Ar y cyfan, nododd 78% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion eu bod yn teimlo’n ddiogel.
Rydw i’n teimlo’n ddiogel, fe wnewch chi wastad fy amddiffyn i
Mae ofn cael codwm yn amlwg unwaith eto o’r ymatebion a gawsom i’r Arolwg Dinasyddion, gyda nifer o unigolion yn teimlo na allant fynd allan ar eu pennau eu hunain rhag ofn iddynt gael codwm. Byddwn yn gweithio’n agos â Thîm Atal Codymau y GIG i weld sut y gall ein Tîm Cadw’n Iach helpu i hybu ymyrraeth gynnar a chynnig awgrymiadau i unigolion allai fod yn dueddol o gael codwm yn y dyfodol.
Rydw i’n teimlo’n ddiogel gartref ym mhob ffordd, ond rydw i wedi cael ambell i godwm yn yr ardd ac allan yn y dref
Hyrwyddo Diogelu
Cynhaliwyd yr Wythnos Ddiogelu flynyddol rhwng 11 a 15 Tachwedd 2019. Yn ystod yr wythnos, bu i ni wahodd Michael Preston Shoot, sy’n Athro Gwaith Cymdeithasol, i fod yn brif siaradwr mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn Venue Cymru. Mae wedi gwneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu’n helaeth ar Addysg ac Arferion Gwaith Cymdeithasol, gyda diddordeb penodol yn y gyfraith ac arferion proffesiynol. Daeth Gweithwyr Cymdeithasol a rheolwyr o’r Gwasanaethau Oedolion a Phlant i’r gynhadledd. Gwahoddwyd pob partner allweddol hefyd.
Bu i ni hefyd hyrwyddo’r Sesiynau Briffio 7 Munud sydd i’w gweld ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Mae’r sesiynau briffio hyn wedi’i dylunio i gynyddu ymwybyddiaeth staff am faterion diogelu, gan drafod nifer o themâu, er enghraifft hunanesgeulustod a’r Rhyngrwyd Dywyll. Gall staff weld gwybodaeth am beth i’w wneud os ydynt yn amau bod camdriniaeth yn digwydd.
Lansiwyd y gweithdrefnau diogelu cenedlaethol newydd yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, a’u bwriad yw cynnig dull cenedlaethol o wella diogelu ledled Cymru. Bydd y gweithdrefnau hefyd yn safoni arferion ar draws Cymru a rhwng asiantaethau a sectorau. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bu i ni achub ar y cyfle i gyfrannu’n gadarn i’r gweithdrefnau newydd. Cyn rhoi gweithdrefnau Cymru gyfan ar waith, bu i ni gynnal cynhadledd o’r enw “Meddwl yr Annychmygol”. Daeth y Rheolwr Busnes Rhanbarthol yno i drafod themâu o’r Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant. Y disgwyl yw y bydd pob aelod staff yn gallu cael gafael ar y gweithdrefnau drwy blatfform gwe Gofal Cymdeithasol Cymru neu’r ap am ddim.
Fforymau Diogelu
Rydym yn parhau i arwain ar Fforymau Diogelu Oedolion a Phlant. Cynhaliwyd y Fforwm Diogelu Plant cyntaf ym mis Gorffennaf 2019, felly mae’n dal i fod yn ei gamau cynnar. Mae cylch gorchwyl eglur wrthi’n cael ei gymhwyso er mwyn sicrhau bod pawb perthnasol sy’n mynychu yn ymwybodol o ddiben y cyfarfod a’i fod o fudd i ymarfer. Cafwyd nifer dda o fynychwyr yng Nghynhadledd mis Gorffennaf o bob rhan o’r Gwasanaethau Plant, yn ogystal ag o’r timau Gweithlu, Comisiynu a Monitro. Bydd y Fforwm yn:
• Cyfarfod yn rheolaidd bob dau fis
• Cynnwys siaradwyr gwadd
• Rhaeadru datblygiadau lleol a rhanbarthol
• Rhoi gwybod i staff am flaenoriaethau diogelu rhanbarthol
• Rhannu dysg a themâu allweddol o fewn arferion lleol a rhanbarthol
Yn y Fforwm Diogelu Plant a gynhaliwyd ym mis Hydref 2019, cafodd y staff ragor o wybodaeth am ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch hon, cliciwch ar y ddelwedd isod.
Cafwyd presenoldeb da ar draws y gwasanaeth unwaith eto yn Fforwm Diogelu Oedolion 2019-20, gan gynnwys y timau Gweithlu, Comisiynu a Monitro. Un o brif ganolbwyntiau eleni oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r mynychwyr ynglŷn â Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru ac amlygu/paratoi ar gyfer y newid diwylliant fydd ei angen.
Mae’r fforwm hefyd yn cynnig cyfle i bob Gwasanaeth Oedolion roi adborth ar y prosesau diogelu o fewn eu meysydd a thynnu sylw at unrhyw broblemau neu themâu. Caiff y wybodaeth hon ei chasglu gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion a, lle bo’n briodol, ei chynnwys fel rhan o adroddiad Grŵp Darparu’r Bwrdd Diogelu ar y prif bwyntiau.
Y Fforwm Camfanteisio
Mae’r Fforwm Camfanteisio wedi parhau i ddatblygu dros y deuddeng mis diwethaf. Sefydlwyd y Fforwm i gychwyn fel Fforwm Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE). Wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt, daeth yn amlwg fod pobl yn camfanteisio ar bobl ifanc mewn ffyrdd eraill, megis dwyn i archeb a chyffuriau. Yn ogystal â chanolbwyntio ar CSE, ehangwyd y Fforwm i gynnwys pob math o gamfanteisio. Gyda chynnydd yn, a mwy o ymwybyddiaeth o Linellau Cyffuriau, gwelsom fwy o gysylltiadau â dinasoedd fel Lerpwl a’n hawdurdod cyfagos yn Sir Ddinbych. Arweiniodd hyn at wahodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) o Sir Ddinbych a’r Heddlu Trafnidiaeth i’r Fforwm a thrwy hynny, crëwyd cysylltiadau newydd.
Mae cynnal trafodaethau’n aml yn amlygu asiantaethau a budd-ddeiliaid eraill allai fod â gwybodaeth i’w rhannu â’r Fforwm O ganlyniad, cysylltwyd ag amrywiol bartneriaid eraill i’w gwahodd i fynychu. Er enghraifft, daeth cynrychiolydd Cymorth i Fenywod draw i drafod y rhaglen STAR. Cawsom hefyd gyflwyniadau gan staff Lles Coleg Llandrillo. Yn ogystal, mae asiantaethau wedi dod i glywed am y Fforwm Camfanteisio ac wedi dangos diddordeb mewn mynychu i rannu gwybodaeth fuddiol.
O ganlyniad i’r Fforwm Camfanteisio, gwelwyd mwy o waith partneriaeth yn cael ei gydlynu, sydd wedi ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth werthfawr a chreu cysylltiadau rhwng asiantaethau partner.
Hyfforddiant staff
Yn 2019, darparodd BAWSO ddau ddiwrnod deialog ar Fynd i’r Afael â Phriodasau Dan Orfod a Thrais ar Sail Anrhydedd, a Chaethwasiaeth Fodern. Mynychodd tua 70 o bobl y ddau ddiwrnod, gan gynnwys staff yr awdurdod lleol, y GIG, Heddlu Gogledd Cymru a’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol.
Mae BAWSO yn sefydliad Cymru gyfan sefydledig sy’n darparu gwasanaethau generig ac arbenigol, gan gynnwys hyfforddiant a llety dros dro i unigolion a effeithiwyd gan, neu sydd mewn perygl o ddioddef o gamdriniaeth ddomestig a phob math o drais.
Sut rydym yn Sicrhau Ansawdd Diogelu a Gwella’n Barhaus?
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ansawdd drwy gydol yr holl wasanaeth. Mae’r ymarfer hwn yn sicrhau dull cyflawn o reoli ansawdd. Er mwyn gwella’n barhaus a sicrhau ansawdd, rydym yn cynnal archwiliadau’n rheolaidd mewn perthynas â diogelu, weithiau ar y cyd â’n partneriaid allweddol. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol o gasgliadau a dynnwyd o archwiliad diweddar a gynhaliwyd gan bartner allweddol. Nododd yr adborth bod gan y Cyngor drefniadau clir ar gyfer goruchwylio a bodloni ei gyfrifoldebau diogelu.
Fel rhan o’n prosesau llywodraethu ac atebolrwydd corfforaethol, rydym yn adrodd ar gynnydd yn erbyn ein gwasanaeth allweddol a’n gweithgarwch corfforaethol fel mater o drefn drwy ein proses Adolygu Perfformiad Gwasanaeth bob chwe mis. Mae’r Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol yn amlinellu y dylai pob gwasanaeth drwy’r Cyngor cyfan asesu eu risgiau diogelu a’u camau lliniaru yn ffurfiol a chymryd camau priodol i liniaru risgiau yn y dyfodol. Mae’r broses asesu hon hefyd wedi cael ei hymgorffori yn y prosesau llywodraethu.
Adnodd Asesu Hunanesgeulustod
Mae nifer o ymarferwyr a rheolwyr yn delio â sefyllfaoedd hunanesgeuluso yn rheolaidd. Gyda chefnogaeth ein Hadran Iechyd a Diogelwch a’n harweinwyr Diogelu, codwyd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd asesu risg, nid yn unig o safbwynt yr unigolyn, ond hefyd o safbwynt yr ymarferydd. Mae yna hefyd fwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd datblygu strategaethau i leihau’r risg i unigolion sy’n celcu neu’n hunanesgeuluso. Mae’r strategaethau hyn hefyd yn ymestyn i ymarferwyr sy’n ymweld â’r unigolion hynny. Mae canllawiau asesu risg hunanesgeulustod wedi’u drafftio a’u cytuno.
Beth oedd yr heriau?
Y brif her oedd ystyried cymhlethdod sefyllfaoedd hunanesgeuluso, a drafftio adnodd asesu risg a oedd yn hawdd ei ddefnyddio. Cawsom hefyd brofiad o’r her o ddatblygu’r adnodd i’w ddefnyddio fel arweiniad i bob risg bosib allai godi pan fo unigolion yn hunanesgeuluso. Rydym wedi sicrhau ein bod wedi bod yn drylwyr yn y broses hon.
Beth nesaf?
Rydym bellach yn treialu’r adnodd asesu gyda detholiad o ymarferwyr. Yn dilyn hynny, byddwn yn cynnal adolygiad o’i ddefnydd ac yna’n dosbarthu’r adnodd asesu i bob ymarferwr ei ddefnyddio. Yna byddwn yn cynnal archwiliad i ganfod sut y gwnaed gwelliannau i ddefnydd ac ansawdd yr asesiadau risg.
Asesu Risgiau
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth wedi datblygu matrics risgiau i’w ddefnyddio wrth drafod, dyrannu, trosglwyddo a chau achosion. Y nod yw helpu gweithwyr allweddol i ddiffinio lefel y risg yn ôl categori a difrifoldeb, gan gydbwyso hyn yn erbyn y cryfderau a’r ffactorau amddiffynnol a nodwyd o fewn yr asesiad. Mae ein matrics risgiau’n ymgorffori’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig” er mwyn cynnwys llais y plentyn, y rhiant a phobl eraill arwyddocaol. Mae’r matrics ar ffurf un dudalen y gellir ei darllen yn sydyn ac yn ddull syml o wneud risgiau’n fwy gweledol a helpu rheolwyr i wneud penderfyniadau. Mae’r ffurflen wedi cael ei gwreiddio yn ein system gwybodaeth cleientiaid bresennol a bydd yn cael ei datblygu fel rhan o’n system newydd.
Cynllun Peilot Cam-drin Plant yn Rhywiol
Mae’r Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu wedi achub ar y cyfle i fod yn safle peilot ar gyfer y rhaglen Cam-drin Plant yn Rhywiol, ac rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gyda’r Ganolfan Arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyfranogwyr o blith partneriaid allweddol sy’n gweithio’n agos â’r awdurdod lleol i ddiogelu unigolion. Bydd y fenter hon yn cynnwys partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru, Addysg, y Gwasanaethau Ieuenctid a chydweithwyr o’r maes Iechyd. Mae’r peilot yn rhaglen ddeng mis o hyd. Bydd yr hyfforddiant yn ddwys a bydd y cyfranogwyr yn datblygu lefel uchel o sgiliau a gwybodaeth mewn nifer o feysydd, gan gynnwys Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Bydd y cyfranogwyr yn cael asesiadau ac adnoddau i helpu gyda’r gwaith hwn. Disgwylir i’r cyfranogwyr o nifer o wahanol asiantaethau ddod yn arweinwyr ymarfer o fewn eu sefydliadau.
Rôl y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wrth fynd i’r afael â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant
Mae’r tîm wedi cyflogi aelod staff sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a cham-fanteisio troseddol. Yr aelod staff hwn sy’n gyfrifol am gasglu a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau perthnasol a mynychu paneli camfanteisio ar ran Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynnig cymorth ac arbenigedd i reolwyr achos wrth ddefnyddio’r Fframwaith Asesu Risg o Gamfanteisio Rhywiol (SERAF) ac adnoddau camfanteisio troseddol. Gellir sefydlu’r risg o gamfanteisio a chychwyn cyfeirio at y gwasanaethau a’r gweithdrefnau priodol.
Gwnaed cysylltiadau cadarn â thîm Onyx Heddlu Gogledd Cymru, lle caiff gwybodaeth ei rhannu ar unwaith, gan roi darlun llawnach i’r Heddlu o’r risgiau perthnasol ac unrhyw oedolion hŷn sy’n gysylltiedig.
Beth oedd yr heriau?
Cafodd llwyth achosion yr aelod staff ei leihau i roi mwy o amser iddo ganolbwyntio ar y materion hyn, i’w alluogi i fynychu cyfarfodydd misol ledled Conwy a Sir Ddinbych, ac i fod yn bwynt cyswllt cyntaf i gydweithwyr Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae codi ymwybyddiaeth o heriau camfanteisio ar blant yn dasg barhaus
Beth nesaf?
Byddwn yn ehangu’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig drwy fynd i ysgolion a darparu sesiynau grŵp a chyngor i athrawon ac aelodau staff eraill.
Darlith Ddiogelu i Fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol
Yn yr Adroddiad Blynyddol blaenorol, bu i ni adrodd ein bod wedi cael ein gwahodd i gyflwyno ein gwaith ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant/Camfanteisio’n Droseddol ar Blant i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn dilyn ein llwyddiant yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd y Tîm Asesu a Chymorth i gyflwyno darlith ar asesu, sy’n cynnwys CSE, i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, a chynhaliwyd y darlithoedd mwyaf diweddar ym mis Tachwedd 2019. Mae’r ddarlith yn canolbwyntio ar sylfaen gwerth yr asesydd, y fframwaith damcaniaethol ar gyfer asesu a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer asesu ac ymchwilio. Mae’r ddarlith yn cynnwys elfen a addysgir, ymarfer sy’n peri i’r myfyrwyr feddwl a digon o gyfle i drafod. Mae hwn hefyd yn gyfle da i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys am unrhyw agwedd ar ymarfer gwaith cymdeithasol.