Ein gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol
Galluogi ein staff i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd
Mae sicrhau bod ein gweithlu yn iach ac wedi’u hysgogi yn flaenoriaeth i ni, ac ar ddechrau 2020 lansiwyd rhaglen hyfforddi iechyd a gweithgarwch newydd o’r enw FAST 365 mewn partneriaeth â sefydliad ffitrwydd lleol. Nod y rhaglen yw darparu gwybodaeth a chymorth i’r gweithlu gymryd camau trawsnewidiol yn eu hiechyd a’u ffitrwydd dros gyfnod her chwech wythnos, ac yna’r flwyddyn gyfan.
Y gobaith yw y bydd staff Gofal Cymdeithasol ac Addysg, drwy gymryd rhan yn y fenter, yn gweld gostyngiad yn lefel y straen a’r cwynion cyhyrysgerbydol y maent yn eu dioddef, sy’n cyfrif am nifer sylweddol y dyddiau a gollir oherwydd salwch yn yr adran.
Mae’r her ers lansio’r rhaglen wedi ymwneud â pham nad yw hyn yn cael ei ddarparu gan y Gwasanaethau Datblygu Cymunedol a’i gynnig i’r Cyngor yn ehangach. Fodd bynnag, nid ein bwriad o’r cychwyn oedd darbwyllo pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, ond i gyflwyno’r syniad yn raddol fod yna gysylltiad rhwng lles a gweithgarwch neu symudiad.
Y nod yw, unwaith y byddant yn gwneud ymarfer corff ac yn defnyddio’r beltiau monitro gweithgarwch (y mae’r staff eu hunain yn eu prynu), y bydd y cyfranogwyr eisiau defnyddio’r cyfleusterau hamdden sydd gan CBSC i’w cynnig a gwneud y mwyaf o’r 30 munud o amser gyda thâl a ddyrannwyd iddynt i symud a chymryd rhan mewn gweithgarwch. Er na all y Gwasanaethau Hamdden ddarparu cynnig tebyg ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i weithio’n agos â hwy a rhagwelwn y bydd y rhaglen beilot o fudd i’r cyfranogwyr ac i ganolfannau hamdden yr awdurdod lleol o ran presenoldeb a hyrwyddo gwasanaethau mewnol.
Ers lansio’r rhaglen, mae’r niferoedd sydd wedi cofrestru wedi rhagori ar y disgwyliadau. Os ystyrir ei bod yn llwyddiant ar ôl ei gwerthuso, bydd trafodaeth yn cael ei chynnal am ailgynnig y rhaglen a’i chynnig i grŵp ehangach o staff neu unigolion a dargedir.
Cael adborth ar ein perfformiad
Nododd 100% o’r ymatebwyr bod y timau gofal cartref wedi ymateb yn briodol i bryderon am unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Cytunodd 100% o’r ymatebwyr fod y tîm yn gwrtais wrth ymdrin ag ymholiadau.
Mae’r gwasanaeth yn gwrando ar y galw o ran anghenion a bydd yn chwilio am ffyrdd amgen o ddarparu gwell gwasanaeth cymorth, sy’n fwy addas.
Datblygiad a Dysg y Gweithlu
Fel rhan o’n buddsoddiad yn y gweithlu, rydym wedi llunio perthynas â Community Care Inform. Mae CC Inform yn adnodd ar y we sy’n arwain y farchnad, wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio gydag oedolion, plant a theuluoedd. Mae’r safle’n cynnig cyfoeth o gyngor ymarferol, y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, yr ymchwil diweddaraf, cyfraith achosion ac amrywiaeth o fideos, podlediadau ac adnoddau eraill sydd wedi’u dylunio i ysbrydoli trafodaethau grŵp a gwella ein harferion.
Hyd yma, gall 290 o aelodau staff gael mynediad i CC Inform Children a CC Inform Adults. Mae hyn hefyd yn cynnwys myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. Ein nod oedd sicrhau bod ymarferwyr yn defnyddio’r adnoddau fel rhan o’u gwaith bob dydd. Bydd hyn yn golygu bod ganddynt well adnoddau i wneud penderfyniadau’n gynt ac yn fwy hyderus ar sail tystiolaeth.
Sut yr ydym yn rheoli rhaglenni i gyflawni newid
Trefniant dros dro, hyblyg yw rhaglen a grëwyd i gydlynu, cyfeirio a goruchwylio gweithrediad cyfres o brosiectau a gweithgareddau cysylltiedig er mwyn darparu deilliannau a buddiannau cysylltiedig ag amcanion strategol y sefydliad. Caiff rhaglen ei chreu i’w gwneud yn bosib trawsnewid busnes, pan fo newid o’r fath yn gofyn am nifer o brosiectau i gefnogi’r newid neu’r trawsnewidiad. Mae defnyddio ymagweddau Rheoli Prosiectau a Rhaglenni yn rhan fawr o sut y mae Gofal Cymdeithasol yn cyflawni newidiadau a gwelliannau er budd staff a chymuned Conwy.
Mae ein hymagwedd Rheoli Rhaglenni wedi’i seilio ar y fethodoleg Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, ac mae’n adnodd allweddol sy’n ein galluogi i reoli newid trawsnewidiol a allai gynnwys cymhlethdod, risg, rheoli nifer o rhyngddibyniaethau a datrys gwrthdaro rhwng sawl blaenoriaeth. Mae’n darparu fframwaith strwythuredig a all helpu i osgoi meini tramgwydd a chyflawni amcanion. Bydd rhaglenni o fewn Gofal Cymdeithasol yn cael eu cydweddu ag un neu fwy o amcanion ein Cynllun Corfforaethol 2017-22, ac felly’n cael eu llywio’n uniongyrchol hefyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Byddwn yn sicrhau a) bod cydweithwyr sy’n gweithio’n rheolaidd mewn amgylcheddau rhaglenni yn mynychu cwrs Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, a b) bod y rhaglenni’n cadw at saith egwyddor y dull Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus:
- Cadw’n gyson â strategaeth gorfforaethol CBSC
- Arwain Newid
- Dychmygu a chyfleu gwell dyfodol
- Canolbwyntio ar y buddion a’r bygythiadau iddynt
- Ychwanegu gwerth
- Dylunio a chyflawni galluedd cydlynol
- Dysgu o brofiad
Ein hadnoddau ariannol a sut yr ydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol
Er gwaethaf her yr hinsawdd ariannol, rydym yn parhau i amddiffyn darpariaeth gwasanaethau uniongyrchol. Ein nod yw darparu’r gwerth gorau, bod yn effeithlon a pheidio â dyblygu gwaith. Daeth y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol o hyd i £2.4 miliwn mewn arbedion ar gyfer 2019-2020, ond rydym yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’n trigolion.
Er mwyn lliniaru effeithiau pwysau ariannol, rydym yn sicrhau ein bod yn cael gafael ar, ac yn gwneud y mwyaf o gyllid grant lle bynnag y bo hynny’n bosib, er mwyn ein galluogi i barhau i weithio’n arloesol ac yn effeithiol o fewn ein gwasanaethau. Er enghraifft, dyrennir y Gronfa Gofal Integredig (CGI) gan Lywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru. Nod y gronfa yw ysgogi a galluogi gwaith integredig rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Tai, y Trydydd Sector a darparwyr annibynnol i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy. Gall y gronfa gefnogi mentrau (neu brosiectau) newydd yn ogystal ag ehangu gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli. Yng Nghonwy, defnyddiwyd cyllid CGI i ddatblygu’r Gwasanaeth Gweithwyr Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ledled Conwy. Mae hwn yn ddarn allweddol o waith i wella’r gwasanaeth i Bobl Hŷn ledled y Sir.
Yn ogystal, defnyddiwyd cyllid grant o fewn ein gwasanaethau ataliol i atal plant rhag mynd i’r system gofal drwy waith dwys y Tîm Cryfhau Teuluoedd. Gwelwyd cyfradd lwyddiant o 94% wrth gefnogi teuluoedd (gan gynnwys teuluoedd maeth) sy’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth oherwydd fod plentyn / plant ar fin dod yn rhan o’r system ofal.
Atal sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn i reoli’r galw. Os gallwn ni ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, byddwn yn osgoi cynnydd yn yr angen a’r gost.
Sicrhau gwerth cymdeithasol o weithgareddau comisiynu
Rhan allweddol o’n gwaith Comisiynu Gofal Cymdeithasol yw datblygu Gwerth Cymdeithasol yn y Sir. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol (a’u partneriaid) i hybu datblygiad sefydliadau dielw i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol. O fewn hyn, mae “Llais a Rheolaeth” yn un o egwyddorion sylfaenol y Ddeddf, ac mae hyn yn dylanwadu ar y rhaglen Gwerth Cymdeithasol wrth annog gwasanaethau i fod yn fwy cyd-gynhyrchiol yn eu datblygiad, lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu grymuso i ddylanwadu ar ddatblygiad a darpariaeth gwasanaethau sy’n effeithio arnynt hwy.
Roedd adroddiad hunanasesu manwl i werth cymdeithasol o fewn Conwy yn cynnwys argymhellion i ddatblygu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol gorfforaethol, a helpu ymwreiddio gwerth cymdeithasol mewn strwythurau partneriaethau lleol. Roedd yr adroddiad hwn yn bwydo i mewn i adroddiad i Lywodraeth Cymru gan y Fforwm Gwerth Cymdeithasol rhanbarthol, fel sy’n ofynnol dan y Ddeddf.
Mae cyd-gynhyrchu yn ôl ei natur wedi’i gysylltu’n gynhenid â gwerth cymdeithasol. Os byddwn yn gwella cyd-gynhyrchu, bydd mwy o werth cymdeithasol yn dilyn. O fewn Gofal Cymdeithasol Conwy, rydym yn symud tuag at ymagwedd mwy cyd-gynhyrchiol tuag at gomisiynu a monitro contractau y gwasanaethau trydydd sector rydym yn eu comisiynu.
Mae ein dull comisiynu’n defnyddio’r cylch Dadansoddi, Cynllunio, Gwneud ac Adolygu, ac rydym yn ceisio ymwreiddio cyd-gynhyrchu ym mhob rhan o’r cylch lle bo’n bosib. Mae’n ymwneud â chyflawni canlyniadau lles a chael gwerth am arian; byddwn yn cynnwys defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau drwy gydol y cylch er mwyn sicrhau ein bod, drwy gydweithio, yn darparu’r safon gywir o wasanaethau cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir ac am y pris cywir. Drwy’r broses hon byddwn hefyd yn sicrhau ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu.
Mae cyfarfodydd adolygu contract yn gyfle i gynnal sgwrs rhwng y ddwy ochr, lle byddwn yn cydweithio i wneud yr hyn a allwn i gynyddu effaith eu gwasanaethau i’r eithaf. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gwasanaethau’n gwrando ar eu pobl ac yn datblygu mewn ymateb i’r hyn y maent yn ei glywed.
Mae enghraifft ddiweddar yn ymwneud â gwasanaeth a ail gomisiynwyd drwy gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, sef gwasanaeth Cefnogi Cydberthnasau Teuluol. Dylanwadwyd ar fanyleb y gwasanaeth gan bobl oedd wedi defnyddio gwasanaethau tebyg, a drwy ymgynghoriadau ger giât yr ysgol. Ar y cam cyfweld, roedd defnyddwyr y gwasanaeth a chynrychiolwyr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy yn rhan o’r panel er mwyn rhannu’r broses o benderfynu pa ddarparwr oedd yn cael y contract, a byddant hefyd yn rhan o waith adolygu’r contract. Bydd rhannu pŵer a chydweithio gwirioneddol yn arwain at wasanaeth sy’n cydweddu’n well â chyflawni canlyniadau y mae ar bobl eu heisiau, a thrwy hynny wella gwerth cymdeithasol.
Nid yw cynhyrchu Gwerth Cymdeithasol wedi’i gyfyngu i Ofal Cymdeithasol yn unig; gall gwasanaethau ehangach y Cyngor gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy eu hamrywiol bartneriaethau a chontractau, ac maent yn gwneud hynny. Bydd y rhaglen hon yn cael ei symud ymlaen yn gyfan gwbl drwy Gytundeb Partneriaeth tair blynedd rhwng y Cyngor a’r Trydydd Sector.
Beth oedd yr heriau?
Mae Gwerth Cymdeithasol yn golygu deall gwerth newid i fywydau pobl. Mae unrhyw wasanaeth sy’n helpu hybu newidiadau cadarnhaol fel gwell lles, mwy o hyder, bod yn iachach, byw mewn gwell tai neu gael gwell cydberthnasoedd teuluol, yn creu gwerth cymdeithasol.
Un her, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau ataliol, yw bod rhaid datblygu achos busnes yn aml ar sail gwerth ariannol yn unig, oherwydd pwysau cyllidebol. Mae hyn yn aml yn bwysicach nag ystyried gwerth cymdeithasol. Yn ogystal, efallai na wireddir unrhyw ddarpar arbedion cost am beth amser, ac/neu mewn rhannau eraill o’r system. Er enghraifft, gallai gwasanaethau ataliol cymdeithasol arwain at arbedion neu lai o alw i’r gwasanaeth iechyd, ymhen amser.
Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd penderfyniadau. Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i benderfyniadau. Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn y Cynllun Corfforaethol. Mae’r saith nod a’r pum ffordd o weithio yn cyfateb i’r wyth Canlyniad ar gyfer Dinasyddion Conwy.
Ceir camau gweithredu yn y Cynllun Corfforaethol sy’n ataliol, sydd â’r nod o weithio tuag at yr effaith tymor hirach ac sydd wedi’u llunio drwy ystyried sut y maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles. Mae’r camau gweithredu hefyd yn gydweithredol yn y modd y maent yn canolbwyntio ar weithio’n agos gyda chymunedau, fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau ar gyfer Dinasyddion a’u bod yn rhan o’r cydweithio i’w cyflawni.
Mae’r Ddeddf hefyd yn diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel dull o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gwneud i ni ystyried yr hyn rydym yn ei wneud, sut yr ydym yn ei gyflawni a sut yr ydym yn cyfathrebu. Fel gwasanaeth, rydym yn cyfrannu drwy fyfyrio ar y modd yr ydym yn defnyddio’r pum ffordd o weithio yn ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. Mae’r broses hon hefyd yn galluogi AauLl i wella eu gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata ar fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, partneriaeth ac integreiddio ac atal. Mae gan yr awdurdod lleol drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi rheolaeth effeithiol Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio sy’n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden. Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu eu hadolygu a’u herio. Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn o oruchwylio a herio perfformiad. Cynhelir cyfarfodydd â’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.
Rhaglen Ariannu Hyblyg
Nod y Rhaglen Ariannu Hyblyg yw sicrhau gwell canlyniadau i’r rhai hynny sydd fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau, a hynny drwy ddulliau ymyrryd yn gynnar ac atal, gan annog pobl i hunan-fyfyrio a chryfhau eu cymhelliant. Y bwriad yw chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag newid er gwell, drwy ddatblygu dulliau blaengar sydd wedi’u dylunio i atal pobl rhag mynd yn fwy diamddiffyn yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cyfuno deg o ffrydiau cyllid mewn dau ‘bot’ o grantiau er mwyn cryfhau ein gallu i ddarparu gwasanaethau ataliol, sy’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar gyda’r rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae’r ‘pot’ cyntaf yn canolbwyntio ar Dai a’r ail ar Blant a Chymunedau.
Gyda’r hyblygrwydd newydd hwn, rydym wedi gallu newid ein cymorth i rieni’n sylweddol, gyda’r staff Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf bellach yn cydweithio fel un tîm Cymorth i Deuluoedd o bum gwahanol ardal leol. Mae gan bob ardal restr o gymorth a gweithgareddau ar nifer o wahanol lefelau, gan gynnwys mynediad agored, gwybodaeth a chyngor, grwpiau un-i-un a chymorth arbenigol. Mae’r model yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd yng Nghonwy sydd wedi adrodd eu hanesion ynglŷn â’r cymorth oedd ar gael iddynt.
Llwyddiannau allweddol
Mae’r adnodd Lles y Teulu wedi cyrraedd rhestr fer am wobr, ac rydym wedi cael ein gwahodd i ymuno â phrosiect arloesol Rhoi Plant yn Gyntaf. Mae cysylltiadau agos wedi’u sefydlu â gwasanaethau eraill o fewn yr awdurdod, fel y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Desg Ddyletswydd Plant (Gofal Cymdeithasol) a’r Gwasanaeth Ieuenctid, sydd wedi ailstrwythuro i atgynhyrchu’r model ardal leol. Mae’r gwaith ailgomisiynu wedi dechrau a bydd yn parhau drwy gydol 2020/21.
Rydym wedi bod yn siarad â phobl ifanc a rhieni am gyfleoedd chwarae, sy’n cyd-fynd â’n thema Iechyd a Lles. Rydym hefyd yn edrych ar sut y mae ein canolfannau hamdden yn cael eu defnyddio. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi ein data Cefnogi Pobl er mwyn gallu cynllunio ein gwasanaethau wrth symud ymlaen. Bydd elfennau o’n gwaith casglu gwybodaeth hefyd yn cael eu defnyddio o fewn y themâu Digartrefedd, Pobl Ifanc ac Iechyd Meddwl, sydd oll wedi’u cydgysylltu.
Yn dilyn adolygiad o’n cefnogaeth cyflogadwyedd, rydym yn gwneud nifer o newidiadau i’r ffordd yr ydym yn cydlynu ein cefnogaeth. Er enghraifft, mae’r staff Gofal Cymdeithasol sy’n darparu cynlluniau sy’n ymwneud â chyflogadwyedd wedi trosglwyddo i’r Gwasanaethau Datblygu Cymunedol, fel bod staff cyflogadwyedd i gyd yn dod o dan un gwasanaeth, ac rydym wrthi’n creu swydd arweinydd strategol ar gyfer cyflogadwyedd o fewn yr un gwasanaeth. Bydd y Prif Swyddog Cyflogadwyedd newydd yn goruchwylio holl gynlluniau cyflogadwyedd yr awdurdod ac yn datblygu Strategaeth Cyflogadwyedd Conwy, gan gynnwys ein cefnogaeth ar gyfer unigolion ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau.
Yng Nghonwy, mae’r ffrydiau cyllid yn cwmpasu pum gwasanaeth:
- Plant, Teuluoedd a Diogelu;
- Datblygu Cymunedol;
- Addysg;
- Gwasanaethau Integredig Oedolion a Chymunedau;
- Rheoleiddio a Thai.
Gan hynny, mae ein dull llywodraethu’n dod â phob swyddog arweiniol, y pum Pennaeth Gwasanaeth a’r holl Gyfarwyddwyr Strategol ynghyd i sicrhau bod pawb yn deall yr hyn sy’n cael ei ddarparu, y rhwystrau a’r cyfleoedd. Gallwn hefyd sicrhau bod meysydd lle mae cydweithrediad yn digwydd yn cael eu nodi a’u hyrwyddo.
Beth nesaf?
Rydym wedi adolygu ein trefniadau monitro contractau a’r ffordd yr ydym yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth ddatblygu ein gwasanaethau. Byddwn yn rhannu enghreifftiau o arferion da ac yn edrych ar safoni prosesau ar gyfer monitro contractau. Byddwn hefyd yn cryfhau ein hadnoddau o ran ceisio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a chyd-gynhyrchu.
Rydym wedi bod yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr am gyfleoedd chwarae, yn unol â’r cynlluniau ail-gomisiynu, a byddwn yn cysylltu hyn â’n thema Iechyd a Lles, ynghyd â’r data am ein gwasanaethau hamdden. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn dadansoddi ein data Tai er mwyn cael gwell gwybodaeth am anghenion wrth symud ymlaen. Byddwn yn rhoi mwy o newidiadau cyflogadwyedd ar waith ac, ynghyd ag adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, byddwn yn edrych ar sut yr ydym yn cyflwyno rhywfaint o’n darpariaeth.
Rheoleiddio ac Arolygu
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) wedi newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu harolygu, sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a’r cymorth yr ydym yn ei ddarparu, a’r modd yr ydym yn rheoleiddio’r gweithlu. Mae’n rhoi ansawdd ac arolygu gwasanaethau wrth wraidd rheoleiddio, yn cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.
Ers 2018, o fewn y Gwasanaethau Oedolion, dechreuwyd cofrestru rheolwyr yn y sector cartrefi gofal ledled Cymru o dan y rheoliadau RISCA newydd. Rydym wedi cynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno RISCA. Hefyd, bu i ni gynnal gweithdai Cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar er mwyn helpu’r gweithlu gofal cartref i gofrestru. Rydym wedi sefydlu grŵp polisi RISCA sy’n cwrdd bob mis er mwyn adolygu’r polisïau sy’n ofynnol o dan y rheoliadau newydd. Gyda’n partneriaid, rydym hefyd yn cynnal Grŵp Hyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu gydol y Sector.
O fewn maes gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Trosolwg Cenedlaethol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Bu i ni gymryd rhan yn yr adolygiad hwn ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn gweithio i wella profiadau drwy ddefnyddio’r canfyddiadau allweddol.
Mwy Na Geiriau: Darparu’r ‘Cynnig Gweithredol’
Yn syml, mae ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rhywun orfod gofyn amdano. Dyma ddywedodd Mark Drakeford ( Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd) yn 2016:
“Sicrhau diogelwch, urddas a pharch siaradwyr Cymraeg sydd wrth wraidd darparu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn y Gymraeg. Nid cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig sy’n bwysig, ond gwella ansawdd y gofal a diwallu anghenion ieithyddol pobl, yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy’n canolbwyntio ar unigolion.”
Yng Nghonwy, rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau bod y Cynnig Gweithredol yn cael ei ymwreiddio yn ein diwylliant, gan sicrhau ansawdd a diogelwch i siaradwyr Cymraeg y sir. Mae sicrhau bod unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth gennym yn gallu cyfathrebu â staff cymorth yn eu dewis o iaith yn hynod bwysig. Er mwyn galluogi hyn, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi Mwy Na Geiriau wedi’u hanelu at y gweithlu cyfan, sy’n cyflwyno:
- Y Cynnig Gweithredol
- Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg
- Profiadau defnyddwyr gwasanaethau
- Sut mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi ein cyfrifoldebau mewn perthynas â darparu gwasanaeth Cymraeg
- Rhoi newid ar waith
- Datblygu strategaeth sgiliau iaith
- Cyfnewid arferion da
- Llunio cynllun gweithredu
Cytunodd 95% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu dewis o iaith.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cynhaliwyd 19 cwrs gyda 178 aelod staff yn eu mynychu.
Cyfranogi ac Ymgynghori
Dros y deuddeng mis diwethaf, rydym wedi cynnal nifer o ymarferion cyfranogi ac ymgynghori ar amrywiaeth o bynciau ar ran y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd. Mae’r ymateb a’r wybodaeth a gawn o’r ymgynghoriadau a’r ymgysylltiad yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau.
Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion
Rydym wedi:
- Ymgynghori â phobl hŷn a Thai ar gyfer Strategaeth Tai Conwy.
- Gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Daflen Retinopathi Diabetig.
- Mynd gyda dinasyddion Conwy i ymgynghoriad BIPBC ar Wasanaethau Deintyddol.
- Mynd gyda dinasyddion Conwy i ddigwyddiad ymgynghori ‘Heneiddio’n Dda yng Nghymru: Cymunedau Oed Gyfeillgar’ yn Y Galeri, Caernarfon (gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn bresennol).
- Mynychu’r Rhwydwaith i drafod Cynhyrchion a Gwasanaethau Teleofal (Gwasanaethau Lles).
- Mynychu’r Rhwydwaith i ymgynghori â hwy ar boster i roi gwybodaeth am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor (Refeniw a Budd-Daliadau).
- Mynychu’r Rhwydwaith i drafod Budd-daliadau a sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Hawliau Lles (Hawliau Lles).
- Cydweithio â Chydlynydd Rhaglen y Prosiect IMAGINE ar gyfer Bae Colwyn (Sut y gall cymunedau gydweithio’n well).
- Mynychu Rhaglen Darllen ar y Cyd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Conwy i drafod y rhaglen a sut y gall unigolion gymryd rhan.
- Ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar ail-ddylunio’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol.
- Cynnal grwpiau ymgynghori bychain yng Nghartrefi Preswyl Plas Isaf a Llys Elian ynglŷn â’u barn am fyw mewn lleoliad preswyl 24 awr.
- Mynychu digwyddiad ymgynghori ‘Heneiddio’n Dda yng Nghymru’– ‘Ymagweddau Arloesol tuag at Wasanaethau Cyhoeddus mewn Cymunedau Gwledig’.
Mae ein Swyddog Cyfranogi wedi cyflwyno sawl sesiwn i staff a grwpiau lleol ar sut i ‘Ddeall Dementia‘. Rydym hefyd wedi hyrwyddo Arolwg Blynyddol Conwy ar gyfer pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethu, drwy siarad ag unigolion i’w helpu i lenwi’r ffurflen adborth.
Gwaith Cyfranogiad yr Ifanc
Rydym wedi:
- Adolygu ein Pecyn Cymorth Hawliau Plant mewn ymgynghoriad â Chyngor yr Ifanc Conwy.
- Cwblhau Prosiect Diogelwch ar y We ar eithafiaeth a’r peryglon i bobl ifanc.
- Cefnogi ein cynrychiolydd ieuenctid dros Anabledd Cymru i fynychu Senedd Ieuenctid Cymru.
- Ymgynghori â Chyngor yr Ifanc ar y Pecyn Cymorth Cyfleoedd Chwarae Digonol.
- Galluogi aelodau Cyngor yr Ifanc i fynychu cyfarfod Cyngor Tref Bae Colwyn er mwyn gwreiddio llais pobl ifanc ymhellach yng ngwaith y Cyngor Tref.
- Cysylltu â theuluoedd sydd wedi ymwneud â’r Tîm Cryfhau Teuluoedd i gynnwys eu barn am y gwasanaeth mewn adroddiad cyffredinol.
- Ymgynghori â Chyngor yr Ifanc Conwy ar Gynllun Corfforaethol Conwy.
- Ymgynghori â phlant a phobl ifanc ynglŷn â ‘Beth sy’n Gwneud Rhiant Maeth Da’
- Cyfrannu i gyfarfodydd Cyngor yr Ysgol yn yr Uned Atgyfeirio Disgyblion.
- Ymgynghori â’r Gwasanaeth Datblygu Gwledig ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
- Galluogi aelodau o Gyngor yr Ifanc i fynychu digwyddiadau cenedlaethol a gynhelir gan Cymru Ifanc yn rheolaidd, ac mae gennym gynrychiolaeth ar Senedd Ieuenctid y DU.
- Ymgynghori â Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal ar yr Ap Cyfathrebu Mind of My Own ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.
- Cyfrannu i Sesiwn Hyfforddi Llywodraethwyr a Disgyblion ar gyfer ysgolion uwchradd Conwy, gydag aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy.