Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid / Trefniadau Amddiffyn Rhyddid
Mae’r broses Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) yn parhau er bod y newid cenedlaethol i Drefniadau Amddiffyn Rhyddid yn parhau i gael ei ragweld yn y dyfodol. Nid oes dyddiad cychwyn wedi cael ei gadarnhau eto.
Erbyn hyn, mae’r tîm DoLS bron yn ôl i’w gryfder llawn yn dilyn cyfnod o newid, a defnyddiwyd staff asiantaeth ychwanegol i reoli’r rhestr aros. Gan fod y rhan waethaf o bandemig Covid wedi pasio erbyn hyn, bu modd i ymarferwyr ddychwelyd i ymweliadau wyneb yn wyneb yn hytrach nag asesiadau dros y we. Mae’r tîm yn parhau i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda gwasanaethau eirioli ac asiantaethau partner eraill. Mae adborth yn awgrymu bod gan y tîm DoLS enw da o ran eiriolaeth.
Drwy ymgynghori a hyfforddiant grŵp am achosion unigol, mae ymarferwyr DoLS (Aseswyr Budd Pennaf) yn parhau i gefnogi staff rheng-flaen (timau gwaith cymdeithasol a chartrefi gofal) i wella’r ffordd y defnyddir y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid er budd yr unigolyn. Maen nhw hefyd wedi bwydo mewn i’r broses ymgynghori cenedlaethol mewn perthynas â Chôd Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol newydd (sy’n ymgorffori’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid sydd i ddod.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud i bobl?
Mae gweithredu’r broses DoLS yn golygu bod hawliau nifer gynyddol o unigolion wedi’u diogelu, mae haen ychwanegol o graffu dros eu trefniadau gofal, mynediad at eiriolaeth, ac yn gallu dod â her i’r llys petaent yn dymuno gwneud hynny. Mae’r DoLS yn helpu sicrhau bod cynllunio gofal yn gyfreithlon ac yn cael ei gyflawni yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol sef er budd pennaf yr unigolyn a’r opsiwn gyda’r lleiaf o gyfyngiadau. Mae hyn yn cynnwys cynllunio mwy cadarn, ymgynghori a dogfennau mewn perthynas â materion fel eiriolaeth, teilwra lleoliadau, mynediad i’r gymuned, y defnydd o feddyginiaeth cudd a gwrth-seicotig a gweithgareddau dyddiol ystyrlon.
Beth oedd yr heriau?
Mae yna restr aros hir ar gyfer atgyfeiriadau. Mae’r nifer uchel o bobl hŷn a chartrefi gofal yn yr ardal o ganlyniad i nifer uwch na’r cyfartaledd o bobl wedi’u hamddifadu o’u rhyddid. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid adnewyddu awdurdodiadau DoLS bob deuddeg mis o leiaf ac mae’r asesiadau’n hir ac yn gyfreithiol gymhleth. Mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar y rhestr aros. O ganlyniad i hyn, mae risg i bobl gael eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghyfreithlon, nid oes ganddynt fynediad llawn at eu hawliau ac efallai nad ydynt yn y sefyllfa o’r budd pennaf iddynt, neu sy’n cynnwys gormod o gyfyngiadau.
Rydym yn disgwyl am ddyddiad cychwyn cyflwyno Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, ond rydym yn gwybod y bydd rhai o’r cyfrifoldebau dan y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid yn trosglwyddo o’r tîm DoLS i ymarferwyr gwaith cymdeithasol rheng-flaen. Bydd angen gwaith paratoi sylweddol ar gyfer hyn yn ogystal â hyfforddiant digonol yn y timau hynny. Gan nad ydym yn gwybod dyddiad na ffurf derfynol y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, mae’n ei gwneud yn anodd cynllunio a datblygu model cyflawni gwasanaeth.
Beth nesaf?
Bydd y tîm DoLS yn parhau i reoli a blaenoriaethu’r rhestr aros. Bydd hyfforddiant o’r newydd a hyfforddiant gloywi cyfreithiol o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i staff newydd a chyfredol, mewn perthynas â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a Threfniadau Amddiffyn Rhyddid, er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau mewn arferion. Bydd Aseswyr Budd Pennaf (ymarferwyr DoLS) yn paratoi i drosglwyddo i swyddogaeth Gweithiwr Proffesiynol Galluedd Meddyliol Cymeradwy dan y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid. Fodd bynnag, ni all hyn ddigwydd nes bod sefydliadau hyfforddiant achrededig a gofynion trawsnewid y swydd hon wedi cael ei chyhoeddi.
Lleisiau Uchel
Grŵp i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol sy’n cael ei hwyluso gan y Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol yw Loud Voices. Bwriad Loud Voices yw gwrando ar brofiadau a barn plant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt lais. Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ddysgu am yr hyn sy’n mynd yn dda, a’r hyn allwn ni fel gweithwyr proffesiynol ei wneud yn wahanol.
Yn dilyn terfyn pandemig Covid, rydym wedi ailddechrau’r grŵp hwn. Mae’r sesiynau’n cael eu cynllunio bob amser er mwyn sicrhau bod plant yn cael amser i gael hwyl yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgynghoriad gyda’r oedolion sy’n bresennol.
Datblygu ein gwasanaethau dementia
Rydym wedi sefydlu Fforwm Gwasanaethau Dementia Conwy i gefnogi datblygiad a darpariaeth gwasanaethau dementia yn lleol. Grŵp gweithredol yw hwn sydd â’r bwriad o ennyn trafodaethau agored a chydweithredol rhwng y rhai sy’n ymwneud â datblygu, gweithredu ac adrodd ar ofal dementia yng Nghonwy. Bydd y grŵp hefyd yn datblygu ac yn goruchwylio gweithredu a chyflawni’r Strategaeth Dementia arloesol yn y Sir. Mae cynrychiolwyr o’r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector yn rhan o’r fforwm.
Mae swyddogion o Ofal Cymdeithasol i Oedolion wedi sefydlu gweithgor gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o wahanol adrannau yn y Cyngor i’n cefnogi ni gyda llwyddo i gael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer fel sefydliad sy’n deall dementia. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar gynllun gweithredu i gefnogi cadw’r statws hwnnw. Mae hyn wedi cael ei gydnabod yng Nghynllun Corfforaethol Conwy bellach.
Rydym yn cymryd rhan weithgar mewn amrywiaeth o grwpiau tasg a gorffen newydd a reolir gan y Tîm Cydweithio Rhanbarthol mewn perthynas â chefnogi gweithredu ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan’. Mae’r rhain wedi cael eu llunio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda dros 1800 o bobl, yn amrywio o’r rheiny sy’n byw gyda dementia i sefydliadau sector gwirfoddol ac ymarferwyr ledled Cymru a’r DU yn rhan o’r gwaith. Gwelliant Cymru fu’n arwain ar y gwaith hwn fel rhan o’r Rhaglen Gofal Dementia, gyda gofynion Cynllun Gweithredu Dementia ar gyfer Cymru yn llywio’r gwaith, a Grŵp ar Oruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia Llywodraeth Cymru yn goruchwylio’r gwaith.
Mae 20 o safonau (wedi’u crynhoi o dros 100 o ddarpar safonau), ac maen nhw’n nodi’r manylion y mae pobl yn credu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal dementia yng Nghymru.
Yn yr Adran Gofal Cymdeithasol, rydym hefyd wedi defnyddio arian y Gronfa Integreiddio Ranbarthol i benodi Gweithiwr Cefnogi Dementia ym mhob un o’n pum tîm ardal. Maen nhw’n cefnogi staff Gofal Iechyd a Chymdeithasol sy’n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol, gan wella ein dull aml-ddisgyblaethol i gefnogi pobl i fyw’n dda gyda dementia ac aros yn eu cartrefi eu hunain. Yn ei dro, mae hyn yn cefnogi datblygu’r tîm o amgylch y dull unigol y cyfeirir ato yn y Cynllun Gweithredu Dementia ac yn darparu gofal wedi’i gydlynu ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ogystal â chefnogaeth a thriniaeth fel bo angen. Mae’r Gweithwyr Cefnogi Dementia yn darparu man cyswllt allweddol i deuluoedd i’w helpu gyda chymhlethdodau’r system Gofal Cymdeithasol, ac hefyd yn rhoi:
- Cefnogaeth estyn allan hyblyg a phersonol, gan ddefnyddio dull gweithredu ‘tîm o amgylch yr unigolyn’ o’r diagnosis cyntaf.
- Cyfeirio cymunedol (cyfeirio pobl at wasanaethau eraill) a chefnogaeth eirioli ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr.
- Cefnogaeth sy’n ymateb i angen, yn hytrach na chefnogaeth yn dibynnu ar amserlenni.
- Cefnogaeth i gael mynediad at wasanaethau seibiant dros nos ac yn y dydd yng nghartref gofal Llys Elian fel bo anghenion yn dwysáu.
- Cefnogaeth ychwanegol i’r rhai lle bydd gofal cartref traddodiadol yn methu, a bod angen cefnogaeth mwy hyblyg i gynnal annibyniaeth.
- Cefnogaeth a hyfforddiant i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnwys hyrwyddo technoleg ddigidol.
- Cysylltiadau gyda nyrsio ardal o ran gofal diwedd bywyd a’r Tîm Adnoddau Cymunedol ehangach.
Drwy’r Tîm Cefnogi Dementia (a ariennir drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol hefyd) rydym wedi gallu profi’r cysyniad o gael ffordd fwy hyblyg i ddarparu gofal a chefnogaeth yn y gymuned ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr di-dâl.
Mae’r tîm wedi galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gynnal eu hannibyniaeth ac aros gartref, ac osgoi gorfod anfon pobl i’r ysbyty neu i ofal preswyl yn ddiangen, neu ohirio’r angen am wasanaethau o’r fath. Maen nhw hefyd wedi lleihau’r oedi pan fo angen anfon rhywun adref o’r ysbyty. Yn y cyd-destun lleol, mae hyn yn golygu llai o achosion Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o’r ysbyty seiciatrig, a defnyddio llai o leoliadau y tu allan i’r dalgylch, ac felly amharu llai ar deuluoedd ac achosi llai o boen meddwl iddyn nhw, yn ogystal â’r arbedion ariannol o ran costau lleoliadau. Credir y bydd y gefnogaeth fwy effeithiol hon ar gyfer gofalwyr pobl gyda dementia yn effeithio’n gadarnhaol ar wytnwch gofalwyr a bydd yn lleihau achosion argyfyngus. Yn anffodus, mae recriwtio i’r tîm wedi parhau i fod yn heriol iawn, ac nid ydym wedi gallu penodi i bob swydd erioed.
Oherwydd pwysau’r gwasanaeth, nid yw’n cynlluniau i dreialu gwasanaeth mwy hyblyg yn ein cartref preswyl i’r Henoed sydd â Salwch Meddyliol (Llys Elian) a’i gysylltu gyda gwaith y tîm hwn wedi gallu mynd rhagddo hyd yn hyn. Roeddem wedi gobeithio y gallai’r tîm ddefnyddio gwasanaethau seibiant Llys Elian dros nos ac yn ystod y dydd, wrth i anghenion pobl ddwysáu, ond oherwydd cyfyngiadau Covid a materion yn ymwneud â chynhwysedd ar draws y sector cartrefi gofal, nid ydym wedi gallu bwrw ymlaen gyda hyn o gwbl. Heb ystyried hyn, mae’r tîm ei hun wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau rhai unigolion.
Mae’r astudiaeth achos a ganlyn yn dangos sut mae’r Tîm Dementia yn gweithio’n agos gydag unigolion a’u hanwyliaid i greu’r canlyniadau gorau posib.
Cyn i ni fod yn rhan o’r gofal, roedd M yn byw yn annibynnol gartref, gyda chefnogaeth ei lys-ferch ofalgar. Yn dilyn ein ddiagnosis dementia, fe wnaeth ein Tîm Ail-alluogi ei gefnogi yn ystod cyfnod asesu cychwynnol ac yna cawson nhw eu disodli gan Dîm Dementia oedd yn galw bedair gwaith y diwrnod ar gyfer gofal personol, prydau bwyd a meddyginiaeth. Mae M yn ŵr bonheddig dymunol sydd fel arfer yn derbyn y gofal, ond ar brydiau, ni fydd yn derbyn cymorth i wisgo’n barod am ei wely. Roedd hyn yn her ar y dechrau, gan fod ei lys-ferch yn pryderu nad oedd o’n mynd i’w wely yn y nos gan nad oedd hi’n edrych fel bod unrhyw un wedi cysgu yn y gwely. Roeddem yn pryderu, ymhen amser, y byddai’n datblygu briwiau pwyso, felly fe wnaethom weithio gyda M i sefydlu trefn gyda’r nos, a chafwyd amrywiaeth o lwyddiant gyda hyn.
Pan fo hi’n braf, bydd M yn hoffi cerdded i’r siop leol, ac nid yw gartref weithiau pan fo rhywun yn galw amser cinio. Rydym yn gweithio gyda M a byddwn yn mynd yn ôl ato yn ddiweddarach.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda llys-ferch M, sy’n mynd ag o i’w apwyntiadau iechyd i gyd ac yn rhoi gwybod i’r tîm am unrhyw wybodaeth berthnasol. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar hyn o bryd i wella deiet M oherwydd ei fod wedi colli pwysau a bod ganddo ffigwr platennau isel drwy gwblhau siartiau bwyd a diod. Mae ei bwysau’n cael eu monitro yn y clinig.
Mae M yn parhau i fyw’n dda gyda dementia yn y gymuned gyda phedwar galwad y diwrnod.
Beth oedd yr heriau?
Mae sicrhau bod unigolion sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid yn cael eu cynnwys ar y Fforwm Gwasanaethau Dementia wedi bod yn heriol, felly rydym yn treialu dull gweithredu gwahanol i ymgysylltu ac ymgynghori ag unigolion sy’n defnyddio’r Ganolfan Dementia, a reolir gan Cynnal Gofalwyr. Drwy drafod materion gwasanaeth a phynciau llosg yn rheolaidd, bydd y llwybr hwn yn golygu bod modd i ni hysbysu datblygu gwasanaeth a’i gyflawni.
Roedd y Gweithwyr Cefnogi Dementia yn swydd newydd i ni, ac ar y dechrau, nid oeddem yn rhy siŵr beth fyddai’r swyddogaeth yn gynnwys. Fodd bynnag, mae’r swydd wedi newid dros amser, ac erbyn hyn, teimlir bod deiliaid y swydd yn rhan annatod a gwerthfawr iawn o’r Timau Adnoddau yn Cymunedol.
Beth nesaf?
Byddem yn hoffi cynyddu nifer y swyddi Gweithiwr Cefnogi Dementia sydd gennym gan fod y swydd wedi dod yn allweddol i alluogi’r Tîm Adnoddau Cymunedol i gefnogi unigolion sy’n byw â dementia yn eu hardal. Petai arian pellach ar gael i ni, mae’n bendant yn adnodd y byddem yn hoffi ei ddatblygu oherwydd y newid cadarnhaol maen nhw’n ei gyflawni.
Dros y deuddeg mis nesaf, rydym yn gobeithio cynyddu ein cynlluniau i feithrin cysylltiadau rhwng y tîm dementia a’r adnoddau sydd ar gael yng nghartref preswyl Llys Elian.
Ymgysylltu gyda rhaglen ymchwil y rhai sy’n gadael gofal
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llwyddo gyda chais am £234,000 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynnal darn o ymchwil dros ddwy flynedd sy’n edrych yn benodol ar ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ar hyn o bryd, mae cais moeseg wedi cael ei gyflwyno ac mae’r adnoddau llenyddiaeth ar y gweill.
Beth oedd yr heriau?
Ffactor fawr oedd cael arian ar ei gyfer yn ystod pandemig Covid-19. Yr ymchwil hwn oedd yr unig gais llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, ac er mwyn cryfhau’r cais, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill ledled Cymru i sicrhau bod dull cenedlaethol i’r ymchwil a’r ffordd y bydd yn cael ei rannu.
Mae’r ymchwil ei hun yn canolbwyntio ar gyswllt gwael rhwng pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal a gwasanaethau, a gall hyn greu her wrth symud ymlaen.
Beth nesaf?
Nod yr ymchwil yw:
- Datblygu model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Mae’r bwrdd rheoli prosiect wedi cael ei sefydlu a holwyd pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil.
- Bydd yr ymchwil yn cael ei rannu drwy greu podlediad, TikTok a phecynnau hyfforddi ar gyfer bob Awdurdod Lleol.
Bws Profiad Realaeth Awtistiaeth
Comisiynodd Conwy Fws Profiad Realaeth Awtistiaeth yn ystod hydref a gaeaf 2022-23. Mae’r Profiad Realaeth Awtistiaeth yn sesiwn hyfforddiant arloesol, ddwys ac ymarferol sydd wedi’i datblygu i roi profiad rhithiol i bobl nad ydynt yn awtistig o fyw gydag awtistiaeth. Mae hwn yn brofiad ymarferol iawn sy’n rhoi gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr o awtistiaeth ac sy’n eu helpu i ddechrau gweld y byd o safbwynt rhywun awtistig.
Mae’r Bws yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r anawsterau prosesu synhwyraidd y mae pobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn eu hwynebu. Gan fod hwn yn faes pwysig o ran codi ymwybyddiaeth ar draws yr Awdurdod Lleol, mae’r profiad ar gael i bob gwasanaeth sy’n delio â’r cyhoedd ar draws Conwy, gan gynnwys Tai, Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg wrth gwrs. Anfonwyd gwahoddiad at benseiri lleol sy’n gweithio gyda’r Awdurdod Lleol; roedd eu hadborth yn gadarnhaol o ran eu dealltwriaeth o sut gall yr amgylchedd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar unigolyn ag anawsterau prosesu synhwyraidd.
Dyma beth ddysgodd cyfranogwyr o’r profiad:
Mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am sut mae unigolyn ag awtistiaeth yn meddwl a gweld pethau o’u hamgylch, a’u ffordd o ryngweithio yn eu hamgylchedd.
Cyfranogwr
Bod yn fwy ymwybodol o ran cyfathrebu a bod yn ymwybodol o’r amgylchedd ac unrhyw sŵn cefndirol cyn gofyn cwestiynau neu roi cyfarwyddiadau. Roeddwn i wedi bod yn ymwybodol o hyn o’r blaen, ond llwyddodd y Bws Awtistiaeth i ddod â hyn yn fwy byw a’i wneud yn fwy greddfol.
Cyfranogwr
Bod yn fwy ymwybodol o pa mor llethol all mewnbwn synhwyraidd fod wrth ofyn i unigolyn gwblhau tasg neu ddilyn trefn ddyddiol.
Cyfranogwr
Gallwch ddarllen llyfrau neu fynychu hyfforddiant arall, ond roedd hyn yn cynnig mwy o lawer o ddealltwriaeth a dangosodd yn glir faint o effaith mae awtistiaeth yn ei chael ar fywyd bob dydd yr unigolion rydym ni’n eu cefnogi a beth allent orfod delio ag ef bob dydd. Nid oeddwn i wedi sylweddoli pa mor anodd yw hi.
Cyfranogwr
Beth oedd yr heriau?
Mae codi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod hyn yn berthnasol ar lefel drawsbynciol i bob adran wedi bod yn her. Rydym hefyd yn ymwybodol o flaenoriaethau eraill o ran pa hyfforddiant ddylai fod yn orfodol, yn enwedig o ystyried capasiti pobl i gwblhau popeth sy’n ofynnol ohonynt.
Beth nesaf?
Byddwn ni’n parhau i gomisiynu’r Bws Profiad Realaeth Awtistiaeth, ar sail yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gyfranogwyr. Roedd yr adborth yn awgrymu y byddai hyn o fudd i rieni plant ag anawsterau prosesu synhwyraidd hefyd.
Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi lansio 2 fodiwl newydd:
- Modiwl 1: Deall Awtistiaeth (hoffem i hwn fod yn orfodol ar draws yr Awdurdod Lleol)
- Modiwl 2: Deall cyfathrebu effeithiol ac Awtistiaeth
Rydym wedi comisiynu Hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd arbenigol ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol, Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol a staff cefnogi mewnol yn y Gwasanaeth Anableddau.
Plant a phobl ifanc yn cael mynegi eu barn trwy ap Mind of My Own
Mae Mind of My Own yn system ar y we er mwyn i blant a phobl ifanc gyfathrebu â’r gweithwyr proffesiynol yn eu bywydau. Yn strategol, y nodau yw annog lefelau uwch o gyfranogiad mewn adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal a Chynadleddau Amddiffyn Plant fel bod barn a dewisiadau’r plentyn yn fwy amlwg. Mae sesiynau hyfforddiant misol wedi’u darparu ac mae pob tîm yn y Gwasanaethau Plant wedi dechrau defnyddio’r apiau gyda phlant a phobl ifanc.
Mae’r apiau’n caniatáu i bobl ifanc rannu newyddion da gyda’u gweithwyr, a chreu proffiliau un dudalen gan ddefnyddio’r nodwedd “This is me” yn yr ap, ymhlith llawer o ddewisiadau eraill. Mae dwy fersiwn o’r ap, mae un wedi’i dylunio ar gyfer plant iau a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff ffeithlun misol ei rannu gyda thimau, i annog rhannu enghreifftiau o arfer da, ac i annog rhagor o staff i ddefnyddio’r system newydd werthfawr hon fel rhan o’u pecyn gwaith cyffredinol.
Cynhaliwyd archwiliad ar ddiwedd haf 2022 i ganfod ansawdd “llais y plentyn” mewn adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal. Dangosodd yr archwiliad ddarlun cadarnhaol iawn. O’r 20 o achosion a archwiliwyd, barnwyd bod 16 yn ‘Dda’, 3 yn ‘Rhagorol’ ac 1 yn ‘Ddigonol’. Mae hyn yn dystiolaeth dda ein bod ni fel adran yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn dda iawn, a bod Mind of My Own yn cyfrannu at y llwyddiant hwnnw.
Mae adborth o’r grŵp “Lleisiau Uchel” yn awgrymu nad yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn dymuno mynychu eu hadolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal yn bersonol, felly mae Mind of My Own yn ffordd wych iddynt roi gwybod i bobl beth sy’n bwysig iddyn nhw, yn eu geiriau eu hunain, yn eu hamser eu hunain.
Beth oedd yr heriau?
Mae gweithredu system newydd fel Mind of My Own yn cymryd amser, ac mae wedi bod yn heriol ar ôl y pandemig, a thrwy gyfnod lle’r oedd llwythi achosion staff yn uchel oherwydd problemau staffio.
Mae gan staff ddulliau a dewisiadau presennol ar gyfer dulliau cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc, ac mae’n bosibl y bydd rhai grwpiau (hŷn) o bobl ifanc wedi gweld yr apiau a chredu eu bod yn fwy addas ar gyfer plant iau.
Mae llawer o ofalwyr maeth wedi croesawu’r system newydd gan ddweud bod y plant yn eu gofal wedi mwynhau ei defnyddio. Mae rhai wedi’i chael yn anodd delio â’r agweddau technoleg, ac mae sesiynau ac arddangosiadau ychwanegol wedi’u darparu. Mae sesiynau wedi’u darparu ar gyfer Asiantaethau Maethu Annibynnol hefyd.
Yr her wrth symud ymlaen fydd hyrwyddo defnydd parhaus o’r ap ochr yn ochr â ffyrdd ystyrlon eraill o ymgysylltu ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Beth nesaf?
Mae Mind of My Own wedi’i ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf, sy’n cynnig cyfle gwych i barhau i gynyddu buddion y system. Rydym yn parhau i ddarparu sesiynau hyfforddiant misol i staff, a chefnogi gofalwyr maeth trwy fynychu eu boreau coffi bob deufis. Mae’r tîm maethu yn addasu eu ‘blychau croeso’ i gynnwys deunyddiau i gefnogi defnyddio Mind of My Own, yn enwedig pan fydd plant yn dod i mewn i’r system ofal am y tro cyntaf. Mae’r Canolfannau Teuluoedd yn dechrau ei ddefnyddio hefyd. Yng Nghonwy, byddwn ni’n parhau i ddefnyddio Mind of My Own er mwyn annog plant a phobl ifanc i rannu eu llais, er mwyn eu cadw’n ddiogel, gwirio eu lles a gwella ein gwasanaethau iddyn nhw’n barhaus.
Swyddog Arweiniol Awtistiaeth Conwy a Sir Ddinbych
Yn 2020-21, cytunodd Grŵp Budd-ddeiliad Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig Conwy a Sir Ddinbych i gefnogi cynnig i gyflogi Arweinydd Awtistiaeth i weithio ar draws y ddau Awdurdod Lleol. Cychwynnodd swyddog newydd ym mis Mawrth 2023, a bydd yn arwain ar yrru gweithrediad Cod Ymarfer Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Byddant hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Budd-ddeiliad i ddatblygu cynllun gweithredu lleol ar y cyd a fydd yn adeiladu ar Gynlluniau Gweithredu Cod Ymarfer yr Awdurdod Lleol a chael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad go iawn. Byddan nhw’n gweithio ochr yn ochr â’r swyddog Cydweithio Rhanbarthol sydd â chyfrifoldeb dros gydlynu gweithredu’r Cod yn rhanbarthol.
Beth oedd yr heriau?
Ar hyn o bryd, mae Awtistiaeth yn effeithio ar 1-2% o boblogaeth y DU; sef 1 o bob 100 o blant a 2 o bob 100 o oedolion. Ar sail y boblogaeth bresennol o 118,184 a bod 16.7% rhwng 0 a 15 oed, byddwn yn amcangyfrif bod 198 o blant ag Awtistiaeth yng Nghonwy a 2,359 o oedolion (dogfen ymchwil proffil poblogaeth Conwy Hydref 21). Poblogaeth Sir Ddinbych yw 98,800, ac mae 16.5% dan 16 oed, felly mae tua 163 o blant ag Awtistiaeth a thua 1,973 o bobl ag Awtistiaeth. Ar draws y ddau Awdurdod Lleol, mae hon yn boblogaeth bosibl sylweddol (4,963) i ddarparu cefnogaeth iddynt o ran bwriad y Cod Ymarfer ar gyfer darparu Gwasanaethau Awtistiaeth. Ni fydd angen cefnogaeth Gofal Cymdeithasol ar lawer ohonynt, ond bydd angen i’r Awdurdod Lleol ystyried eu hanghenion fel dinasyddion lleol sy’n cael amrywiaeth eang o wasanaethau gan y Cyngor.
Bydd angen i’r Arweinydd Awtistiaeth ystyried sut mae angen i bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod Lleol gael eu haddasu neu eu diwygio i sicrhau eu bod yn ystyried anghenion amrywiol pobl ag Awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygol, gan wneud argymhellion fel bo’n briodol. Lle bo angen, mae’n bosibl y bydd angen i’r Arweinydd Awtistiaeth weithio gyda swyddogion i greu polisïau a gweithdrefnau newydd sy’n benodol i anghenion pobl ag Awtistiaeth. Er enghraifft, mae’r Bwrdd Diogelu wedi drafftio polisi ‘Arfer Diogelu gyda Phobl Awtistig’ yn ddiweddar y bydd angen ei weithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych a gallai effeithio ar bolisïau a gweithdrefnau presennol yr Awdurdod Lleol. Gallai hyn hefyd gynnwys polisïau corfforaethol, er enghraifft mewn perthynas â derbynfeydd a chyngor am gyfathrebu effeithiol gyda chwsmeriaid sy’n Awtistig neu sydd â Chyflyrau Niwroddatblygol. Byddai angen i ni ystyried sut mae angen addasu ein ffurflenni a’n systemau gwybodaeth hefyd er mwyn diwallu anghenion amrywiol dinasyddion Conwy.
Beth nesaf?
Bydd angen i’r Swyddog Arweiniol gymryd cyfrifoldeb dros weithredu cynlluniau gweithredu lleol Awtistiaeth mewnol unigol Conwy a Sir Ddinbych. Mae strwythurau mewnol Conwy a Sir Ddinbych wedi’u trefnu’n eithaf gwahanol, a bydd angen i’r Arweinydd ymgyfarwyddo â’r ddau er mwyn gweithredu’r cynlluniau’n effeithiol. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar
- Godi ymwybyddiaeth o Gyflyrau’r Sbectrwm Awtistig ymhlith staff
- Sicrhau bod llwybr atgyfeirio di-dor rhwng Conwy a Sir Ddinbych
- Nodi bylchau o ran darpariaeth a chomisiynu’n briodol i fynd i’r afael â nhw
- Creu Cynllun Gweithredu Cyflyrau’r Sbectrwm Awtistig Conwy a Sir Ddinbych mewn partneriaeth ag amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid
- Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl ag amrywiaeth o gyflyrau niwroddatblygol
Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, mae gennym brosesau a gweithdrefnau diogelu mewn grym i gefnogi plant a phobl ifanc i’w dysgu sut i wneud dewisiadau. Credwn fod hyn yn rhan hanfodol o’u datblygiad. Rydym yn ceisio’n barhaus i roi’r rhyddid iddynt wneud penderfyniadau am leoliadau, pwy sy’n rhan o gyfarfodydd a chynlluniau ymyrraeth er mwyn meithrin eu hyder. Rydym yn deall a chydnabod y gallai pobl ifanc â hanes o drawma ei chael hi’n heriol gwneud dewisiadau. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i ganfod eu dewisiadau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gydag urddas.
Mae ein hymyrraeth wedi’i threfnu yn cefnogi ac annog cyfranogiad teuluoedd a gofalwyr ym mhob agwedd ar ein gwaith hefyd, pan fo’n ddiogel a phriodol i wneud hynny. Trwy ein hymyrraeth wedi’i threfnu a systemau adborth, rydym yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig i’w gilydd, a gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu newid cadarnhaol. Ar hyn o bryd, rydym yn eirioli dros greu Swyddog Rhianta yn y gwasanaeth i ddatblygu’r agwedd hon o waith ymhellach.
Dull gweithredu plentyn yn gyntaf a nodi trawma
Fel gwasanaeth, rydym wedi mabwysiadu a gweithredu dulliau sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf ac sy’n ystyriol o drawma wrth ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar greu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr drwy ddarparu diogelwch, ymddiriedaeth, dewis, cydweithrediad a grym.
Trwy’r dull sy’n ystyriol o drawma, rydym wedi cefnogi ymarferwyr i fabwysiadu’r arfer hon ar gyfer yr holl waith gyda phlant a phobl ifanc sy’n agored i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud?
Trwy weithredu’r dull hwn, rydym wedi gallu:
- Cyflwyno prosesau a gweithdrefnau diogelu i gefnogi plant a phobl ifanc i’w dysgu sut i wneud dewisiadau a fydd, yn ei dro, yn meithrin eu hannibyniaeth. Rydym yn cydnabod y gallai pobl ifanc â hanes o drawma ei chael hi’n heriol gwneud dewisiadau.
- Canfod barn a dewisiadau y bobl ifanc rydym ni’n gweithio gyda nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gydag urddas. Teimlwn fod hyn yn eu cefnogi i ddatblygu hunan-barch a hyder.
- Sicrhau ein bod yn cydweithio. Mae cydweithio yn rhan o bob math o ryngweithio byddwn ni’n ei wneud fel gwasanaeth, gyda phlant, pobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr, asiantaethau partner a chydweithwyr.
- Cynnwys prosesau sy’n sicrhau ein bod yn cwrdd yn rheolaidd ac adolygu cynlluniau ymyrraeth a chefnogaeth, a chynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am eu cynlluniau ymyrraeth a chyswllt.
- Annog a rhoi cyfle i ymarferwyr ddod i adnabod pobl ifanc, a dangos ein bod yn malio fel gwasanaeth trwy annog ethos sy’n dangos ein bod yn gweithio gyda nhw, nid arnyn nhw.
- Hyrwyddo’r defnydd o iaith gadarnhaol gyda phobl ifanc ac eirioli ar eu rhan. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi a’i ddatblygu gan adborth gan bobl ifanc a theuluoedd a gaiff ei gasglu trwy ein prosesau adborth.
- Targedu cyfranogiad rhieni a gofalwyr. Rydym wedi darparu ymyrraeth wedi’i threfnu i gefnogi ac annog cyfranogiad teuluoedd a gofalwyr ym mhob agwedd ar ein gwaith, pan fo’n ddiogel a phriodol i wneud hynny.
Beth oedd yr heriau?
Bu nifer o heriau wrth weithredu’r dull sy’n rhoi’r plentyn yn gyntaf ac sy’n ystyriol o drawma. Ers pandemig Covid-19, bu angen i ni ailsefydlu trefniadau cyswllt a pherthnasoedd gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.