Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth wedi bod yn ffocws sylweddol o’n gwaith yn ystod 2016/17. Yn rhan o hyn, fe wnaethom gynnal proses ymgynghori helaeth gyda sefydliadau, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd. Roedd yr ymagwedd yn seiliedig ar yr egwyddorion cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus yng Nghymru ac egwyddorion cydgynhyrchiad, a oedd yn llywio ein cynllun ymgynghori. Cafodd yr ymgysylltiad asesiad o anghenion y boblogaeth ei drefnu gan grŵp o staff o bob cyngor lleol, y bwrdd iechyd a Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu’n eang drwy gynghorau gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru a rhwydweithiau rhanbarthol amrywiol eraill. Bu’r cynghorau lleol a bwrdd iechyd yn ei hyrwyddo ar eu gwefannau, ac ar eu tudalennau Facebook a Twitter ac mewn datganiadau i’r wasg. Fe gysylltwyd â grwpiau penodol, gan gynnwys pobl â nodweddion a ddiogelir drwy grwpiau a rhwydweithiau presennol. Cafodd newyddlen ei chyhoeddi bob chwarter, gan ddarparu’r newyddion diweddaraf am y prosiect i staff a sefydliadau partner, ac roedd hyn yn help i adnabod grwpiau i gysylltu â nhw am yr ymgynghoriad ac ymgysylltu.

 

Yng Nghonwy, fe wnaethom dderbyn 133 o ymatebion gan sefydliadau i’n harolwg o angen pobl am ofal a chymorth. Fe wnaethom gynnal 16 o ddigwyddiadau gyda’n partneriaid gan ddosbarthu tri holiadur i tua 260 o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Roedd holiadur i’r cyhoedd (pobl sydd ddim yn defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth) ar gael ar wefan Panel Dinasyddion, ac fe gynhaliodd y Panel Dinasyddion 34 cyfweliad gydag aelodau o’r cyhoedd. Fe wnaethom ddefnyddio’r casgliadau o dros 300 ymgynghoriad ac adroddiadau ymchwil, ac fe drefnodd gynghorau lleol tua 20 gweithdy i staff a chynghorwyr.

 

Roedd asesiadau lles ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cynnal ar yr un pryd â’r asesiad poblogaeth hwn. Lle bynnag y bo’n bosibl, roedd unrhyw ymgysylltu oedd yn cael ei drefnu yn cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion y ddau asesiad. Mewn rhai meysydd, roedd hyn yn golygu anfon holiaduron ar y cyd, tra bod rhai eraill wedi cynnal gweithdai a grwpiau trafod ar y cyd.

Roedd y darn yma o waith yn flaenoriaeth allweddol wrth lywio ein strategaeth gomisiynu a gosod y cyd-destun ar gyfer ein gweledigaeth a blaenoriaethau penodol ar gyfer y gwasanaeth dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym eisoes wedi gweld gwasanaethau yn defnyddio’r wybodaeth hon i fireinio gweledigaeth eu gwasanaeth a gosod meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu a chyflawni. Bydd hyn yn golygu rhagor o benderfyniadau gwybodus gan ymateb i dystiolaeth gadarn sydd yn cynnwys cyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion ehangach.

Bydd ein ffocws y flwyddyn nesaf ar ddechrau’r gwaith o ailalino gwasanaethau presennol a gomisiynwyd a datblygu gwasanaethau newydd ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi cael eu nodi.

Sgwrs y Sir

Er mwyn datblygu ein blaenoriaethau ar gyfer Conwy, roedd gennym 2 ymagwedd; asesiad o les yn seiliedig ar ddadansoddiad demograffig o wybodaeth am y sir, a datblygu sgwrs gyda chymunedau lleol. Fe wnaethom rannu’r safbwyntiau hyn gyda chyrff cyhoeddus statudol eraill sy’n gweithio yn lleol, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Tân ac Achub. Defnyddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr adborth cymunedol i helpu i lywio’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol.

Roedd cymunedau yn rhan wrth ddatblygu’r blaenoriaethau, a bydd y Cyngor yn parhau i gynnwys cymunedau yn y dyfodol, yn enwedig trwy gysylltu trafodaethau cymuned lleol drwy ddatblygu cynlluniau lleoedd. Mae ein themâu trawsbynciol yn cyfeirio at bwysigrwydd asesu ein gweithredoedd a phenderfyniadau pwysig i gael effaith gadarnhaol ar drechu tlodi, cydraddoldeb a hyrwyddo’r Gymraeg. Roedd y broses ymgysylltu a gynhaliwyd yn monitro ymatebion i sicrhau bod yr adborth yn cynrychioli pob ardal o’r sir, pob nod llesiant, pob grŵp oedran a phob nodwedd a ddiogelir.

Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth a Gweithgareddau/Ymgynghoriadau

Rydym hefyd yn ymgynghori gyda’n defnyddwyr gwasanaeth yng Nghonwy drwy ein tîm Cyfranogi:

Cyfranogiad yr Ifanc: Rydym wrthi’n ymgysylltu gyda 3 phrif grŵp ar gyfer pobl ifanc:

  • Cyngor Ieuenctid Conwy – cynrychiolaeth ar gyfer Ysgolion Uwchradd ledled Conwy, gan gynnwys Ysgol y Gogarth/Gwasanaethau Ieuenctid
  • Fforwm Lleisiau Uchel i Blant sy’n Derbyn Gofal, rhwng 9-14 oed
  • Fforwm Gadael Gofal – Siapio Dyfodol

Ym mis Mawrth, bu Cyngor Ieuenctid Conwy yn rhan o gyfarfod ar y cyd gydag Aelodau Cabinet Conwy a Chadeiryddion Pwyllgorau Craffu er mwyn adolygu’r Cynllun Corfforaethol. Mae eu hadborth wedi dylanwadu ar ddyluniad a gosodiad y cynllun.

Cafodd addysg a sut y gellir cefnogi Plant yng Nghonwy i gyflawni safon dda o addysg ei drafod hefyd. Yna cafwyd sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Prif Weithredwr ac Aelodau.

Mae blaenoriaethau ar gyfer 2017/18 yn cynnwys:

Datblygu cysylltiadau gweithio gydag Unedau Atgyfeirio Disgyblion yng Nghonwy a Chyngor yr Ifanc er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd, sydd dal mewn addysg.

Testunau gwaith sydd wedi’u dewis ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod:

  • Prosiect Anghenion Dysgu Ychwanegol/Gweithio gyda Chydlynwyr ADY mewn ysgolion uwchradd.
  • Iechyd Meddwl a Stigma – wrthi’n ymgysylltu gyda’r Samariaid – i ddatblygu cyflwyniad/fideo ar sut i ddatblygu systemau cymorth gwell i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn lleoliadau ysgol.
  • Mae’r Fforwm Gadael Gofal (wedi’i adnewyddu fel Siapio Dyfodol), yn paratoi ar gyfer yr ymweliad gan y Comisiynydd Plant ar 12 Mehefin 2017, a bydd yn ymgynghori gyda’r Grŵp ac yn gwerthuso ein hunain yn erbyn Adroddiad Breuddwydion Cudd ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal.

Cyfranogiad oedolion: Yn ogystal â gweithio gyda’r tîm comisiynu ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, mae’r Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion yn parhau i gysylltu â grwpiau cynllunio lleol a’r grwpiau tasg a gorffen. Mae cynrychiolaeth ar y grŵp yn cynnwys grwpiau pobl hŷn, hy, Age Connect, Anableddau Dysgu, Men’s Sheds, Anableddau Corfforol a Dinasyddion Conwy. Croesawir aelodaeth gan bobl sy’n dangos diddordeb i gymryd rhan a dylanwadu ar wasanaethau gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn gweithio gyda CANIAD – y grŵp cynrychiadol ar gyfer iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Mae’r gwaith sydd wedi cael ei gynnal yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad corfforaethol – Gwiriad iechyd ar y partneriaethau a sut maent yn gweithio.
  • Rhaglen waith Cydlynydd Codymau – rhannu gwybodaeth.
  • Y Groes Goch Brydeinig – rhannu gwybodaeth.
  • Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.
  • Partneriaeth ddysgu a sut gall y grwpiau sy’n cael eu cynrychioli fod yn rhan o’r gwaith hwn.

  • Ymgynghoriad ar gludiant gofal cymdeithasol Conwy.
  • Lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, gan gynnwys adolygu’r llyfrynnau sydd ar gael a chreu poster (gweler uchod)
  • Holiadur cyn ac ar ôl ymddeol; bu’r Rhwydwaith yn treialu’r holiadur ac fe wnaethant helpu i ddosbarthu’r holiaduron ymysg eu grwpiau a phobl eraill maent yn ei adnabod.
  • Mynychodd un o aelodau’r grŵp yr ymgynghoriad ar Gludiant Cymunedol ar ran y grŵp.

Adborth ar ôl ymyrraeth

Ymyrraeth Tymor Byr: Mae gwasanaethau anstatudol megis OPUS, Dechrau’n Deg a Tîm o Amgylch y Teulu hefyd yn ymgynghori gyda defnyddwyr gwasanaeth a dderbyniodd ymyrraeth tymor byr. Caiff y rhain eu hystyried ar ôl cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi, a chaiff unrhyw newidiadau angenrheidiol eu gweithredu, a’u trafod mewn cyfarfodydd tîm. Caiff astudiaethau achos hefyd eu rhannu pan fydd y gefnogaeth wedi mynd yn arbennig o dda, neu wael. Caiff y rhain eu cynnal ar unwaith, ac unwaith eto er mwyn adlewyrchu ar ôl cyfnod o amser.

Enghraifft arall yw ar ddiwedd ymyrraeth gan y tîm ailalluogi. Gofynnir i gleientiaid lenwi ffurflen monitro ansawdd sydd yn gofyn amryw o gwestiynau gan roi cyfle iddynt gael dweud eu dweud ar lefel eu boddhad gyda’r gwasanaeth. Enghraifft o gwestiwn fyddai os oedd cleient yn hapus gyda’u lefel o annibyniaeth, hyder a lles yn dilyn cyfnod o gefnogaeth. Mae’r wybodaeth sydd ar y ffurflenni hyn yn cael eu bwydo nôl i dimau cymunedol a rheoli drwy gyfarfodydd tîm. Caiff unrhyw sylwadau eu trafod gyda’r cleient ar y pryd er mwyn datrys unrhyw bryderon mewn modd amserol.

Annog Cyfranogiad y Plentyn/Person Ifanc mewn adolygiadau: Rydym hefyd yn annog plant a phobl ifanc i lenwi dogfennau ymgynghori cyn pob adolygiad Plant sy’n Derbyn Gofal.

Rydym yn parhau i fonitro’r canfyddiadau o’r ymgynghoriadau; mae negeseuon allweddol wedi’u nodi ynghylch y broses adolygu.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Gweler y rhan ansoddol o dan bob safon ansawdd. Tra bod cyfraddau ymateb uchel wedi cael eu cyflawni ar gyfer oedolion, roedd y gyfradd ymateb i blant yn isel ac rydym ni’n ystyried dulliau eraill o gael adborth ar gyfer yr arolwg hwn yn 2017/18

Chwilio

Adroddiad 2016-17

Crynodeb y Cyfarwyddwr o Berfformiad


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Acronymau Cyffredin

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English