Datblygu sgiliau a photensial i weithio
Mae Conwy a nifer o bartneriaid yn rhan o ystod eang o weithgareddau i gefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau a’u potensial i weithio.
- Mae TRAC – dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych, wedi’i gefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) – yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed sydd wedi ymddieithrio ag addysg ac mewn perygl o fod yn NEET (ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant) i ddatblygu gweithlu medrus, hyblyg, a gwydn. Mae AD TRAC – dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, wedi’i gefnogi gan CGE – yn cefnogi unigolion 16-24 oed sydd yn NEET (ddim mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant) mewn i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
- Cymunedau am Waith – rhaglen Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan CGE ac yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a CBSC – yn cefnogi ac ymgysylltu ag unigolion sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser ac yn economaidd anweithgar, grwpiau anodd eu cyrraedd mewn i waith yn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn unig.
- Cymunedau yn Gyntaf – rhaglen Llywodraeth Cymru, dan arweiniad CBSC – i weithio gyda ac o fewn cymunedau, gan adnabod cyfleoedd i gefnogi ac ymgysylltu â phreswylwyr 16+ oed sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Conwy. Rydym hefyd yn cefnogi cyfleoedd dysgu, gwaith ac ymyriadau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth, yn ogystal â thargedu rhieni sydd â diddordeb i wella eu hiechyd a’u lles.
- Mae OPUS – dan arweiniad CBSC, wedi’i gefnogi gan CGE, yn gweithio gydag unigolion dros 25 oed, sydd yn ddi-waith ers amser ac yn economaidd anweithgar i ddarparu cefnogaeth ddwys ac ymyriadau unigryw i leihau lefelau sylweddol o anweithgaredd economaidd a gwella lefelau cyflogaeth ar gyfer grwpiau anodd eu cyrraedd ym mhob ardal o Gonwy ac eithrio ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
- Gwaith Amdani – CBSC – i weithio gydag unigolion 16+ oed sy’n byw yng Nghonwy sydd â rhwystrau sylweddol i gyflogaeth, a’u cefnogi mewn i hyfforddiant, gwaith, addysg bellach neu wirfoddoli, gan ddarparu cefnogaeth unigryw un i un. Dyma oedd yr ‘ymbarél’ ar gyfer nifer o brosiectau oedd yn cefnogi pobl gyda dysgu, uwchsgilio a chyflogaeth.
- Mae Tîm o Amgylch y Teulu Conwy yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sydd yn amrywio o wybodaeth, cefnogaeth i ddefnyddio gwasanaethau cyffredinol, ymagwedd amlasiantaeth a chefnogaeth un i un gyda chydlynydd, i ymyrraeth gyda Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd.
- Mae Tîm o Amgylch y Teulu yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Maent yn cynnig siop un stop ar gyfer cefnogaeth a gwybodaeth am wasanaethau lleol i deuluoedd megis gofal plant, grwpiau chwarae, llinellau cymorth dyled, cwnsela, deintyddion a gweithgareddau am ddim. Gall y cydlynydd a Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd helpu gydag ymyriadau teuluoedd megis rhianta, cyllidebu, problemau gyda pherthnasau a phroblemau ymddygiad.
Mae’r timau yn darparu cymorth arloesol ynghylch amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar unigolion sydd eisiau cael mynediad at waith, gwirfoddoli a hyfforddiant.
Ein nod yw ymgysylltu â nhw drwy:
- Gyfarfodydd un i un ar y cychwyn
- Gweithgareddau gwaith grŵp i wella hyder a hunan-barch
- Cyfleoedd hyfforddiant i wella sgiliau
- Gwirfoddoli a lleoliadau gwaith i gael profiad gwaith ymarferol
- Cymorth i chwilio am waith ac ysgrifennu CV
- Cymorth i lwyddo mewn cyfweliad
Nod pob un o’r rhain yn y pen draw ydi cyrraedd eu potensial a bod yn ddinasyddion economaidd weithgar.
Nid oes yna lwybr rhagnodedig gan fod y gwasanaeth yn cael ei arwain gan anghenion ac yn dilyn cynllun gweithredu unigolion. Caiff hyn ei lunio rhwng ein ymgynghorwyr a’r cyfranogwr yn un o’n sesiynau un i un a gwaith grŵp. Mae’r cynllun gweithredu yn declyn i annog ac ysgogi unigolion i gyflawni eu potensial a chael gwaith cynaliadwy. Cynigir ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ond rydym hefyd yn cynnig ieithoedd eraill drwy linell iaith ac mae cyfieithwyr wedi darparu gwybodaeth mewn braille.
Fe ddechreuodd OPUS ym mis Medi 2016, a’r llynedd, roedd llawer o’n gwaith yn ymwneud â datblygu prosiect rhanbarthol ar gyfer yr ardal hon a rhan o brosiect AD TRAC, a fydd yn cychwyn ym mis Mehefin 2017. Roedd llawer o ffocws ar sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael yn gyfiawn i bob grŵp oedran ac ardal o’r sir. Bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer 2017/18, ynghyd ag alinio Tîm o Amgylch y Teulu, modelau Dechrau’n Deg, a Theuluoedd Gwledig yn Gyntaf i’r model parthau newydd, tra hefyd yn cydymffurfio â’r meini prawf cyllid a diwallu anghenion teuluoedd yng Nghonwy. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth gan ein cleientiaid i fonitro perfformiad, yn ogystal â chasglu data ansoddol a meintiol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ein nod ar gyfer 2017/18 fydd cefnogi pobl mewn i wirfoddoli a lleoliadau gwaith i fod yn barod am gyflogaeth â thâl.
Darpariaeth Addysg Arbenigol
Rydym hefyd yn cydweithio â Choleg Menai gyda’r bwriad o ddatblygu darpariaeth addysg arbenigol o fewn Conwy er mwyn atal darpariaeth preswyl arbenigol y tu allan i’r sir.
Data perfformiad sy’n ategu’r safon ansawdd yma
Ansoddol
Pobl yn dweud y gallant wneud beth sy’n bwysig iddynt
Dim ond 46% o oedolion ddywedodd y gallant wneud y pethau sy’n bwysig iddynt. Mae’r ffactorau sy’n eu hatal yn cynnwys problemau symudedd (gan gynnwys mynediad at gludiant), cyflyrau meddygol eraill, a llety anaddas.
Fe ymatebodd oedolion gydag anableddau dysgu yn fwy cadarnhaol, a dywedodd 77% o ymatebwyr eu bod yn teimlo eu bod yn gallu gwneud y pethau maent yn hoffi ei wneud. Mae heriau y mae’n rhaid iddynt eu goresgyn yn parhau fodd bynnag. Y prif ffactor sy’n eu hatal ydi dibyniaeth ar bobl eraill i fynd gyda nhw/eu cynorthwyo gyda gweithgareddau.
Gall 44% o ofalwyr wneud y pethau sydd yn bwysig iddynt. Yn sicr, y rhwystr mwyaf ydi dod o hyd i amser i adael yr unigolyn maent yn gofalu amdanynt. Mae dyletswyddau gofalu yn mynd ag amser ond mae’r awydd ymysg gofalwyr i gael amser i fynd i wneud y pethau y maent yn ei fwynhau yn amlwg o’r ymatebion a sylwadau.
Mae 82% o blant yn gallu gwneud y pethau maent yn ei hoffi, ac yn cael eu cefnogi gyda’u hobïau.
Pobl yn dweud eu bod yn fodlon gyda’u rhwydweithiau Cymdeithasol
Roedd 85% o oedolion a ymatebodd yn cytuno eu bod yn hapus gyda’r gefnogaeth roeddynt yn ei gael gan deulu, ffrindiau a chymdogion. Er fe ddywedodd rhai o’r rhai a anghytunodd bod ffrindiau a theulu yn gynorthwyol, felly ar y cyfan roedd yr ymateb i’r cwestiwn yma’n gadarnhaol gan y garfan hon.
Roedd 88% o oedolion gydag anableddau dysgu yn teimlo’n hapus gyda’r bobl o’u hamgylch ac ychydig iawn o sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ynghylch y cwestiwn yma i ychwanegu cyd-destun.
Mae’r ffigwr yma’n disgyn ychydig ymysg carfan y gofalwyr, gyda 71% yn cytuno gyda’r datganiad. Mae’r sylwadau ychwanegol yn tynnu sylw at amharodrwydd i fanteisio ar ewyllys da pobl eraill, a derbyn y ffaith fod gan aelodau’r teulu fywydau prysur i’w byw ac yn aml methu fforddio’r amser i rannu dyletswyddau gofalu. Ni all aelodau’r teulu sy’n byw cryn bellter i ffwrdd gynnig cymorth ymarferol o ddydd i ddydd, ac weithiau mae yna ddrwgdeimlad bod y dyletswyddau gofalu yn disgyn yn unig ar y gofalwyr lleol neu’r gofalwr sydd yn cyd-fyw.
Mae 93% o blant a ymatebodd yn hapus gyda’r teulu, ffrindiau a chymdogion ac roedd yr ychydig sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd hefyd yn gadarnhaol.
Meintiol
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng nghyfnodau allweddol 2 a 4 ydi 42.31%
- Canran y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi newid ysgol un neu fwy o weithiau, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth ydi 4.8%