Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Gwybodaeth arall

Arolygon ac adolygiadau

Yn y flwyddyn 2024/25 cafwyd chwe arolygiad allanol o wasanaethau gofal cymdeithasol, a restrir yn y tabl isod.

TeitlCorff ArchwilioDyddiadNifer yr argymhellionCyflwynwyd i’r pwyllgor craffu
Arolygiad Llys GogarthAGCEbrill 20240Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27/11/24
Arolygiad Bron y NantAGCEbrill 20240Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27/11/24
Arolygiad ar y Cyd o Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghonwy a Sir DdinbychArolygiaeth Prawf EF, AGC, EstynMai 20247 argymhelliad dros 5 thema eangPwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27/11/24
Arolygiad Llys ElianAGCMedi 20241 cam blaenoriaeth 2 faes i’w wellaI’w gadarnhau
Trefniadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau Archwilio CymruTachwedd 2024Adroddiad terfynol heb ei dderbyn etoI’w gadarnhau
Arolygiad o Wasanaethau Maethu ConwyAGCTachwedd 2024Adroddiad terfynol heb ei dderbyn etoI’w gadarnhau

Gwnaed argymhellion ar gyfer gwella yn yr adroddiadau canlynol

Ym mis Mai 2024, cynhaliodd Arolygiaeth Prawf EF arolygiad ar y cyd o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych. Mae hwn yn wasanaeth ar y cyd ar gyfer y ddwy sir. Arolygwyd y gwasanaeth a dod i farn ynglŷn â thri o feysydd cyffredinol: trefniadau’r sefydliad ar gyfer darparu’r gwasanaeth, ansawdd y gwaith a wnaed â phant a ddedfrydwyd gan y llysoedd, ac ansawdd y gwaith ar ddatrysiadau y tu allan i’r llys. Yr oedd amseriad yr arolygiad hwn yn heriol gan ei fod yng nghanol newidiadau sylweddol i’r gwasanaeth. Er gwaethaf hynny, canfu’r arolygwyr dîm arwain cryf a gwybodus, a oedd wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda staff i ddarparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc.

Dywedodd yr arolygwyr fod y tîm wedi cyflawni hyn er gwaethaf prinder staff sylweddol, a hefyd wedi rhoi polisïau a ffyrdd newydd o weithio ar waith. Canfu’r arolygwyr hefyd enghreifftiau cadarnhaol o waith sy’n cael ei ddarparu i blant, a dywedwyd bod hyn yn dyst i ymrwymiad a gwytnwch y tîm arweinyddiaeth a’r grŵp staff. Canfu’r arolygwyr fod angen datblygu arweinyddiaeth strategol a threfniadau llywodraethu’r gwasanaeth yn sylweddol, a nodwyd bod y gwasanaeth “Angen Gwella”.

Ym mis Medi 2024, arolygwyd Llys Elian, ein cartref gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gyda dementia, gan AGC. Rhoddodd yr arolygydd hysbysiad blaenoriaeth yn ymwneud â’r trefniadau yn y cartref ar gyfer rheoli meddyginiaeth. Cynhaliwyd adolygiad trylwyr, a rhoddwyd nifer o welliannau ar waith yn y cartref. Nododd AGC ddau faes i’w gwella hefyd. Mae un yn ymwneud â’r man yn yr awyr agored ar gyfer preswylwyr yn y cartref, a gafodd sylw ar unwaith. Yr ail oedd adolygu’r lefelau staffio i sicrhau eu bod yn ddigonol i ddiwallu anghenion y preswylwyr. Mae’r adolygiad hwn wedi digwydd a gwnaed rhai newidiadau.

Cwynion a sylwadau

Mae hawl gan bawb sy’n gwneud cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid i’w barn, eu dymuniadau a’u teimladau gael eu clywed, a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.

Gall cwynion dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen yn y gwasanaethau. Mae’n bwysig bod Awdurdodau Lleol yn dysgu o gwynion i nodi lle y dylid newid a gwella’r gwasanaethau.

Credwn fod delio’n effeithiol â chwynion yn rhan hollbwysig o’n cyfrifoldebau, ac mae system gadarn i ddelio â chwynion yn elfen hanfodol o sicrhau bod unigolion yn derbyn y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt.

Mae hyn yn ein galluogi i:

  • Gydnabod pan fo camgymeriadau wedi eu gwneud
  • Eu cywiro yn effeithiol ac ymddiheuro pan fo hynny’n briodol
  • Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion

Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wneud cwyn yw:

  • Eisiau cael eu clywed
  • Eisiau sicrhau bod pryderon yn cael eu cydnabod a’u cymryd o ddifrif
  • Eisiau sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddatrys problemau ac i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol
  • I gael ymddiheuriad

Yn ystod 2023/2024, derbyniasom 15 o gwynion ffurfiol. Yr oedd naw ohonynt yn ymwneud â Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig a chwech yn ymwneud â Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Yr oedd y mwyafrif (7) o ganlyniad i anghytuno â chamau gweithredu yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi eu cymryd, a’r gweddill o ganlyniad i berthynas waith yn chwalu, anfodlonrwydd gyda’r gofal a ddarparwyd, pryderon ariannol, diffyg cyfathrebu gan y Gweithiwr Cymdeithasol, diffyg cefnogaeth, ac anfodlonrwydd gydag ymddygiad neu agwedd Gweithiwr Cymdeithasol.

Gall fod yn anodd nodi themâu unigol mewn perthynas â chwynion yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd mae natur gymhleth i lawer ohonynt ac maent yn cynnwys mwy nag un elfen.

Mae’r graff isod yn dangos y duedd ddisgynnol yn nifer y cwynion yr ydym wedi eu derbyn o flwyddyn i flwyddyn.

Cwynion a dderbyniwyd rhwng 2019 a 2024

Er y gallwn weld gostyngiad yn nifer y cwynion ffurfiol, mae cynnydd wedi bod mewn gweithgarwch cwynion yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau eraill a gyflawnir gan y Gwasanaeth Cwynion fel cyfeirio pobl at adrannau eraill, partneriaid neu asiantaethau allanol, atgyfeirio achosion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cadarnhau nad yw rhai cwynion yn briodol, neu eu datrys heb ddefnyddio’r broses gwynion ffurfiol.

Data gweithgarwch allweddol

  • Yn ystod 2023/2024 cydnabuwyd pob cwyn Cam 1 gennym (pedwar ar ddeg ohonynt) drwy lythyr neu e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith.
  • Cwblhawyd un ar ddeg ohonynt o fewn yr amserlen o 15 diwrnod gwaith, ac yr oedd rhesymau dilys neu anochel dros y rheiny na chwblhawyd o fewn yr amserlen.
  • Dim ond un ymchwiliad Cam 2 a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn adrodd, ac, oherwydd cymhlethdod yr achos, nis cwblhawyd o fewn yr amserlen o 25 diwrnod gwaith.
  • Costiodd penodi Ymchwilwyr Annibynnol neu Unigolion Annibynnol i gwblhau proses ymchwilio Cam 2 £8,708.55, sy’n is na’r flwyddyn ariannol flaenorol.

Gwersi a ddysgwyd

Dyma’r gwersi mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o’r cwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:

  • Deall y pwysau ar aelodau staff wrth ddelio ag achwynwyr di-baid ac annifyr, sy’n aml yn defnyddio iaith fychanol a lefel ormodol o gyfathrebu emosiynol (yr ydym yn gweithio ar gynnig mwy o amddiffyniad yn y dyfodol)
  • Cynnal digwyddiadau dysgu a myfyrio yn dilyn yr Ymchwiliadau Annibynnol Cam 2 cymhleth er mwyn gwella arferion yn y dyfodol
  • Rhannu polisi tâl Conwy a thaflenni gydag unigolion mewn modd amserol a sicrhau eu bod yn eu deall
  • Gwahanu pryderon diogelu a godwyd yn rhan o gwynion mwy er mwyn osgoi dryswch a dyblygu gwaith
  • Cyfarfod wyneb yn wyneb wrth geisio datrys cwynion, gan fod hyn yn fwy llwyddiannus nag ymateb ysgrifenedig
  • Rheoli disgwyliadau ynglŷn â’r hyn y gall y broses gwynion ei gyflawni a’r hyn na all ei gyflawni

Canmoliaeth

Yn ogystal â chwynion, yr ydym hefyd yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth, a’u hanwyliaid. Ystyrir canmoliaeth hefyd yn wybodaeth bwysig y gellir ei defnyddio i ganfod meysydd lle mae gennym arferion da. Yr ydym yn eu cofnodi ac adrodd amdanynt wrth reolwyr i’w rhannu â’r staff fel adborth cadarnhaol.

Yn ystod 2023/2024, cawsom gyfanswm o 189 o ganmoliaethau: 172 i Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, a 17 i Wasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Mae hyn yn gynnydd o 38 ers y flwyddyn adrodd flaenorol.

Dyma ddetholiad o’r canmoliaethau a dderbyniwyd:

Diolch o waelod fy nghalon am eich gofal anhygoel dros fy mam. Rydych i gyd mor hyfryd a gofalgar. Fe roesoch chi nerth i mi ddal i fynd a rhoi cymaint o help i Mam a’i gwneud hi i chwerthin.

Tîm Ailalluogi, Llandudno

I bawb yn Llys Elian, diolch yn fawr am helpu a gofalu am ‘A’ dros y misoedd diwethaf. Roedd hi mewn dwylo da, ac, mewn gwirionedd, fe wnaeth hi fwynhau ei hamser gyda chi i gyd. Rydych chi’n gwneud gwaith ardderchog ac yn helpu lle mae angen.

Cartref preswyl Llys Elian ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl

Fe hoffwn i ddweud bod ‘B’ yn weithiwr cymdeithasol rhagorol. “Roedd yn broffesiynol iawn, ac ar yr un pryd roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus dweud popeth. Roedd llawer o hynny yn ymwneud â chyfnodau anodd yn fy ngorffennol. Ches i ddim fy marnu – dim unwaith. Roedd yn gwrando’n amyneddgar, gyda pharch, ac fe wnaeth hynny i mi deimlo’n well.

Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal

Mae hyn yn rhoi blas yn unig o weithgarwch cwynion a chanmoliaethau yng nghyfnod 2023/2024. Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol llawn i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Gorffennaf 2024, ac mae i’w weld o dudalen 76 ymlaen yn y pecyn dogfennau cyhoeddus.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English