Gweithredwyd Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020, sy’n cynnwys set newydd o dargedau a mesurau perfformiad. Mae’r mesurau hyn yn tanategu pob agwedd o’r gwaith rydym yn ei wneud, drwy hysbysu ein timau rheoli o gynnydd, arferion da a thueddiadau newydd. Nid yn unig yw’r mesurau a’r targedau hyn, ar lefel leol a chenedlaethol, yn monitro perfformiad, maent hefyd yn caniatáu i ni gynllunio darpariaeth ein gwasanaethau yn y dyfodol. O ganlyniad, gallwn reoli unrhyw faterion posibl yn rhagweithiol, lliniaru yn erbyn risgiau a defnyddio’r wybodaeth i gymell ein gwasanaethau yn y dyfodol.
Safon Ansawdd 1 – Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (AD/010) | 609 | 748 |
Nifer y cysylltiadau newydd i oedolion a dderbyniwyd gan wasanaethau cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn (AD/001) | 5,275 | 4,986 |
Safon Ansawdd 2 – Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy’n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn | 215 | 220 |
Nifer y swyddi gwag a gafodd eu llenwi’n llwyddiannus | 144 | 161 |
Safon Ansawdd 3 – Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref yn ystod y flwyddyn (CH/045) | 17 | 18 |
Nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn (CH/043) | 23 | 20 |
Cyfanswm y Cynlluniau Llwybr cychwynnol sydd i’w cwblhau yn ystod y flwyddyn (CH/049) | 30 | 17 |
Safon Ansawdd 4 – Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy yn ystod y flwyddyn (ac eithrio trefniadau pontio, symud sy’n gysylltiedig â mabwysiadu neu symud tŷ) (CH/044) | 17 | 13 |
Safon Ansawdd 5 – Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (CH/015) | 737 | 796 |
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (CH/016) | 56 | 59 |
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (AD/013) | 212 | 215 |
Safon Ansawdd 6 – Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal, o 31 Mawrth, sydd wedi bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant am o leiaf 3 mis yn olynol. (CH/054a) | Amherthnasol Mesur newydd ar gyfer 2023-2024 | 57 |
Nifer yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer oedolion yn ystod y flwyddyn (AD/004) | 1,741 | 1,841 |
Nifer yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn (CH/006) | 179 | 191 |
Safon Ansawdd 7 – Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Cyfanswm nifer yr ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 niwrnod o gael gwybod am yr honiad o gamdriniaeth (AD/024) | 701 | 1,115 |
Cyfanswm y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ar 31 Mawrth (CH/026a) | 43 | 59 |
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28) | 247.22 diwrnod | 212.27 diwrnod |
Safon Ansawdd 8 – Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol am gymaint â phosibl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2022-2023 | 2023-2024 |
Nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n symud i leoliad ‘Pan fydda i’n Barod’ (CH/055) | 1 | 10 |
Cyfanswm nifer y bobl ifanc y cafodd ymgynghorydd personol ei neilltuo ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn – o fewn 3 mis os oedden nhw yng nghategori 1 neu 4, gweler y canllawiau (CH/051) | 10 | 5 |