Oedolion
Ein prif ffynhonnell ar gyfer cyfeirio ydi ein gwefan.Yn ogystal, rydym yn darparu gwybodaeth drwy ein gweithwyr proffesiynol a phartneriaid, a Phwynt Mynediad Sengl Conwy. Pwynt Mynediad Sengl ydi’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Gwasanaethau Pobl Hŷn, Gwasanaethau Anableddau Corfforol a Synhwyraidd, gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, gwasanaethau Anableddau Dysgu a gwasanaethau Gofalwyr. Ar gyfartaledd, mae’r tîm yn derbyn 1500 o gysylltiadau y mis ar hyn o bryd, mae tua 75% o’r rhain yn derbyn gwybodaeth gyfeirio a chyngor lefel isel sydd yn golygu y gallant reoli eu sefyllfa eu hunain yn rhagweithiol heb ymyriadau gan wasanaethau statudol.
Yn ogystal, rydym yn hyrwyddo gwefan Dewis, ac yn ymgysylltu â’n cydweithwyr Iechyd a’r trydydd sector i’w hyrwyddo, ynghyd â gwefan Iechyd a Lles Cymru Gyfan i’r cyhoedd a thimau proffesiynol fel eu gilydd. Ar hyn o bryd, mae gan Conwy tua 700 o adnoddau ar wefan DEWIS, sydd yn amrywio o grwpiau a gweithgareddau cefnogaeth lefel isel i grwpiau mwy sefydlog megis grwpiau cefnogi gofal, sydd yn cael eu dewis o grwpiau/timau annibynnol, trydydd sector, cymunedol a statudol. Mae’r safle hon yn cael ei defnyddio gan Bwynt Mynediad Sengl a thimau eraill ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i gefnogi aelodau o’r cyhoedd i ymgymryd â gweithgareddau o’u dewis nhw yn eu cymuned eu hunain.
Eleni, roedd ein ffocws ar hyrwyddo’r defnydd o Dewis a’i holl adnoddau i dimau proffesiynol ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y pum canolfan ardal, yn ogystal â’r ysbytai.
Gyda chefnogaeth y Gronfa Gofal Canolraddol, rydym wedi gallu datblygu’r Pwynt Mynediad Sengl i gynnwys llwybr codymau. Y rheswm dros hyn yw y gall effaith codwm arwain at fwy o alw ar gefnogaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, yn ogystal â Lles. Rydym wedi gwella darpariaeth ein Tîm Mynediad Conwy er mwyn iddynt ymdrin ag ymholiadau a galw cynyddol yn fwy effeithiol.
Rydym wedi gallu diwallu mwyafrif ein hamcanion a chryfhau ein sylfaen wybodaeth. Fe fydd y gwaith yma’n parhau yn 2017/18, pan fyddwn ni’n adolygu effeithiolrwydd effaith y newidiadau a’r defnydd gorau o adnoddau. Mae blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys gwneud y broses yn fwy effeithiol ac effeithlon er mwyn darparu mynediad gwell i wasanaethau.
Rydym wedi cychwyn casglu adborth gan gwsmeriaid a byddwn yn adeiladu ar hyn i sicrhau bod adborth cyson gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Plant
Rydym yn hyrwyddo gwefan Dewis i sicrhau y gall teuluoedd gael gafael ar y wybodaeth yn uniongyrchol. Yn ystod y pwynt cyfeirio ‘drws ffrynt’ cyntaf, rydym yn cydweithio’n agos â Thîm o Amgylch y Teulu i sicrhau y gall pobl gael gafael ar gyngor a chymorth ar y lefel briodol heb yr angen am ymyrraeth statudol.
Rydym yn treialu ffordd newydd o weithio gan ddefnyddio sgiliau a thechnegau cydweithrediadol i hyrwyddo hunan-benderfyniad a chanlyniadau personol cyraeddadwy. Mae’r ymagwedd yn seiliedig ar wella cyfathrebu, gyda ffocws ar weithio mewn partneriaeth gyda phlant a theuluoedd er mwyn adnabod ac adeiladu ar gryfderau, a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol. Mae adborth cadarnhaol wedi cynnwys teuluoedd sydd yn fwy agored i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp teulu, sydd yn ei dro yn gwella cyfathrebu o fewn teuluoedd, a rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, ac yn cynorthwyo i greu cynllun i dynnu nôl o’r achos. Fe fydd y cynllun peilot yn cael ei werthuso yn 2017 er mwyn ystyried y camau nesaf tuag at ei gyflwyno ym mhob tîm.
Rydym yn ymwybodol bod angen sicrhau bod ein penderfyniadau yn cynnwys plant a’u teuluoedd lle bynnag y bo’n ddiogel i’r plant wneud hynny. Mae Cyfarfodydd Cynllunio Cyfreithiol wedi’u dylunio i ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wneud penderfyniadau a fydd yn anochel yn effeithio ar weddill eu bywydau.
Caiff urddas a pharch eu hyrwyddo drwy waith sgiliau cydweithrediadol a chaiff ei rannu drwy seminarau amser cinio.
Caiff plant a theuluoedd eu cynnwys mewn prosesau cynllunio lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Caiff hyn ei hwyluso mewn cynllunio Gofal a Chefnogaeth, Grwpiau Craidd a phrosesau Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus.
Caiff ffyrdd iach o fyw eu hyrwyddo drwy gynllunio gofal a chymorth ac mae rhai plant yn cael cymorth drwy weithwyr sesiynol, sydd yn gallu darparu modelau rôl cadarnhaol a hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, sydd yn cynnwys hwyluso gweithgareddau.
Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i sicrhau fod pob plentyn yn cael mynediad cyfartal i’r gwasanaethau fel y bo angen. Rydym yn cyfarfod bob deufis, ac yn ddiweddar fe wnaethom gyflwyno trafodaethau achos i’r rhaglen.
Mae Conwy yn rhan o’r gydweithrediad ranbarthol sydd yn comisiynu gwasanaethau eirioli i blant sy’n derbyn gofal cymdeithasol. Caiff hyn ei hyrwyddo drwy godi ymwybyddiaeth mewn cyfarfodydd tîm a sicrhau bod taflenni gwybodaeth ar gael, yn enwedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Ym mis Mehefin, fe fydd y darparwr gwasanaeth yn gweithredu’r ‘Cynnig Gweithredol’ i sicrhau bod pob plentyn o fewn y maes amddiffyn plant a phlant sy’n derbyn gofal yn deall yn iawn beth all y gwasanaeth ei ddarparu, gan gynnwys y cynnig i fynychu cyfarfodydd ac i weithredu fel cynrychiolydd y plentyn petaent yn dewis derbyn y cynnig.
Gwahoddir pob asiantaeth i gymryd rhan yn y cyfarfodydd adolygu gofal a chymorth. Mae presenoldeb yn anghyson ac mae hyn yn cael ei ystyried. Mae gweithdai wedi cael eu trefnu i ymgysylltu â chydweithwyr asiantaethau eraill ynghylch yr ymagwedd sgiliau cydweithrediadol.
Mae grŵp Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi lansio’r offeryn asesu newydd yn ddiweddar a fydd yn cael ei gynnwys yn y system rheoli gwybodaeth. Cafodd ei ddylunio i gydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a gwella asesiad a chymhwyster.
Astudiaeth Achos – tîm pobl hŷn
Roedd ‘X’ yn ŵr yn ei 70au cynnar, ac roedd yn briod a’i wraig ‘Y’ ers dros 30 mlynedd, ac roedd hithau yn ei 70au cynnar. Mae ganddynt blant sydd wedi tyfu fyny ac yn byw i ffwrdd.
Dechreuodd y gwaith o gefnogi’r cwpl yma 18 mis yn ôl ar ôl pryderon gan y gwasanaethau iechyd meddwl bod ‘Y’ wedi derbyn diagonsis o ffurf o ddementia yn dilyn cymhlethdodau â’i hiechyd corfforol, tra roedd ‘X’ wedi datblygu obsesiwn gyda rhai o’i gredoau a’i arferion.
I ddechrau, roedd y ddau’n cael eu cefnogi gan ‘X’ oedd â rôl wahanol iawn mewn bywyd bellach, ac roedd yn cael anhawster ymgymryd â thasgau dyddiol corfforol y mae llawer ohonom yn eu hystyried yn rhai arferol; roedd hyn o achos y rolau traddodiadol roedd o a’i wraig wedi ymgymryd â nhw yn ystod eu priodas.
Daeth yn amlwg fod hwyliau ‘X’ yn isel iawn, a cheisiodd ei feddyg teulu a’n tîm ailalluogi godi ei hwyliau a’i gefnogi gyda thasgau dyddiol. Serch hynny, fe ddirywiodd ei iechyd ymhellach ac fe aeth i’r uned seiciatrig leol ei hun lle arhosodd am sawl mis wedi’i gefnogi gan ei weithiwr cymdeithasol, Nyrs Seiciatrig Gymunedol a’r tîm iechyd meddwl a therapi. Fe aeth ei wraig i aros gydag un o’u plant.
Roedd ‘X’ yn amlwg yn gallu gwneud penderfyniadau ond weithiau, oherwydd pyliau o iselder, ni allai ymdopi â’r wybodaeth yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Oherwydd gwrthdaro posibl o fewn y teulu, a barn wahanol aelodau’r teulu, fe wnaethom benderfynu penodi eiriolwr annibynnol i gefnogi ‘X’ i sicrhau fod ei farn yn cael ei barchu a’i gynnal drwy’r amser.
Tra’n aros gyda’r teulu, bu’n rhaid i ‘Y’ fynd i’r ysbyty oherwydd ei hiechyd corfforol ac oherwydd yr effaith roedd bod ar wahân oddi wrth ei gŵr yn ei gael ar ei lles emosiynol.
Fe wnaethom weithio gyda’r bwrdd iechyd lle’r oedd ‘Y’ yn aros a’n bwrdd iechyd lleol er mwyn trosglwyddo ‘Y’ nôl i ogledd Cymru er mwyn iddi wella. Roedd hyn yn golygu bod modd i’r cwpl weld eu gilydd eto bron yn ddyddiol, a chael ymdeimlad o berthyn i ardal unwaith eto. Roedd hefyd yn golygu bod modd i’r tîm amlddisgyblaethol asesu’r ddau yn iawn i sicrhau bod y ddau’n cael y cyfle gorau posibl i fod mor annibynnol â phosibl i gyrraedd eu llawn botensial a sicrhau bod y ddau yn ganolog yn y broses gyfan.
Ar ôl ychydig wythnosau, roedd y teulu cyfan yn gweld pa mor bwysig oedd yr aduniad. Mae gwahanu cwpl yn cael effaith negyddol ar bobl, ac fel asesydd lles gorau, rydym bob amser yn ystyried yr effaith y gallai colled o’r fath ei gael, yn enwedig ar unigolion sydd â dementia.
Er gwaethaf ymdrechion holl aelodau’r Tîm Amlddisgyblaethol a’n hymrwymiad i gefnogi pobl nôl i gymuned maent yn ei adnabod ac wedi bod yn rhan weithgar ohono ers cymaint o amser, gyda chefnogaeth aelodau eu teulu (ac ar ôl cyfres o gynadleddau teulu a llais yr eiriolwyr yn cefnogi ‘X’ ac ‘Y’), fe wnaethant ofyn i gael mynd i gartref preswyl yn agos at un o’u plant.
Roedd ‘X’ yn teimlo y byddai gweld teulu yn ddyddiol yn fwy o gefnogaeth iddynt a byddent yn ei gefnogi o wrth iddo gefnogi ‘Y’ ar ei thaith dementia.
Roedd modd i ni weithio gyda’r cartref gofal i’r ddau aros gyda’u gilydd fel gŵr a gwraig. Serch hynny, yn anffodus o fewn 4 mis ar ôl yr adleoli, dirywiodd iechyd ‘X’ yn sylweddol a chafodd ei anfon i ysbyty cyffredinol yn Lloegr.
Er bod y plant bellach yn cefnogi’r penderfyniad, roeddynt yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o’r hyn oedd yn mynd ymlaen yn yr ysbyty cyffredinol. Dirywiodd iechyd a gallu ‘X’ eto nes iddo yntau gael diagnosis gyda ffurf o ddementia.
Fe wnaethom deithio lawr i’w ysbyty yn Lloegr i sicrhau fod y teulu yn ganolog yn y broses gyfan, ac i sicrhau fod ei anghenion yn cael eu diwallu a’i fod yn ganolog yn y broses gyfan.
Roedd ei hwyliau mor isel bellach nad oedd modd iddo gyfathrebu llawer. Drwy fynd i’r ysbyty a threulio amser gydag o, fe ddechreuodd ddweud wrthym beth oedd ei ddymuniadau eto, ac er yn gyfyngedig, roedd yn amlwg ei fod yn dymuno bod gyda’i wraig.
Ar ôl deufis o drafodaethau cymhleth gyda’r bwrdd iechyd yn Lloegr, roedd modd i ni sicrhau ei fod yn cael ei symud i gartref nyrsio priodol ger y teulu, ac ar ôl iddo setlo, roedd modd iddo gael bod gyda’i wraig unwaith eto.
Yn yr oes sydd ohoni heddiw, rydym yn aml yn tybio y dylem gefnogi pobl i aros yn eu cartref eu hunain, fodd bynnag roedd hi’n amlwg fod ‘X’ ac ‘Y’ yn teimlo na allent ymdopi yn y gymuned. Dyma benderfyniad sydd wedi diogelu’r ddau gan y byddai risgiau wedi bodoli petai hwyliau ‘X’ wedi dirywio ymhellach.
Mae hi hefyd werth nodi, i’w diogelu yn y gymuned, fe fyddai’n rhaid i ni fod wedi darparu gofal 24 awr yn y cartref ac mae’n bosib nad dyma fyddai’r dewis lleiaf cyfyngol gan y byddai wedi bod yn arbennig o ymwthiol.
Astudiaeth Achos – Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal
Mae brawd a chwaer yn byw gydag aelod teulu oherwydd problemau esgeulustod, pryderon am gamdriniaeth gorfforol, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Mae’r plentyn hynaf wedi dangos problemau ymddygiad sydd yn gwaethygu, gan gynnwys ymosod ar bobl eraill yn rheolaidd a bod yn ddinistriol yng nghartref y teulu. Mae wedi cael asesiad gan CAMHS ac mae wedi derbyn diagnosis ar gyfer sawl anhwylder.
Roedd yna bryder gwirioneddol y byddai’r lleoliad yn chwalu o fewn dim oni bai y byddai cefnogaeth amserol benodol yn cychwyn.
Mae cefnogaeth therapiwtig reolaidd gan Seicolegydd Clinigol wedi cael ei drefnu ac maent yn digwydd yn amlach ers yr wythnosau diwethaf gan fod y plentyn yn fwy cyfforddus gyda’r ymagwedd therapiwtig. Mae cefnogaeth sesiynol yn cael ei ddarparu yn ystod gwyliau’r ysgol i ymgysylltu ac i ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth ynghylch ymddygiad. Mae hyn yn golygu bod modd i’r plentyn ieuengaf a’r gofalwr gael amser gyda’u gilydd.
Nod y gefnogaeth a roddir i’r gofalwr ydi helpu’r ddau ohonynt i feddwl am ymddygiad anodd a heriol y plentyn hynaf, a’u ffordd ymosodol, ffordd o reoli a gwrthod. Mae’r therapydd yn darparu therapi, profiad, mewnwelediad a damcaniaeth.
Mae wedi bod yn her i’r sawl sy’n darparu gofal i dderbyn cefnogaeth gan y therapydd, ac fe gafodd sawl apwyntiad eu canslo. Mae’r her o ennill ymddiriedaeth y sawl sy’n darparu gofal yn cymryd amser. Mae darparu ein cefnogaeth sesiynol yn allanol wedi arwain at rai anawsterau.
Dyma oedd un o becynnau cefnogaeth cyntaf y Gronfa Gofal Canolraddol i ni ei gomisiynu, ac mae’n gweithio’n dda ar hyn o bryd ac yn darparu canlyniadau da. Fe fyddwn yn ei adolygu maes o law ac yn datblygu’r prosiect ymhellach.
Data perfformiad sy’n ategu’r safon ansawdd yma
Ansoddol
Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn y wybodaeth a’r cyngor cywir pan roeddynt ei angen
Fe ymatebodd 79% o oedolion gan ddweud bod hyn yn wir. Roedd y mwyafrif o sylwadau eraill hefyd yn gadarnhaol, a dim ond tri ymatebwr a awgrymodd nad oedd modd cael gafael ar gyngor, neu fod y wybodaeth yn gallu bod yn wrthdrawiadol ar adegau.
Roedd 73% o oedolion gydag anableddau dysgu yn cytuno â’r datganiad hwn, er mynegodd rhai bryderon nad ydynt yn derbyn digon o gyngor i roi’r darlun llawn iddynt a’u bod yn gallu teimlo’n ddryslyd.
Yn yr un modd, roedd 78% o ofalwyr yn cytuno â’r datganiad, gan deimlo boddhad gyda’r wybodaeth a chyngor roeddynt yn ei dderbyn. Roedd mwyafrif y sylwadau ychwanegol gan y rhai a ymatebodd gyda ‘weithiau’, gan fynegi rhwystredigaeth gyda chymhlethdod y system a’r wybodaeth anghywir am gyfleoedd seibiant. Roedd goblygiadau ariannol cyngor anghywir yn achosi pryder.
Roedd 85% o blant a ymatebodd yn hapus gyda’r wybodaeth a chyngor roeddynt yn ei dderbyn. Roedd sylwadau ychwanegol yn awgrymu eu bod yn dibynnu’n helaeth ar eu rhieni a Gweithwyr Cymdeithasol am y gefnogaeth honno, ond roedd un ymatebydd wedi cymryd y cam i wneud eu gwaith ymchwil eu hunain.
Pobl yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch
Dywedodd 94% o oedolion eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch tra’n derbyn cynllun gofal a chymorth. Fe ymatebodd y gweddill gyda ‘weithiau’. Roedd y sylwadau ychwanegol yn gymysgedd, gyda rhai dinasyddion yn canmol gofalwyr a oedd “wedi’u hyfforddi’n dda ac yn gwrtais” tra mynegodd rhai eraill bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’u teulu yn hytrach na gyda nhw, neu eu bod yn teimlo eu bod yn cael ffrae.
Roedd 92% o oedolion gydag anableddau dysgu yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, ac ychydig iawn o sylwadau ychwanegol ddaeth i law i’n helpu i greu darlun pellach.
Roedd 93% o ofalwyr yn cytuno â’r datganiad hwn, a chafwyd sawl sylw cadarnhaol am staff cwrtais, cynorthwyol a pharchus o fewn yr Awdurdod. Nid oedd unrhyw un yn anghytuno â’r datganiad hwn o’r garfan hon.
Roedd 89% o blant yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch; roedd rhai ymatebion yn cynnwys ymddygiad eu rhieni tuag atynt yn ogystal â staff Gofal Cymdeithasol.
Pobl sydd â chynllun gofal a chymorth yn dweud eu bod wedi cael gwybodaeth ysgrifenedig am eu gweithiwr penodedig yn y gwasanaethau cymdeithasol
Roedd 82% o oedolion yn gwybod pwy i gysylltu â nhw ynghylch eu cynllun gofal a chymorth. Cafwyd nifer o sylwadau ychwanegol yn dilyn y cwestiwn hwn i egluro pwy ydi’r swyddog penodedig a phwy sy’n tueddu i gysylltu â’r gwasanaeth (hyd yn oed gan y rhai a atebodd gyda ‘na’).
Mae 88% o oedolion gydag anableddau dysgu yn gwybod pwy i gysylltu â nhw yn y tîm, ac fe enwodd nifer ohonynt y gweithiwr proffesiynol perthnasol yn y sylwadau ychwanegol. Mae’n ymddangos bod ganddynt hyder y bydd rhywun yno i’w helpu.
Mae 82% o ofalwyr yn gwybod pwy i gysylltu â nhw ac fe gynigiodd nifer sylwadau ychwanegol i ategu’r gefnogaeth werthfawr a roddir iddynt yn eu rolau gofalu. Serch hynny, cafwyd sawl sylw negyddol am drafferthion ariannol a gallu cysylltu â’r gweithiwr proffesiynol perthnasol pan fo angen.
Mae 93% o blant yn gwybod pwy i siarad â nhw am eu gofal a’u chymorth. Mae’r sylwadau ychwanegol yn enwi rhai o’r unigolion yma ac yn tynnu sylw at y rhwydweithiau cymorth ychwanegol yn yr ysgol a gartref.
Pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o unrhyw benderfyniad a wneir am eu gofal a’u cymorth
Roedd 78% o oedolion yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau, serch hynny roedd nifer o’r sylwadau ychwanegol yn sôn am ddiffyg rheolaeth oherwydd cyflyrau megis Alzheimer’s neu ddementia. Mewn nifer o achosion, mae aelodau o’r teulu yn gwneud penderfyniadau am becyn gofal a chymorth ar ran eu perthynas.
Roedd oedolion gydag anableddau dysgu yn teimlo fod ganddynt lefel uwch o allu i wneud penderfyniadau, gyda 83% o’r ymatebwyr yn cytuno bod eu barn wedi cael eu clywed. Mae’r sylwadau ychwanegol yn awgrymu y gellir gwneud gwelliannau i lefelau o gyswllt gan weithwyr Gofal Cymdeithasol proffesiynol.
Roedd 84% o ofalwyr yn teimlo’n rhan o benderfyniadau ynghylch y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’r unigolyn y maent yn goflau amdanynt, er roedd sylwadau’n awgrymu bod lle i groesawu cyswllt mwy rheolaidd.
Roedd 85% o blant a ymatebodd yn teimlo bod eu barn yn cael eu clywed.
Pobl sydd yn fodlon gyda’r gofal a chymorth y maent wedi’i dderbyn
Mae 85% o oedolion yn fodlon gyda’r gofal a chymorth y maent yn ei dderbyn gennym ni. Roedd rhai sylwadau yn sôn am yr angen am gysondeb o ran yr amser y mae gofal yn cael ei ddarparu a bod cyfathrebu am newidiadau i amseroedd ymweld a staff cymorth yn hanfodol.
Mae 85% o oedolion gydag anableddau dysgu yn hapus gyda’r gofal a chymorth maent wedi’i dderbyn, ond eto, nid yw newidiadau i staff, asiantaethau neu lety yn cael eu croesawu.
Mae 78% o ofalwyr yn hapus gyda’r gefnogaeth y maent wedi’i dderbyn. Mae’r sylwadau ychwanegol yn arddangos y blaenoriaethau a beichiau gwahanol sydd gan y grŵp yma, mae nifer ohonynt yn ymdopi â’u problemau iechyd eu hunain, yn chwilio am gymorth i gael seibiant rhag eu dyletswyddau gofalu ac yn cael trafferth â beichiau ariannol.
Mae 88% o blant yn hapus gyda’r gofal a chymorth maent wedi’i gael, boed hynny gyda’u rhieni eu hunain neu fel plentyn sy’n derbyn gofal.
Meintiol
- Y ganran o oedolion sydd wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth ac sydd heb gysylltu â’r gwasanaeth am 6 mis ydi 76.64%
- Y ganran o asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn y raddfa amser statudol ydi 95.34%