Cefnogi Lles
Mae’r cysyniad o les yn cynnwys dwy brif elfen: teimlo’n dda a gweithredu’n dda. Mae’r rhain yn effeithio ar sawl ffactor gwahanol ac mae sawl ffactor gwahanol yn effeithio arnynt: ein hoedran a’n rhyw, ein hiechyd a mynediad at gymorth a gwasanaethau. Nod y Tîm Lles Cymunedol yng Nghonwy ydi helpu preswylwyr yng Nghonwy i fanteisio ar gyfleoedd i wella eu hiechyd a’u lles drwy gymryd rhan.
Bydd ein gweithgareddau yn bodloni’r pum maen prawf:
- Bod yn egnïol – rhoi cynnig arni…cerdded, rhedeg, beicio, dawnsio, garddio, canu…
- Cysylltu – cyfarfod…ymuno…ffonio ffrind…gwrando…
- Rhoi – rhannu beth sydd gennych chi…gwenu ar bobl eraill…gwirfoddoli…
- Parhau i ddysgu – rhoi cynnig ar rywbeth…rhoi cynnig…gofyn sut, ble a pham…
- Cymryd sylw – arafu…gwerthfawrogi…cydnabod eich talentau eich hun a phobl
Y nod ar gyfer 2016/17 oedd sefydlu’r tîm Lles Cymunedol ym mhob ardal, gyda’r nod o ddarparu o leiaf 40 gweithgaredd ffordd o fyw iach yn y pum canolfan ardal iechyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017 – cyfanswm o 200. Fe wnaethom gyflawni hyn a mwy, yn ogystal â:
- Ychydig yn llai na 5000 yn mynychu sesiynau Rhaglen Lles Cymunedol rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.
- Dros 200 math gwahanol o weithgaredd ffordd o fyw iach wedi cael eu darparu yn y pum canolfan ardal iechyd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017.
- Partneriaeth weithio gyda dros 55 sefydliad a 30+ o ddarparwyr sesiynau, pob un ohonynt yn helpu i sefydlu 5 awgrym llesol a gweithgareddau atal yn lleol.
- Cydgynhyrchu Prosiect Peilot Hyfforddiant Llysgennad Lles gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a chynnal dau sesiwn hyfforddi gyda sefydliadau trydydd sector Mae’r prosiect hwn yn annog unigolion i fod yn rhan wrth ledu’r gair am iechyd ataliol, rhaglen Tîm Lles Cymunedol a 5 awgrym llesol.
- Cyd-ddatblygu Prosiect Pentrefi gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy i helpu i ariannu gweithgareddau lles mewn naw cymuned y tu allan i’r canolfannau ardal. Mae hyn wedi galluogi pentrefi i gynnal eu gweithgareddau lles eu hunain.
O’r adborth a dderbyniwyd, dywedodd 16% eu bod yn ymlacio’n well, roedd gan 13% sgiliau gwell, roedd 13% yn teimlo’n well am eu hunain ac roedd 12% yn teimlo’n llai unig.
Astudiaeth Achos: Lles i Bawb – Prosiect Llysgenhadon Iechyd
Mae Tîm Lles Conwy a Chyngor Gwasanaethu Gwirfoddol Conwy yn datblygu rhaglen llysgenhadon newydd ar y cyd, sydd wedi’i ddylunio i helpu i sefydlu’r 5 awgrym llesol a dulliau atal iechyd mewn i waith ledled Conwy.
Mae ymchwil 5 Awgrym Llesol yn adnabod bod ‘rhoi’ yn rhan hanfodol o annog lles unigolyn. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Lles Cymunedol Conwy wedi dod at ei gilydd i ddatblygu a chefnogi rhaglen beilot a fydd yn helpu i sicrhau bod gwirfoddoli yn y trydydd sector yng Nghonwy yn ategu egwyddorion iechyd a lles. Ein nod yw darparu:
-
- Sesiwn hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a rhai presennol i adeiladu ymwybyddiaeth o’r 5 Awgrym Llesol a’r ddeddfwriaeth newydd sydd yn gysylltiedig ag egwyddorion lles
- Rhaglen hyfforddi ar gyfer Rheolwyr Gwirfoddoli i’w cynorthwyo i sefydlu egwyddorion lles i reoli gwirfoddolwyr trydydd sector
- Pecyn hyfforddiant etifeddiaeth sydd wedi cael ei werthuso’n llawn ac yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws y trydydd sector yng Nghonwy
Gan elwa o arbenigedd y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy wrth reoli gwirfoddolwyr a phrofiad Tîm Lles Cymunedol Conwy o gyflwyno 5 Awgrym Llesol i’r gymuned, fe fydd ‘Lles i Bawb’ yn helpu i ddatblygu iechyd a lles cymunedau ar hyd a lled Conwy.
Y flwyddyn nesaf, ein ffocws fydd:
- Datblygu 4 x 5 Rhaglenni Gweithgaredd Cymunedol arall mewn canolfannau ardal
Ein nod yw trosglwyddo mwy o gyllid i’r gymuned leol a’r Trydydd Sector i’w hannog nhw i redeg eu gweithgareddau lles eu hunain ac yna eu cefnogi i sicrhau bod y sesiynau’n troi’n gynaliadwy
- Ymgysylltu’n llawn gyda thimau iechyd a gofal cymdeithasol statudol ar draws Conwy
Bydd y ffocws ar sicrhau bod sianelau cyfathrebu yn effeithiol, bod staff yn ymwybodol o’r rhaglen ac yn gwybod sut y gellir cynnwys y rhaglen yn y cylch gwaith atal a chefnogi
- Lansio rhaglen Llysgenhadon Iechyd
Rydym eisiau cydnabod y cyfraniad y mae pobl eisoes yn ei wneud a manteisio ar y gwaith y maent eisoes yn ei wneud
- System o werthuso wedi’i dargedu
Rydym wedi gwella wrth ddeall beth sydd ei angen i fesur iechyd a lles ac fe wnaethom dreialu newidiadau yn chwarter 4. Rydym yn barod i’w weithredu’n llawn o fis Ebrill.
- Datblygu Partneriaeth Ddysgu Conwy
Bydd y rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd adfer i breswylwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.
- Datblygu tuag at rhaglen beilot rhagnodi cymdeithasol
Mae hyn yn creu rhwydwaith well i gael mynediad at wasanaethau sydd ddim yn canolbwyntio ar ymyrraeth feddygol yn unig – e.e. canu i bobl gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint – dilysu ymagweddau cymdeithasol i broblemau meddygol.
Yn unol â’r gwaith yma, rydym yn gobeithio agor ein trydydd Canolfan Lles yn Llanrwst yn 2018.
Adborth y Cleient
“Dim ond i ddweud diolch i chi am y cymorth y rhoesoch i mi yn y dosbarth i ddod dros fy ofn o’r Llechen. Mae agor Google, siopa a chwilio am wasanaethau trên ac ati wedi rhoi’r awydd imi gario ymlaen, dwi’n gwybod fod gen i lawer i’w ddysgu, felly fe welai chi ar y cwrs nesaf ym mis Mai os gai le”.
Adborth Staff
Roedd X yn dioddef o bryder ac iselder ac yn teimlo’n unig iawn. Yn y sesiwn ddiwethaf fe ddywedodd hi faint roedd hi’n mwynhau’r cwrs a sut mae hi bellach yn mentro allan mwy. Roedd hi’n teimlo’n fwy hyderus a chyfforddus o amgylch pobl, fe ddywedodd hi hefyd ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i’r modd y mae hi’n cyfathrebu gyda phobl eraill ac mae hi wedi gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw o ran bwyd ac iechyd meddwl ac fe ddywedodd ei bod yn mynd i drafod hyn gyda’i mab y mae hi’n gofalu amdano. Roedd hi’n wirioneddol wedi mwynhau’r cwrs ac yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol a chynorthwyol iawn.
Ail-alluogi
Mae gan Gonwy wasanaeth ail-alluogi sefydledig sydd yn parhau i ddangos cyfradd lwyddiant uchel. Bu gostyngiad bychan mewn perfformiad yn ystod y flwyddyn, gan ein bod wedi mabwysiadu model derbyn. (Y rheswm dros hyn yw pecyn gofal llai yn cynyddu, ond nid yw’r gofal parhaus yn lleihau).
Fflatiau Gofal Ychwanegol
Mae gan Gonwy bedwar fflat Gofal Ychwanegol (wedi’u hariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol a Gofal Iechyd Parhaus) sydd yn cael eu defnyddio i hwyluso cleifion sy’n gadael ysbytai aciwt a chymunedol. Cânt hefyd eu defnyddio fel seibiant i ofalwyr. Caiff y fflatiau eu defnyddio fel dewis arall i ofal preswyl a nyrsio sydd yn atal dibyniaeth ar ofal a chymorth. Mae canlyniadau ar gyfer defnyddwyr yn cynnwys dychwelyd i’w cartref yn eu cymuned yn hytrach na gofal preswyl, symud i dai addas – megis y fflatiau – lle y gallant wneud y mwyaf o’u hannibyniaeth. Ein nod ar gyfer y flwyddyn oedd cynyddu’r gyfradd meddiannaeth ar gyfer y fflatiau drwy ymgysylltu’n well gyda’n cydweithwyr Iechyd. Mae meddiannaeth wedi cynyddu o 57% i 68%. Yn sgil llwyddiant y fflatiau hyn, fe wnaethom agor fflat arall ym mis Mawrth a ariannwyd drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol, ac mae wedi cael ei ddefnyddio bob noson ers iddo agor.
Yn ddiweddar, mae’r fflatiau wedi cael eu defnyddio fel dewis arall i ofal preswyl pan nad yw llety blaenorol yr unigolyn yn addas iddynt ddychwelyd iddo, neu bod yr unigolyn yn ddigartref. Unwaith eto, y canlyniad ydi cynnal annibyniaeth ac osgoi gofal preswyl diangen sydd â’r potensial i fod yn ddatrysiad parhaol. Mae Conwy hefyd yn symud tuag at ddefnyddio’r fflatiau ar gyfer grwpiau defnyddwyr eraill, ac mae hyn yn duedd yn genedlaethol.
Byddwn yn parhau i fonitro defnydd o’r fflatiau ac yn ymgysylltu â’n cydweithwyr Iechyd.
Cwmpawd Adfer
Cafodd ‘Cwmpawd Adfer’ ei sefydlu ym mis Ebrill 2016 i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth gyda’u llwybrau adfer eu hunain ac i fod â phresenoldeb yn y trydydd sector a fyddai’n pontio’r gwasanaethau rhwng gwasanaethau statudol a’r gymuned. Y nod yw cynnig amrywiaeth o ymyraethau i unigolion ac i ddarparu cefnogaeth i’w galluogi i lywio eu ffordd at bwyntiau priodol ar eu siwrnai adfer bersonol, gyda’u dyheadau neu gyrchfannau eu hunain yn ffocws neu’n ganlyniad. Nod y model adfer hwn yw lleihau dibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth ar wasanaethau statudol drwy gynyddu eu gwydnwch, rhoi rheolaeth iddynt dros eu bywydau a’u cysylltu i’w cymunedau ar gyfer rhwydwaith gefnogaeth gynaliadwy.
Mae deuddeng mis cyntaf y model newydd wedi bod yn un o ddatblygu, ac mae’r gwasanaeth yn parhau i esblygu. Rydym wedi gweld nifer cyson o atgyfeiriadau i’r gwasanaeth, mae 37 ohonynt yn derbyn cefnogaeth reolaidd a chyfraniad gan Gwmpawd Adfer. Mae cysylltiadau cryf yn cael eu sefydlu gyda’r Gwasanaeth Lles Cymunedol a fydd yn golygu y gall defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad at rwydweithiau cymdeithasol a chefnogaeth y tu hwnt i Gwmpawd Adfer. Mae wedi bod yn broses heriol i staff a defnyddwyr gwasanaeth wrth i’r cysyniad symud i ffwrdd o wasanaethau traddodiadol sy’n cael eu darparu.
Mae’r gwasanaeth yn disgwyl i bob unigolyn gael Cynllun Gweithredu Adfer Lles, a hyd yn hyn, mae 9 defnyddiwr gwasanaeth wedi llenwi eu rhai nhw ac mae 2 yn edrych ar eu cynlluniau eto i osod golau newydd i’w hunain. Mae dau ddefnyddiwr gwasanaeth wedi mynd ymlaen i gyflwyno cyflwyniadau gweithdai gan ddweud bod eu hyder a’u hunan-barch wedi gwella yn sgil hynny.
Byddwn yn parhau i adolygu a datblygu’r gwasanaeth i’n galluogi i fod mor unigryw ag sydd angen i gyflawni golau defnyddwyr gwasanaeth, boed hynny’n fwy o ryngweithio cymdeithasol, gwirfoddoli neu gyfleoedd lleoliad gwaith neu addysg a hyfforddiant. Wrth symud ymlaen yn 2018, fe fydd sefydlu’r Bartneriaeth Ddysgu yn ddolen hanfodol i sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i wneud y mwyaf o’u potensial drwy fynychu cyrsiau, ennill sgiliau a datblygu eu hyder a’u gallu.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yng ngwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd yn dymuno rhedeg gwasanaeth integredig i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol. Fe dynnwyd sylw at broblemau sy’n ymwneud â staffio a’r effaith ddilynol ar reoli llwyth gwaith ac amseroedd aros, llywodraethu, isadeileddau TG a’r amgylchedd clinigol.
Cafodd cynllun gweithredu cynhwysfawr i sefydlogi ac ail-ddylunio gwasanaethau ei ffurfio ym mis Ionawr 2017 ac mae’r uwch dîm rheoli wedi canolbwyntio eu hymdrechion ar fynd i’r afael â’r materion a nodwyd. Yn ychwanegol, mae grwpiau llwybrau amlddisgyblaethol rhanbarthol wedi cael eu sefydlu i ymateb i ofyniad y strategaeth Iechyd Meddwl, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad cenedlaethol o’r holl Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.
Mae arfer arloesol newydd yn cael ei dreialu yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Roslin drwy gyflwyno ‘cyfarfodydd diogelwch’, sydd wedi cael ei addasu o’i ddefnydd llwyddiannus mewn gofal aciwt. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar amser rheolaidd bob dydd am 10-15 munud a rhoi cyfle i’r fforwm edrych ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar y tîm y diwrnod hwnnw, ee, gwaith llanw ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch neu unrhyw risgiau sydd angen eu rheoli. Mae hwn yn ddull effeithiol ac effeithlon o ran amser i’r tîm gydweithio i reoli risgiau i’w hunain a defnyddwyr gwasanaeth.
Mae yna gydnabyddiaeth na fydd newid diwylliannol a gwasanaeth yn gam cyflym ymlaen, ond fe fydd cael grŵp staff sefydlog a gwasanaeth sydd yn addas i’r diben ac yn gynaliadwy yn y tymor hir yn nod tymor hirach. Dylai hyn adlewyrchu egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Wrth symud ymlaen yn 2017/18 mae’r tîm Gofal Cymdeithasol yn bwriadu canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan yn y lleoliad Gofal Sylfaenol fel ffactor sylfaenol i ddarparu gwasanaethau effeithlon a chynaliadwy, e.e. gweithio gyda chleientiaid sydd â phroblemau gofal cymdeithasol sydd yn effeithio yn negyddol ar eu hiechyd meddwl a gwydnwch, i atal i bethau rhag gwaethygu i bwynt argyfwng a gofal eilaidd. Mae model sy’n canolbwyntio ar adfer yn bwysig i sicrhau nad yw defnyddwyr gwasanaeth yn aros yn ddiangen mewn gwasanaethau statudol ac yn cael eu cefnogi i adennill a byw eu bywydau’n weithgar yn y gymuned.
Plant
Yn ddiweddar mae’r Gwasanaeth Lles Cymunedol wedi cynnal gwaith ymchwil gyda theuluoedd sydd wedi derbyn ymyrraeth drwy wasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf. Ar ôl derbyn yr adroddiad ymchwil, fe wnaethom lansio prosiect aml asiantaeth i edrych ar ymyrraeth yn gynnar yng Nghonwy drwy barthau/ardaloedd penodol. Fe fydd y parthau’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac yn cydweithio i adnabod a gweithredu model effeithiol. Mae partneriaid yn cynnwys Gofal Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, Cyfiawnder Ieuenctid, Datblygu Cymunedol, Tîm o Amgylch y Teulu a Theuluoedd Gwledig yn Gyntaf, ynghyd â sefydliadau trydydd sector priodol.
Astudiaeth Achos – Anableddau
Roedd Miss Z yn arfer byw gyda’i phartner hirdymor mewn fflat. Roedd ‘Z’ wedi profi profedigaeth bersonol sylweddol a oedd wedi arwain at broblemau perthynas a oedd yn aml yn cynnwys alcohol, toddyddion a thrais. Ar ôl i’r berthynas chwalu daeth Miss Z yn ddigartref ac yn isel iawn. Fe arhosodd mewn llety dros dro am ychydig fisoedd a chysylltu â’i gweithiwr cymdeithasol sawl gwaith y dydd yn teimlo’n ofidus iawn gan ddweud ei bod eisiau marw. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r adran Dai, roedd modd i ni ddod o hyd i denantiaeth barhaol iddi. Drwy weithio’n agos gyda hi er mwyn magu ei hyder a chael ymdeimlad o berthyn o fewn y gymuned, mae hi wedi mynd o nerth i nerth. Mae hi bellach yn ymgymryd â dyletswyddau dyddiol i ddatblygu ei hanghenion sgiliau sylfaenol, mynychu cyrsiau hyfforddi i fagu hyder, ac mae hi’n bwriadu dychwelyd i addysg. Mae hyn wedi bod yn ddarn gwerthfawr o waith ac yn bleser ei gweld yn trawsnewid.
Mae Mr X wedi cael tair strôc yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod ei goes a’i fraich ar yr ochr dde yn wan ac nid yw’n gallu defnyddio cymaint arnynt. Mae Mr. X yn colli ei anadl ac yn blino’n hawdd; mae’n gallu cerdded ar ei ben ei hun gyda pheth anhawster, ond mae wedi cael codymau yn y gorffennol.
Y problemau y soniodd Mr X amdanynt oedd ei fod yn cael trafferth gwisgo ar ei ben ei hun a’i fod hefyd angen rhywfaint o help gyda meddyginiaeth a pharatoi prydau poeth. O ganlyniad, fe ganolbwyntiodd ail-alluogi ar wneud y mwyaf o annibyniaeth Mr X yn y meysydd allweddol yma. Er bod angen gweithio tuag at ganlyniadau tymor hir eraill hefyd, mae’r gallu i ddarparu ymyrraeth gynnar yn y meysydd penodol yma yn golygu y gallwn wneud y mwyaf o annibyniaeth yn y tymor byr heb ddatblygu dibyniaeth. Yn ôl Mr. X mae un ymweliad byr y dydd wedi ei annog i wneud mwy drosto ‘i hun ac i fynd allan yn fwy aml. Mae’n dweud fod hyn wedi gwella ei iechyd meddwl a chorfforol.
Data perfformiad sy’n ategu safon ansawdd 2
Meintiol
- Y gyfradd o oedi mewn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75 oed neu hŷn ydi 00.0%
- Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi ac:
- sydd â phecyn gofal a chymorth llai chwe mis yn ddiweddarach ydi 8.23%
- sydd heb becyn gofal chwe mis yn ddiweddarach ydi 89.63%
- Oedran cyfartaledd oedolion sydd yn mynd i gartrefi gofal preswyl ydi 81.44 mlwydd oed
- Canran y plant sydd yn gweld deintydd cofrestredig o fewn tri mis ar ôl derbyn gofal ydi 89.19%
- Canran y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu ydi 72.5%