Ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol, mae angen i Gyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad i nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy. Mae’n dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles ac wedi ystyried darparu safonau lles. Mae’n rhoi gwybod am feysydd lle mae datblygiadau newydd, yn hytrach na phob agwedd ar ein gwaith, ac yn arfarnu ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau Gofal Cymdeithasol. Rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol. Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru.
Mae blaenoriaethau ein gwasanaeth wedi cael eu halinio i’r wyth safon ansawdd sy’n cynrychioli lles pobl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae pobl yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu cymwysedig a hynod fedrus yn cael ei gefnogi i weithio tuag at weledigaeth a rennir
- Mae’r angen am ofal a chymorth yn cael ei leihau ac nid yw anghenion yn cynyddu, gan sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl
- Mae cydnerthedd yn ein cymunedau yn cael ei hyrwyddo ac mae pobl yn cael eu helpu i gyrraedd eu potensial trwy annog a helpu pobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas
- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy a chwbl integredig o safon uchel i bobl
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllunio a darparu ei gofal a’u cymorth fel partneriaid cyfartal
- Mae pobl yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod ac unrhyw fathau eraill o niwed
- Mae pobl yn cael eu helpu i reoli eu llesiant a gwneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain fel y gallant gyrraedd eu potensial llawn a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl