynyddol yn ofyniad ar bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae ein blaenoriaethau gwasanaeth wedi’u halinio i chwe Safon Ansawdd Cenedlaethol y deilliannau llesiant, ac yn erbyn y meysydd hyn rydym yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn erbyn y chwe maes, trwy roi gwybodaeth am ddatblygiadau, astudiaethau achos, canlyniadau arolwg ac adborth, a mesuryddion perfformiad. Y chwe safon yw:

  1. Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni.
  2. Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
  3. Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
  4. Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas.
  5. Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel.
  6. Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.

Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i ystod eang o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, ein rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymgysylltu yn rheolaidd â’n budd-ddeiliaid ac yn gwerthfawrogi adborth gan y bobl rydym ynghlwm â nhw, ac mae enghreifftiau o’r adborth hwn drwy gydol yr adroddiad hwn.  Mae dyluniad yr adroddiad yn seiliedig ar fformat yr oedd ein Cyngor Ieuenctid ynghlwm â’i ddewis.

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English