Croeso i adroddiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2014-2015. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae’r heriau’n parhau er bod cynnydd da wedi’i wneud o ran ein taith i gefnogi gweithrediad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Lles fis Ebrill nesaf.
Fel yr adroddwyd y llynedd, rydym wedi trawsnewid gwasanaethau i fod yn gydnaws â help a chymorth cynnar, ac mae’r gwasanaeth lles cymunedol yn cymryd camau sylweddol wrth osod y safon dan arweinyddiaeth effeithiol y rheolwr gwasanaeth.
Mae penodau fy adroddiad ar atal ac ymyrraeth gynnar ar gyfer plant ac oedolion yn arddangos rhai o’r meysydd rydym wedi gwneud cynnydd arnynt gan gynnwys manteision adlinio’r ffrydiau gwaith sy’n canolbwyntio ar dlodi fel comisiynu Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg. Rhan fwyaf cyffrous y strategaeth lles yw’r gwaith parhaus ar ganolfannau Iechyd a Lles Ardal sy’n adeiladu ar y sylfaen gref o gydleoli Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Hamdden. Rydym wedi llwyddo wrth ddefnyddio ffynonellau cyllid fel y Gronfa Ofal ganolradd i wella’r ddarpariaeth yn y gymuned gan gynnwys fferylliaeth gymunedol, monitro galwadau ac ymateb a mynediad cyflym i addasiadau bach yn y cartref. Mae pob un o’r prosiectau hyn wedi’u gwerthuso’n annibynnol ac mae tystiolaeth o well canlyniadau i unigolion gyda’r bonws ychwanegol o arafu’r galw am wasanaethau a dangos gwerth am arian.
Rydym wedi gwneud cynnydd da ar ein bwriad comisiynu, gan wneud ymdrech fawr i fod yn gliriach am y gwasanaethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol a’r rhai y gallai fod angen inni eu newid. Datblygwyd ein bwriad comisiynu Gofal Cymdeithasol cyffredinol ac rydym wedi cwblhau datganiadau ar sefyllfa’r farchnad gan ganolbwyntio ar ddementia, plant sy’n derbyn gofal ac anabledd dysgu – ceir rhagor o fanylion yn y bennod dan y teitl “Dilyniant ers y llynedd” lle rydym yn anelu i ddangos beth sydd wedi newid a pha wahaniaeth y gwnaeth hyn.
Unwaith eto mae fy adroddiad yn canolbwyntio ar edrych yn ôl ar nifer o feysydd allweddol ac mae’n seiliedig ar ddull tebyg gyda stori neu astudiaeth achos i amlinellu’r daith. Mae’r staff wedi gwneud ymdrech ryfeddol i sicrhau y darperir gwasanaethau i safon uchel drwy gyfnod o newid helaeth a chaledi. Rydym wedi nodi’r hyn y mae pobl yn dweud wrthym drwy gwynion a chanmoliaethau a byddwn yn defnyddio’r adborth hwn yn ofalus.
Ein gweithlu yw ein hased mwyaf ac rwy’n ddiolchgar i’r timau sydd wedi parhau’n ddiflino i wireddu’r weledigaeth a gwneud y gwaith gyda’r angerdd a’r proffesiynoldeb rydym yn anelu amdano.
Diolch arbennig hefyd i’r tîm golygyddol bach a gydlynodd yr adroddiad hwn a’i gynnwys.
Jenny Williams
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy