Safonau ansawdd
- Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy’n cael cefnogaeth ac sy’n gweithio tuag at weledigaeth a rennir
Gwasanaethau Plant
Tîm Teuluoedd Integredig Lleol
Mae ein gwaith yn cwmpasu tri dull gweithredu:
- Asesu a fformiwleiddio: gweithio gyda theuluoedd i ddeall yr ymddygiadau sy’n herio a nodi ffactorau yn yr unigolion neu’r amgylchedd sy’n cynnal neu’n achosi ymddygiadau, a’r hyn sydd angen newid
- Ymyriadau: gall hyn fod ar ffurf cynlluniau cymorth ymddygiad cadarnhaol, asesu a phroffilio, arweiniad rhyngweithiol, grwpiau gwytnwch teuluoedd a gweithdai
- Cyngor a chyfeirio: os na allwn gefnogi teuluoedd, byddwn yn ymdrechu i archwilio dewisiadau eraill
Yn ystod y ddeuddeng mis hyd at fid Tachwedd 2024, derbyniasom 217 o atgyfeiriadau, ac yr oedd 66 o’r rheiny o Sir Conwy. Wrth i ni weithio gyda theuluoedd byddwn yn mesur faint o broblem yw’r ymddygiadau heriol cyn ymyrraeth ac wedi ymyrraeth. Mae’r canlyniadau’n dangos bod 65% o’r teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol wedi gweld gwelliant sylweddol, a chafwyd adborth ardderchog gan deuluoedd:
Diolch yn fawr i chi am eich amser – mae wedi bod yn fuddiol iawn cael rhywun i siarad ag o. Roeddwn i eisiau dweud wrthych chi hefyd eich bod yn gwneud gwaith anhygoel. Rydych yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o blant a’u teuluoedd. All o ddim bod yn hawdd, ond mae pobl fel chi yn gwneud y byd yn lle gwell.
Gwych! Diolch i chi am ei roi o yng nghanol hyn i gyd bob amser, ac am ymdrechu. Rwyf wir yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gennych chi.
Yr ydym yn profi heriau, fodd bynnag, ac mae’r galw’n uchel, ac yn cynyddu, am y math hwn o wasanaeth. Mae llawer o deuluoedd yn teimlo eu bod yn colli rheolaeth yn emosiynol, eu bod yn ddigyswllt ac anniogel, ac mae’r capasiti ar gyfer asiantaethau eraill fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, y Gwasanaethau Cymdeithasol a chefnogaeth addysgol arbenigol yn gyfyngedig, gydag amseroedd aros hir. Yr ydym wedi dysgu’r canlynol:
- Mae cydweithio â theuluoedd, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, yn allweddol
- Mae’n bwysig gweithio gyda theuluoedd ar yr amser iawn – pan fyddant yn barod ac yn fodlon ymgysylltu â ni a chyflawni newid.
- Er bod tîm amlddisgyblaethol yn amlwg yn fuddiol – ar gyfer momentwm gweithredol ac i brofiad y teuluoedd o gefnogaeth – gall ymdrin â gwahanol bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau gan wahanol sefydliadau fod yn her.
- Mae lleoedd gwag hirdymor ymysg ein rolau arbenigol yn cael effaith ar effeithiolrwydd y tîm a chyflymder y broses, sy’n profi bod y rolau hyn yn allweddol ar gyfer llwyddiant y model.
Oherwydd y swyddi iechyd gweigion, oedwyd atgyfeiriadau ym mis Awst 2024 a buom yn canolbwyntio ar adolygu’r rhestr aros a blaenoriaethu atgyfeiriadau. Gobeithiwn recordio’r gweithdai yr ydym yn eu cynnal a’u rhannu gydag asiantaethau eraill a theuluoedd drwy dudalen we Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: ein cynllun gweithredu ôl-arolygiad
Yn dilyn arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Prawf EF ym mis Ionawr 2024, lluniwyd Cynllun Gwella Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych gennym i roi sylw i’r argymhellion a wnaed. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gryfhau trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a threfniadau gweithio mewn partneriaeth Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu bodloni anghenion plant a phobl ifanc, wrth amddiffyn y cyhoedd hefyd.
Cafwyd saith argymhelliad o’r arolygiad, ar draws amryfal sefydliadau. Mae Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn chwim dros yr 11 mis diwethaf, gan ymrannu i fwrdd gweithredol a bwrdd strategol, gyda chefnogaeth y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cenedlaethol. Diweddarwyd Cynllun Gwella Arolygiaeth Prawf EF yn sgil y cynnydd a wnaed, ac mae’n ffurfio cyfran sylweddol o’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Strategol blynyddol, a gafodd ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Mehefin 2024.
Ar wahân i’r argymhellion yn ymwneud â Phrawf ac Iechyd, rhoddwyd yr holl argymhellion ar waith, ac mae llwybrau a strwythurau newydd yn bodoli i ategu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Yr ydym wedi adlewyrchu hyn yn ymarferol, gyda chytundebau partneriaeth a llwybrau newydd y cytunwyd arnynt yn sail.
Gwyddom fod gwelliannau pellach yn angenrheidiol, fodd bynnag, gan nad yw’r argymhellion yn ymwneud ag Iechyd a Phrawf wedi eu rhoi ar waith, er gwaethaf uwchgyfeirio ar lefel y Prif Weithredwr, Rheoleiddwyr a Gweinidogion. Parhawn i fonitro cynnydd a gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod yr holl argymhellion yn derbyn sylw.
Gellwch ddarllen mwy am yr arolygiad hwn ar wefan Arolygiaeth Prawf EF.
Gwasanaethau Oedolion
Gwella ein cynnig i bobl awtistig a niwrowahanol
Yn adroddiad y llynedd trafodwyd ein Swyddog Arweiniol Cyflwr Sbectrwm Awtistig newydd, a’i gynlluniau i gael gwared â rhwystrau i unigolion dderbyn cefnogaeth briodol. Mae llawer o weithgarwch wedi bod yn y maes hwn yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae rhan fawr o’r gweithgarwch hwnnw wedi bod yn mynd i’r afael â’r cynllun gweithredu yr ydym wedi ei osod i ni’n hunain.
Gwella ymwybyddiaeth a gwybodaeth staff
Buom yn gweithio gyda’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol i drefnu a hyrwyddo gweminarau 30 munud i’r holl staff yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth, a gweminarau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â niwrowahaniaeth i staff yn ein timau cyswllt cyntaf. Mae’r e-ddysgu’n orfodol i holl staff Gofal Cymdeithasol CBSC. Mae cyfraddau cwblhau wedi cynyddu’n sylweddol; hyd yma mae 624 aelod o staff wedi cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a 94 oedd wedi ei gwblhau yr amser hwn y llynedd.
Gwella ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd
Mae rhaglen o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth wedi annog mwy o weithwyr i recriwtio pobl awtistig. Yr oedd bws profiad realaeth awtistiaeth mewn digwyddiad i gyflogwyr Conwy ym Mharc Eirias er mwyn i gyflogwyr ac aelodau o’r cyhoedd gael profiad rhithwir. Yn ogystal, yr ydym wedi trefnu a chynnal dau ddigwyddiad arall gyda’n partneriaid: digwyddiad yn benodol ar niwrowahaniaeth ar gyfer cyflogwyr mewn partneriaeth â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy a Sir Ddinbych yn Gweithio, a digwyddiad i gyflogwyr mewn partneriaeth â phartner lleol yn y Trydydd Sector. Yr oedd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau wedi eu llunio ar y cyd yn benodol ar awtistiaeth a gweithdy. Lluniwyd canllawiau i gyflogwyr lleol ar niwrowahaniaeth yn dilyn adborth o un o’r digwyddiadau.
Daeth llawer i’r digwyddiadau, a dywedodd cyflogwyr wrthym y byddent yn gwneud y canlynol:
Bod yn fwy ystyriol ac agored i niwrowahaniaeth ymhlith fy ngwirfoddolwyr a staff
Ailfeddwl cwestiynau cyfweliadau a sesiynau i fod yn fwy cynhwysol
Ystyried y pethau a godwyd gan y siaradwyr gwadd
Gwella gwybodaeth, cyngor a chymorth
Mae gennym dudalen we yn benodol ar awtistiaeth, sy’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i gael diagnosis a chefnogaeth yn lleol. Yr ydym hefyd wedi creu tudalen we newydd ar gyfer rhieni sydd hefyd yn ofalwyr i blentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn dibynnol; gwyddom fod llawer o rieni’n teimlo’n unig ac ynysig, gyda chyfleoedd cyfyngedig i gael mynediad at gefnogaeth.
Mae grwpiau i rieni sy’n ofalwyr yn cael eu cynnal gan ddarparwr Trydydd Sector lleol yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy. Cynhelir hefyd sesiynau ‘galw heibio’ rheolaidd gyda’r gwasanaeth diagnostig lleol i oedolion (Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru). Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth a dathlu niwrowahaniaeth gennym hefyd yn swyddfeydd Coed Pella, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau diagnostig lleol a gwybodaeth amdanynt, ynghyd ag ystod o ddarparwyr Trydydd Sector a thimau’r Cyngor.
Dywedodd rhieni sydd wedi cael mynediad at gefnogaeth yn ymwneud â niwrowahaniaeth yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy:
Fe wnaeth [cefnogaeth gan Weithiwr Teulu Anableddau] fy helpu o ddifrif gyda threfn a theimlo llai o straen drwy wahanol ffyrdd o ymdopi, ac rwy’n teimlo y gallaf i symud ymlaen yn hyderus.
Dywedodd [Gweithiwr Teulu Anableddau] wrthyf i am glwb ieuenctid lleol ar gyfer fy merch sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac mae hi’n mwynhau mynd.
Mae’n braf mynd o’r tŷ a helpu fy mab i gymdeithasu.
Cefnogi pobl cyn diagnosis
Mae Conwy a Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â changen leol o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i ariannu ystod o brosiectau yn benodol ar awtistiaeth, sydd ar gael i bobl cyn iddynt gael diagnosis. Yn ogystal, defnyddiwyd cyllid Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru i dreialu gweithgareddau a rolau newydd yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth; yr oedd llawer ohonynt yn cefnogi plant a theuluoedd sydd ar y rhestr aros i gael asesiad diagnostig.
Mae deiliaid swyddi a ariennir drwy’r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth yn Nhîm Cryfhau Teuluoedd a’r Canolfannau Teuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth, a darperir hyfforddiant newydd ar ymarfer niwrogadarnhaol ac iaith niwroamrywiol mewn sesiynau byrion misol. Mae’r adborth gan ofalwyr ifanc awtistig ynglŷn â grŵp Gofalwyr Ifanc ASA wedi bod yn gadarnhaol:
Mae mynd i’r grwpiau gofalwyr ifanc arferol yn ormod i mi, ond mae cael grwpiau llai yn golygu y gallaf ddal i weld fy ffrindiau a gwneud pethau difyr fel paentio crochenwaith a chrefftau eraill.
Mae’n braf gwneud rhywbeth gyda phobl eraill yn hytrach nag eistedd yn y tŷ drwy’r penwythnos.
Creu strategaeth awtistiaeth leol
Datblygwyd arolwg gennym i gasglu profiadau ac adborth gan bobl awtistig, teuluoedd, gofalwyr a staff. Yr ydym wedi derbyn 69 o ymatebion, a dadansoddir yr adborth gan grŵp budd-ddeiliad yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Trydydd Sector, pobl awtistig a rhieni sy’n ofalwyr. Byddwn yn defnyddio’r adborth i siapio’r strategaeth awtistiaeth. Mae ein canfyddiadau cychwynnol yn dangos bod llwybrau at ddiagnosis yn fater allweddol i lawer o unigolion, mae cyfraddau uchel o absenoldeb o’r ysgol yn effeithio ar fywyd teuluol, ac mae’n bosibl bod bylchau yn y sgiliau a gwybodaeth ymysg ein gweithlu sy’n effeithio ar ein gallu i ddarparu cefnogaeth effeithiol.
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud nesaf
- Cydlunio a chyhoeddi strategaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol; bydd adborth gan fudd-ddeiliaid yn llywio hyn.
- Cyflwyno ceisiadau am gyllid y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth ar gyfer 2025/26 i gynnwys grwpiau a gweithgareddau’r Trydydd Sector; bydd ymatebion arolwg yn llywio hyn.
- Parhau i adolygu a gwella’r wybodaeth ar y wefan ar gyfer rhieni sy’n ofalwyr, a gwerthuso’r llwybr asesu gofalwyr.
- Comisiynu hyfforddiant ar lefel uwch i staff, yn seiliedig ar anghenion a nodwyd.
- Darparu sesiynau byrion yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth, sesiynau briffio, a sesiynau mentora a chyngor, yn hyrwyddo adnoddau a hyfforddiant niwrowahaniaeth cenedlaethol.
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Mynd i’r afael â’r rhestr aros
Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu yw rhestr aros Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar gyfer asesiadau – mae tua 240 o atgyfeiriadau gweithredol ar yr un pryd. Cydnabyddwn fod pob achos ar y rhestr aros yn cynrychioli unigolyn nad yw ei hawliau’n cael eu diogelu’n gyfreithlon ac sydd efallai’n profi cyfyngiadau gormodol Mae hefyd yn cynrychioli risg ariannol a risg i enw da’r Cyngor. Bob mis, yn gyson, mae gan dîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid fwy o atgyfeiriadau’n dod i mewn nag y gall eu cau.
Ein hamcanion ar gyfer y misoedd i ddod yw:
- Adolygu a symleiddio ffurflenni asesu.
- Treialu dull newydd o flaenoriaethu adnewyddu asesiadau fel nad oes unrhyw fylchau rhwng awdurdodiadau.
- Canlyn cyllid ar gyfer aseswyr ychwanegol a chefnogaeth gyfreithiol ar gyfer achosion Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn y Gymuned.
- Treialu rhaniad gwahanol yn y llwyth gwaith i sicrhau defnydd effeithiol o amser ymarferwyr.
Datblygu’r tîm
Mae yna angen i fwy o staff gwblhau’r asesiadau, y craffu, a’r awdurdodiadau angenrheidiol. Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd gyfredol a chyfyngiadau ariannol ar yr awdurdod lleol, yr ydym wedi sicrhau cyllid i recriwtio dau asesydd Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy’n siarad Cymraeg, a ymunodd â’r tîm yn hydref 2024.
Cynyddu dealltwriaeth o Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Caiff Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid eu camddeall yn gyffredin gan y cyhoedd ac ymarferwyr, yn benodol oherwydd gall yr eirfa gysylltiedig swnio’n frawychus. Yr ydym yn mynd ati’n weithredol i roi sicrwydd y gallant fod yn adnodd cadarnhaol yn hytrach nag un negyddol, ac yr ydym wedi nodi maes i’w ddatblygu’n barhaus, i addysgu a chanfod gwell ffyrdd o gyfleu hanfod y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
Yr ydym eisoes wedi cyflwyno rhaglen o hyfforddiant mewn cartrefi gofal, ac mae adborth wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol:
Rhagorol. Diddorol. Fe wnaeth rywbeth brawychus yn fwy dealladwy a llai dychrynllyd. Diolch.
Llawn gwybodaeth a chlir.
Byddaf yn dechrau bod yn fwy ystyriol o ddymuniadau pobl a pheidio byth â rhagdybio nad yw’r galluedd ganddynt.
Bwriadwn ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i ddechrau rhaglen o hyfforddiant arbenigol ar Ddeddf Galluedd Meddyliol a materion yn ymwneud â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar gyfer ymarferwyr rheng flaen ledled y Gwasanaethau Cymdeithasol. Y nod yw uwchsgilio detholiad o ymarferwyr fel eu bod yn gallu rhannu eu gwybodaeth â gweddill y tîm. Byddwn hefyd yn annog myfyrwyr gwaith cymdeithasol i fod mewn cysylltiad â thîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn ystod lleoliadau.
Eiriolaeth
Mae eiriolaeth effeithiol yn ffordd gadarn o sicrhau bod hawliau unigolyn yn cael eu hamddiffyn ac y creffir ar y cyfyngiadau a roddir arnynt. Mae tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar hyn o bryd yn defnyddio eiriolwyr proffesiynol mewn 55-65% o achosion, er mwyn atgyfnerthu hawliau. Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych (CADMHAS) yw’r prif ddarparwr ledled gogledd Cymru, a Chonwy yw ei gwsmer mwyaf ar gyfer eiriolaeth yn ymwneud â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod eiriolaeth ar gael fel mater o drefn i unigolion y mae’n well ganddynt ddefnyddio’r Gymraeg.
Cyfleoedd newydd am waith a hyfforddiant yn seiliedig ar waith yn lleol
Gyda chynlluniau i greu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol newydd yn Llandrillo-yn-Rhos, mae’r cyfle wedi codi i ni weithio’n agos â Grŵp Llandrillo Menai a darparu lleoliad lleol i fyfyrwyr ennill profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr yn eu maes astudiaeth.
Bydd y bartneriaeth hon yn creu cyfleoedd hyfforddiant yn seiliedig ar waith a chyfleoedd sy’n pontio’r cenedlaethau ar draws y cynllun, a dyma’r cyntaf o’i fath i gael ei gyflwyno yng Nghonwy, a Chymru. Mae’r bartneriaeth hon yn arloesi’n barhaus, ac yn gwella ei chynigion, er mwyn annog myfyrwyr i gofrestru ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel partneriaeth, yr ydym yn cynllunio cyfres o weithgareddau i hyrwyddo’r canolbwynt a chynnig lleoliadau o’r ansawdd gorau sy’n addas ar gyfer anghenion dysgwyr.
Byddwn hefyd yn amlygu’r cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar wahanol fathau o waith o fewn eu maes diddordeb, nad oeddent efallai wedi eu hystyried, fel gwaith ailalluogi a chefnogi pobl hŷn.
Dyma fuddion y cydweithio hwn:
- Bydd recriwtio a chadw staff yn well yn arwain at weithlu mwy medrus ac ymroddgar, sy’n arwain yn ei dro at ofal o ansawdd uwch i’r rheiny sydd mewn angen.
- Bydd llai o drosiant staff yn sicrhau amgylchedd gofal mwy sefydlog a chyson, sy’n hollbwysig ar gyfer gofal hirdymor.
- Bydd gweithlu sy’n fwy ymroddgar a medrus yn cyflwyno arferion a gwasanaethau arloesol sydd o fudd i’r bobl y darperir gofal iddynt.
Y buddion a ddisgwylir yn ehangach fydd sector sy’n cyfrannu at yr economi leol drwy greu swyddi a mwy o alw am nwyddau a gwasanaethau; iechyd, lles a chydlyniad cymunedol gwell yn gyffredinol; llai o faich ar deuluoedd unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth; ac ein gallu i ddenu talent i’r ardal.
Hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol wrth gefnogi pobl ag anableddau, yn arbennig y rheiny sy’n gallu ymddwyn yn heriol. Mae hyn yn ein cynorthwyo i ganfod yr hyn y mae’r unigolyn yn ceisio ei gyfathrebu drwy ei ymddygiad, newid ei amgylchedd, ac addysgu sgiliau newydd i’r unigolyn a chynyddu cyfleoedd i wella ansawdd bywyd. Dros y flwyddyn ddiwethaf yr ydym wedi dechrau codi proffil cymorth ymddygiad cadarnhaol gyda’n darparwyr cefnogaeth mewnol ac allanol drwy ddechrau Cymuned Ymarfer Conwy.
Yr ydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Drawsnewid Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd i gynnal cwrs Ymarferwyr Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol am ddau ddiwrnod ar gyfer staff sydd bellach â gwell dealltwriaeth o gymorth ymddygiad cadarnhaol ac sy’n cefnogi unigolion yn llwyddiannus. Hoffem sicrhau mwy o gyllid i ddarparu mwy o hyfforddiant. Yr ydym wedi canfod bod angen hyfforddiant ar deuluoedd, i’w cynorthwyo i ddeall a defnyddio model cymorth ymddygiad cadarnhaol.
Gweithgarwch yng nghartref preswyl Llys Elian
Llys Elian yw’r unig gartref preswyl a redir gan y Cyngor ar gyfer oedolion hŷn, yn darparu cefnogaeth i unigolion â dementia ac ymddygiadau cymhleth. Cawsom arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru y llynedd, a pharhawn i gynnwys preswylwyr a’u teuluoedd yn y ffordd y mae Llys Elian yn cael ei redeg, fel ei fod yn parhau i deimlo fel cartref.
Mae adborth gan aelodau o deuluoedd y preswylwyr yn dangos bod y cartref preswyl yn uchel ei barch ac yn cael ei werthfawrogi:
Cartref arbennig. Mae Mam yn hapus ac yn derbyn gofal da. Mae’r staff bob amser yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt.
Rwy’n meddwl bod staff Llys Elian i gyd yn dda iawn ac yn rhoi croeso i mi a’m teulu. Mae’r cyfathrebu rhyngof i a llawer o aelodau o staff yn gadarnhaol iawn.
Mae Llys Elian yn gartref gofal hyfryd. Mae Dad wedi bod yno ers naw mlynedd. Fyddwn i ddim eisiau iddo fod yn unlle arall. Mae’n dyled ni’n fawr i’r staff a’u perthynas â Dad.
Bob amser yn groesawgar iawn pan fyddwn yn ymweld. Awyrgylch hapus a thwymgalon braf. Mae’r holl staff yn gweithio’n galed a phob amser yn hawddgar iawn. Mae’r gofal a roir i’r gwaith o ofalu am fy mherthynas o’r radd flaenaf.
Bwriadwn wella ein cyfathrebu â theuluoedd drwy gyflwyno porth electronig i deuluoedd. Mae ardal yr ardd yn bwysig i breswylwyr, a byddwn yn sicrhau ei bod yn daclus ac ar gael i bawb ei mwynhau. Parhawn i ddatblygu ein rhaglen weithgareddau, yn arbennig i unigolion sydd yng nghamau olaf eu siwrnai gyda dementia, ac yr ydym yn adolygu gofynion staffio yn rheolaidd gan fod anghenion unigolion yn newid dros amser.

Dros gyfnod y Nadolig, cododd y staff dros £1,000.00 drwy weithgareddau codi arian. Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at adloniant, deunyddiau crefftau, profiadau braf a gweithgareddau ar gyfer y preswylwyr. Daeth y gweithgareddau codi arian â phawb ynghyd i ddathlu, ac yr oedd yr adborth a gawsom gan deuluoedd yn gadarnhaol:
Rydych chi’n mynd i drafferth drostyn nhw – rydych chi i gyd yn gwneud gymaint o ymdrech i roi amser da i’n hanwyliaid! Diolch yn fawr iawn! X
Roedd Mam wrth ei bodd efo’r gerddoriaeth ac fe gawso’ ni amser hyfryd gyda phawb.
Mae’r holl ymdrech rydych chi’n ei wneud dros y preswylwyr yn anhygoel. Dydw i ddim wedi gweld fy mam yng nghyfraith yn mwynhau ei hun ers amser maith, ac mae’n braf ei gweld hi’n cymryd rhan. Xx
Amlygodd arolygiad diweddar gan AGC feysydd i ni ganolbwyntio arnynt; byddwn yn crybwyll y rhain yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn. Yr ydym eisoes wedi cymryd camau gwella ac mae gennym gynlluniau pellach ar gyfer 2025/26.
Cymorth cartref i bobl hŷn
Parhawn i fonitro ein gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn, ac yr ydym wedi creu arolwg i ofyn am adborth gan unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth ailalluogi. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024, derbyniasom dros 180 o ymatebion.
- Teimlai 87% eu bod hwy a’u teulu a’u ffrindiau yn rhan o’r gwaith o gytuno a chynllunio canlyniadau neu nodau ar ddechrau’r gwasanaeth.
- Nododd 93% eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau neu nodau a nodwyd ar eu cyfer erbyn yr amser y daeth y gwasanaeth i ben.
- Cytunai 100% fod y gefnogaeth yr oeddynt yn ei derbyn yn eu galluogi i gynnal eu hiechyd a lles cyffredinol.
- Yr oeddem yn cyfathrebu â 100% yn eu hiaith ddewisol.
- Teimlai 98% fod y gefnogaeth yn hyblyg o ran faint o’r gloch yr oeddem yn ymweld, a pha mor hir oedd yr ymweliad yn ei bara.
- Yr oedd 100% yn dweud bod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.
- Dywedodd 100% fod y gwasanaeth yn eu gwneud i deimlo’n ddiogel a’u hamddiffyn rhag niwed.
- Dywedodd 98% fod y gwasanaeth yn rhagorol neu’n dda.
Gofynnwyd i unigolion beth oeddynt yn ei werthfawrogi fwyaf am y gwasanaeth, a dywedasant wrthym:
… yr anogaeth i fod yn annibynnol.
Effeithlonrwydd ac amynedd y gofalwyr. Eu sirioldeb hefyd. Roedden nhw fel pelydrau o heulwen.
Cael siarad a gweld pobl, a gallu aros gartref.
Yr oedd sylwadau ychwanegol yn dangos yr effaith yr oedd y gwasanaeth yn ei gael ar bobl yn ystod cyfnodau o fod yn ddiamddiffyn a llesg.
Roedd pawb a ddaeth i’m helpu i’n bobl hyfryd, garedig a llawn gwybodaeth…
Fe fyddaf yn colli pawb, mae’r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae’r ddau ohonom yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, sydd wedi fy ngalluogi i gael fy annibyniaeth yn ôl.
Rwy’n teimlo bod y staff yn fwy fel ffrindiau na gofalwyr
Pan ddois o’r ysbyty ddiwedd mis Awst, roeddwn yn teimlo’n wan a llesg a dihyder, ond drwy gefnogaeth y gofalwyr rwyf bellach lawer gwell a gallaf wneud popeth sydd ei angen arnaf heb help!