Tîm Integredig Teuluoedd Lleol
Y llynedd, fe soniom am y Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT), sy’n cynnwys staff o Gonwy, Dinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r tîm yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc yn y cartref. Bu’n hollol weithredol ers blwyddyn bellach, ac yn rhoi gwasanaeth i’r ddwy sir, gyda thîm o staff yn darparu cefnogaeth seicolegol, ymddygiadol ac ymyrraeth.
Yn bennaf, mae atgyfeiriadau Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol wedi’u derbyn gan unigolion gyda ASD, ADHD neu nodweddion anhwylder ymlyniad. Mae aelodau’r tîm wedi cael Therapi Cyfathrebu Awtistiaeth Pediatreg, Arweiniad Rhyngweithiol Fideo a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyd, sy’n cefnogi rhieni i reoli ymddygiad heriol.
Erbyn mis Rhagfyr 2022, roedd y tîm wedi cael 175 o atgyfeiriadau felly mae’r galw am gefnogaeth yn amlwg.
Creu Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl
Oherwydd arafu gwaith adeiladu Bwthyn y Ddôl, yn ôl y cynlluniau a rannwyd mewn adroddiadau blaenorol, mae’r tîm yn dal i weithio yn swyddfeydd y Cyngor ym Mae Colwyn. Mae’r tîm wedi cytuno ar lwybr atgyfeirio ac asesu ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych ac mae’r bartneriaeth yn gweithio’n dda.
Mae’r aelodau hynny o staff oedd yn wreiddiol yn gweithio yn ein cartref plant, Glan yr Afon, wedi trochi eu hunain yn y tîm amlasiantaethol ac wrthi’n dysgu dulliau therapiwtig newydd o weithio â phlant. Rydym wedi bod yn recriwtio gweithwyr i’r elfen breswyl o’r gwasanaeth ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn recriwtio staff ar yr un pryd.
Erbyn mis Rhagfyr 2022 roedd y tîm wedi gweithio â saith o deuluoedd ledled Conwy a Sir Ddinbych ac arbed 1,061 o wythnosau o fod mewn gofal.
Rydym wedi dethol cynigydd a ffefrir ar gyfer y prosiect i adeiladu’r ganolfan asesu newydd ac rydym wrthi’n gweithio ar ddyfarnu’r contract gyda’r nod o gymeradwyo’r dyluniad a’r costau targed.
Unwaith y pennir y costau a’r cyllid, disgwyliwn y bydd y datblygiad yn para tua 70 o wythnosau, gan ddechrau ym mis Mai 2023 a dod i ben ym mis Awst 2024. Byddwn, wrth gwrs, yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf yn ein hadroddiad y flwyddyn nesaf.
Gweithio â Clwyd Alyn i ddarparu llety yn Llanrwst
Fel y soniwyd yn adroddiad y llynedd, buom yn cydweithio â Chymdeithas Tai Clwyd Alyn wrth ddatblygu tri o fflatiau ag un ystafell wely yn Llanrwst. Neilltuwyd dau ohonynt ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r Gwasanaethau i Bobl Anabl, a’r llall i’r Tîm Pobl Agored i Niwed. Bu’r ddau wasanaeth yn cydweithio i ddod o hyd i dri o denantiaid a fyddai’n medru cyd-fyw â’i gilydd. Roedd gan bob un ohonynt anghenion cymorth ysgafn a ofynnai am gefnogaeth rhwng dwy a phump awr bob wythnos.
Gorffennwyd y fflatiau i safon uchel iawn ac roeddent yn barod erbyn diwedd mis Awst 2022. Rydym yn falch o ddweud y symudodd y tenantiaid i mewn yn fuan wedi hynny.
Mynd i’r afael â’r heriau staffio yn y Gwasanaeth Pobl Hŷn
Fel y soniwyd y llynedd, mae ein Gwasanaeth Pobl Hŷn yn dal i wynebu galw digynsail a phrinder staff. Mae gan bob un o’r Timau Adnoddau Cymunedol restr aros hirfaith o achosion i’w hasesu gan Weithiwr Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol. Ar hyn o bryd ni fedr y tîm ond dyrannu achosion a bennir yn rhai brys, ac mae rheolwyr yn brysbennu pob cais arall am asesiad gan anfon llythyr i roi gwybod y bydd oedi. Mae’r timau bellach yn ymdrin yn fynych ag achosion cymhleth dros ben sy’n aml wedi dod yn argyfwng, wrth reoli hefyd yr anawsterau ychwanegol pan mae angen comisiynu pecynnau gofal.
Ar hyn o bryd mae gennym werth mwy na chant o oriau o ofal cartref na fedrwn ei gomisiynu. Yn sgil hynny mae pobl agored i niwed yn cael eu rhoi mewn cartrefi gofal, neu’n derbyn gofal gartref gan eu teuluoedd neu ofalwyr digyflog, ac mae rhai o’r rheiny’n ei chael hi’n anodd cyflawni eu gwaith gofalu gan nad oes pecynnau gofal ar gael i’w cefnogi. Er gwaethaf yr holl wasgfeydd rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i roi blaenoriaeth i ryddhau pobl o’r ysbyty ac rydym yn gyson wedi cadw lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn isel yng Nghonwy.
Yn ein timau Gwaith Cymdeithasol rydym wedi bod yn defnyddio staff locwm a staff asiantaethau i ymdrin â rhywfaint o’r llwyth gwaith, ond oherwydd y gost sy’n gysylltiedig â hynny, nid dyma’r dewis rydym yn ei ffafrio. Mae ein partneriaid allanol yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff, ac o ganlyniad bu’n rhaid iddynt ddychwelyd pecynnau gofal na fedrent eu darparu. Mae ein timau mewnol wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb am y rhain, ond maent hwythau’n cael trafferth recriwtio staff.
Drwy ddefnyddio rhywfaint o Gyllid Integreiddio Rhanbarthol rydym wedi cyflogi asiantaeth recriwtio/staffio wrth sefydlu tîm peripatetig. Mae hynny wedi ein galluogi i ryddhau rhywfaint o staff mewn un ardal Tîm Adnoddau Cymunedol; rydym wedi llwyddo i helpu pedwar o bobl i ddychwelyd adref o gartref gofal a galluogi un gofalwr anffurfiol i fynd yn ôl i’r gwaith. Bydd tri chant o oriau gofalu ychwanegol ar gael o ganlyniad i’r gwaith hwn.
Llwyddom i sicrhau rhywfaint o gyllid ychwanegol ar sail achos busnes y llynedd i recriwtio pump o staff Gwaith Cymdeithasol ychwanegol: un ymhob Tîm Adnoddau Cymunedol er mwyn ateb y galw cynyddol am ein gwasanaethau.
Rydym hefyd wedi dechrau defnyddio gwahanol ddulliau o ddenu a recriwtio aelodau newydd o staff i’n timau cefnogaeth cymunedol, ac mae rheolwyr yn mynd i amryw ddigwyddiadau cymunedol a ffeiriau swyddi er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd yn ein gwasanaethau. Mae hyn wedi cael effaith ac wedi arwain at recriwtio aelodau newydd o staff.
Mae cadw ein staff presennol a diogelu eu lles, a hwythau oll yn gweithio dan bwysau aruthrol, yn flaenoriaeth i’r gwasanaeth a thrwy drafod â chydweithwyr Adnoddau Dynol a staffio rydym wedi llwyddo’n ddiweddar i drefnu sesiwn i helpu staff i ddeall effaith trawma eilaidd, a chael eglurhad o ‘anafu moesol’ ac effaith hynny ar staff.
Cynhaliom adolygiad canol blwyddyn o daliadau ym mis Hydref 2022 gyda’r nod o gynyddu ffioedd y darparwyr er mwyn iddynt fedru codi cyflogau staff. Gobeithiwn hefyd y bydd gweithredu’r dull newydd o gomisiynu gofal cartref yn cael effaith gadarnhaol ar ein gallu i gyflawni yn y sector gofal cartref yng Nghonwy.
Os oes diddordeb gennych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, mewn gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol, ewch i Gofalwn.Cymru neu wefan swyddi Conwy
Ymgartrefu yng Nghanolfan Ffordd Douglas
Wedi adnewyddu hen ysgol Fictoraidd ynghanol Bae Colwyn rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n ffonio neu’n galw heibio i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth a nifer y gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod Lleol a’r trydydd sector sy’n defnyddio’r cyfleusterau i feithrin cyswllt â theuluoedd yn nes at adref. Mae’r rhain yn cynnwys:
- GIFT, sy’n darparu gweithgareddau gwyliau i bobl ag anableddau.
- Yr Uned Diogelwch Trais Teuluol, sy’n darparu cyngor a chefnogaeth, cyfarfodydd un-i-un a mynediad at raglenni fel ‘Freedom’ ac ‘Own My Life’, yn ogystal â’r rhaglen ‘STAR’ i blant sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig.
- Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i gael mynediad at addysg a gwaith. Maent wedi dod i’r ganolfan i gynnal sesiynau coginio a bwyta.
- Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, sy’n darparu gwaith grŵp sy’n ymdrin â lles wedi’i dargedu at bobl ifanc dan un ar bymtheg oed, gan gynnwys sesiynau coginio un-i-un.
- Cymraeg i Blant, sy’n cynnal sesiynau canu yn Gymraeg i rieni a rhoi blas ar yr iaith i aelwydydd di-Gymraeg.
- STAND, sesiynau grŵp i blant dan bump ag anableddau a’u rhieni, gweithdai cynghori ar fagu plant, a’r rhaglen PEEP sy’n datblygu sgiliau rhifo cynnar drwy chwarae.
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru, sy’n galluogi oedolion a phlant i alw heibio am gefnogaeth.
- Y Tîm Teuluoedd Integredig Lleol, sy’n cefnogi teuluoedd i reoli ymddygiad heriol ar yr aelwyd.
- Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, sy’n trefnu apwyntiadau cyn ymgynghori ar gyfer pobl ifanc ar y rhestr aros am wasanaethau niwroddatblygiadol.
- Uwch-ymarferydd Nyrsio sy’n gofalu am iechyd plant a phobl ifanc rhwng pedair a deunaw oed.
- Grŵp cefnogi bwydo ar y fron gyda bydwraig Dechrau’n Deg.
Roedd hi’n anodd meithrin cyswllt â phobl dan gyfyngiadau Covid-19, ond unwaith y cawsom agor ein drysau i’r cyhoedd a chychwyn y grwpiau, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl oedd yn galw heibio.
Nid oedd sefydliadau’n gwybod am y cyfleusterau oedd ar gael iddynt yng Nghanolfan Ffordd Douglas ac felly estynnom wahoddiad iddynt ddod i weld y lle. Mae GIFT, yn enwedig, yn defnyddio’r ganolfan yn rheolaidd er mwyn elwa ar y cyfleusterau i bobl anabl.
Byddwn yn dal i weithio â’r gymuned a’n partneriaid lleol wrth ddatblygu darpariaeth i deuluoedd sydd wedi’i theilwra yn ôl yr anghenion sy’n bodoli yn ardal ganolog Conwy.