Yn y rhan hon, cyflwynir manylion ein perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad isod. Mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad am ein perfformiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r dangosyddion hyn hefyd yn ffordd arall o fesur i ba raddau rydym yn cyflawni pob Safon Ansawdd.
Disgrifiad o’r dangosydd perfformiad | 2018-19 | 2019-20 |
Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ailalluogi a chael pecyn gofal llai dwys (na’r un oedd ganddynt) 6 mis yn ddiweddarach (PMA20a) | 9.41% | 5.22% |
Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ailalluogi ac nad oedd ganddynt unrhyw becyn gofal 6 mis yn ddiweddarach (PMA20b) | 73.70% | 83.97% |
Canran yr oedolion a gafodd gyngor a chymorth gan y gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth oedd heb gysylltu â’r gwasanaeth eto o fewn 6 mis (PMA23) | 90.79% | 82.60% |
Canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn yr amserlenni statudol (PMC24) | 100.00% | 99.45% |
Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth dros 75 oed (PMA19) | 0.66 | 1.61 |
Cyfnod cyfartalog o amser y caiff pobl hŷn (65 oed a hŷn) gymorth mewn cartrefi gofal preswyl (PMA21) | 703.34 diwrnod | 704.32 diwrnod |
Oedran cyfartalog oedolion sy’n mynd i gartrefi gofal preswyl (PMA22) | 85.09 | 84.69 |
Canran y plant sy’n gweld deintydd cofrestredig o fewn 3 mis i fod yn blentyn sy’n derbyn gofal (PMC30) | 94.12% | 92.31% |
Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gofrestrwyd â Meddyg Teulu o fewn 10 diwrnod gwaith i ddechrau’r lleoliad (PMC31) | 98.77% | 97.59% |
Canran yr ymholiadau amddiffyn oedolion a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod (PMA18) | 81.08% | 84.52% |
Canran y plant sy’n cael eu hailgofrestru ar Gofrestr Amddiffyn Plant yr Awdurdod Lleol (PMC27) | 7.55% | 0.00% |
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28) | 213.43 diwrnod | 247.58 diwrnod |
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (PMC29a) | 54.84% | Ddim ar gael |
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 4 (PMC29b) | 4.88% | Ddim ar gael |
Canran y plant sy’n derbyn gofal sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau pontio, yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth (PMC32) | 5.37% | Ddim ar gael |
Canran y plant sy’n cael cymorth i barhau i fyw gyda’u teulu ar 31 Mawrth (PMC25) | 64.86% (ffigurau dros dro) | 57.50% (ffigurau dros dro) |
Canran y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn (PMC26) | 9.47% (ffigurau dros dro) | 8.47% (ffigurau dros dro) |
Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn (PMC33) | 7.69% (ffigurau dros dro) | 8.91% (ffigurau dros dro) |
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl gadael gofal (PMC34a) | 62.86% | 47.82% |
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 24 mis ar ôl gadael gofal (PMC34b) | 37.50% | 59.09% |
Canran yr holl bobl ifanc sy’n gadael gofal sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y flwyddyn (PMC35) | 12.23% | 13.19% |