Yn yr adran hon, byddwn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd yn y meysydd gwaith allweddol yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2019-20.
Cymru Iachach
Yn adroddiad 2018-2019, bu i ni gyfeirio at ‘Gymru Iachach’ a sut mae’r cynllun hwn yn gosod gweledigaeth glir o sut y bydd gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael eu darparu yng Nghymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. O fewn Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy, rydym wedi cymryd camau breision o ran cyflawni’r weledigaeth a amlinellwyd o fewn cynllun ‘Cymru Iachach’, gymaint felly fel ei fod bellach yn cwmpasu popeth rydym yn ei wneud fel gwasanaeth ac wedi dod yn rhan o’n gwaith arferol. Er enghraifft, rydym yn darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac unigolion, rydym yn cyd-gynhyrchu mewn perthynas â gwasanaethau ac rydym yn symud tuag at weithlu mwy generig.
Datblygu Timau Adnoddau Cymunedol
Y llynedd, bu i ni siarad am ddatblygu Timau Adnoddau Cymunedol (TACau) ar gyfer Gwasanaethau Oedolion. Mae hon wedi bod yn rhaglen waith, yn defnyddio cyllid CGI, i’n galluogi i integreiddio gwasanaethau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol cymunedol. Mae’r Gronfa Gofal Integredig (CGI) yn cael ei dyrannu gan Lywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru. Nod y gronfa yw ysgogi a galluogi gweithio integredig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Tai, y Trydydd Sector a darparwyr annibynnol, er mwyn datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Gall y gronfa gefnogi mentrau (neu brosiectau) newydd yn ogystal ag ehangu gwasanaethau presennol. Bydd datblygu’r TACau bellach yn parhau dan raglen ehangach o Drawsnewid ac Integreiddio Cymunedol, gan ddefnyddio grant trawsnewid Llywodraeth Cymru sydd ar gael drwy’r cynllun ‘Cymru Iachach’.
Rydym yn dal i ganolbwyntio ar ddatblygu hunaniaeth tîm cymunedol a ffyrdd o weithio sy’n caniatáu ymateb ‘un tîm’ i gymunedau lleol.
Gwaith a wnaed hyd yma
- Cafwyd adolygiad o ffiniau er mwyn sicrhau bod dalgylchoedd timau unigol yn cydweddu.
- Cafwyd cynllun peilot a gyflwynwyd fesul cam i bob TAC, sy’n rhoi mynediad i ddata byw am gleifion mewnol.
- Cychwynnwyd prosiect ‘mewngymorth’ drwy recriwtio ‘olrheinwyr cynnydd’. Eu rôl yw gwella cyfathrebu rhwng yr ysbyty a gwasanaethau cymunedol o ran trefnu cymorth gofal i unigolion cyn eu derbyn i’r ysbyty, a helpu i gynllunio i’w rhyddhau oddi yno.
- Mae’r gwaith o recriwtio Gweithwyr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi parhau. Mae’r rôl hon yn treialu integreiddiad swyddogaethau gofal a gyflawnir yn draddodiadol naill ai gan weithwyr iechyd neu gan weithwyr gofal cymdeithasol.
- Mae angen i dimau integredig rannu ethos am ofal a chymorth. Mae hyn yn cael ei ddatblygu drwy hyfforddiant ‘seiliedig ar asedau/cryfderau’ ar gyfer rheolwyr gwasanaeth a Thimau Adnoddau Cymunedol.
- Mae gwelliannau i’r amgylchedd gwaith yn parhau i gael eu datblygu. Bydd clinig Abergele yn cael ei adnewyddu, a hynny’n cael ei gwblhau cyn diwedd Mawrth 2020.
- Mae brysbennu boreol sy’n cynnwys cyfarfodydd timau amlddisgyblaethol wedi cael eu trefnu mewn rhai TACau, i’w gwneud yn haws atgyfeirio i’r timau o’r tîm Un Pwynt Mynediad, ac i sicrhau y cysylltir â’r gweithiwr proffesiynol cywir o gychwyn cyntaf taith y dinesydd.
Ar lefel tîm, mae’r gwaith o recriwtio i swyddi Un Pwynt Mynediad a Chysylltu wedi bod yn llwyddiannus ar ôl anawsterau cychwynnol, ac mae timau datblygu lleol wedi’u sefydlu i yrru blaenoriaethau TACau lleol ymlaen drwy ymgysylltu â thimau y tu hwnt i’r TAC craidd, grwpiau cymunedol a gweithgareddau lleol.
Er enghraifft:
- Mae clinig Abergele wedi cyfarfod â’r Gymdeithas Strôc ac yn canolbwyntio ar atal codymau er mwyn mynd i’r afael â rhestrau aros o fewn y Gwasanaeth Atal Codymau.
- Mae Bae Colwyn wedi meithrin cysylltiad â Gwasanaethau Teleofal a Mind Aberconwy. Mae Nyrsys Ardal wedi bod yn paratoi i roi system gofrestru newydd ar brawf.
- Mae Llanrwst wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ac maent yn canolbwyntio ar weithgareddau datblygu tîm a mynd i’r afael â phroblemau storio ar gyfer eu cydweithwyr therapi.
- Mae tîm y TAC Arfordirol wedi ailedrych ar gynllun swyddfeydd a sut y mae hyn yn creu rhwystrau i weithio mewn ffordd fwy integredig. Mae cynllun i wneud newidiadau wedi cael ei gytuno â landlordiaid yr adeilad.
- Mae Llandudno wedi defnyddio profiad y Bws Dementia, a groesawyd yn fawr. Mae’r grŵp datblygu yn parhau i ymgysylltu â thimau a gwasanaethau eraill fel y Llyw-wyr Cymunedol ac Age Connect.
Beth oedd yr heriau
Mae heriau’n parhau gyda rhai o’r adeiladau lleol fel Plas Menai yn y TAC Arfordirol. Mae’r timau wedi’u lleoli ar wahân ond mae yna gynlluniau i’w had-drefnu er mwyn eu lleoli o fewn yr un ardal o dan y cynllun gwaith newydd.
Beth nesaf?
Bydd datblygiad parhaus yn canolbwyntio ar:
- Fodelau o lwybrau gofal a gofal integredig er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gofal di-dor.
- Diffinio’r rolau a’r model darparu gwasanaeth o fewn TAC i gefnogi darpariaeth gofal integredig, sy’n cynnwys gwasanaethau cymorth busnes.
- Integreiddio a moderneiddio technegol fydd yn galluogi dulliau o gydweithio.
Ymarfer yn seiliedig ar gryfder
Mae Bwrdd Rhaglen y Timau Adnoddau Cymunedol wedi cymeradwyo pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n gysylltiedig â gofal integredig. Bydd yr hyfforddiant ar y cyd yn galluogi staff i fabwysiadu ‘arferion seiliedig ar gryfder’, sef dull y profwyd ei fod yn gwella canlyniadau unigol ac yn lleihau costau i Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant fydd yn darparu’r hyfforddiant, sef sefydliad sydd â hanes blaenorol cadarn o helpu darparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ymwreiddio dulliau seiliedig ar gryfder a gwella cydweithio ar draws gwahanol sefydliadau.
Mae gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn galw ar sefydliadau i feddwl a gweithio’n wahanol; mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i’n galluogi i fabwysiadu arferion arloesol ac ymatebol sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd y cymorth a’r driniaeth y maent yn eu derbyn.
Adborth gan staff y Tîm Adnoddau Cymunedol
Bu i ni ofyn i’r staff sy’n gweithio yn ein Timau Adnoddau Cymunedol am adborth i fesur pa mor llwyddiannus yw’r trefniadau gweithio ar y cyd ar hyn o bryd. Roedd 70% o’r rheiny a ymatebodd yn hapus neu’n eithaf hapus ynglŷn â gweithio o fewn TAC. Roedd rhai o’r rhwystrau y daethpwyd ar eu traws yn cynnwys cysylltiad cyfrifiadurol araf, signal ffôn gwael a diffyg cydlyniant llawn ymysg aelodau’r tîm. Ond tynnwyd sylw at sawl mantais hefyd:
Mae yna lawer mwy o gyfathrebu llafar rŵan ein bod ni i gyd yn gweithio yn yr un lle, fydd yn bendant yn arwain at well canlyniadau ar gyfer y bobl rydym yn eu helpu.
Ardderchog o ran cyfathrebu ac effeithlonrwydd wrth roi gofal y claf wrth wraidd yr hyn a wnawn ni fel tîm.
Roedd 71% o’r ymatebwyr yn teimlo bod gweithio o fewn y TAC wedi helpu eu dysg a’u gwybodaeth am alwedigaethau/gwasanaethau eraill ac roedd rhai’n gwerthfawrogi swyddi cydweithwyr eraill yn llawer mwy ers cydweithio â hwy.
Roedd 68% o’r ymatebwyr yn credu bod y TACau yn gwella’r gwasanaeth i’r dinasyddion oherwydd mwy o gyd-drefnu gwasanaethau, llai o ddyblygu tasgau a’r gallu i rwydweithio rhwng timau i gynyddu effeithlonrwydd. Roedd 74% yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn a gweithio yn amgylchedd y TAC wrth symud ymlaen.
Mae yna ddynameg da i’r tîm a llawer o gyfathrebu, sy’n gwneud i bob tîm deimlo’n hyderus yng ngallu’r naill a’r llall ac yn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio tuag at y canlyniadau lles [a nodwyd].
Taflen Ganllawiau Asesu Risg o Hunan-esgeulustod
Yn ein hadroddiad blaenorol, dywedom fod ein harweinwyr diogelu gofal cymdeithasol yn gweithio ar y cyd â’n Tîm Iechyd a Diogelwch i ddatblygu taflen ganllawiau asesu risg, er mwyn sicrhau bod unigolion sy’n hunan-esgeuluso neu’n celcio’n cael asesiad risg trwyadl. Mae rhagor o wybodaeth am y diweddariad hwn i’w weld yn yr adroddiad o dan Safon Ansawdd 3.
Canolbwyntio ar Namau ar y Synhwyrau
Y llynedd, bu i ni adrodd ein bod yn canolbwyntio ar wella cyfathrebu ar gyfer pawb, ac yn benodol ar gyfer ein dinasyddion sydd â nam ar y synhwyrau, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wasanaethau’r Cyngor yn yr un modd â phob dinesydd arall. Dyma rai o’n datblygiadau:
- Lansiwyd y gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain digidol. Mae’r peilot deuddeng mis wedi dod i ben ac mae bellach yn cael ei gynnig fel mater o drefn.
- Mae Gwasanaeth Cymorth Cyfieithu i’r Byddar Conwy bellach wedi’i leoli yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn, ac yn cyfarfod bob pythefnos.
- Lansiwyd modiwl e-ddysgu dwyieithog ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar ym mis Mai 2019. Mae sawl sesiwn wyneb-yn-wyneb hefyd wedi cael eu cynnal.
- Cynhaliwyd cyfarfodydd â fforymau nam ar y golwg er mwyn adolygu pa mor hygyrch yw gwefan y Cyngor.
Dysgu er Adferiad a Lles
Roedd y rhaglen Dysgu er Adferiad a Lles yn cynhyrchu taflen wybodaeth a gyhoeddwyd bob chwarter i ddwyn ynghyd y cyfleoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl ddysgu sut i reoli eu symptomau, datblygu sgiliau bywyd newydd a llunio cysylltiadau cymdeithasol er mwyn datblygu eu gwytnwch a’u rhwydweithiau cymorth. Yn ystod 2019-20, ein nod oedd ymwreiddio’r rhaglen yn yr arferion rheolaidd a pharhau i gynhyrchu taflen wybodaeth bob chwarter i hyrwyddo’r cyrsiau oedd ar gael o fewn y rhaglen. Yn anffodus, collwyd ein gallu i gynnal a chynhyrchu’r rhaglen a daeth y gwaith o argraffu’r daflen i ben ar ôl y pedwerydd chwarter.
Fodd bynnag, prif elfen y rhaglen oedd darparu cyrsiau ‘Hunan-eiriolaeth ar gyfer Grymuso’ (SAFE), a llwyddom i gynnal y sesiynau hyfforddi hyn oedd yn helpu pobl i ddysgu am adnoddau a thechnegau i’w rheoli a gofalu amdanynt eu hunain.
Ein nod hirdymor oedd cydweithio â defnyddwyr y gwasanaeth i ddylunio a datblygu’r mathau o gyrsiau rydym yn eu cynnwys yn y rhaglen. Er na pharhawyd i argraffu’r daflen, llwyddom i ymrwymo i ddarn o waith gyda defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid i’n helpu i nodi a llunio gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol yn y gymuned. Cynhaliom ddigwyddiad lansio ym mis Medi 2019, gan archwilio gyda phobl sut mae ‘da’ yn edrych a pha gymorth y byddai unigolion ei angen i gynnal eu lles hirdymor. Parhaodd y gwaith hwn dros fisoedd y gaeaf gyda mwy o sesiynau budd-ddeiliaid trylwyr gydag amrywiaeth o grwpiau sy’n helpu pobl â salwch meddwl. Roedd y wybodaeth a’r syniadau a gynhyrchwyd yn y sesiynau hyn yn werthfawr iawn. Byddant o fudd i benderfynu sut i weithredu gwasanaethau a chanfod beth y gallwn ni fel Awdurdod ei wneud i weithio ar y cyd ac yn greadigol â phartneriaid i sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso ac yn gallu byw bywydau ystyrlon, er gwaethaf diagnosis iechyd meddwl. Bydd yr adroddiad a’r adborth yn cael eu cyflwyno mewn noson uwchgynhadledd yn y gwanwyn.
Atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Dywedom y byddem yn cynnal peilot Llysgenhadon Lles mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghonwy a datblygu ar y cydweithio da rhwng nifer o asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a’r sector gwirfoddol. Mae un ysgol wedi llwyddo i gychwyn ar y daith hon, gyda’r Llysgennad Lles yn trefnu sesiynau galw heibio i gyfoedion, rhoi cyflwyniadau a hyrwyddo diwrnodau ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn. Rydym bellach wedi cynnal cynllun peilot tebyg yn y Canolfannau Teuluoedd i rieni ac yn gobeithio y bydd, gyda digon o hyrwyddo a phobl yn cymryd rhan, yn fodel gwerthfawr i’r dyfodol.
Mae ein Fforwm Camfanteisio yn parhau ar sail rhaglen dreigl chwe wythnos a drefnir gan weithwyr cymdeithasol y Tîm Asesu a Chymorth, a hefyd gyda chydweithiwr o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Anogir y fforwm i gynnwys amrywiol asiantaethau mewn lleoliad y gellir ei ddefnyddio i gyfnewid gwybodaeth am bryderon am gamfanteisio yng Nghonwy.
Tîm Cryfhau Teuluoedd
Yn adroddiad y llynedd, bu i ni siarad am waith y Tîm Cryfhau Teuluoedd gyda theuluoedd mewn perygl o chwalu. Yn ystod 2019-20, mae’r tîm wedi datblygu ymhellach, gan recriwtio tîm cyflawn a sicrhau ei fod yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ac arbenigol i’r teuluoedd sydd ei angen. Mae aelodau’r tîm wedi cael hyfforddiant wedi’i dargedu mewn perthynas ag anghenion penodol unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys effaith camddefnyddio sylweddau o fewn teuluoedd, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut i gynnal sgyrsiau cydweithredol.
Ceir atgyfeiriadau drwy’r panel Ar Ffiniau Gofal, a chytunir ar ymyriadau cydweithredol priodol i gefnogi’r teulu. Mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), sy’n sicrhau bod yr ymyriadau’n cael eu cynnal yn amserol.
Mae aelodau’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, gan ddefnyddio technegau cyfweld ysgogiadol seiliedig ar gryfderau, ac mae eu dull wedi bod yn hynod llwyddiannus. O’r 58 atgyfeiriad i’r gwasanaeth a effeithiodd ar 106 o blant, dengys dadansoddiad bod 103 wedi parhau i fyw gartref neu yn yr un lleoliad.
Mae llwyddiant y fforwm Ar Ffiniau Gofal wedi arwain at bresenoldeb mwy rheolaidd ac ymrwymiad gan asiantaethau eraill. O ran darparu gwasanaethau, mae mwy o waith yn cael ei rannu gyda’r Canolfannau Teuluoedd, yn enwedig o ran rheoli achosion mwy cymhleth, ac mae Proffil y Teulu yn cael ei addasu fel adnodd i ganfod beth sy’n bwysig i deuluoedd. Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd wedi dynodi gweithwyr therapiwtig yn ddiweddar i gysylltu â phob Canolfan Deuluoedd er mwyn cynnig cyngor a chyfarwyddyd am ymyriadau therapiwtig.
Mae’r model gofalu am Blant sy’n Derbyn Gofal a rennir wedi cael ei roi ar waith rhwng y Tîm Cryfhau Teuluoedd a CAMHS, ac yn cynnwys Holiadur Cryfderau ac Anawsterau i fesur lles meddyliol plant mewn gofal. Mae timau eraill yn cael eu hannog i’w ddefnyddio, a darparwyd hyfforddiant gan CAMHS mewn perthynas â dehongli’r data.
Byddwn yn:
- Parhau i weithio gyda’r Tîm Dyletswydd ac Asesu i gynnal ymyriadau yn gynharach er mwyn osgoi’r angen am wasanaethau cymorth a gofal a reolir parhaus
- Datblygu ein partneriaeth waith gyda’r Tîm Ailuno newydd
- Cryfhau’r cysylltiadau â’r tîm Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig
- Parhau i ddatblygu perthnasoedd a darparu sesiynau clinig o fewn Canolfannau Teuluoedd
Datblygu ein gwasanaethau llety
Y llynedd, bu i ni adrodd am amrywiaeth o ddatblygiadau mewn perthynas â’n prosiectau ar gyfer llety. Mae Cam 1 prosiect Datblygu Llety i Bobl Anabl Canolfan Marl wedi’i gwblhau a chafodd ei drosglwyddo yn 2018. Mae Cam 2 y prosiect hwn, sy’n cynnwys safle cyn Ysgol Maelgwyn yng Nghyffordd Llandudno, yn mynd rhagddo, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu fod wedi’i gwblhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae gwaith wedi dechrau o fewn y Gwasanaeth Anableddau i ganfod darpar denantiaid, ac rydym yn cydweithio â’r unigolion hynny dan sylw. Rydym hefyd yn falch o gael adrodd bod y darpariaethau canlynol wedi cael eu cynnig i deuluoedd ac unigolion o ganlyniad uniongyrchol i’n prosiectau llety ni:
- Mae teulu mawr sydd ar y Gofrestr Anabledd ac sydd wedi bod yn aros am lety addas yn barod i gymryd tenantiaeth yn un o’r tai teulu mawr sydd wedi’u haddasu’n llwyr.
- Mae unigolyn sydd ar y Gofrestr Anabledd ac sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety dros dro (un o unedau Canolfan Marl), yn aros i gymryd tenantiaeth yn y byngalo arbenigol.
- Bydd timau Plant a Phobl Ddiamddiffyn yn cymryd un pâr o’r tai pâr dwy ystafell wely mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy.
- Mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi clustnodi unigolion ar gyfer pob un o’r 6 uned un ystafell wely o fewn y cynllun.
- Bydd gweddill yr eiddo ar y safle yn cael eu dyrannu drwy’r gofrestr Un Llwybr Mynediad At Dai (SARTH), gan gyfeirio at y Polisi Gosod Tai Lleol sydd wedi’i sefydlu ar gyfer y safle hwn.
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy chwaraeon
Y llynedd, bu i ni siarad am ddatblygu rhaglen bêl-droed beilot wedi’i thargedu at bobl ifanc anodd eu cyrraedd ac sydd wedi ymddieithrio, ac sy’n hysbys i, neu’n ymwneud â phobl ifanc sydd eisoes yn agored i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Yn aml, nid yw’r bobl ifanc hyn yn ymgysylltu â gwasanaethau a darpariaethau prif ffrwd fel clybiau ieuenctid/ chwaraeon, gan fod eu hymddygiad yn creu rhwystr iddynt elwa ar wasanaethau, addysg a chyfleoedd hyfforddi. Rhoddodd y sesiynau hyn gyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol oedd yn ymwneud â chwaraeon, a alluogodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ei dro i feithrin eu hyder ac edrych ar waith pellach gyda’r unigolion mewn perthynas â’u hymddygiad ac effaith troseddu. Y nod hirdymor oedd eu hymgysylltu unwaith eto â gwasanaethau prif ffrwd.
Beth oedd yr heriau?
Roedd cael gafael ar gyllid i sicrhau’r ddarpariaeth hon yn her, gan nad oedd y GCI yn dod o fewn y meini prawf cymhwyso. Yn fewnol, mae diffyg adnoddau, amser staff a chytundeb meysydd gwasanaeth eraill i ddarparu cymorth staffio wedi bod yn heriol. O ran logisteg, mae cludo plant iau i’r cyfleuster hefyd wedi bod yn broblem.
Beth oedd y canlyniad?
Mae yna lai o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu wedi bod yn yr ardal, a chredir mai’r rheswm am hyn yw bod pobl ifanc yn benodol wedi cael eu targedu mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru. Mae eu ffigurau a’u cynlluniau plismona lleol yn adlewyrchu ac yn tystio i’r gostyngiad hwn, felly mae’r ymagwedd yn gweithio’n dda.
Buddion i bobl ifanc
Mae’r adborth a gafwyd gan y bobl ifanc yn dangos buddion ychwanegol, parhaus y rhaglen, gan gynnwys y canlynol:
- Cael pasys i’r gampfa, na fydden nhw wedi ystyried ei wneud heb gymorth y GCI
- Gostyngiad yn y defnydd o sylweddau, gan fod y mynychwyr yn canolbwyntio mwy ar wella a chynnal eu hiechyd a’u ffitrwydd
- · Gwell ffitrwydd, gan alluogi rhai i ystyried gyrfa filwrol
- Mae dau berson ifanc wrthi’n cymryd rhan mewn hyfforddiant milwrol
- Mae dau berson ifanc wedi ymuno â choleg milwrol, am fod y rhaglen wedi rhoi hwb i’w hyder
- Cael rhywbeth adeiladol i’w wneud a’i fwynhau
- Meithrin cyswllt â’r gymuned a datblygu cysylltiadau
Gan fod y rhaglen wedi bod mor llwyddiannus, yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych, byddwn yn ei chychwyn eto yn Llandudno a Bae Colwyn yn ystod haf 2020. Dyma’r ardaloedd y mae mwyafrif y bobl ifanc a dargedir yn eu mynychu. Prosiect pedair wythnos fydd hwn i gychwyn, lle byddwn yn meithrin cyswllt â phobl ifanc drwy ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r potensial o droseddu. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau pêl-droed i ennyn eu diddordeb mewn chwaraeon a throi eu sylw oddi wrth droseddu.
Datblygu gwytnwch ymysg unigolion sy’n gadael gofal
Yn adroddiad y llynedd, bu i ni siarad am efelychu rhaglen a sefydlwyd gan glwb pêl-droed Tottenham Hotspurs i ddatblygu gwytnwch a dulliau ymdopi. Nododd gwaith ymchwil a wnaed gan dîm rheoli’r Cynghorwyr Personol yr angen canlynol am gwrs byw’n annibynnol:
- Gwytnwch emosiynol
- Cyllidebu
- Sgiliau DIY
- Coginio
- Sut i fod yn gymydog da
- Sut i reoli tenantiaeth
Roedd yr ymchwil yn seiliedig ar farn pobl ifanc a gasglwyd gan y tîm Cynghorwyr Personol a gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan siroedd eraill.
Beth oedd yr heriau?
Treuliwyd llawer o amser yn canfod ffrydiau cyllid ar gyfer y cwrs hwn ynghyd â ffordd o’i wneud yn gynaliadwy. Y canlyniad oedd cydweithio rhwng y gwasanaeth Cynghorwyr Personol a’r Gwasanaeth Ieuenctid.
Beth nesaf?
Ar ôl gwyliau’r Pasg, bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu hyfforddiant Sgiliau Byw’n Annibynnol i grwpiau bychain o unigolion sy’n gadael gofal, wedi’i seilio ar y modiwlau a restrir uchod. Mae’r hyfforddwr wedi cymhwyso i ddarparu hyfforddiant achrededig, sy’n golygu y bydd pob unigolyn sy’n gadael gofal sy’n cwblhau’r cwrs yn cael dwy radd TGAU. Bydd dwy lefel ar gael i sicrhau y gall unigolion sy’n gadael gofal o bob gallu elwa o’r cynllun.
Peilot fydd hwn, a bydd unrhyw adborth o’r cwrs hwn yn cael ei ddefnyddio i addasu’r dull o gynnig cyrsiau yn y dyfodol. Gan ei fod yn cael ei gynnal ar y cyd â’r Gwasanaeth Ieuenctid, nid fu angen unrhyw gyllid ychwanegol, sy’n golygu fod hwn yn gwrs cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.