Fel unigolion, mae pawb ohonom yn wahanol. Mae gennym hoffterau ac anhoffterau gwahanol, gobeithion gwahanol a breuddwydion gwahanol ar gyfer y dyfodol.
Os fyddwch chi angen cymorth, cefnogaeth neu gyngor gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn ymdrechu am y canlyniad gorau i chi. Er mwyn cyflawni hyn yn iawn, rydym angen deall beth sydd bwysicaf i chi a’ch teulu a sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i chi flaengynllunio mewn modd sy’n mynd i wneud y gwahaniaeth rydych chi’n ei ddymuno.
Rydym wedi bod yn gwella’r modd y mae hyn yn digwydd i bobl ifanc ag anableddau, wrth iddynt “drosglwyddo” mewn i fyd oedolion, ac edrych ar ffyrdd arloesol o wrando ar Blant sy’n Derbyn Gofal.
Trosglwyddo
Cefndir
Mae Gwasanaeth Trosglwyddo wedi bodoli yng Nghonwy ers 8 mlynedd. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys un Cydlynydd Trosglwyddo wedi’i leoli yng Ngwasanaethau Plant ac un Cydlynydd Trosglwyddo yn y Tîm Anableddau Dysgu i oedolion. Fe sylweddolodd Conwy yn fuan beth oedd gwerth cynllunio trosglwyddo priodol gyda phobl ifanc, ac felly fe gyflwynodd adnoddau i ddatblygu tîm.
Beth sydd wedi newid?
Erbyn heddiw, mae’r tîm yn cynnwys Rheolwr Trosglwyddo, Uwch Ymarferydd, 2 Weithiwr Cymdeithasol sy’n gweithredu yn Weithwyr Trosglwyddo Allweddol ac un Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol anghymwysedig. Ers Ebrill 2012, mae gennym Weithiwr Mentora, Cefnogi Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymunedol. Fe rennir y swydd hon ag awdurdod cyfagos a gobeithir y byddwn yn llwyddiannus yn dod o hyd i gyllid am gyfanswm o dair blynedd.
Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, mae swydd ychwanegol wedi bod ynghlwm â’r tîm (wedi’i ariannu drwy CGE – Cyrraedd y Nod) er mwyn canolbwyntio ar bobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd sydd â syndrom Asperger ac sydd wedi’u henwi yn debygol o elwa o gefnogaeth i gynllunio ar gyfer bywyd oedolion. Mae wedi dod i ben erbyn hyn. Mae’r Gweithiwr Cefnogi Mentora ac Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymunedol (Grant rhanbarthol Strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig), sy’n gweithio â phobl ifanc 16 i 25 oed ag Asperger, wedi gallu parhau i wneud ychydig o ddarnau o waith, gyda’r grŵp yma i gynorthwyo â’r strategaeth gwblhau.
Mae’r tîm wedi’i leoli o fewn y gwasanaeth Anableddau Dysgu ond clustnodir lle iddo o fewn y Tîm Plant ag Anableddau. Mae’r Tîm Trosglwyddo yn gweithio ar draws ystod o anableddau, gan gynnwys anableddau dysgu, anabledd corfforol, amhariad synhwyrol, Anhwylderau Sbectrwm Awtistig/Asperger.
Nodau ac amcanion y gwasanaeth Trosglwyddo yw sicrhau trosglwyddiad esmwyth i bobl ifanc ag anableddau wrth symud o blentyndod i fyd oedolion.
Mae’r tîm yn gweithio ag asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau priodol a hygyrch i bobl ifanc sydd ag anableddau. Mae’n broses aml asiantaeth sy’n hyrwyddo ac yn gwella datblygiadau aml asiantaeth yn y dyfodol.
Mae’r broses Trosglwyddo yn cychwyn yn adolygiad Blwyddyn 8 yn yr ysgol. Mae’r Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau dros y 4 mlynedd nesaf, yn canolbwyntio ar gynllunio ymagweddau â’r unigolyn yn ganolog. Bydd y cyfan yn arwain at asesiad Gofal yn y Gymuned a chynllun gofal cyn i’r unigolyn droi’n 18 oed, ac os bydd angen caiff gwasanaethau eu darparu yn syth ar ôl eu 18fed pen-blwydd. Mae’r Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol yn parhau i ymwneud â’r unigolyn ifanc hyd nes y tybir eu bod wedi trosglwyddo’n llwyr i wasanaethau oedolion.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
– “Dwi wedi bod drwy newidiadau …. gadael ysgol, coleg a mynd i wasanaethau dydd. Mae wedi bod yn anodd ond roedd gen i gynllun o’r hyn roeddwn eisiau ei wneud. Allwn i ddim bod wedi mynd drwyddo heb fy ngweithiwr trosglwyddo.” (Defnyddiwr Gwasanaeth)
– “Mae yna lawer o newidiadau …. ond yr hyn oedd yn gyson oedd fy ngweithwyr trosglwyddo ar gyfer {fy merch a fy mab}”. (Rhiant i 2 o ddefnyddwyr gwasanaeth)
– “Dwi wedi gweithio gyda’r Tîm Trosglwyddo ers sawl blwyddyn ac maent yn gwneud ymdrech enfawr i ddod i adnabod y bobl ifanc yn fy nosbarth. Byddai’n hawdd gwneud penderfyniadau am ddyfodol y disgyblion, yn enwedig y rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu, ond mae’r Gweithwyr Trosglwyddo yn gweithio’n galed i ddarganfod beth maen nhw wirioneddol eisiau ei wneud mewn modd naturiol a chyfeillgar iawn.” (Athro)
(Cynghorwr Gyrfaoedd) – “Dwi’n cydweithio â Gweithwyr Trosglwyddo i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd ddewis o ystod o opsiynau pan fyddant yn gadael ysgol. Rydym yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd er mwyn atal teuluoedd rhag gorfod ailadrodd pethau, sydd yn grêt, a gall y Gweithwyr Trosglwyddo ateb cwestiynau am wasanaethu dydd a phethau sydd ar gael ar ôl iddynt fod yn y coleg.”
Fforwm Plant sy’n Derbyn Gofal – Lleisiau Swnllyd
Cefndir
Roeddem eisiau:
- ymgysylltu â Phlant sy’n Derbyn Gofal wrth gyflwyno Gwasanaeth
- ymgysylltu â Phlant sy’n Derbyn Gofal yn y fforwm Ieuenctid ehangach yng Nghonwy gan bod Plant sy’n Derbyn Gofal heb gael eu cynrychioli o’r blaen
- datblygu cyfleoedd i Blant sy’n Derbyn Gofal gael eu cydnabod am
eu talentau a’u cyfraniadau i Gymdeithas
Beth sydd wedi newid?
- Ymgysylltu â NYAS i drefnu cyfarfodydd bob chwarter
- Daeth siaradwyr gwadd draw i drafod â phobl ifanc mae hyn wedi arwain at newid wrth gyflwyno gwasanaeth, ee, tocynnau hamdden ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.
- Mae swyddogion proffesiynol wedi bod yn atebol i bobl ifanc i gyflawni newidiadau
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Fe helpodd y grŵp (ynghyd â rhai aelodau o Gyngor yr Ifanc) i gynhyrchu gwaith celf ar gyfer fersiwn o’r cynllun Rhianta Corfforaethol oedd yn addas i bobl ifanc.
Cynigiwyd cyfle i bobl ifanc dywys myfyrwyr Gweithwyr Cymdeithasol o Brifysgol Bangor, i roi cipolwg iddynt o’r hyn sy’n gwneud Gweithiwr Cymdeithasol da.
Mae’r fforwm yn grŵp cefnogi llwyddiannus ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, ac mae grŵp rheolaidd yn mynychu.
Prosiect Bydis
Cefndir
Weithiau bydd plant a phobl ifanc yn mynd ar goll neu’n “rhedeg i ffwrdd”, ac yn amlwg mae’n beth pryderus ofnadwy pan fo hynny’n digwydd. Mae’n bwysig ein bod yn deall y rhesymau pam bod plant yn rhedeg i ffwrdd, felly mae angen i ni allu clywed eu barn, ac i weithredu ar beth maen nhw’n ei ddweud wrthym.
Gwahoddwyd grŵp o gyn ymadawyr gofal, sydd â phrofiad blaenorol o fynd ar goll, i gydweithio â staff ar brosiect. Dyma oedd ganddynt i’w ddweud; petai rywun heblaw gweithiwr “proffesiynol” ar gael i siarad â nhw tra roeddynt ar ffo, byddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Dyma gychwyn syniad; cyn ymadawyr gofal yng ngofal llinell ffôn i bobl ifanc oedd ar goll. Byddant yn cynnig cyngor am sut i fod yn ddiogel, a gallu siarad â rhywun heb gael eu barnu ynglŷn â pham eu bod wedi rhedeg i ffwrdd. Roedd y prosiect “bydis” wedi cychwyn.
Beth sydd wedi newid?
Mae gennym grŵp sefydledig o “bydis” o fewn Conwy nawr, ac maent i gyd yn gyn ymadawyr gofal. Mae’r bydis yn cwrdd bob mis gyda gweithwyr o Wasanaethau Plant a Chydlynydd Plant Coll Heddlu Gogledd Cymru. Maent yn gweithio tuag at helpu gweithwyr proffesiynol gyda ‘cyfweliadau dychwelyd adref’.
Mae’r grŵp wedi llunio cynlluniau ar gyfer y llinell gymorth ac wedi edrych ar sut y gallant wneud gwahaniaeth, er enghraifft drwy roi gwybodaeth ar wefan, i atal pobl ifanc rhag mynd ar goll yn y lle cyntaf.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae pob Bydi wedi’u hyfforddi i’w galluogi i fentora pobl eraill. Cyflwynwyd y prosiect ganddynt yn ystod diwrnod Gwasanaethau Plant i staff er mwyn rhannu eu hamcanion a’u golau. Maent hefyd wedi ei gyflwyno yng nghynhadledd Barnado’s Ecsploetiaeth Plant a Phlant wedi’u Masnachu. Cafodd groeso mawr gan y gweithwyr proffesiynol oedd yn bresennol.
Mae’r Bydis wrthi’n cwblhau holiadur â phlant sydd wedi mynd ar goll yn y gorffennol, i gael gwell dealltwriaeth o beth fyddai’n gymorth. Rhannwyd y prosiect â phob sir yng ngogledd Cymru ac mae ganddynt i gyd ddiddordeb cryf i’w weld yn datblygu.
Yn unol â “Phrotocol Cymru Gyfan – Plant sydd ar Goll”, mae plant yn anfon neges glir i ni eu bod angen cymorth i ymdrin â phroblemau yn eu bywydau.