Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad blynyddol hwn yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy.  Mae’r adroddiad hwn yn ceisio dangos sut y gwnaethom hyrwyddo lles a mynd ati i ddarparu safonau lles.  Mae’n rhoi gwybod am feysydd lle mae datblygiadau newydd, yn hytrach na thrafod pob agwedd ar ein gwaith, ac yn arfarnu ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau Gofal Cymdeithasol.  Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol.

Mae blaenoriaethau ein gwasanaeth yn cyd-fynd â’r chwe Safon Ansawdd Genedlaethol ar gyfer canlyniadau lles. Rydym yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn y chwe maes hyn drwy roi gwybodaeth am ddatblygiadau, astudiaethau achos, canlyniadau ac ymatebion i arolygon, a mesuryddion perfformiad.  Y chwe safon yw:

  1. Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl am eu cyflawni.
  2. Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hybu iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
  3. Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
  4. Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas.
  5. Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd iach a diogel yn y cartref, gyda’r teulu ac yn bersonol.
  6. Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i sicrhau gwell lles economaidd, gwell bywyd cymdeithasol a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.

Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru.   Rydym yn meithrin cyswllt yn rheolaidd â’n budd-ddeiliaid ac yn gwerthfawrogi adborth gan y bobl rydym yn ymwneud â hwy, ac mae enghreifftiau o’r adborth hwn i’w gweld drwy gydol yr adroddiad.  Mae dyluniad yr adroddiad yn seiliedig ar arddull yr oedd Cyngor yr Ifanc yn rhan o’i ddewis.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English