Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn nodi’r safonau ymddygiad, fel bod gweithwyr yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt a bod y cyhoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan weithwyr.
Mewn rhai meysydd o Anableddau Dysgu, roedd gwasanaethau mewnol yn profi problemau gyda pherfformiad staff ac roedd rhai’n arwain at gyflwyno rhybuddion, rhoddwyd cynlluniau gweithredu ar waith ac ymchwiliadau o dan POVA mewn rhai achosion.
Beth sydd wedi newid?
O ganlyniad i’r uchod cyflwynwyd sesiwn hyfforddi ½ diwrnod i staff yn 2014. Pwrpas y sesiwn hyfforddi oedd i staff edrych eto ar y Codau Ymarfer a sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r safonau a ddisgwyliwyd ganddynt, a rhannu arfer da a dysg.
Darparwyd sesiynau misol gan Reolwyr. Roedd pob aelod o staff yn bresennol.
Cynhyrchwyd llyfryn Arfer Da, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn y sesiynau misol. Ers hynny, rhannwyd hyn gyda’r holl staff.
Mae’r sesiynau wedi parhau, gan ychwanegu 2 elfen newydd yn trafod y Fframwaith Cymwyseddau Craidd, a’r Canllawiau Terfynau Proffesiynol a gyhoeddwyd gan Gyngor Gofal Cymru.
Isod mae adran a gymerwyd o’r llyfryn Arfer Da:
Esiampl wael o weithiwr Gofal Cymdeithasol yw rhywun sy’n amharchus. Rhywun nad yw’n gallu meddwl yn sydyn na gwneud penderfyniadau gwerthfawr mewn sefyllfaoedd anodd. Mae’r person hwn yn ddadleugar, anghwrtais ac nid yw’n poeni am y defnyddiwr gwasanaeth. Yr astudiaeth achos yma fyddai rhywun nad yw wedi trosglwyddo gwybodaeth hanfodol i asiantaeth arall sy’n gweithio gyda defnyddiwr gwasanaeth, felly mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei beryglu oherwydd diffyg cyfathrebu.
Enghraifft dda o weithiwr Gofal Cymdeithasol yw unigolyn ystyriol sy’n gallu dangos empathi tuag at eraill. Mae’r person hwn yn barchus ac yn awyddus i wella arfer. Maent yn rhoi dewisiadau defnyddwyr y gwasanaeth yn gyntaf ac yn cymryd amser i egluro eu gweithredoedd i eraill. Yr astudiaeth achos fyddai gweithiwr gofal yn egluro i ddefnyddiwr gwasanaeth pam nad yw’n syniad da i gymryd cyffuriau a chymryd yr amser i’w haddysgu ynglŷn â pheryglon o’r fath. Mae’r gweithiwr gofal yn fodel rôl da ac yn ymatal rhag ymddygiad o’r fath.