Ein Gweithlu a Sut Rydym ni’n Cefnogi eu Rolau Proffesiynol
Dysgu a Datblygu
Mae ein Cynllun Dysgu a Datblygu Gweithlu blynyddol wedi’i alinio â Deddf SSWB (Cymru) 2014.
Rydym wedi sefydlu grŵp ‘Gweithredu’r Ddeddf’ i ymarferwyr i’w cefnogi wrth weithredu Deddf SSWB (Cymru) 2014 o ddydd i ddydd.
Rydym yn cefnogi staff heb eu cymhwyso, sydd yn cymryd rhan mewn asesiadau, i fynd drwy gynllun hyfforddi ‘Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol’ a ddatblygwyd drwy Ofal Cymdeithasol Cymru.
Rydym wedi cyflwyno hyfforddiant modiwl craidd Deddf SSWB (Cymru) 2015 ar IAA – plant ac oedolion. Roedd llefydd hyfforddiant ar gael i asiantaethau partner megis BIPBC.
Rydym wedi cymryd rhan mewn Sgyrsiau Cydweithrediadol – Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol. Mae’r rhaglen yn meithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol mewn timau gwaith cymdeithasol ar draws timau oedolion, plant ac amlasiantaeth o fewn adrannau, a’r brif nod yw rhoi sgiliau a strategaethau ‘cyfathrebu cydweithrediadol’ i weithwyr.
Rydym yn parhau i gefnogi cyflwyno sesiynau hyfforddi undydd i reolwyr yn y trydydd sector a gwasanaethau darparwyr a gomisiynir i gynyddu eu gwybodaeth o’r Ddeddf SSWB (Cymru) 2014.
Gan edrych tuag at y dyfodol, mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a budd-ddeiliaid allweddol, byddwn yn llunio cynllun dysgu i gefnogi’r gofynion bod gweithlu yn cofrestru fel y nodir yn Rheoleiddio ac Arolygu Deddf Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Mae’r newid mewn diwylliant sydd ei angen er mwyn sefydlu Deddf SSWB (Cymru) yn llwyr yn broses sy’n parhau. Mewn partneriaeth gyda budd-ddeiliaid allweddol rydym yn adolygu ein rhaglen dysgu a datblygu ac effeithiolrwydd ein hyfforddiant i sicrhau y gallwn gefnogi’r sector cyfan i ddiwallu gofynion Deddf SSWB (Cymru) a gofynion cofrestru Rheoleiddio ac Arolygu Ddeddf (Cymru).
Rheoli Gweithlu
Roedd 2016/17 yn flwyddyn heriol arall. Tra bod yr adolygiadau strwythurol mawr wedi cael eu cwblhau yn 2015/16 yn rhan o Raglen Trawsnewid y gwasanaeth, mae gwasanaethau yn parhau i adolygu’r gweithlu gan fod y strwythur rheoli newydd bellach wedi’i ‘sefydlu’, ac er mwyn gallu dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd pellach angenrheidiol. Yn ystod 16/17 a 17/18 hyd yn hyn, mae newidiadau strwythurol wedi bod o fewn y Tîm Gwasanaethau Anableddau, Pobl Ddiamddiffyn, Tîm Datblygu a Hyfforddi Gweithlu/Staff Cefnogi Busnes.
Mae uwch reolwyr yn cynnal cyfarfod gweithlu bob mis gydag Adnoddau Dynol a’r Rheolwr Datblygu’r Gweithlu i ystyried a mynd i’r afael â phroblemau staff megis salwch, adolygiadau datblygu perfformiad, cwynion a materion disgyblu.
Adnoddau Ariannol a Sut Rydym ni’n Cynllunio at y Dyfodol
Mae Gofal Cymdeithasol yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i nifer o bwyllgorau craffu, gan gyflwyno 32 adroddiad ar amrywiaeth o destunau yn ystod 2016/17.
Cafodd gorwariant Gofal Cymdeithasol ei adrodd i’r Prif Bwyllgor Craffu ym mis Rhagfyr 2016. Cafodd Achos Busnes, i adlewyrchu’r lefel bresennol o danariannu yng nghyllideb Gofal Cymdeithasol ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan y Cyngor yn rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2017/18.
Yn ychwanegol, cafodd achosion busnes pellach eu cyflwyno, a’u cymeradwyo, yn ystod y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2017/18. Roedd y swm yma’n cynnwys costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflog byw, a thwf gwasanaeth.
Yn ogystal, roedd yn rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ddod o hyd i arbedion sylweddol yn 2017/18.
Fe fydd y gyllideb yn parhau i gael ei monitro’n agos yn ystod 2017/18 drwy gyfarfodydd cyllideb misol a gynhelir gyda Rheolwyr Gwasanaeth, Cyfrifwyr Gwasanaeth, yr adran Gyllid a Phenaethiaid Gwasanaeth. Yn rhan o’r broses honno, fe fydd y cynnydd wrth gyflawni’r targed arbedion yn cael ei dracio a’i adrodd yn ofalus. Mae’r gwasanaeth hefyd yn mynychu Grŵp Ymgynghori ar y Gyllideb ac mae uwch reolwyr yn cwrdd yn rheolaidd gyda’r Cyfarwyddwr Strategol, Cyllid ac Effeithlonrwydd.
Gweithio mewn Partneriaeth, Arweinyddiaeth Gwleidyddol a Chorfforaethol, Llywodraethu ac Atebolrwydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru wedi creu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau. Dylai fod yn egwyddor trefnu canolog i ystyried effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd penderfyniadau. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi eu cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol. Mae’r 7 nod a 5 ffordd o weithio wedi’u halinio i 8 Canlyniadau Dinasyddion Conwy, fel yr amlinellir isod.
Mae meysydd blaenoriaeth eraill sydd wedi cael eu hystyried yn cynnwys:
Creu Cymunedau Cryf Llywodraeth Cymru
Symud Cymru Ymlaen
Amcanion Lles Llywodraeth Cymru (2016-2021)
Mae’r broses o asesu camau blaenoriaeth yn adlewyrchu’r 5 ffordd o weithio, ac mae’r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys camau gweithredu sydd yn rhagweithiol nid yn ymatebol, sydd â’r nod o weithio tuag at effaith tymor hirach, wedi cael eu integreiddio wrth ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles ac maent yn gydweithredol o ran y ffocws ar weithio’n agos gyda chymunedau – felly maent yn rhan o berchen a gweithio ar y cyd i ddiwallu Canlyniadau Dinasyddion. Mae blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol wedi cael eu hystyried gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych er mwyn edrych lle mae blaenoriaethau yn effeithio ar sefydliadau cyhoeddus eraill a lle mae yna gyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Roedd cymunedau yn rhan wrth ddatblygu’r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymuned leol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein themâu trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo’r Gymraeg.
O fewn Gofal Cymdeithasol, caiff ein blaenoriaethau eu gosod gan Reolwyr Gwasanaeth drwy ymgynghori â’u timau, ac maent wedi’u halinio â’r Cynllun Corfforaethol a safonau ansawdd Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant. Caiff cynnydd ei fonitro’n rheolaidd, a chynhelir cyfarfodydd bob chwarter gydag Uwch Reolwyr a deiliaid Portffolio, gyda ffocws benodol ar risgiau a phroblemau, staffio a pherfformiad.
Yn unol â’n Fframwaith Rheoli Perfformiad, bob chwech mis bydd Conwy yn adolygu pob maes gwasanaeth i ddarparu cymorth a her, ac i fonitro ein cynnydd o ran cyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol, blaenoriaethau eu Cynllun Gwasanaeth, prif risgiau, mesurau perfformiad, cyflawniadau, a meysydd gwella.
Mae canfyddiadau’r adolygiadau hyn hefyd yn cael eu dogfennu a’u cyflwyno i’r Uwch Reolwyr ac Aelodau Etholedig mewn Adroddiad Perfformiad Corfforaethol.
Bob blwyddyn, erbyn 31 Hydref, byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol fydd yn manylu ynglŷn â’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn ariannol flaenorol i sicrhau’r ymrwymiadau a wnaed gennym yn y Cynllun Corfforaethol. Bydd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys gwerthusiad o’n llwyddiannau allweddol, mesurau perfformiad a’r meysydd lle mae angen i ni wneud gwelliannau pellach.
Daeth adolygiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad fod gan y Cyngor drefniadau llywodraethu cadarn ar gyfer penderfynu ar newidiadau sylweddol i wasanaethau ond mae cysondeb asesu effaith cydraddoldeb yn amrywio ac mae diffyg tryloywder wrth adrodd ar arbedion yn sgil newidiadau i wasanaethau.
Mae gan y Cyngor fframwaith strategol clir i gynllunio a rhoi newidiadau i wasanaethau ar waith, ac mae dull ‘Tîm Conwy’ yn nodi dull clir sydd wedi’i ddeall ar gyfer newid trefniadau llywodraethu gwasanaeth.
Mae cynghorwyr yn herio achosion busnes a gwerthusiadau trefniadau monitro newid i wasanaethau yn gadarn er mwyn asesu bod yr effaith yn effeithiol. Mae proses ymgysylltu â budd-ddeiliaid Conwy yn gynhwysfawr, ac mae’r Cyngor yn adolygu a gwella effeithiolrwydd ei drefniadau gwneud penderfyniadau yn rhagweithiol.