Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw’n annibynnol am gyn hired â phosibl
Sesiynau a Grwpiau Cymunedol
Mae ein Tîm Cadw’n Iach yn trefnu ac yn hyrwyddo gweithgareddau yn y gymuned ledled Sir Conwy er mwyn i bobl hŷn wella eu lles corfforol a meddyliol. Caiff unigolion eu hannog i gysylltu gyda’u cymunedau a dysgu sgiliau newydd. Eleni, fe wnaethom nodi bod angen nifer o sesiynau gweithgareddau newydd, ac mae’r rhain bellach wedi’u sefydlu ac yn hunangynaliadwy:
- Sesiynau canu llawn hwyl yn Llanrwst, mewn partneriaeth gyda Chartrefi Conwy
- Sesiwn ymarfer corff o’ch sedd yn Llandrillo-yn-Rhos,, gyda darparwr lleol – Matt Freeman
- Sesiynau natur a mynd am dro ym Mae Colwyn, mewn partneriaeth gyda Coed Lleol
- Prynhawn llawn celf yn Llandudno, mewn partneriaeth gydag Oriel Gelf Mostyn
Un o’n prif amcanion eleni oedd hyrwyddo ein darpariaeth gyfredol felly fe wnaethom ail-lansio ein hamserlenni a byddwn yn parhau i’w diweddaru bob chwarter. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022 fe gynhaliom 74 o sesiynau gwahanol a fynychwyd gan 682 o bobl. Cynigom ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol, teithiau cerdded addysgol, sesiynau celf a chrefft, sesiynau yn ymwneud yn benodol â dementia, sesiynau rhwng cenedlaethau a sesiynau i ofalwyr, i enwi ond rhai.
Rydym yn gofyn am adborth gan bobl sy’n mynychu ein sesiynau, ac ar gyfer y rheiny a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr:
- Dywedodd 55% ohonynt eu bod yn fwy egnïol o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 97% eu bod wedi cysylltu ag eraill o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 75% ohonynt eu bod yn fwy tebygol o roi amser i eraill o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 93% eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 85% eu bod wedi cymryd fwy o sylw o’u hunain, ac eraill o’u cwmpas, o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 75% eu bod wedi gwella eu lles cyffredinol o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 53% eu bod wedi gwella cyflwr eu hiechyd o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 32% ohonynt eu bod yn teimlo’n llai unig o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 81% eu bod wedi cyflawni’r hyn sydd wirioneddol yn bwysig iddynt o ganlyniad i fynychu un o’n rhaglenni
- Dywedodd 98% y byddent yn argymell ein gwasanaeth i eraill
Beth oedd yr heriau?
Roedd gennym ddiffyg staff wrth ddisgwyl am ganlyniad cynigion nawdd i recriwtio i swyddi gweigion. Gostyngodd gallu ein tîm o 59% am dros chwe mis wnaeth gael effaith fawr ar ein gallu i gyflawni ein hamcanion a’n nodau a llesteiriodd ein gallu i wneud cynlluniau tymor hir.
Beth sydd nesaf?
Erbyn hyn, mae gennym dri Swyddog Lles llawn amser sydd wedi cael eu dyrannu i’w hardaloedd canolbwynt newydd sef Bae Cinmel a Thowyn, Llandrillo-yn-Rhos a Dwygyfylchi a Phenmaenmawr. Mae’r gwaith eisoes wedi cychwyn yn yr ardaloedd hyn ac rydyn yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gyflawni sesiynau ymgynghori anffurfiol, fel boreau lles, stondinau ymwybyddiaeth a theithiau cerdded. Bydd y sesiynau hyn yn ein galluogi ni i hyrwyddo ein darpariaeth gyfredol a chysylltu â phobl hŷn sy’n byw yn yr ardaloedd hyn er mwyn gweld a oes unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Yna, rydym yn gobeithio cefnogi sefydlu gweithgareddau newydd, cynaliadwy i gefnogi iechyd a lles oedolion hŷn sy’n byw yn yr ardaloedd hyn.
Cynllun peilot incwm sylfaenol i’r rhai sy’n gadael gofal
Ym mis Gorffennaf 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru ‘Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol’. Cynllun yw hwn ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, sy’n troi’n 18 oed mewn cyfnod penodol o amser. Mae’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yn darparu £1600 bob mis am gyfnod o ddwy flynedd. Mae’n cael ei drethu ar y dechrau ac mae’n cael ei dalu yn lle budd-daliadau.
Yng Nghonwy, mae gennym naw o bobl ifanc sy’n gymwys ar gyfer y cynllun. Ar hyn o bryd, roedd pedwar o bobl ifanc yn gymwys i gofrestru ar gyfer y cynllun ac fe wnaeth tri ohonynt dderbyn y cyfle. Mae un ohonynt wedi gallu canolbwyntio ar ddechrau busnes, sydd wedi bod yn gam cadarnhaol.
Beth oedd yr heriau?
Cyfnod lansio byr iawn oedd yna ar gyfer y cynllun peilot ac fe wnaeth hynny effeithio ar ein gallu i gynllunio i weithredu’r cynllun. Oherwydd yr ansicrwydd o ran yr argyfwng economaidd, nid oes unrhyw warant y bydd hyn yn parhau tu hwnt i’r cyfnod peilot cychwynnol.
Beth sydd nesaf?
Bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymchwil i ystyried effeithiolrwydd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol.
Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
Mae Cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn nawdd cymharol fechan, £33,205 y flwyddyn, sy’n anelu at gefnogi plant sy’n derbyn gofal, a’r rhai sy’n gadael gofal rhwng 16 a 25 oed.
Pwrpas y grant yw rhoi cefnogaeth ychwanegol tuag at fyw’n annibynnol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel:
- Helpu gyda chyflogaeth, er enghraifft gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, teithio, trwyddedau.
- Hyfforddiant ac addysg; er enghraifft, gliniaduron a llyfrau cwrs.
- Anghenion llety fel nwyddau’r tŷ a chefnogaeth gyda blaendaliadau a symud tŷ.
- Iechyd a lles cyffredinol fel dillad a byw’n iach.
Yn ogystal â chefnogi rhaglenni unigol, defnyddiwyd cronfa Dydd Gŵyl Dewi i ddatblygu gwefan yn benodol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal yng Nghonwy, o’r enw Camau Bach Dyfodol Disglair. Hyd yn hyn, rydym wedi cael 53 cais drwy’r wefan ar gyfer cronfa Dydd Gŵyl Dewi.
Beth oedd yr heriau?
Yr her parhaus ac allweddol wrth reoli’r grant yw sicrhau ein bod cyn deced â phosib a bod y nawdd yn cael ei ddefnyddio i roi’r budd gorau i bob unigolyn. Mae gennym banel wythnosol, sy’n cynnwys unigolyn ifanc, fel bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyflym a bod bob cais yn cael ei adolygu yn unol â’i rinweddau ac yng nghyd-destun ceisiadau blaenorol. Roeddem ni’n falch iawn o gael sicrwydd uchel yn ystod yr arolwg archwilio diwethaf.
Beth sydd nesaf?
Byddwn yn parhau i reoli’r gronfa grantiau mor effeithiol ac effeithlon â phosib, ac ar yr pryd yn parhau i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal. Rydym wedi gwneud cysylltiadau gyda Can Cook, elusen benodol ar gyfer cefnogi pobl i fwyta’n dda ac o hyn ymlaen, bydd yn cynnig cwrs popty araf i’r rhai sy’n gadael gofal fel y gallent ddysgu sut i fwyta’n iach ac yn gost-effeithiol.
Cynyddu gallu ar ‘ddrws ffrynt’ ein plant
Er mwyn cynyddu ein gallu i brosesu achosion o fewn ein Tîm Asesu a Chymorth, rydym wedi datblygu rôl Asesydd a Gweithiwr Cefnogi newydd i asesu, cynllunio, adolygu a darparu cynlluniau gofal a chymorth. Roedd hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr heb gymwysterau Gweithiwr Cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau, ac yn ei hanfod, yn disodli swyddi gwag am Weithiwr Cymdeithasol a oeddem yn cael anhawster yn eu llenwi. Rŵan, ar ôl pedwar mis o’r cynllun peilot, gallwn weld bod y trefniant hwn yn gweithio’n dda. Mae deiliaid y swyddi yn symud achosion yn effeithiol o dîm drws ffrynt gwasanaethau plant i gefnogaeth gyffredinol, neu ofal a chefnogaeth tymor hwy gan ein timau gwaith cymdeithasol. Mae’r sgiliau a gynhigiwyd gan yr ymgeiswyr hyn o swyddi Ymyrraeth Deuluol blaenorol wedi bod yn werthfawr, ac mae eu mewnbwn wedi galluogi i Weithwyr Cymdeithasol Cymwys ganolbwyntio ar waith gofal a chefnogaeth, a diogelu ar lefel uwch.
Beth oedd yr heriau?
Roedd y mwyafrif o heriau yn dod yn sgil yr elfen adnoddau dynol, gan gynnwys newid mewn diwylliant a dull rheoli, y swm o waith oedd i’w wneud wrth greu swyddi newydd sbon, ac echdynnu a dyrannu’r gwaith, sy’n addas i’w graddfa, i weddill y tîm. Mae recriwtio i’n swyddi parhaol yn parhau i fod yn her, ac mae hyn yn rhannol yn arwain at ein penderfyniad i geisio rhywbeth newydd gyda’r sgiliau sydd eisoes gennym yn ein gweithlu.
Mae’r newid wedi bod yn digwydd mewn cyfnod pan dderbyniodd y sir nifer o Blant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches, sy’n gofyn am fewnbwn gan Weithwyr Cymdeithasol Cymwys. Felly, nid oedd modd i’r Asesydd a’r Gweithiwr Cefnogi ddarparu’r arbenigedd angenrheidiol i brosesu’r achosion penodol hyn.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn bwriadu gwneud swydd yr Asesydd a’r Gweithiwr Cefnogi’n un barhaol, a’i chyfuno i swydd ymarferydd gofal cymdeithasol ehangach. Mae angen i ni ystyried a fyddant yn disodli’r Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn barhaol, felly byddwn yn parhau i fonitro’r galw ar y tîm yn ei gyfanrwydd er mwyn gwneud y penderfyniad hwnnw.
Darparu llety addas i blant a phobl ifanc ag anableddau
Rydym wedi ymrwymo i alluogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol i barhau i fyw yng Nghonwy mewn llety addas gyda’r gefnogaeth iawn. Gweledigaeth y Gwasanaeth Anableddau yw bod darpariaeth llety a gofal yn ddi-dôr yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolyn. O ganlyniad, rydym wedi gweithio gyda Thai First Choice i ganfod eiddo sy’n hyblyg, ac a fydd yn ein caniatáu i ddarparu llety parhaus ar ôl 18 mlwydd oed drwy ddadgofrestru a chreu gwasanaethau Byw â Chymorth wrth i bob person ifanc ddod yn oedolyn.
Mae Cymdeithas Tai First Choice wedi canfod, a chwblhau’r broses gaffael ar eiddo yn Llandudno ar gyfer tri o blant ag anableddau sy’n byw mewn lleoliadau preswyl tu allan i’r sir ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid i Dai gyda Gofal i werth o £741,048 ar gyfer costau caffael ac adeiladu, a chyllid preifat FCH o £399,027.
Mae cynlluniau pensaernïol wedi cael eu llunio, gan wneud y mwyaf o’r gofod yn yr eiddo i letya tri rhandy ar wahân, ardal staffio a gofod addas tu allan ar gyfer chwarae synhwyraidd. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda’r Adran Gynllunio, ac mae cynlluniau terfynol wedi cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.
Mae dogfen ‘Cynllunio Fy Nghartref’ wedi cael ei chwblhau erbyn hyn sy’n dangos sut edrychiad ddylai’r rhandai gael, sy’n bwrpasol ar gyfer pob plentyn sy’n byw yno, ac mae ymholiadau wedi cael eu cadarnhau ar gyfer y pensaer i roi’r fanyleb allan i dendr er mwyn i gontractwr gwblhau’r gwaith. Mae’r gwaith o lunio dogfennau prosiect yn mynd rhagddo, ac mae’r bwrdd prosiect a’r grwpiau wedi cael eu nodi.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cadarnhau y bydd angen cofrestru’r eiddo fel cartref preswyl plant, ac wrth i bob plentyn droi’n 18 oed, gellir dadgofrestru ac ailgofrestru’r eiddo fel lleoliad gofal cartref, gan ganiatáu i’r plentyn neu berson ifanc cael tenantiaeth ar eu rhandy.
Ymgynghorwyd gyda phob teulu, ac maent i gyd yn cytuno i’r plant ddychwelyd i Gonwy. Ymgynghorwyd â darparwyr preswyl presennol hefyd; maent yn cefnogi’r camau gweithredu a byddant yn cymryd rhan mewn nodi a gweithredu cynlluniau pontio. Mae ymgysylltiad â’r adran Addysg yn nhermau darpariaeth lleoedd ysgol ar gyfer y tri phlentyn ar ôl iddynt ddychwelyd i’r Sir.
Beth oedd yr heriau?
- Getting the project started, as no dedicated Project Manager was in place to lead on this. The Project Manager later identified is managing this in addition to their current job role.
- Architects have had to be creative to maximise the space of the property to accommodate all of the needs required for the children, but equally some compromises have had to be reached between the Wish List versus the Must-Have List.
- Timescales are tight on completing some of the work streams to ensure the home becomes operational by January 2024.
Beth sydd nesaf?
Rydym wedi nodi’r meysydd canlynol fel blaenoriaeth:
- Cwblhau gwerthusiad dewis i benderfynu a ddylai’r darparwr cefnogi fod yn fewnol neu’n allanol
- Aros i’r Adran Gynllunio gymeradwyo cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu
- Dyfarnu’r gwaith adeiladu i gontractwr yn dilyn proses dendr
- Nodi cynlluniau pontio ar gyfer pob plentyn
- Ymgynghori gyda phob budd-ddeiliad allweddol nad ydynt yn rhan o’r Bwrdd Prosiect neu’r grwpiau’r prosiect
Rydym yn anelu at gael y llety’n weithredol o fis Ionawr 2024, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn ein hadroddiad nesaf.