Cyhoeddwyd “Law yn Llaw at Iechyd –Darparu Gofal Diwedd Oes” yn 2013 ac mae’n darparu fframwaith ar gyfer gweithredu gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG sy’n gweithio â’u partneriaid. Mae’n nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar y GIG yng Nghymru o ran darparu gofal diwedd oes o ansawdd uchel, waeth beth fo’r diagnosis, amgylchiadau neu fan preswyl yng Nghymru. Mae’r Cynllun yn nodi dulliau clir er mwyn i lais yr unigolyn, gyda chefnogaeth y rhai agosaf atynt, gael ei glywed a’i barchu yng nghanol y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae’r Cynllun Cyflenwi yn amlinellu camau i wella canlyniadau yn y meysydd allweddol canlynol rhwng rŵan a 2016, sydd fwyaf perthnasol i’r gwasanaeth a ddarperir gan dîm mewnol Conwy i’r bwrdd Iechyd Lleol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau tri a phedwar:
- Darparu gofal cyflym ac effeithiol – Mae pobl yn derbyn gofal cyflym ac effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cynnal ansawdd bywyd am gyhyd ag y bo modd
- Lleihau gofid afiechyd terfynol i gleifion a’u teuluoedd; mae cleifion sy’n cyrraedd cyfnod terfynol eu salwch a’u teuluoedd yn teimlo eu bod yn derbyn gofal da.
Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth wedi bod mewn grym ers mis Medi 2011 rhwng BIPBC a CBSC i ddarparu gwasanaeth gofal cartref i gefnogi’r Tîm Nyrsio Ardal i alluogi pobl yng Nghonwy i farw yn eu cartrefi eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Beth sydd wedi newid?
Ers y cynllun prawf cyntaf yn 2011 mae’r tîm wedi cefnogi pobl ar draws Conwy i farw yn eu cartrefi eu hunain. Bu cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yn y nifer sy’n derbyn cymorth.
- 2012-2013, derbyniodd 69 o bobl gefnogaeth dros 947 diwrnod.
- 2013-2014, derbyniodd 102 o bobl gefnogaeth dros 1552 diwrnod.
- 2014-2015, derbyniodd 121 o bobl gefnogaeth dros 2119 diwrnod.
Mae’r tîm nyrsio ardal a’r tîm mewnol wedi eu cyd-leoli yn Llanrwst, Llanfairfechan a Llandudno gan ganiatáu ymateb cyflym, wedi’i gydlynu.
Mae Staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth Diwedd Oes yn cael hyfforddiant i’w cefnogi yn eu gwaith. Hyd yma mae 20 aelod o staff rheng flaen wedi cymhwyso i QCF Lefel 3 mewn Gofal Diwedd Oes, gydag ail gohort o hyfforddiant wedi cychwyn ym mis Mawrth 2015.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r llythyrau y mae teuluoedd a ffrindiau’r sawl sydd wedi marw yn eu hysgrifennu at y tîm neu weithwyr proffesiynol eraill ar ôl derbyn cefnogaeth gan y tîm yn dystiolaeth o’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r gwasanaeth hwn wedi gwneud i bobl ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau.
‘Hoffwn fynegi fy niolch o waelod calon am y gofal proffesiynol rhagorol a roddwyd i fy niweddar wraig drwy gydol y 4 mis diwethaf. Fe’i rhoddwyd yn barod, gyda thosturi mawr, proffesiynoldeb a pherthynas wych gyda’r claf. Roeddem yn falch iawn bod C, P, B wedi dod o hyd i amser i ddod i’r angladd. Daethant yn rhan bwysig iawn o fywyd A ac mae’n teulu cyfan yn ddyledus ac yn ddiolchgar iawn iddynt. Efallai nad yw’n ffasiynol i’w ddweud y dyddiau hyn, ond mae pob un ohonynt yn y swydd iawn. ‘
‘Hoffem i chi wybod nad oes modd mesur y math o ofal llawn empathi, parch dwys a hiwmor rydych wedi dangos i B. Pobl fel chi sy’n gwneud hyn i gyd yn bosibl gyda’r balchder a’r cymhelliant rydych chi’n dangos yn glir yn eich gwaith a diolchwn i chi o waelod calon. Mae C a minnau wedi gweld yr harmoneiddio esmwyth rhwng y gwahanol wasanaethau allanol a gynigir gan y GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys y Nyrsys Ardal, y gofalwyr a’r tîm Marie Curie, ac rydym yn llawn edmygedd tuag at y gofal proffesiynol a thosturiol a ddangoswyd gan bob un ohonoch. Rhaid lleisio hyn mor uchel ag y bo modd oherwydd eich bod yn haeddu cydnabyddiaeth a dymunwn i bob adran sy’n rheoli eich cyflogaeth i glywed hyn.’
‘Gweithiom gyda’n gilydd yn ddiweddar er mwyn galluogi Mrs H i ddychwelyd gyda phecyn gofal a ariennir ar y cyd. Roedd Mrs H eisiau bod gartref mor hir â phosibl a’i dymuniad bob amser oedd dychwelyd i’r Hosbis i farw, pan fyddai’r amser yn dod. Bu farw o fewn ychydig oriau byr i gael ei derbyn yn ôl i’r Hosbis yr wythnos diwethaf, felly roedd hi wir wedi derbyn gofal gartref am gyn hired ag yr oedd modd. Rwy’n credu bod hyn yn glod go iawn i’r staff a wnaeth ofalu amdani yn Llys y Coed.
Roeddwn i’n credu y byddai’n braf i rannu hyn gyda chi gan ei fod yn dangos canlyniad mor gadarnhaol i’r gwaith y gwnaethom ei gwblhau gyda’n gilydd.’