Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Atal

Safonau Ansawdd

  • Mae’r angen am ofal a chymorth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, gan sicrhau bod y canlyniadau gorau yn cael eu cyflawni i bobl.
  • Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy gefnogi pobl y mae angen gofal a/neu gymorth arnynt, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.

Gwasanaethau Plant

Tîm Cryfhau Teuluoedd

Mae ein Tîm Cryfhau Teuluoedd yn cynnwys cydweithwyr o ystod eang o gefndiroedd – ym meysydd gwaith cymdeithasol, iechyd meddwl, gofal plant, camddefnyddio sylweddau, addysg, cwnsela a seicotherapi, yr heddlu a’r gwasanaeth prawf – ac mae’n gweithio dros ddau faes:

  • Ymyrraeth Gynnar: Gweithio gyda theuluoedd nad ydynt fel arfer yn agored i Weithiwr Cymdeithasol, ond y mae angen mwy o ymyrraeth arnynt nag y gall gwasanaethau cyffredinol eu cynnig.
  • Ffiniau Gofal: Lle mae Gweithiwr Cymdeithasol wedi ei neilltuo i deuluoedd ac maent at lefel Amddiffyn Plant neu uwch.

Mae dwy elfen y tîm yn canolbwyntio ar yr un peth, sef darparu ymyriadau wedi eu teilwra i deuluoedd er mwyn lleihau risgiau a chadw teuluoedd gyda’i gilydd yn y pen draw. Ni waeth o le mae’r atgyfeiriad wedi deillio, yr ydym yn gweithio gyda theuluoedd mewn ffordd gydweithredol, gan eu cefnogi i nodi eu hamcanion eu hunain i weithio tuag atynt a chydnabod pa fath o gefnogaeth a fydd yn eu cynorthwyo i ganfod eu datrysiadau eu hunain i anawsterau.

Mae ein pwyslais ar feithrin perthnasoedd ymddiriedus, cadarnhaol â theuluoedd yn cynyddu ymgysylltiad, ac yn rhoi gwell cynnydd a chanlyniadau. Ar ddechrau’r ymyrraeth byddwn yn mesur sefyllfa’r teulu ac yn penderfynu ar y dull gorau o symud ymlaen gydag aelodau’r teulu. Gall hyn fod ar sawl ffurf, gan gynnwys meithrin sgiliau magu plant, cynyddu gwytnwch iechyd meddwl, a chefnogaeth gyda chamddefnyddio sylweddau, rheoli emosiynau a mynd i’r afael â chamdriniaeth ddomestig.

Ymyrraeth gynnar ac atal

Sefydlwyd y tîm yn 2022, a bellach mae gennym werth dwy flynedd o ddata y gellir eu cymharu sy’n dangos canlyniadau cadarnhaol a hefyd gwelliant o’r flwyddyn gyntaf i’r ail flwyddyn. Mae rhwng 40% a 50% o atgyfeiriadau yn dod gan Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol Conwy, a’r gweddill gan dimau mewnol a ffynonellau eraill. Yn ystod y flwyddyn gyntaf buom yn gweithio gyda 240 o unigolion o 70 o deuluoedd, a chododd hyn i 279 o unigolion o 81 o deuluoedd yn yr ail flwyddyn. Y pryderon amlaf yn ystod y ddwy flynedd oedd ymddygiad heriol, iechyd meddwl rhieni, teuluoedd yn chwalu ac iechyd meddwl plant.

Mewn perthynas â chanlyniadau, mae’r tabl isod yn dangos ein bod yn cefnogi mwy o deuluoedd dros amser, ac mae eu canlyniadau wedi gwella. Cafwyd gostyngiad yn nifer y teuluoedd lle mae ymgysylltiad yn broblem – yr ydym yn arbennig o falch am hynny, gan fod hwn yn faes y cydnabuwyd bod angen ei wella. Mewn gwirionedd, mae gennym ddatblygiadau ar waith sydd â’r nod o ostwng hyn ymhellach.

Blwyddyn 1Blwyddyn 2
Nifer y teuluoedd7081
Nifer yr unigolion240279
Risgiau wedi lleihau52%61%
Sefyllfa wedi sefydlogi24%17%
Risgiau wedi cynyddu0%2%
Ddim yn ymgysylltu / ymgysylltu’n rhannol24%20%
Heb neilltuo i Weithiwr Cymdeithasol 6 mis ar ôl cau80%87%

Ffiniau Gofal

Rhwng mis Ebrill 2024 a chanol mis Rhagfyr 2024 cefnogwyd 339 o unigolion gennym o 104 o deuluoedd lle’r oedd risg wirioneddol bod plant yn mynd i’r system ofal. Yn ystod y cyfnod hwnnw cwblhawyd ymyriadau gyda 63 o deuluoedd, a dangosir y canlyniadau a gyflawnwyd ganddynt yn y siart gylch isod:

Canlyniadau ymyriadau gyda thîm Ffiniau Gofal, Ebrill – Rhagfyr 2024

Panel Ymyrraeth Gynnar a Phanel Ffiniau Gofal

Mae Tîm Cryfhau Teuluoedd yn cydlynu ac yn cadeirio paneli amlasiantaeth yn wythnosol, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol o asiantaethau. Bydd ymarferwyr yn dod ag achos ger bron y panel er mwyn cael lle i fyfyrio ymysg gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, a bydd pob un yn rhoi ymateb a barn wahanol ar yr achos.

Mae’r fformiwleiddiad hwn ar y cyd yn digwydd drwy ddefnyddio fformat Arwyddion Diogelwch, gan nodi cryfderau a risgiau, cyn archwilio pa gefnogaeth neu ymyriadau ychwanegol a allai fod yn fuddiol. Yr ydym yn ceisio llais y teulu i sicrhau ei fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Medi 2024, trafododd y panel 38 o achosion, a arweiniodd at atgyfeiriadau at dimau Awdurdodau Lleol eraill a sefydliadau cefnogaeth allanol. Mae arolwg dienw, a gwblhawyd gan ymarferwyr a ddaeth ag achosion ger bron y paneli, yn dangos buddion dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd yn y modd hwn:

Gall gwahanol asiantaethau weld achosion o wahanol safbwynt, a chynnig cyngor arbenigol.

Derbyniodd unigolyn ifanc y bûm yn gweithio ag o gefnogaeth gan weithiwr cymdeithasol a gwasanaethau eraill o ganlyniad i’r cyfarfod.

Daeth pob cyfarfod panel y bûm i’n bresennol ynddo i ganlyniad cadarnhaol yn yr ystyr bod yr holl asiantaethau wedi dod at ei gilydd yn barchus ac yn frwdfrydig i geisio cael canlyniad – mae rhannu problem yn ei haneru.

Gwellodd ymddygiad, cyrhaeddiad a phresenoldeb y dysgwr yn yr ysgol, a chafodd hyn effaith gadarnhaol gartref. Deilliodd hyn o’r gwaith a wnaed drwy ymyrraeth gynnar.

Mae yna bob amser ganlyniad cadarnhaol wedi bod, mae’n ffordd wych o gael mynediad at gefnogaeth a chyngor.

Datblygu’r tîm ac ein gweithgareddau

Yr ydym wedi croesawu cydweithwyr newydd yn ddiweddar i gynorthwyo gyda:

  • Niwrowahaniaeth o fewn teuluoedd (naill ai’r rhiant neu’r plentyn).
  • Cefnogaeth cyn geni i rieni sy’n disgwyl babi.
  • Cefnogaeth therapiwtig, emosiynol ac ymarferol i rieni y mae eu plant wedi eu cymryd i ofal yr awdurdod lleol.

Yr ydym yn rhedeg grŵp ar gyfer merched yn eu harddegau, sy’n canolbwyntio at feithrin perthnasoedd, lleihau ymddygiadau o gymryd risgiau ac annog ymgysylltiad cadarnhaol. Hoffem sefydlu grwpiau yn ymwneud â chamfanteisio ar blant yn rhywiol a throseddol a chamddefnyddio sylweddau; cefnogi mamau i wella eu cysylltiadau cymunedol i drechu unigrwydd ac ynysiad; a grŵp i rymuso tadau yng Nghonwy.

Adborth

Gofynnwyd i deuluoedd gwblhau arolwg dienw ar-lein i rannu eu safbwyntiau ar yr ymyrraeth a dderbyniasant gennym, a dywedasant wrthym:

Dynes hyfryd. Allaf i ddim diolch ddigon iddi am ei holl gefnogaeth. Mae Vicky’n gredyd i’ch tîm. Heb air o gelwydd, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu dod drwy’r broses yma oni bai amdani. Mae hi wedi gwrando arnaf i. Mae hi wedi rhoi cyngor da i mi. Mae hi wedi fy helpu i weld pethau nad o’n i wedi meddwl amdanyn nhw.

Mae Georgia’n gyfeillgar iawn, yn gymwynasgar ac yn agos atoch bob amser, a bydd bob tro’n ffonio’n ôl os ydw i’n gadael neges.

Roedd Cara’n wych. Roedd mor hawdd cyfathrebu efo hi. Fe gynigiodd fewnwelediadau gwerthfawr i’r materion yr oeddem ni’n eu trafod.

Roedd Nelly bob amser yn barod iawn gyda’i gefnogaeth a’i gyngor i’r teulu cyfan. I ddweud y gwir, mae ei gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy, a hebddo fo fyddem ni ddim wedi gwneud unrhyw gynnydd o gwbl.

Rhoddir y teuluoedd wrth wraidd yr ymyrraeth, ac maent yn cael budd o hynny. Gan ganolbwyntio ar ganlyniadau’r arolwg a dderbyniwyd gennym rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024, gofynnwyd i deuluoedd ddweud wrthym am welliannau mewn meysydd allweddol o’u bywydau:

  • Lle bo’n berthnasol, dywedodd 94% fod eu hiechyd meddwl wedi gwella
  • Dywedodd 100% fod materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau wedi gwella
  • Dywedodd 83% fod eu perthynas â’u partner wedi gwella
  • Dywedodd 94% fod eu perthynas â’u plentyn wedi gwella o ganlyniad i’r ymyrraeth
  • Teimlai 95% fod cyfathrebu wedi gwella
  • Teimlai 92% o’r teuluoedd yn fwy diogel
  • Gwellodd ansawdd bywyd 93% ohonynt
  • Gwellodd trefn ddyddiol a ffiniau ar gyfer 100% o’r cyfranogwyr
  • Teimlai 100% eu bod yn gallu ymdopi’n well â heriau bywyd
  • Dywedodd 96% eu bod wedi cyflawni rhai o’u hamcanion neu eu hamcanion i gyd.

Mae adborth yn rhoi hwb i forâl ac yn amlygu unrhyw feysydd i’w gwella, ond mae hefyd yn cyfoethogi data er mwyn cynorthwyo gydag ariannu yn y dyfodol, drwy ddangos gallu’r tîm i wneud gwahaniaeth sylweddol ym maes ymyrraeth gynnar.

Gall sesiynau un i un ar adeg dirwyn i ben fod yn fwy pwerus nag adborth arolwg hyd yn oed, fel mae’r astudiaeth achos ganlynol yn ei ddangos:

Mae gweithio gyda Thîm Cryfhau Teuluoedd wedi fy helpu i gael y plant i’r ysgol bob dydd a bod yn hapus erbyn hyn. Rydw i’n edrych ymlaen at bethau, a doedd gen i ddim gobaith cynt. Rydw i’n dal i beidio ag yfed alcohol. Doedd gen i ddim nod, ac rŵan mae gen’ i – rydw i’n gweithio tuag at y nod o yrru, ac rydw i’n cael ffug brofion ar hyn o bryd yn ystod fy ngwersi. Rydw i wedi pasio fy mhrawf theori ac mae hyn wedi bod yn nod personol mawr. Pan fydd y plant yn mynd i’r ysgol rwyf eisiau swydd gyda hen bobl mewn gofal. Rydw i wedi fy nghanfod fy hun eto. Ro’n i’n teimlo fy mod i ar goll. Dydy fy mhlant i ddim ar y Gofrestr Amddiffyn Plant bellach. Roedd yn help siarad efo rhywun (Tîm Cryfhau Teuluoedd) i gael bwrw fy mol.

Mae bywyd yn fwy digynnwrf rŵan. Rydw i’n teimlo mwy o gyffro am bethau. Rydw i wrth fy modd bod yn fam ac rwy’n edrych ymlaen at ddeffro fy mhlant yn y bore rŵan. Pan o’n i’n yfed, fe gollais i fi fy hun. Dim ond goroesi o’n i gynt. Rydw i wedi fy nghanfod fy hun fel mam eto ar ôl rhoi’r gorau i yfed a gwneud y gwaith efo Tîm Cryfhau Teuluoedd, ac mae gen’ i berthynas well efo Gofal Cymdeithasol hefyd. Trysorwch eich bywyd gyda’ch plant. Rydw i’n dal i deimlo cywilydd ond rydw i wrth fy modd bod yn fam eto. Fe’m collais fy hun o ddifrif o’r blaen. Gweithiwch yn galed am bethau.

Pan fyddwch chi eisiau rhywbeth, rhowch fwy o ymdrech. Ro’n i wedi cyrraedd y pen y tro yma cyn [cael cymorth gan] y Tîm Cryfhau Teuluoedd a’r Gweithwyr Cymdeithasol; rydw i’n gwybod nad bai’r plant ydy o – roeddwn i’n difetha eu bywydau, a dydy o ddim yn deg. Yr holl bethau bach efo nhw – rydw i’n mwynhau’r rheiny. Rydw i eisiau i famau glywed hyn: mae’n anodd bod yn fam ac rydym yn dod yn fam lawer o weithiau. Rydw i wrth fy modd bod yn fam – rydw i wedi fy nghanfod fy hun eto fel mam.

Er bod data meintiol yn ddefnyddiol, nid yw’n dweud yr holl stori’n aml. Mae clywed storïau personol o gymorth i egluro pam nad yw rhai dulliau gweithredu wedi gweithio’n iawn, neu pam na chafwyd cyfradd lwyddiant o 100%. Byddwn hefyd yn ceisio aralleirio rhai o gwestiynau’r arolwg er mwyn cael ymatebion mwy ystyrlon.


Datblygu ein Tîm Unigolion Cysylltiedig

Nod Tîm Unigolion Cysylltiedig yw cadw plant mewn amgylcheddau gofalu cyfarwydd. Yn adroddiad y llynedd trafodwyd ein hamcanion o gyflwyno hyfforddiant, sicrhau buddion cael Gweithiwr Unigolion Cysylltiedig ychwanegol, a meithrin cyswllt â Chanolfannau Teuluoedd Conwy ar gyfer ymyrraeth gynharach a chefnogaeth i deuluoedd.

Yn anffodus nid ydym wedi gallu darparu’r hyfforddiant pwrpasol yr oeddem wedi ei fwriadu, yn bennaf oherwydd bod y ddynameg o gwmpas Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus ac achosion llys yn newid, yn ogystal â heriau staffio. Gyda thîm mwy sefydlog, gobeithiwn allu darparu hyfforddiant yn y flwyddyn i ddod.

Yr ydym yn gweithio’n agos â thimau gofal plant, gan gefnogi gydag asesiadau hyfywedd teuluoedd. Cafwyd cynnydd sylweddol yn y darpariaethau ar gyfer cymeradwyo gofalwyr maeth dros dro, sy’n annog yr arfer i blant aros gyda theulu yn ystod achos llys; gelwir y rhain yn ddarpariaethau Rheoliad 26.

Mae’r gweithiwr ychwanegol yr ydym wedi ei recriwtio wedi gallu cefnogi gyda goruchwylio’r darpariaethau hyn, gydag asesydd (Gweithiwr Cymdeithasol) hefyd wedi ei neilltuo i’r achos er mwyn goruchwylio. Gwelsom effaith gadarnhaol ar ein gallu i gynorthwyo teuluoedd i ddeall y ddarpariaeth gofal amgen hon a’u goruchwylio’n briodol wrth iddynt ymgymryd â rôl newydd o fewn eu teulu neu gylchoedd ffrindiau, sy’n gallu bod yn anodd. Mae’r adborth gan deuluoedd wedi bod yn gadarnhaol, a dywedir bod yr ail weithiwr wedi bod o gymorth wrth iddynt lywio eu ffordd i’w rolau a threfn ddyddiol newydd ar gyfer maethu.

Mae’r ail Gydlynydd Unigolion Cysylltiedig a recriwtiwyd gennym wedi bod yn fuddiol iawn, gyda mwy o bobl yn elwa oherwydd y cynnig rhagweithiol o gefnogaeth, mwy o bresenoldeb yn y gymuned a mwy o achosion cymhleth yn cael eu cwblhau ar orchmynion preifat.

Parhawn i weld amserlenni achosion llys gydag asesiadau yn heriol. Mae gennym lai o amser i gwblhau adroddiadau cynhwysfawr, a allai beri’r risg yr arweinir at fethiannau yn y dyfodol. Defnyddiwn y sgiliau yn y tîm i lywio ein ffordd o gwmpas y broblem hon ac yr ydym yn cynnal gweithdai asesu i rannu sgiliau a themâu ar draws ein llwyth gwaith.

Wrth symud ymlaen byddwn yn nodi cynllun hyfforddi addas i hyrwyddo tîm Unigolion Cysylltiedig a’r rolau o fewn y tîm er mwyn sicrhau bod neges gofalwyr sy’n aelodau o’r teulu ac unigolion cysylltiedig yn cyrraedd y cyhoedd yn ehangach. Bydd hyn o gymorth i allu nodi a chwblhau asesiadau mewn achosion gofal mewn da bryd a chynnig lleoliadau teuluol i blant yn gynt. Bydd hyn hefyd yn anogaeth i gyflawni gorchmynion parhaol a phreifat fel canlyniadau llwyddiannus i blant a tharfu llai ar eu bywydau.


Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch newydd ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal

Dros y flwyddyn adrodd ddiwethaf cawsom fudd o Wasanaeth Cefnogaeth Uwch o fewn Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal; menter ar y cyd rhwng gwasanaethau plant Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw gwella cyfraniad arbenigedd iechyd meddwl ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan y Cyngor, gan gynyddu sefydlogrwydd lleoliadau a sicrhau bod plant yn y lleoliad iawn ar gyfer eu hanghenion datblygiadol. Gall hyn olygu rhoi cam ymlaen i leoliadau therapiwtig, preswyl, a cham yn ôl ohonynt pan fo’n briodol, yn ogystal â darparu a chynnal lleoliadau gofal maeth.

Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ar gael i Weithwyr Cymdeithasol er mwyn cefnogi anghenion y plant y maent yn gweithio gyda hwy, ac mae’n cynnig:

  • Ymgynghoriadau
  • Hyfforddiant a datblygu
  • Cyfraniadau at asesiadau
  • Asesiadau annibynnol i ddarparu gwybodaeth ar gyfer lleoliadau, gofal a’r math o gyfraniad therapiwtig a fyddai’n briodol
  • Mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau iechyd eraill
  • Goruchwyliaeth o waith achos cydweithwyr gwaith cymdeithasol
  • Darpariaeth safbwynt seicolegol i’r rhwydwaith ar gais

Mae cydweithwyr o’r Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch yn gweithio’n agos â gwasanaethau eraill o Iechyd ac Addysg i hwyluso mynediad amserol i gefnogaeth. Yr ydym wedi canfod bod cysylltiadau partneriaeth yn galluogi atgyfeiriadau cyfoethog ac ystyrlon at wasanaethau, ac ynghyd â chefnogaeth gan y Prif Seicolegydd maent yn sicrhau bod gan Blant sy’n Derbyn Gofal fynediad at y driniaeth gywir cyn gynted â phosibl.

Mae ymatebion i arolwg gwerthuso wedi dangos bod Gweithwyr Cymdeithasol, Gofalwyr Maeth a rhieni’n fodlon â’r gwasanaeth y maent wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch (100% o’r ymatebwyr), a dywedodd 49 o’r 56 o ymatebwyr fod y gefnogaeth a dderbyniasant wedi gwella sefydlogrwydd lleoliad. Mae dadansoddiad pellach wedi cadarnhau cryfderau’r gwasanaeth, gan gynnwys ei hygyrchedd am ymgynghoriad cychwynnol a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer plant, gofalwyr a staff. Gwelir bod gan y prosiect weledigaeth o ran sut y gall wella canlyniadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, gan weithio’n agos â budd-ddeiliaid, a cheisio canfod ffyrdd o ddatblygu hyder a sgiliau staff.

Mae wedi darparu gwell mewnwelediad i’r ffordd yr ydym yn gweithio’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc, yn ogystal â gallu archwilio gwahanol strategaethau a lefel o gefnogaeth. Mae wedi cryfhau ein cysylltiadau â gweithwyr iechyd proffesiynol a chaniatáu lle myfyriol i archwilio meysydd o angen a’r ffordd yr ydym yn rheoli’r pryderon sydd gennym o bosibl mewn ffordd fwy therapiwtig.


Data Allweddol

  • O nifer yr ymweliadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a wnaed yn ystod 2023/2024, cwblhawyd 1,145 (92.3%) ohonynt o fewn amserlenni statudol. Mae hyn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 73.4%.*

*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023/2024.

  • Fel y gwelir yn y graff uchod, cyfanswm y Cynigion Rhagweithiol o eiriolaeth ar gyfer plant yn ystod 2023/2024 oedd 494. Yr oedd hyn yn ostyngiad o’r flwyddyn flaenorol – cafwyd 566 yn 2022/2023.*
  • Yng Nghonwy y cafwyd y nifer uchaf o Gynigion Rhagweithiol o eiriolaeth ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn eto, ac yr oedd yn 16.2% o’r cyfanswm yng Nghymru.

*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023/2024.

Gwasanaethau Oedolion

Sicrhau fod pobl hŷn yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel ac yn amserol

Buom yn gweithio gyda’n partneriaid Iechyd i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu rhyddhau o leoliadau ysbyty acíwt a chymunedol mewn modd diogel ac amserol. Arweinir y gwaith gan fentrau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ryddhau pobl o ysbytai, ac mae perfformiad Conwy bellach ar gael i’w weld ar dudalennau gwe StatsCymru.

Mae data o gyfrifiad mis Rhagfyr 2024 o’r ddau ysbyty acíwt (Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd), y pum ysbyty cymunedol ac unedau iechyd meddwl yn dangos bod cyfanswm y cleifion o Gonwy, a oedd yn ffit yn glinigol, y cafwyd oedi wrth eu rhyddhau yn 36, ac o’r rheiny:

  • Nid oedd unrhyw gleifion yn disgwyl neilltuad gwaith cymdeithasol nac asesiad gwaith cymdeithasol
  • Nid oedd unrhyw gleifion yn disgwyl am gael dechrau pecyn gofal a chymorth ailalluogi
  • Yr oedd dau glaf yn disgwyl am gael dechrau pecyn gofal cartref
  • Yr oedd pum claf yn disgwyl am leoliad preswyl (yn aml yr oedd pobl yn disgwyl am gael symud o’r sir i fod yn nes at deulu)
  • Nid oedd saith claf yn gallu dychwelyd i’w cartref gan nad oedd yn addas mwyach.

Yng nghyfarfod Blaenoriaeth Weinidogol 1 Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr, yr oedd data a rannwyd â’r grŵp yn dangos y canlynol am y rhanbarth:

  • Yr oedd statws yr holl dargedau uchelgais yn ‘wyrdd’
  • Bu gostyngiad sylweddol yng nghyfanswm yr achosion o oedi o fis Hydref i fis Tachwedd 2024, o 326 i 283
  • Bu gostyngiad hefyd yn nifer y diwrnodau a oedd yn cynnwys oedi, o 11,104 i 9,522
  • Aethom y tu hwnt i’r targed ar gyfer lleihau oedi, a gwnaethom gynnydd da wrth leihau oedi wrth asesu gymaint â 13% a lleihau’r diwrnodau o oedi gymaint ag 16%
  • Yr oedd gwelliannau yng nghyfanswm yr oedi, diwrnodau o oedi, ac oedi wrth asesu ar draws gwahanol feysydd yr Awdurdod Lleol

Parthed cyfanswm yr oedi’n gyfan gwbl o gymharu â ffigwr llinell sylfaen mis Medi 2024, llwyddodd Conwy i gael y gostyngiad mwyaf (-12) o ran oedi wrth ryddhau pobl ledled rhanbarth gogledd Cymru.

Her 50 Niwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig, Llywodraeth Cymru

Bu’r Byrddau Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn cydweithio i ddefnyddio cynllun gweithredu deng pwynt i gefnogi mwy o bobl sydd wedi profi oedi hir yn yr ysbyty i ddychwelyd adref. Nod yr her oedd sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i rannu a dysgu o arferion gorau er mwyn gwella perfformiad ein system a sicrhau bod y gefnogaeth iawn ar gael gennym i gynorthwyo pobl i aros yn iach neu wella gartref, neu yn y gymuned. Derbyniodd bob Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol Her 50 Niwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig, a osodwyd gan Weinidogion, a bu’n rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn. Mae’r her yn targedu’n benodol y bobl hynny sydd wedi bod yn disgwyl hwyaf i adael yr ysbyty.

Gan weithio gyda’n cydweithwyr Iechyd, yr oeddem yn gallu dweud bod yr arhosiad hwyaf yn yr ysbyty gan unigolyn yng Nghonwy wedi lleihau o fwy na 100 niwrnod i 70+ o ddiwrnodau. Canfuwyd bod pobl yn byw yn ardal wledig Abergele yn fwy tebygol o brofi oedi yn yr ysbyty, wrth ddisgwyl pecyn gofal.

Defnyddiodd Conwy gyllid Her 50 Niwrnod y Gaeaf i gynnig taliad uwch i asiantaeth gofal cartref sydd wedi recriwtio staff yn llwyddiannus ac sy’n darparu gofal a chymorth ym mhentrefi gwledig Bylchau, Llansannan a Llanefydd. Mae hyn yn ei dro wedi rhyddhau capasiti yn ein tîm ailalluogi mewnol.

Nodi a chyflawni gwelliannau

Dangosai’r data fod Conwy wedi gostwng nifer y bobl sydd â’r arosiadau hwyaf pan oeddynt yn ffit yn glinigol. Yr ydym wedi canfod bod yr arosiadau hwyaf yn digwydd o ganlyniad i achosion cymhleth, lle y penderfynir ar ganlyniad cyrchfan i ryddhau mewn llys barn.

Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu gwella ei berthynas â darparwyr gofal preswyl a nyrsio a darparwyr gofal cartref. Er mwyn gallu rhyddhau mewn modd amserol, cydnabuwyd ei bod yn rhaid i’r darparwyr ymddiried yn yr asesiadau a dderbyniwyd gan yr ysbyty. Ar hyn o bryd mae rheolwyr cartrefi gofal a nyrsio yn ymweld â’r ward i gynnal eu hasesiad eu hunain, ac mae hyn yn arwain at oedi wrth ryddhau. Mae cartrefi gofal a nyrsio’n gyndyn o dderbyn pobl wedi eu rhyddhau o’r ysbyty ar ddydd Gwener a thros y penwythnos. Bydd Conwy’n cefnogi’r Bwrdd Iechyd wrth geisio meithrin y berthynas hon o ymddiriedaeth.

Y cynnydd a wnaed gennym ers y llynedd

Gallwn ddweud bod saith o bobl wedi profi oedi am becyn cymorth ailalluogi ar ddiwrnod y cyfrifiad drwy gydol 2024, a’r ffigur ar gyfer mis Rhagfyr 2024 oedd dim.

Parhawn i fonitro nifer y bobl sy’n trosglwyddo o ysbyty yn uniongyrchol i gartref gofal neu nyrsio yn hytrach na dychwelyd i’w cartref eu hunain. Yr ydym yn cefnogi’r unigolyn drwy asesiad gofal cymdeithasol cadarn a chymryd rhan mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol tra mae’r unigolyn yn yr ysbyty.

Defnyddio technoleg mewn gofal

Yn rhan o’n Gwasanaeth Cynnydd yr ydym wedi gosod technoleg gynorthwyol yn ein canolfan asesu a darparu arddangosiadau i gydweithwyr, gan eu hannog i ystyried y buddion posibl i’r unigolion y maent yn eu hasesu. Mae technoleg gynorthwyol yn ein galluogi i hybu ymyriadau ataliol a chosteffeithiol a all gael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd.

Mae ein Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol wedi bod yn gweithio gydag unigolion a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth i hybu eu hannibyniaeth drwy ddatblygu sgiliau a gwneud defnydd o dechnoleg gynorthwyol lle bo’n bosibl. Mae astudiaeth achos bwerus wedi ei nodi isod.

Mae aelodau o’r tîm a chydweithwyr mewn timau eraill wedi gwneud defnydd o’r ganolfan asesu – eiddo hygyrch, wedi ei addasu, sy’n hwyluso’r gwaith o gwblhau asesiad Therapi Galwedigaethol o anghenion unigolyn, ac o addasrwydd offer cyn ymrwymo i’w prynu. Ein nod, os yw capasiti yn caniatáu, yw darparu mwy o arddangosiadau i ymarferwyr, unigolion a theuluoedd yn 2025.

Astudiaeth Achos

Mae C yn ddyn ifanc 21 mlwydd oed â microseffali, anabledd dysgu, anhwylder cydsymud datblygiadol, ac ymddygiad heriol. Mae’n byw gartref gyda’i fam a’i frawd, ac mae’n mynd i Goleg Llandrillo o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Cynhaliwyd asesiad Therapi Galwedigaethol gennym i asesu gallu C i deithio’n annibynnol a chroesi ffyrdd yn ddiogel. Dangosodd yn syth ei fod yn gallu gwneud hyn, ond yr oedd diffyg hyder. Yr oedd angen adborth a sicrwydd yn gyson arno, ac nid oedd eisiau siomi unrhyw un.

Cwblhawyd asesiad risg a chytunwyd ar gynllun gofal y byddem yn ei adolygu ar y cam chwe wythnos neu ba bryd bynnag y byddai newid mewn amgylchiadau. Mabwysiadwyd dull o gymryd camau bychain, gan symud ymlaen i’r cam nesaf pan oedd C yn teimlo’n hyderus i wneud hynny.

Defnyddiwyd technoleg gennym, fel ffôn clyfar ac apiau, i oresgyn rhwystrau, a chytunwyd ar strategaethau i’w dilyn pe bai rhywbeth yn mynd o’i le. Yr oedd yr ap yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam yn ystod ei siwrnai, a lleoliadau byw ar gyfer bysiau. Yr oedd hyn yn darparu cyfarwyddiadau syml ac arweiniad i C er mwyn iddo deithio’n annibynnol gyda hyder. Gallai’r coleg a theulu C weld yr hyn yr oedd yn gallu ei wneud. Yr oedd cysondeb yn allweddol i wneud cynnydd.

Ar ôl deuddeg sesiwn dros gyfnod o bedwar i bum mis, cyflawnodd C ei nod ac mae bellach yn gallu dal dau fws gwahanol i’r coleg yn annibynnol. Mae ei athrawon yn y coleg wedi cydnabod ei fod wedi gwella, a chan ei fod wedi profi y gall bellach ddefnyddio cludiant cyhoeddus, mae’n gymwys ar gyfer cwrs Paratoi at Weithio. Mae hyder C wedi cynyddu’n sylweddol ac mae gwelliant enfawr wedi bod yn ei berthynas â’i fam. Nod newydd C yw sicrhau cyflogaeth ac ennill ei arian ei hun.


Cefnogaeth iechyd meddwl

Yn adroddiad y llynedd gosodasom her i ni ein hunain i wella cynnig y Coleg Adfer ar gyfer pobl sy’n dioddef o salwch meddwl; yr oeddem yn ymwybodol bod ein perthnasoedd ag asiantaethau partner yn hanfodol ar gyfer sicrhau darpariaeth gyflawn, ddi-dor a bywiog.

Yr ydym yn falch o gael dweud bod y Coleg Adfer wedi ei ailfrandio yn Adferiad Creadigol Hadau Newid, wrth i ni ganolbwyntio ar ddarparu ystod o sesiynau gweithgaredd sy’n mynd i’r afael â materion allweddol ym mywyd unigolyn.

Drwy gelf, chwarae a gweithgareddau, gall y cyfranogwyr ganfod ffyrdd o wella eu lles meddyliol. Y nod yw cynnig gobaith, dewis a chyfle i bobl adfer eu bywydau y tu hwnt i label salwch meddwl a chael diwrnod llawn pwrpas ac ystyr. Mae yna amserlen fisol, a chynigir un gweithgaredd o leiaf o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gall y gweithgareddau hyn fod yn grefftau ac ysgrifennu dyddlyfr, gweithgareddau awyr agored fel cerdded, e-feicio a physgota, sesiynau lles a thyfu pethau yn ein rhandir.

Yr ydym wedi ffurfio partneriaeth â’r Tîm Diwylliant ar brosiect a ariannwyd gan Gyngor y Celfyddydau, a chydag Addysg Oedolion Cymru sy’n darparu sesiynau celf wythnosol, a chomisiynwyd artistiaid unigol i gynnig ystod o grwpiau perthnasol. Yr ydym yn cael budd o gael gwirfoddolwr sy’n darparu’r grŵp pysgota ac mae un o’n cyfranogwyr wedi llwyddo i ddod yn fentor cymheiriaid.

Mae’r grwpiau wedi ennill eu plwyf ac maent yn derbyn adborth cadarnhaol:

Fe wnes i geisio cyflawni hunanladdiad tra’r oeddwn yn yr ysbyty a doeddwn i ddim mewn lle da o gwbl. Ers i mi fod yn mynd i Hadau Newid, rwyf wedi dod yn fy mlaen lawer mwy nag y byddwn i erioed wedi ei ddychmygu!

Mentor Cymheiriaid

Rydw i wedi derbyn cefnogaeth ac ymateb cadarnhaol gydol yr amser. Rydw i wir yn mwynhau gweithio gyda’r grwpiau a’r staff. Mae’r cysyniad o gael gweithgareddau dyddiol strwythuredig, gyda’r holl adnoddau angenrheidiol, yn sicrhau ymrwymiad gan y cyfranogwyr ac mae presenoldeb yn hynod o uchel a chyson.

Gwirfoddolwr

Rydw i wedi cwrdd â phobl newydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Rydw i’n hoffi siarad â phobl yn y grŵp oherwydd mae ganddyn nhw broblemau tebyg i fy rhai i. Rydw i’n gobeithio dod yn fwy ffit wrth wneud yr ymarfer corff. Fe fyddaf i’n dal i gael dyddiau pan fyddaf i’n teimlo’n flinedig a gorbryderus, ac weithiau dydw i ddim eisiau mynd allan, ond pan fyddaf i yno rydw i’n teimlo’n dda.

Cyfranogwr

Mae hwn yn wasanaeth sy’n datblygu, ac yr ydym wedi gweld bod ar bobl angen teimlo’n gartrefol ac ymddiried yn y tîm darparu cyn gallu meddwl am gwrs. Mae’n rhaid i ni atgyfnerthu’r dull llwybr fel y gellir atgyfeirio cyfranogwyr ar yr amser iawn ac mewn niferoedd digon uchel i wneud y cwrs yn fuddiol a dichonadwy. Mae’n rhaid i ni hefyd grwpio ein rhwydwaith o bartneriaid, a chydbwyso darpariaeth ystod o sesiynau dros yr wythnos gyda’n capasiti i ddarparu rhaglen ystyrlon a chyson.

Bydd sicrhau cyllid hirdymor i barhau â’n gwaith o ehangu a gwella Hadau Newid yn sicrhau bod y rhaglen yn cyrraedd mwy o bobl ac yn caniatáu iddynt wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau.


Datblygu gweithgareddau lles newydd ledled y sir

Mae ein Tîm Lles Cymunedol wedi cael blwyddyn brysur arall hyd yma, yn cefnogi unigolion yng Nghonwy i gymryd rhan mewn gweithgareddau a grwpiau yn eu cymuned leol, drwy atgyfeiriad. I sicrhau ein bod yn parhau i siapio gwasanaethau yn unol ag anghenion pobl, byddwn yn derbyn adborth yn rheolaidd drwy gyfres o arolygon i gasglu adborth.

Gofynnir i bawb sy’n mynd i weithgareddau a gynhelir gan y tîm i werthuso eu profiad a dweud wrthym beth fyddent yn hoffi cymryd rhan ynddo nad yw ar gael ar hyn o bryd iddynt. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded, sgyrsiau a stondinau codi ymwybyddiaeth.

Rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2024:

  • Derbyniwyd 251 o ffurflenni adborth gan bobl a gymerodd ran mewn grwpiau a gweithgareddau
  • Derbyniwyd 39 o ymatebion gan unigolion a gysylltodd â’r tîm am wybodaeth, cyngor a chymorth
  • Derbyniwyd 162 o ffurflenni ymgynghori gan bobl yn dweud wrthym ba weithgareddau y byddent yn hoffi cymryd rhan ynddynt a faint y byddent yn fodlon ei dalu

Yr oedd yr ymatebion a ddychwelwyd yn dweud wrthym fod:

  • 98% o’r bobl a wnaeth yr arolwg wedi nodi bod gwelliant wedi bod yn eu hiechyd a lles emosiynol
  • 76% o’r bobl yn nodi eu bod yn teimlo’n llai ynysig
  • 100% o’r bobl yn nodi eu bod yn cael profiad da yn ein gweithgareddau
  • 98% o’r bobl yn nodi eu bod yn fodlon gyda’r wybodaeth yr oeddem yn ei darparu iddynt

Gweithgaredd a grŵp o bobl hyfryd.

Therapiwtig iawn, yn cael ei gynnal gan bobl gyfeillgar

Rydw i wedi mwynhau hyn yn fawr iawn, mae’n braf mynd allan a chyfarfod pobl a chael fy nifyrru

Fe gefais i daith gerdded dda iawn, yn siarad efo’r bobl eraill a oedd yno. Cyngor da a chyfnewid manylion

Yr ydym yn dadansoddi’r data a dderbyniwn o arolygon yn fisol a byddwn yn archwilio unrhyw geisiadau am weithgareddau newydd i’w datblygu, lle mae yna ddigon o alw i wneud hynny. Yr ydym yn ymchwilio i ddarpariaeth gyfredol i sicrhau na fydd unrhyw ddyblygu gyda darparwyr eraill, ac yn ystyried nifer y bobl sy’n gofyn am weithgaredd penodol, faint maent yn fodlon ei dalu, a pha ddyddiau, amseroedd a lleoliadau a ffefrir, cyn penderfynu a yw’n ddichonadwy archwilio ymhellach.

Dim ond gweithgareddau y teimlwn fod ganddynt siawns dda o fod yn hunangynaliadwy yn dilyn cefnogaeth neu gyfraniad cychwynnol gan y Tîm Lles Cymunedol y byddwn yn eu datblygu.

Yn dilyn ymgynghori a chael adborth, yr ydym wedi datblygu’r gweithgareddau a restrir isod eleni, ac mae’r cyfan bellach yn rhedeg yn hunangynaliadwy:

  • Sesiynau Canu a Gwenu yn Llandrillo-yn-Rhos a Llanrwst
  • Pêl-droed Cerdded yn Llandrillo-yn-Rhos
  • Clwb cerdded ym Mae Cinmel
  • Pêl-rwyd ym Mhenmaenmawr
  • Celf ddotiau yn Llandudno
  • Disgo dydd i bobl dros 50 ym Mae Colwyn
  • Darllen barddoniaeth yng Nghonwy
  • Grŵp rhedeg yn Neganwy

Nodwyd hefyd bod pobl yn gofyn am weithgareddau sydd eisoes ar gael iddynt yn yr ardal. Byddwn, felly, fel tîm yn parhau i wella’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl ynglŷn â bylchau yn y ddarpariaeth. Wrth symud ymlaen byddwn yn sicrhau ein bod bob amser yn defnyddio’r ffurflenni adborth yn rhan o’r sgwrs honno, fel y gallwn godi ymwybyddiaeth o’n hamserlen weithgareddau a chyfeirio unigolion at ddarpariaeth gyfredol cyn iddynt ofyn amdanynt.

Y gefnogaeth sydd ar gael mewn Canolfannau Teuluoedd

Mae ein Canolfannau Teuluoedd yn darparu lle diogel, cynnes a chroesawgar i deuluoedd gael cefnogaeth, ymlacio, a chyfarfod teuluoedd eraill, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp fel grwpiau Synhwyraidd, Aros a Chwarae, a grwpiau Paned a Sgwrs.

I’r teuluoedd sy’n mynd yno, mae’r grwpiau’n amhrisiadwy, oherwydd maent yn rhoi cyfle i gyfarfod rhieni a chymheiriaid eraill, amser i chwarae â’u plant, a lle i siarad â staff a all ddarparu arweiniad a gwybodaeth.

Mae’r grwpiau hefyd yn cynnig cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau echddygol manwl, gwella eu lleferydd ac iaith, a dysgu sut i ymwneud ag eraill. Mae’n rhan bwysig o’r datblygiad.

Mae chwarae hefyd yn rhan allweddol o ddatblygiad plant, ac yr ydym yn annog ac yn rhoi cyfleoedd i chwarae yn ein sesiynau.

Clybiau Anffurfiol

Mae ein hystadegau’n dangos bod ein clybiau’n boblogaidd iawn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr ydym wedi cynnal:

  • 41 o glybiau i fabanod, gyda 275 yn bresennol
  • 44 o sesiynau chwarae synhwyraidd, gyda 588 yn bresennol. Mae’r clwb hwn yn rhoi cyfle da i blant sydd ar y llwybr niwrolegol gael chwarae a dysgu, ac i’r rhieni gael cefnogaeth. Yr ydym yn ymwybodol bod hwn yn amser anodd a chythryblus iawn i deuluoedd sy’n disgwyl cael diagnosis.
  • Sesiynau Clwb Ieuenctid Thrive, gydag 88 yn bresennol. Mae hwn yn grŵp hanfodol i bobl ifanc gael cefnogaeth, ac yn rhywle iddynt gael mynd. Yr ydym yn rhedeg hyn mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Ieuenctid.
  • 181 o sesiynau Aros a Chwarae, gyda 2,983 yn bresennol
  • 56 o sesiynau Paned a Sgwrs, gyda 750 yn bresennol

Mae adborth gan y rhai a fu’n bresennol mewn grwpiau yn dangos gwerth gweithgareddau grŵp:

Mae’r grwpiau’n wych i blant gael cymdeithasu a chwarae.

Roedd fy merch fach wrth ei bodd yn cymryd rhan yn y chwarae blêr gyda’i ffrindiau. Roedd yr holl staff yn anhygoel gyda hi.

Mae bod o gwmpas plant eraill wedi helpu hyder fy mhlant yn fawr iawn.

Dechreuodd fy merch chwarae efo plant eraill – dim ond efo fi roedd hi eisiau chwarae cynt. Mae gen’ i gymhelliant pan fydda’ i’n gadael y tŷ, ac awydd i gyfarfod pobl eraill.

Mae fy mab wrth ei fodd yn canu a chwarae yn y grŵp.

Rydw i’n nain, ac mae’n fy helpu i gymysgu gyda rhieni a neiniau a theidiau eraill.

Yr ydym wedi gwrando ar adborth yn gofyn am fwy o grwpiau, ac i ni:

  • Gynnwys canu a hwiangerddi yn y gweithgareddau
  • Sicrhau bod grwpiau’n cael eu trefnu ar wahanol amseroedd ledled y sir, gyda sesiynau yn ystod y bore, y prynhawn a chyda’r nos ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn ystod y dydd
    • Cyflwyno Makaton syml i sesiynau, i sicrhau bod y grwpiau’n gynhwysol i bawb sy’n bresennol, gan gynnwys plant sy’n ddieiriau

Mae gennym hefyd aelod o’r tîm sy’n dysgu Iaith Arwyddion Prydain i’n galluogi i gyrraedd mwy o deuluoedd.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid bob amser yn ystyried cyfleoedd i gydweithio mwy gyda ni, gan fod pobl ifanc yn dweud wrthym fod angen cefnogaeth arnynt a rhywle i fynd.

Yr ydym yn ymgynghori â’r Cyngor Ieuenctid ynglŷn â datblygu prosiectau newydd; er enghraifft, llwyddodd grŵp o bobl ifanc sy’n mynd i Ganolfan Deuluoedd y Dwyrain i gael cyllid i wneud anrhegion Nadolig i bobl hŷn yn yr ardal.


Defnyddio cyllid grant a gwasanaethau’r Trydydd Sector

Sefydlwyd ein tîm Grantiau Gofal Cymdeithasol i atgyfnerthu trefniadau rheoli’r gwahanol grantiau sydd ar gael i ni, a sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o incwm grant, gwerth am arian a chydymffurfiaeth. Yr ydym yn rheoli nifer fawr o grantiau, yn cynnwys:

  • Grant Plant a Chymunedau
  • Cronfa Integreiddio Rhanbarthol
  • Grant Seibiant i Ofalwyr
  • Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol
  • Grant Cymunedau Oed-gyfeillgar
  • Grant Atal Digartrefedd
  • Grant Cymorth Tai (elfen Gofal Cymdeithasol)
  • Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Cyllid Banciau Bwyd, Tlodi Bwyd a Grantiau Partneriaethau Bwyd cynaliadwy
  • Grant Canolfannau Clyd
  • Dileu Elw o ofal Plant sy’n Derbyn Gofal a Grantiau Diwygio Radical
  • Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (prosiectau Gofal Cymdeithasol wedi eu hariannu)
  • Grant Maethu Cymru
  • Grant Diogelu Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
  • Grant Dull Cenedlaethol ar gyfer Eiriolaeth
  • Grant Gwelliant Cymru

Yn ogystal â chynnal staffio yn fewnol, byddwn yn aml yn defnyddio’r grantiau hyn i gomisiynau gwasanaethau gan ddarparwyr arbenigol y Trydydd Sector. Mae’r tîm yn sicrhau bod y gwaith o gomisiynu gwasanaethau yn unol â deddfwriaeth genedlaethol a gweithdrefnau’r Cyngor, yna mae’n monitro pob contract yn ofalus i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian a chyflawni canlyniadau ansawdd.

Home-Start Cymru

Drwy’r Grant Plant a Chymunedau a grybwyllwyd uchod, darparwn gyllid i Home-Start Cymru i gyflogi Trefnydd Cefnogaeth i Deuluoedd. Mae’r swydd hon yn caniatáu i Home-Start gynnig cefnogaeth magu plant i deuluoedd o dan raglen Dechrau’n Deg, gyda’r amcan o wella anghenion iechyd, cymdeithasol ac amgylcheddol y teulu. Mae’r Trefnydd Cefnogaeth i Deuluoedd yn chwarae rhan bwysig wrth recriwtio gwirfoddolwyr i ddarparu’r gefnogaeth hon, a bydd yn cynorthwyo i’w hyfforddi i baratoi am eu rôl o fewn y teulu. Caiff y gwirfoddolwyr wedyn eu monitro, eu goruchwylio a’u cefnogi gan y Trefnydd Cefnogaeth i Deuluoedd.

Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU)

Mae gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn rhan hanfodol o’r gwasanaethau cefnogaeth gynnar ac atal a ddarparwn i deuluoedd. Yr ydym yn comisiynu’r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig i weithio â theuluoedd sydd mewn perygl o brofi camdriniaeth ddomestig, neu sydd wedi profi hynny eisoes. Mae’r Uned yn derbyn atgyfeiriadau gan staff ein Canolfannau Teuluoedd ac yn darparu sesiynau galw heibio yn y canolfannau i ddarparu man diogel i unigolion gael gwybodaeth a chefnogaeth. Gweithiodd yr Uned â 231 o gleientiaid newydd yn 2023-2024, sy’n dangos pwysigrwydd y gwaith hwn.

TAPE

Buom yn defnyddio ein grantiau i gefnogi clwb animeiddio sy’n cael ei redeg gan TAPE (elusen ym Mae Colwyn). Mae’r clwb animeiddio’n glwb ieuenctid celf a chyfryngau a gynhelir ar ôl ysgol i bobl ifanc rhwng wyth a deunaw mlwydd oed sydd ag anableddau. Mae’n annog y cyfranogwyr i gymryd rhan a chydweithio, ac mae hynny’n hybu gwytnwch personol, sgiliau cymdeithasol, lleferydd ac iaith a pherthnasoedd teuluol.

Lucy Faithfull

Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu addysg a seminarau i godi ymwybyddiaeth rhieni ynglŷn ag atal camdriniaeth rywiol, wedi eu targedu’n benodol at anghenion rhieni sydd â phlant ag anableddau. Cafwyd ymateb rhagorol, a dywedodd rhieni nad oedd syniad ganddynt am rai o’r materion a godwyd cyn iddynt ddod i’r sesiynau.

Relate Cymru

Mae’r contract â Relate yn sicrhau darpariaeth gwasanaethau cwnsela am berthnasoedd am ddim i deuluoedd yng Nghonwy sy’n derbyn budd-daliadau neu’n ddi-waith.  Mae’r cwnselwyr arbenigol yn helpu pobl i fyfyrio ynghylch eu perthnasoedd eu hunain, yn unigol, fel cwpl, neu fel teulu. Mae ein Canolfannau Teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill o fewn yr awdurdod lleol yn atgyfeirio teuluoedd at y gwasanaeth.

Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Yr ydym yn comisiynu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anableddau a’u teuluoedd drwy gynnig gweithgareddau a grwpiau, i’r teulu cyfan ac mewn amgylcheddau ar wahân, i fodloni anghenion unigol aelodau’r teulu.

Adolygu ein rhaglenni grant

Yn dilyn archwiliad mewnol llawn, dyfarnwyd sicrwydd uchel i’r tîm Grantiau. Adolygir ein rhaglenni grant yn rheolaidd, ac mae hynny’n sicrhau eu bod yn parhau i roi gwerth am arian ac o fewn y gyllideb. Mae gennym gyfarfodydd gyda’r sefydliadau trydydd parti a gomisiynwyd gennym er mwyn adolygu eu darpariaeth, i sicrhau eu bod yn bodloni eu canlyniadau.

Y brif her gyda chyllid grant yw cynaliadwyedd gwasanaethau yn yr hirdymor. Yn aml dyfernir cyllid am gyfnod o ddeuddeng mis, gyda chyfnodau arweiniol byr i baratoi’r gwasanaeth a ddarperir. Yr ydym, fodd bynnag, wedi comisiynu rhai gwasanaethau ar gontract tair blynedd, os yw’r cyllid grant yn caniatáu; mae hyn wedi bod o gymorth i roi rhywfaint o sefydlogrwydd.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English