Drwy gydol yr adroddiad hwn, rydym wedi nodi nifer o enghreifftiau o waith pwysig sydd ar y gweill ac yn parhau o fewn ein meysydd gwasanaeth wrth symud ymlaen i 2020-2021. Mae Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant a datblygiadau Iechyd Meddwl wedi cael eu nodi fel blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Trowch at yr adran ar Safon Ansawdd 2 am ragor o fanylion.
Trawsnewid Gwasanaethau Pobl Hŷn
Sefydlwyd Trawsnewid Gwasanaethau Pobl Hŷn gyda’r nod o efelychu’r weledigaeth a ddiffiniwyd gan ‘Cymru Iachach’. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar weledigaeth hirdymor am ‘ymagwedd system gyfan tuag at Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ ar sail iechyd a lles, ac ar atal salwch. Mae gweledigaeth Conwy ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn yn ceisio adlewyrchu a chefnogi’r weledigaeth hon. Mae Conwy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn sy’n bersonol ac yn ymatebol. Yr hyn sy’n allweddol i sicrhau’r math hwn o ddarpariaeth yw gwneud yn siŵr bod pobl hŷn yn byw mewn amgylchedd o’u dewis hwy, yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, bod pobl hŷn sy’n byw gyda dementia yn teimlo’u bod yn cael cymorth a bod yna ddull cydweithredol wedi’i gynllunio’n dda o ddiwallu anghenion.
Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Darparu a chyflwyno gofal integredig ar gyfer pobl hŷn ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd
- Darparu amrywiaeth o ddewisiadau llety i bobl hŷn
- Adolygu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a datblygu modelau newydd sy’n atal pobl rhag mynd i ofal hirdymor
- Comisiynau yn ôl canlyniadau a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl hŷn
- Galluogi pobl hyn i gadw eu hamnibyniaeth ac aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach
- Dod yn sir sy’n rhagori mewn darparu gofal dementia i bobl hŷn a’u gofalwyr
Rydym wedi amlinellu nifer o’r buddion disgwyliedig. Er enghraifft, lleihad yn yr angen i bobl hŷn fynd i ofal preswyl hirdymor, llai o ofal cartref hirdymor, gwelliant yn narpariaeth y gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a mwy o hyfforddiant ac uwchsgilio staff, i enwi ychydig yn unig.
Mae cyllid grant o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi cael ei ryddhau i gefnogi rhai o’r prosiectau o fewn y rhaglen, sef:
- Gwasanaethau Dementia
- Timau Adnoddau Cymunedol a datblygu ardaloedd lleol
- Cyfleusterau ailalluogi o fewn y sir
Mae’r gwaith hwn hefyd yn cysylltu â gwerthoedd a gweledigaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cydymffurfio â’r Canllawiau Newydd
Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru a’r Fframwaith Rheoli Perfformiad
O 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd pob awdurdod lleol yn rhoi Cod Ymarfer newydd ar waith yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae nifer o ddibenion i’r Cod ymarfer, a rhaid i bob ALl fod yn ymwybodol ohonynt a chydymffurfio â hwy. Mae hyn yn cynnwys nodi’r safonau ansawdd a’r fframwaith rheoli perfformiad newydd y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio i adrodd am ein perfformiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae’r Cod Ymarfer hefyd yn ceisio galluogi pobl i ddeall y safon o ofal a chymorth y mae ganddynt hawl iddi gan eu ALl, a deall sut y caiff AauLl eu mesur mewn perthynas â darparu Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dylai’r Cod alluogi AauLl i ganolbwyntio ar sut yr ydym yn perfformio, deall pwysigrwydd cipio data a sut y gellir ei ddefnyddio i lywio gwelliant, darparu atebolrwydd a sicrhau bod gan yr ymarferwyr y sgiliau, y cymwysterau a’r gefnogaeth briodol.
Yn ogystal, o 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd gwaith yn mynd rhagddo ar roi cyfres newydd o fesurau Llywodraeth Cymru ar waith, y bydd angen adrodd arnynt bob blwyddyn.
Mabwysiadu Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn datblygu ar ganllawiau statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac maent wedi’u llunio i ddarparu arweiniad a disgwyliadau clir ar gyfer diogelu oedolion a phlant. Eu nod yw helpu unrhyw un sy’n gweithio gydag oedolion neu blant (mewn gwaith cyflogedig neu ddi-dâl) i gymhwyso’r ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol y ddeddf i’w rolau a’u dyletswyddau, drwy egluro beth yw eu cyfrifoldebau a sut i’w cyflawni. Drwy’r Gweithdrefnau canlynol, bydd ein hymarferwyr yn sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau posib ar gyfer plant ac oedolion mewn perygl, eu gofalwyr a’u teuluoedd ledled Cymru.
Ar ôl i’r Grŵp Gweithredu Gweithdrefnau Diogelu Cymru gynnal sesiynau briffio ar gyfer yr holl staff ym mis Mawrth, bydd y gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith ar 6 Ebrill 2020. Yna, byddwn yn gweithio’n galed drwy gydol 2020-21 i ymwreiddio’r Gweithdrefnau yn ein rolau a’n cyfrifoldebau bob dydd fel ymarfer safonol. Bydd gan y staff yr hyder i:
- Sicrhau bod llais yr unigolion a’r cwestiynau “beth sy’n bwysig” yn rhan o’r broses ddiogelu.
- Defnyddio barn broffesiynol ymarferwyr i ddiwallu anghenion dynodedig unigolion, mewn fframwaith lle mae ymarfer yn cael ei safoni rhwng asiantaethau ledled Cymru.
Bydd y Gweithdrefnau ar gael yn ddidrafferth i gymaint o bobl ag sy’n bosib drwy blatfform ar-lein ac ap am ddim, a bydd yr holl staff yn cael eu hannog i’w defnyddio.
System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn system rheoli achosion electronig sy’n cael ei mabwysiadu gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd ledled Cymru. Bydd yn darparu un cofnod i gleient/claf ac yn ein galluogi i rannu gwybodaeth am unigolion yn ddiogel ac yn gyfleus gyda chydweithwyr Iechyd, gan drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gofal a chymorth yn ein cymunedau.
Mae’r tîm prosiect sydd wedi cael y dasg o roi’r WCCIS ar waith wedi gwneud cynnydd da yn ystod 2019-20, ac maent ar y trywydd cywir i gwblhau’r prosiect o fewn yr amserlen. Mae’r tîm wedi gweithio â phob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol er mwyn mapio eu prosesau presennol a rhai’r dyfodol, a chynllunio sut y caiff y rhain eu hymgorffori yn y system. Mae hwn wedi bod yn waith swmpus a hanfodol, sydd wedi sicrhau bod ein gwasanaethau yn rhan llawn o’r gweithrediad, a’u bod yn cyfranogi i’r prosiect.
Yn ychwanegol at y gwaith o adrodd ar, ac archifo cofnodion hanesyddol, mae’r tîm bellach yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant ar y system i bob aelod staff sydd ei angen (tua 675 o bobl), er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus i’w ddefnyddio pan fydd yn cael ei roi ar waith. Mae’r sesiynau wedi cael eu cynllunio ar gyfer hydref 2020, a byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Cydweithio i wneud ein gwasanaethau’n fwy hygyrch
Drwy gydol yr adroddiad, rydym wedi dangos sut yr ydym yn cydweithio â phartneriaid o fewn yr awdurdod lleol ac yn allanol, i ddarparu gwasanaethau sy’n hygyrch i bawb. Ein nod wrth symud ymlaen i 2020-21, yw parhau ein taith yn cydweithio â thimau fel Tai, Rheolaethol, Addysg, TG, BIPBC a sefydliadau’r trydydd sector. Isod, fe welwch chi enghraifft wych o gydweithrediad rhwng ein Gwasanaeth Anableddau a BIPBC er mwyn darparu cynllun tai â chymorth cyffrous fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid AD.
Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu – Grŵp Cynllunio Cynllun Tai â Chymorth (Conwy) a Ariennir ar y Cyd
Fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid AD ehangach, mae Cyngor Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i symud tuag at sefydlu model a gomisiynir ar y cyd o dai â chymorth i nifer fechan o unigolion ag anghenion cymhleth. Rhagwelir y bydd y model tai hwn yn helpu lleihau’r angen am leoliadau y tu allan i’r sir, a gellir ei ystyried fel glasbrint ar draws y rhanbarth. Er mwyn datblygu’r gwaith, mae grŵp amlddisgyblaethol wedi cael ei sefydlu.
Mae sefydlu’r model hwn o dai yn galw am nifer o wahanol ffrydiau gwaith, pob un â’i ganlyniadau disgwyliedig ei hun. Mae’r grŵp yn dod â gweithwyr proffesiynol perthnasol ynghyd gyda’r bwriad o nodi, cytuno, gweithredu a monitro’r camau gweithredu angenrheidiol mewn perthynas â phob un o’r bedair ffrwd waith ganlynol:
- Ffrwd Waith 1: Y Bobl
Canlyniad: Bydd tri unigolyn cymwys yn barod i symyd i mewn i’r eiddo - Ffrwd Waith 2: Y Gwasanaeth
Canlyniad: Bydd gwasanaeth arbenigol yn cael ei sefydlu, gyda staff hyfforddedig - Ffrwd Waith 3: Yr Eiddo
Canlyniad: Bydd eiddo wedi’i ddylunio/addasu’n briodol yn barod i bobl symud i mewn iddo - Ffrwd Waith 4: Y Cyllid
Canlyniad: Bydd cyllid Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Cyd ar gael, ynghyd â chytundeb cyd-gyllido
Er mwyn bod yn effeithiol, mae’r grŵp angen amrywiol lefelau o gynrychiolwyr o’r awdurdod lleol ac Iechyd. Bydd y grŵp hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd. Er ei bod yn anodd rhagweld amserlenni ar hyn o bryd, bydd y grŵp yn bodoli ar ei ffurf bresennol nes y bydd y rhaglen ar gyfer y model tai a ariennir ar y cyd yn gyflawn.