Prosiect Datblygu’r Gwasanaethau Plant
Yn adroddiad y llynedd, bu i ni gyflwyno prosiect newydd sbon sydd wedi bod yn cael ei gynnal yn 2019-20. Nod y prosiect yw atal y duedd o gynnydd yn niferoedd y Plant Sy’n Derbyn Gofal, ymateb yn rhagweithiol i’r argyfwng gofal a nodwyd ledled Cymru a’r DU a chyflawni gwell canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd. Gwnaed llawer o gynnydd cadarnhaol dros y deuddeng mis diwethaf gyda holl ffrydiau gwaith y prosiect cyfan. Dyma ragor o wybodaeth:
Sicrhau gweithlu ac arferion digonol
Un o nifer o nodau Prosiect Datblygu’r Gwasanaethau Plant yw cynyddu nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal sy’n cael eu lleoli naill ai gydag aelodau teulu neu ffrindiau’r teulu. Gelwir y math hwn o leoliad yn Unigolion Cysylltiedig. Mae’r math hwn o leoliad yn osgoi’r angen i leoli plant naill ai gyda gofalwyr maeth y mae’r awdurdod lleol wedi’u cymeradwyo neu o fewn y sector gofal maeth annibynnol. Rydym wedi datblygu ein tîm Unigolion Cysylltiedig o fewn ein hadran Maethu drwy recriwtio rheolwr tîm newydd. Mae gennym hefyd Gydlynydd Unigolion Cysylltiedig. Bydd model gwasanaeth newydd hefyd yn cael ei roi ar waith yn y dyfodol agos.
Niferoedd Cynyddol y Plant sy’n Derbyn Gofal
Mae gennym Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal uchelgeisiol sy’n edrych ar bopeth y gallwn ei wneud i leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal a gwella ansawdd bywydau’r plant hynny y mae’n rhaid iddynt dderbyn gofal. Hyd yma, rydym wedi bod yn rhan o’r Adolygiad o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol er mwyn datblygu cymorth ar ôl mabwysiadu yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Rydym wedi bod yn gweithio ar ddarparu model o gymorth i Warchodwyr Arbennig. Gorchymyn llys yw Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig (GGA), sy’n penodi unigolyn neu unigolion i fod yn Warchodwr Arbennig i blentyn. Mae’n rhoi cyfrifoldeb rhiant arbennig i unigolyn wneud pob penderfyniad mewn perthynas â’r plentyn. Dan GGA, diddymir yr angen i blentyn dderbyn gofal ffurfiol gan yr Awdurdod Lleol.
Y cynnydd hyd yma:
- Mae’r tîm Unigolion Cysylltiedig wedi bod wrthi’n cysylltu ag unigolion â GGA. Anfonwyd newyddlen ragarweiniol i bob Gwarchodwr Arbennig (GA) presennol gydag enw person cyswllt penodedig.
- Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda GA presennol i ganfod unrhyw anghenion neu gymorth ychwanegol.
- Rydym yn cynnig hyfforddiant ar sut i ddatblygu sgiliau. Gall GA ddefnyddio’r Canolbwynt Gofalwyr Maeth ar y rhyngrwyd i’w cofrestru eu hunain ar gyrsiau hyfforddi oedd yn arfer bod ar gael i ofalwyr maeth yn unig.
- Mae’r tîm wedi cysylltu â GA i ganfod pwy fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o grŵp ffocws i ddarparu adborth ar yr hyn y mae ei angen fel rhan o’r cynnig GGA.
Dad-uwchgyfeirio Plant ag Anghenion Cymhleth
Rydym wedi bod yn recriwtio a hyfforddi o fewn y Tîm Cryfhau Teuluoedd (TCT) ar gyfer Anghenion Cymhleth ac Ar Ffiniau Gofal. Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd bellach yn defnyddio iPads i fesur cynnydd teuluoedd. Hefyd, mae gwaith wedi’i wneud ar adnoddau seiliedig ar dystiolaeth i roi canlyniadau i rieni. Rydym wrthi’n cwblhau’r broses o ddatblygu a chyflwyno’r Model Therapiwtig Cam i Fyny / Cam i Lawr ar gyfer anghenion cymhleth. Penodwyd Seicolegydd i’r swydd hon. Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ymchwil yn edrych ar fodelau cymorth amgen. Cynhaliwyd trafodaethau cynnar a datblygwyd proses bontio i bobl ifanc o’r ddarpariaeth bresennol i’r model newydd.
Beth nesaf?
Mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru (HGC), cynigir bod Cyngor Conwy’n treialu tîm Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (CDA). Bydd y tîm hwn yn cyfuno swyddogion o’r gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, y Gwasanaethau Integredig Oedolion a Chymunedau, y gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol a HGC i ddarparu un pwynt ar gyfer sgrinio a phrosesu pob adroddiad diogelu ar hyd a lled Conwy. Bydd gweithio mewn amgylchedd mwy integredig yn helpu gwella’r broses o rannu gwybodaeth. Bydd casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau’n creu darlun cyfoethocach o amgylchiadau’r achos a’r peryglon cysylltiedig i’r plentyn neu’r oedolyn, neu’r pryder camdriniaeth domestig risg uchel. Gellir mynd ati’n weithredol i wneud mwy o benderfyniadau cytbwys am ba gamau i’w cymryd, a chefnogi’r achosion mwyaf brys. Drwy weithio fel un tîm, byddant mewn gwell sefyllfa i nodi atgyfeiriadau lefel isel sy’n digwydd dro ar ôl tro na fyddai, o’u hystyried yn unigol, yn ymddangos yn destun pryder, ond a allai, gyda’i gilydd, awgrymu mwy o risg i’r unigolyn.
Canolfan Asesu Breswyl Isranbarthol i Blant
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae Cyngor Conwy wedi cyflwyno cais ar y cyd i ddatblygu Canolfan Asesu Breswyl Is-ranbarthol i Blant ar gyfer gwasanaethu Conwy a Sir Ddinbych. Ni fwriedir i’r Ganolfan fod yn lleoliad preswyl parhaol. Bydd yn lleoliad lle gall y tîm ar y safle ofalu am y plant a’u meithrin yn ddiogel. Ar yr un pryd, gall y tîm therapiwtig ar y safle asesu’r plant a’u rhieni/Gofalwyr amgen, ac hefyd ddarparu ymyrraeth therapi systematig yn ystod eu harhosiad yno.
Rôl a swyddogaeth y lleoliad yw galluogi anghenion i gael eu meithrin gyda mewnbwn seicolegol, er mwyn sicrhau bod y cynllun gofal a chymorth a gynigir ar gyfer y dyfodol yn hybu siawns y plentyn o ddychwelyd adref i’r eithaf ac osgoi’r angen iddynt dderbyn gofal. Bydd amrediad eang o wasanaethau therapiwtig yn cael eu cynnig, gan gynnwys ‘therachwarae’, gwaith ar daith bywyd a gwaith ar hunan-barch/ hunan-werth.
CANOLBWYNTIO AR: Datblygiadau Iechyd Meddwl ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol
Yng Nghymru, mae yna nifer o ofynion deddfwriaethol a sbardunau lleol rhanbarthol sy’n rhoi pwyslais allweddol ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Yn genedlaethol, un o’r rhain yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn lleol, mae gan y Strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ uchelgeisiau a nodau tebyg i gynnig amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Hybu iechyd a lles pawb, canolbwyntio ar atal salwch meddwl a darparu ymyrraeth gynnar yn ôl yr angen;
- Darparu tystiolaeth seiliedig ar ymyriadau i bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl cyffredin yn y gymuned cyn gynted ag y bo modd;
- Sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn y gymuned lle bynnag y bo’n bosib, gan leihau ein dibyniaeth ar ofal cleifion mewnol;
- Adnabod a darparu gofal a chymorth seiliedig ar dystiolaeth i bobl gyda salwch meddwl difrifol cyn gynted ag y bo modd;
- Rheoli cyfnodau acíwt a difrifol o salwch meddwl yn ddiogel, yn dosturiol ac yn effeithiol;
- Helpu pobl i adfer, ailennill a dysgu’r sgiliau y maent eu hangen ar ôl salwch meddwl;
- Asesu a darparu ymyriadau effeithiol seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer yr ystod lawn o broblemau iechyd meddwl, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau i bobl gydag anghenion iechyd corfforol.
Mae Asesiad Anghenion y Boblogaeth yn adrodd bod 10% o oedolion yng Nghonwy yn cael eu trin am salwch meddwl ar hyn o bryd. Ma hynny’n 12,000 o bobl.
Mewn partneriaeth â Thîm Gweithredu Lleol y strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi ymrwymo i ddatblygu canolfan gymunedol yn adeilad Mind Conwy yn Llandudno. Bydd y ganolfan yn bwynt ffocws i Feddygon Teulu atgyfeirio cleifion ato, fel na fydd angen i bobl aros i weld y tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, a’i nod yw atal dirywiad yn lles meddyliol pobl a lliniaru trallod/argyfwng cymdeithasol. Caiff ei redeg gan gyfuniad o wirfoddolwyr a staff gwasanaethau statudol ac anstatudol, all wrando ar bobl a’u helpu i ganfod a rheoli materion sy’n effeithio ar eu iechyd meddwl a’u gwytnwch emosiynol. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol a Gweithiwr Ymyrraeth o’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn gweithio’n sesiynol o’r ganolfan i ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth.
Mae’r bartneriaeth yn ymestyn i wasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, ac mae gwaith wedi parhau i hyrwyddo’r cynllun Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl (Llyfrau ar Bresgripsiwn gynt) a datblygu staff y llyfrgell i fod yn weithlu sy’n deall iechyd meddwl ac yn gallu gweithredu fel adnodd lles o fewn y gymuned.
Y nod tymor hwy yw cynnig rhaglen gymorth ar gonglfeini adferiad er mwyn galluogi pobl i ddeall a rheoli eu symptomau, gwneud cysylltiadau cymdeithasol, datblygu sgiliau bywyd a bod yn hyderus y gallant gael diwrnod ystyrlon a chyfrannu i gymdeithas. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnal ‘dyddiau lles’ unwaith yr wythnos, lle bydd consortiwm o weithwyr proffesiynol yn mynychu sesiwn siop un stop i gynnig cymorth a chyngor ar faterion fel tai, hawliau lles, Canolfan Cyngor Ar Bopeth, Iechyd, cymorth i Ofalwyr ac ati.
Agorwyd y ganolfan yn ffurfiol ar 3 Chwefror 2020, ond mae’r datblygiad eisoes wedi creu perthnasoedd gwaith cryfach â phartneriaid a bydd yn newid y model gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl. Mae Bwrdd Rhaglen yn cael ei sefydlu i oruchwylio gwaith y Ganolfan Gymunedol er mwyn sicrhau ei bod yn datblygu ac yn parhau drwy i’r gymuned o bobl fydd yn ei defnyddio gymryd perchnogaeth ohoni.
Beth oedd yr heriau?
Wynebwyd amrywiol heriau yn sgil ymgynnull amrediad o bartneriaid i weithio’n wahanol a darparu’r gallu i gefnogi’r ganolfan, gan barhau i ddarparu eu gwasanaethau cyfredol ar yr un pryd. Bydd angen cyfnod o amser i ymwreiddio’r ganolfan a thrwy hynny ailgyfeirio gwasanaethau statudol i’r gymuned, a bydd angen rheoli’r pontio hwn o ddarpariaeth ymatebol i ddarpariaeth ataliol. Mae newid diwylliannol yn broses hirdymor ac mae’r heriau’n dal i gael eu datrys, felly byddwn yn parhau i weithio ar feithrin hyder yn y model newydd.
Hefyd, mae’r dirwedd wedi newid yn gyflym yn ystod y broses. Er enghraifft, roeddem wedi bwriadu defnyddio’r Rabbit Hole Café yn Llandudno (y fenter gymdeithasol sydd ynghlwm wrth adeilad Conwy Mind) fel drws ffrynt y cynllun yn wreiddiol, gan gynnig amgylchedd caffi croesawus heb stigma i bobl. Yn anffodus, caewyd y caffi hwn yn ystod 2019 a bu’n rhaid adolygu a diwygio’r cynlluniau yn unol â hynny. Fodd bynnag, mae’r man hwnnw bellach yn ardal bwrpasol therapiwtig ddisylw fydd yn gwella profiad y defnyddwyr o’r gwasanaeth.
Roedd y broses gyllido o grant Trawsnewid Cymru Iachach hefyd yn heriol gan fod y terfynau amser ar gyfer cyflwyno cynigion yn dynn iawn, a dim ond yn ôl-weithredol y byddai’r costau’n cael eu talu, oedd yn golygu bod partneriaid yn cymryd risg ariannol drwy dalu ymlaen llaw am gostau cysylltiedig.
Beth nesaf?
- Parhau i dyfu a datblygu’r ganolfan er mwyn cryfhau perchnogaeth y gymuned ohoni, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael ymateb cymesur, priodol a phrydlon i’w hanghenion iechyd meddwl.
- Y nod yw sicrhau bod gwasanaethau pob oedran yn cefnogi ac yn gysylltiedig â’r ganolfan, a hyrwyddo llwybrau a phroses bontio ddi-dor rhwng gwasanaethau o’r fath.
- Ehangu’r model ar draws pob ardal leol er mwyn helpu holl ddinasyddion Conwy fel ei gilydd, gan gydnabod anghenion amrywiol pob ardal, e.e. addasu’r model ar gyfer y gymuned ffermio.
- Cydweithio â’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a Meddygon Teulu lleol i ddarparu dewis amgen ymarferol i atgyfeirio at Ofal Iechyd Sylfaenol ac Eilaidd.
- Treialu model newydd o gymorth mewn argyfwng er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar wasanaethau cleifion mewnol acíwt a chynnig dull ‘tîm o amgylch yr unigolyn’ sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.
- Datblygu elfen Addysg Adfer y ddarpariaeth er mwyn helpu pobl a’u Gofalwyr i hunan-reoli eu diagnosis a’u symptomau, er mwyn eu grymuso i adennill rheolaeth dros eu taith bywyd eu hunain a chael diwrnod ystyrlon ag iddo bwrpas.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr adnodd cymunedol pwysig hwn yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf.
Y Bws Dementia – Digwyddiad Staff
Bu i ni gynnal digwyddiadau Bws Dementia yn ddiweddar a oedd ar agor i gydweithwyr o’r adrannau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a’r Sector Annibynnol. Cynhaliwyd y digwyddiadau dros nifer o ddyddiadau mewn amrywiol leoliadau. Profwyd yn feddygol ac yn wyddonol mai’r Bws Dementia/y Daith Ddementia Rithwir yw’r profiad agosaf y gallwn ei roi i unigolyn sydd ag ymennydd iach o sut deimlad yw dioddef o ddementia. Drwy ddeall dementia o safbwynt yr unigolyn, gallwn newid arferion, lleihau problemau a gwella eu bywydau. Drwy ‘gerdded yn esgidiau’ person â dementia, gall unigolion gychwyn deall y problemau y maent yn eu cael bob diwrnod. Yn y sesiynau, bydd y mynychwyr yn cael profiad o deimlo’n ddryslyd, yn unig, ar goll ac yn ddiamddiffyn a llawer mwy. Felly, drwy’r profiadau hyn bydd staff a Gofalwyr anffurfiol yn dod i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei newid i wella ansawdd y gofal.
Mae’r Bws Dementia/y Daith Ddementia Rithwir yn defnyddio offer arbenigol i greu amgylchedd efelychiadol. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan gyflawni tasgau syml er mwyn dod i ddeall yr heriau y mae pobl sy’n byw gyda dementia yn eu hwynebu.
Drwy gymryd rhan yn y dull hyfforddi hwn, bydd y mynychwyr yn gallu:
- Egluro sut y gall yr amgylchedd fod yn rhwystr i berson sy’n byw gyda dementia;
- Canfod ffyrdd o wella cyfathrebu;
- Deall sut i herio stereoteipio a labelu;
- Deall pwysigrwydd dulliau a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn;
- Disgrifio sut y gellir addasu gofal a chymorth o fewn arferion i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia, a’u helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Cafwyd adborth gwych o’r digwyddiadau, gyda mwyafrif y mynychwyr yn nodi eu bod yn bendant wedi cyflawni eu canlyniadau dysgu a bod y digwyddiad wedi cynyddu lefel eu gwybodaeth a’u hempathi.
Dywedodd y mynychwyr hefyd:
Gwnaeth y profiad i mi sylweddoli go iawn sut beth ydi byw gyda dementia.
Profiad gwych. Cipolwg o ychydig yn unig o’r ofn, dryswch ac anawsterau y gall pobl [â dementia] eu hwynebu.
Dod yn Sefydliad sy’n Deall Dementia
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio tuag at ddod yn sefydliad sy’n deall dementia, sef statws a ddyfernir gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Mae ‘Cyfeillion Dementia’ yn ffordd i sefydliad gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia, ac fel awdurdod lleol, bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ddementia yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac ar gyfer staff ein sefydliad.
Gofynnom i gynrychiolwyr o amrywiol adrannau ar draws yr Awdurdod lunio grŵp prosiect, oedd hefyd yn cynnwys unigolyn sy’n byw gyda dementia a’i wraig. Mae cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal am flwyddyn bellach, ac mae’r grŵp wedi bod yn gweithio ar gynllun gweithredu a’n cais am statws ‘gweithio tuag at fod yn sefydliad sy’n deall dementia’ gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Mae pobl sy’n byw gyda dementia wedi arolygu dau o’n hadeiladau ac rydym wedi datblygu poster i adael i’r cyhoedd wybod am y gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar gyfer unigolion sydd wedi cael diagnosis. Rydym hefyd wedi cynyddu nifer yr Eiriolwyr Dementia sy’n gallu cynnal sesiynau Cyfeillion Dementia, gan arwain at gynnydd yn nifer y Cyfeillion Dementia o fewn yr awdurdod a thu hwnt.
Y Tîm Gofalwyr
Mae ein Tîm Gofalwyr mewnol yn cynnwys rheolwr a thri Swyddog Gofalwyr llawn amser sy’n gysylltiedig â’r Timau Adnoddau Cymunedol ar draws Conwy. Mae’r tîm yn cynnig cymorth i nifer fawr o Ofalwyr gydag anghenion cymorth eang. Yng Nghonwy, rydym yn cynnig cyfuniad o wasanaethau mewnol ac ystod o wasanaethau’r trydydd sector a gomisiynir i helpu gofalwyr. Mae’r cydbwysedd hwn o wasanaethau yn creu rhwydwaith mwy effeithiol o gymorth i Ofalwyr.
Cynnydd dros y flwyddyn
- Lansiwyd cardiau argyfwng Gofalwyr yn ystod yr Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin 2018. Mae’r rhain wedi bod yn fuddiol iawn, gydag adborth cadarnhaol gan ein hasiantaethau partner. Rydym wedi archebu rhagor o gardiau oherwydd y galw uchel.
- Bu i ni dreialu sesiynau galw heibio mewn tri ysbyty lleol ond ni fu hyn yn llwyddiannus, ac mae’r canolbwynt wedi symud yn ôl at lyfrgelloedd. Mae Swyddogion Gofalwyr yn cynnal sesiynau galw heibio bob mis yn llyfrgelloedd Llanrwst, Penmaenmawr a Bae Colwyn.
- Cynhelir cyfarfodydd Safbwynt Gofalwyr yn rheolaidd, gan roi cyfle i Ofalwyr gyfarfod a chael gwybodaeth a chyngor gwerthfawr. Mae’r rhain wedi cynnwys sesiynau Cymorth Cyntaf, mewnbwn gan y Tîm Lles, arweiniad i wefan CBSC mewn perthynas â Gofalwyr yng Nghonwy yn benodol, a chyfraniad gan y Gymdeithas Alzheimer’s ynglŷn â’u gwasanaeth gwybodaeth/cyngor Dementia Connect.
- Mae’r Tîm Gofalwyr hefyd wedi cefnogi amrywiol ddigwyddiadau yng Nghonwy, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Wythnos y Gofalwyr, Diwrnod y Gofalwyr a Diwrnod y Lluoedd Arfog, i enwi ychydig yn unig.
Beth oedd yr heriau?
Mae pwysau sylweddol yn y tîm o ran cynnal asesiadau ac adolygiadau o Asesiadau Gofalwyr. Yn ystod cyfnodau arbennig o brysur, anfonir llythyrau allan i egluro pam fod yna oedi, gan ddarparu manylion cyswllt pe bai’r angen yn dod yn fwy o argyfwng. Caiff ymholiadau eu sgrinio’n ddyddiol a chaiff achosion brys eu codi ar unwaith drwy system ddyletswydd y Tîm Gofalwyr.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i symud ymlaen a datblygu dros y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn bodloni anghenion Gofalwyr yng Nghonwy, yn arbennig mewn perthynas â chynnal asesiadau ac adolygiadau. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hawliau Gofalwyr a chanfod a darparu cymorth i Ofalwyr newydd ledled y sir.
Digwyddiadau’r Tîm Gofalwyr
Cynhaliwyd Wythnos y Gofalwyr rhwng 10 a 14 Mehefin 2019. Roedd yna nifer o stondinau gwybodaeth yma ac acw yng Nghonwy i hyrwyddo hawliau Gofalwyr a rhannu gwybodaeth. Trefnwyd digwyddiad arall hefyd i staff Cyngor Conwy sydd hefyd yn Ofalwyr. Roedd hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau lles, gan gynnwys Soffroleg a ioga. Gwahoddwyd asiantaethau partner hefyd i rannu gwybodaeth a’r cymorth sydd ar gael i Ofalwyr.
Rydym yn ddiolchgar i’n hasiantaethau partner a fu’n ein helpu gyda’r digwyddiad hwn drwy gydol yr wythnos.
Cynhaliwyd y digwyddiad staff ym Mhorth Eirias yn y gorffennol. Ond yn sgil symud i Goed Pella, penderfynwyd symud y digwyddiad i’r Ystafell Arddangos ar y safle. Galluogodd hyn y staff i fynychu yn ystod eu diwrnod gwaith. Bu hyn yn llwyddiannus, a chafwyd adborth cadarnhaol gan y staff a fynychodd.
Digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Trefnodd Grŵp Gofalwyr Partneriaeth Pobl Conwy ddigwyddiad Hawliau Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth ymysg Gofalwyr o’r gwasanaethau all ddarparu cymorth iddynt. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 21 Tachwedd (Diwrnod Hawliau Gofalwyr) yng Nghoed Pella. Digwyddiad galw heibio i Ofalwyr oedd hwn, gydag amrywiol stondinau’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth. Cafodd ei hysbysebu ar lein, drwy ein rhestrau dosbarthu, drwy staff CBSC, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a drwy’r sefydliadau oedd yn cymryd rhan. Mynychwyd y digwyddiad gan sawl sefydliad Gofalwyr, gan gynnwys ein tîm Gofalwyr mewnol, yn ogystal â’r tîm Hawliau Lles, Refeniw a Budd-daliadau, Treth y Cyngor, Llyfrgelloedd, Cymru Gynnes, Hafal a Chymorth a Luniwyd gan yr Unigolyn. Roedd y Cynghorydd Cheryl Carlisle yn bresennol ac roedd gwybodaeth bellach gan sefydliadau a thimau oedd yn methu bod yno hefyd ar gael.
Mynychodd nifer fechan o Ofalwyr y digwyddiad, a chafodd pob unigolyn gyfle i gael sylw unigol ym mhob un o’r stondinau, a chymorth a chyngor personol. Teimlai’r sefydliadau ei fod yn fuddiol, gan na chawsant eu llorio gan niferoedd mawr o Ofalwyr ar yr un pryd, felly cawsant gyfle i ymateb i bob person yn unigol. Roedd yr adborth a gafwyd gan y sefydliadau a’r Gofalwyr yn gadarnhaol:
Diolch yn fawr iawn i chi am edrych ar ôl fy Mam a minnau ddoe; roedden ni’n dwy yn ei werthfawrogi’n arw… gallai hyn wneud cymaint o wahaniaeth i fy rhieni, croesi bysedd.
Roeddwn i’n falch o gael bod yn rhan o’r digwyddiad.
Eisteddfod Genedlaethol 2019
Roeddem ni’n llawn cyffro ynglŷn â chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst 2019, ac roedd gan rai o’n timau stondinau ar y maes i arddangos y gwaith rydym ni’n ei wneud. Gofal Cymdeithasol a Lles oedd un o’r pedair thema a fabwysiadwyd ar gyfer y digwyddiad wythnos o hyd, felly roedd aelodau ein gwasanaethau Maethu, Gofalwyr ac Anableddau ar y maes yn hyrwyddo ein gwasanaethau ac yn ateb ymholiadau aelodau’r cyhoedd.
Ymunodd Dr Catrin Hedd Jones o Brifysgol Bangor â ni am gyflwyniad ar brofiadau personol byw gyda dementia a manteision dod â phobl ynghyd. Ymunodd un o Ofalwyr Conwy â hi, gan roi cipolwg ar fywyd person sy’n byw gyda dementia, a’r holl heriau sy’n dod yn sgil hynny.
Buom hefyd wrthi’n hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel dewis gwerthfawr o yrfa drwy sgyrsiau anffurfiol ag aelodau staff sydd wrth eu boddau yn eu gwaith, ac sy’n elwa ar y cyfleoedd a gyflwynir iddynt yn eu swyddi (yn y llun).
Cydweithrediad rhwng Tîm Cymorth ac Asesu’r Gwasanaeth Plant a Chanolfannau Teuluoedd
Mae’r Tîm Cymorth ac Asesu (TCA) yn cydweithio’n agos â’r Canolfannau Teuluoedd cyn ac ar ôl dyraniad. Mae’r tîm yn gweithio ar bolisi ‘does yna’r un drws anghywir’. Golyga hyn os bydd atgyfeiriad yn cyrraedd Canolfan Deuluoedd a ddylai fod wedi mynd at y TCA, yna bydd y Ganolfan Deuluoedd yn pasio’r atgyfeiriad hwnnw ymlaen i’r TCA. Gall y Ganolfan Deuluoedd hefyd gynnal trafodaethau â’r TCA a cheisio meithrin cyswllt â’r teulu er mwyn gweithio â hwy os yw hynny’n briodol. Os bydd pryderon yn gwaethygu a’r teulu’n cychwyn datgysylltu, yna bydd y Ganolfan Deuluoedd yn cysylltu â’r TCA i geisio uwchgyfeirio’r angen i ofal a reolir.
Gall y Canolfannau Teuluoedd sefydlu perthynas wych â theuluoedd, felly os bydd achos yn cael ei ddyrannu i weithiwr cymdeithasol, rydym yn awyddus i weithio o fewn model y Ganolfan Deuluoedd. Mae’r gwaith yn parhau ar y cyd â’r gweithiwr teulu yn hytrach nac yn eu lle.
Mae’r ffordd hon o weithio wedi gwneud gwahaniaeth o ran ein gallu i gau achosion. Mae’r gweithiwr teulu wedi bod yn rhan gyson o’r gwaith a bydd yn parhau i weithio gyda’r teulu. Mae asiantaethau a theuluoedd yn teimlo’n fwy hyderus i gau achosion o wybod bod y gwasanaeth hwn yn dal i fod ar gael iddynt.
Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu
Mae yna nifer o brosiectau ar y gweill yng Nghonwy dan nawdd y Rhaglen Drawsnewid AD. Mae’r rhaglen wedi bod yn mynd rhagddi drwy gydol 2019-2020, ac mewn nifer o feysydd prosiect, mae ymagwedd gydweithredol ar y cyd â’n partneriaid wedi cael ei mabwysiadu er mwyn cyflawni nodau’r rhaglen gyfan. Mae manylion rhai o’n prosiectau cyffrous i’w gweld isod.
Parseli Synhwyraidd
Prosiect cyffrous ar gyfer pobl gydag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog i’w gyflwyno drwy Gwmni Buddiannau Cymunedol Making Sense. Mae Making Sense yn gwmni buddiannau cymunedol sy’n gweithio gydag amgueddfeydd, orielau a mannau cyhoeddus eraill i gynnal prosiectau creadigol sy’n agor arddangosfeydd a chasgliadau i gynulleidfaoedd ehangach a mwy amrywiol. Defnyddir ymagwedd amlsynhwyraidd ar gyfer pob prosiect, gan weithio er budd pobl anabl neu bobl sy’n teimlo’n ynysig yn gymdeithasol.
Rydym yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Celfyddydau Conwy a Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych i ganfod gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ledled y sir a allai fod o ddiddordeb mewn ffordd hygyrch, amlsynhwyraidd. Bob mis, bydd ‘Parseli Synhwyraidd’ yn cael eu creu a’u hanfon i ganolfannau dydd sy’n rhan o’r prosiect. Bydd y parseli’n gweithio fel catalydd ar gyfer gweithgareddau synhwyraidd y mis dan arweiniad y staff gofal, gan gynnwys tripiau dydd, gweithdai synhwyraidd a chreu gwaith celf a gosodiadau synhwyraidd yn y canolfannau.
Bydd y parseli’n cael eu datblygu’n ofalus bob mis gan artistiaid proffesiynol ac artistiaid gwadd, a byddant yn cynnwys gwrthrychau synhwyraidd, synau ac arogleuon ynghyd ag awgrymiadau am weithgareddau a thripiau synhwyraidd. Byddwn yn gweithio’n agos â lleoliadau lleol sy’n fodlon croesawu ymweliadau hygyrch, gan gynnig teithiau y tu ôl i’r llenni a gweithdai orielau fel rhan o’r Gwasanaeth Parseli Synhwyraidd.
Beth nesaf?
Os bydd yn llwyddiannus, gallai’r prosiect hwn ddod yn wasanaeth parseli misol parhaol, gyda chymorth a phartneriaeth lleoliadau celfyddydol a diwylliannol, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi i staff ac ymweliadau gan artistiaid.
Datblygu Darpariaeth Dan 5 oed
Nodwyd nad oes digon o weithgareddau addas yn cael eu darparu ar gyfer plant dan 5 oed ag anghenion cymhleth. Mae teuluoedd sy’n defnyddio’r Ganolfan Datblygiad Plant wedi dweud yn y gorffennol pa mor ynysig y maent yn teimlo, yn enwedig yn ystod yr haf cyn bod eu plentyn i fod i gychwyn yn yr ysgol yn llawn amser. Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau gwyliau’r haf prif ffrwd fod yn anodd. Mae yna rai gweithgareddau ar gael i blant ag anghenion cymhleth, ond gall y rhain fod yn gyfyngedig ac yn annigonol yn aml.
Beth nesaf?
Byddwn yn datblygu darpariaeth drwy fapio anghenion ledled Conwy, er mwyn cael darlun clir o’r hyn y mae teuluoedd ei eisiau a’r hyn sy’n rhwystro rhai plant rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau, er mwyn datblygu gweithgareddau a all fodloni anghenion yn briodol.
Ar ôl gorffen y gwaith mapio, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a’r adborth i lunio’r gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnig mewn prosiect peilot, gan ddefnyddio cyllid a gafwyd o’r Rhaglen Drawsnewid AD. Rhagwelir y byddwn yn gweithio gyda’r trydydd sector i gyflwyno prosiectau peilot.
Rhaglen Integredig Dysgu a Gweithgareddau Iechyd a Lles
Mae Conwy wedi sicrhau cyllid o’r Gronfa Gofal Integredig ac o’r Rhaglen Drawsnewid i ddarparu rhaglen integredig dysgu a gweithgareddau iechyd a lles.
Bydd y rhaglen yn cynnig cyfleoedd dysgu a gweithgareddau pwrpasol yn benodol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a’r bobl sy’n eu helpu, gan ganolbwyntio ar agweddau penodol ar iechyd a lles. Nod y rhaglen yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth a newid ymddygiad, er mwyn gwella iechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys (ond nid wedi’i gyfyngu i) sesiynau sy’n ymdrin â’r meysydd pwnc canlynol:
- Deiet ac ymarfer corff
- Iechyd rhywiol
- Y menopôs a heneiddio
- Archwiliadau a sgrinio iechyd
- Lles meddyliol
- Cydberthnasau, cyfeillgarwch a gweithgareddau cymunedol
- Arian
- Diogelwch, gan gynnwys diogelwch ar y we
Ymdrinnir hefyd â meysydd pwnc a glustnodir o ganlyniad i anghenion a dewisiadau’r cyfranogwyr yn ystod y rhaglen. Caiff y sesiynau eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol.