Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr

Croeso i adroddiad blynyddol Gofal Cymdeithasol Conwy ar gyfer 2017/18. Eleni, rydym wedi edrych ar sut y gallwn ddangos sut y mae’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn canolbwyntio ar brofiadau defnyddwyr gwasanaeth a’r 6 safon ansawdd allweddol a ddisgrifiwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym wedi gweithio yn galed i wneud yn siŵr ein bod yn gwrando ac wedi cynnal arolwg dinasyddion o’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau eto eleni. Anfonwyd dros 2000 o holiaduron ac mae’r nifer dda o ymatebion a gafwyd wedi ein galluogi i ystyried ffynhonnell gyfoethog yr adborth i ddatblygu ymhellach neu ‘aros ar y trywydd cywir’.

Rydym wedi cynnal perfformiad da yn y gwasanaethau pobl hŷn, gwybodaeth, cyngor a chymorth a’r gwasanaethau plant. Clywsom gan bobl bod cysylltu yn well â phartneriaid eraill fel iechyd yn gwneud gwahaniaeth ac rydym wrth ein bodd y byddwn yn datblygu ein timau adnoddau cymunedol ymhellach yn y flwyddyn sydd i ddod.

Rydym wedi canolbwyntio ar gymorth a chefnogaeth cynnar; gan weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector mae gennym bellach gyfuniad sefydledig o wasanaethau llesiant cymunedol. Maent yn amrywio o gefnogi plant a’u teuluoedd i weithio i hyrwyddo iechyd meddwl da ar draws oedrannau, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan unrhyw gam o ddementia.

Mae Diogelu yn parhau i fod yn flaenoriaeth gwasanaeth a chorfforaethol, yn enwedig diogelu oedolion, lle rydym wedi bod angen buddsoddi mewn cefnogaeth a hyfforddiant i’n staff i ddylanwadu ar well proffil o ddangosyddion lle gallwn ddangos gwahaniaeth. Mae gennym waith rhagorol yr ydym yn ei arddangos yn genedlaethol yn y maes Camfanteisio’n Rhywiol Ar Blant ac mae’n arddangos yr arloesi rhagorol gan ymarferwyr rheng flaen.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi annog newid meddylfryd i annog pobl i feddwl am yr hyn sy’n bwysig iddynt nhw a chydweithio i gyd gynhyrchu cefnogaeth. Mae adborth rhagorol ar dudalen 21 yr adroddiad sy’n rhoi blas o’r cyfeiriad yn y maes hwn, ac rwy’n falch iawn o’r enghreifftiau.

Rydym wedi dechrau llunio gwasanaethau i blant a theuluoedd ar draws sbectrwm cyfan y gwasanaethau ac wedi manteisio yn enfawr o synergedd agos rhwng y timau cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg a’r Tîm o Amgylch y Teulu a’n gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth.

Yn olaf, mae’r adroddiad yn rhannu meysydd ardderchog lle rydym wedi datblygu dewisiadau llety arloesol ar gyfer rhai o’n defnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys llwybrau cadarnhaol pobl ifanc a’n cynlluniau gofal ychwanegol llwyddiannus, ac rydym eisiau datblygu mwy o’r rhain.

Yn ddiweddar, gwnaethom lansio ein strategaeth gomisiynu yr ydym yn falch iawn ohoni, ac sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghonwy mewn cyfnod o newid parhaus mewn deddfwriaeth a pholisi. Byddwn yn adrodd yn ôl bob blwyddyn ar ein huchelgeisiau yn y strategaeth i ddangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaethau o ansawdd. Yn olaf, nodyn o ddiolch i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau am dreulio amser yn rhoi eu hadborth ac yn wir, i’n hased mwyaf – ein tîm o staff bendigedig.

 

Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English