Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / Ymateb i anghenion / Caiff pob plentyn ac oedolyn eu trin yn deg a chaiff eu hamrywiaeth ei barchu a’i hyrwyddo

Caiff pob plentyn ac oedolyn eu trin yn deg a chaiff eu hamrywiaeth ei barchu a’i hyrwyddo

Mae gan bawb ohonom yr un hawliau, ac ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn neb oherwydd eu hoedran, rhyw, rhywioldeb, statws priodasol, ethnigrwydd, dewis iaith neu gredoau gwleidyddol neu grefyddol. Mae’r Strategaeth Stigma yn enghraifft wych o brosiect sy’n seiliedig mewn ysgolion yng Nghonwy sydd wedi bod yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau pobl sydd ag Anableddau Dysgu.

Strategaeth Stigma

Cefndir
Yn 2006, fe luniodd Grŵp Cynghori ar Weithredu ym Maes Anabledd Dysgu ddatganiad ar Bolisi ac Arferion yn nodi bod pobl sydd ag anableddau dysgu eisiau derbyn yr un hawliau ag unrhyw un arall yr un oedran. Cydnabuwyd dros y blynyddoedd bod pobl yn aml yn wynebu ymddygiad gwrth cymdeithasol a throsedd.

Cynhaliodd Conwy Connect ddiwrnod yn archwilio profiadau pobl o aflonyddu a bwlio. Roedd 80% yn ymwybodol o’r mathau gwahanol o fwlio ac roeddynt yn gallu rhoi enghreifftiau o bob math.
Dywedodd cyfranogwyr eu bod wedi profi bwlio mewn amryw o leoliadau cyhoeddus a dywedodd rhai eu bod yn ddioddefwyr o fwlio yn eu cartrefi eu hunain.
Gall bwlis fod yn unrhyw un o ddieithriaid yn y stryd, plant, pobl abl, gweision cyhoeddus a hyd yn oed eu teuluoedd eu hunain.

Beth sydd wedi newid?
O ganlyniad i’r gwaith yma, lluniwyd Strategaeth Lleihau Stigma, ac fe’i diweddarwyd yn 2012/13. Cynhyrchwyd DVD mewn partneriaeth â thîm cynhyrchu defnyddwyr gwasanaeth TAPE a WIRED (Gwasanaeth Eiriolaeth Conwy) yn amlygu’r stigma y mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Ym mis Ebrill 2013, bu Cydlynydd Ymgysylltu Conwy Connect yn gweithio â thîm defnyddiwr gwasanaeth i godi ymwybyddiaeth o stigma â grwpiau gwahanol, gan gynnwys aelodau etholedig, ysgolion, colegau, Bysiau Arriva.

Mae sesiynau ar gyfer ysgolion y sir wedi bod yn boblogaidd ac fe arweiniodd at sesiynau ar gyfer gwasanaethau cyfan.  Cyflwynodd bysiau Arriva y DVD yn rhan o’u rhaglenni cyflwyniad a hyfforddiant blynyddol. Fe lansiwyd ymgyrch poster mewn partneriaeth rhwng Arriva a Heddlu Gogledd Cymru. Dangosodd Coleg Llandrillo y DVD i fyfyrwyr Anghydraddoldeb Cymdeithasol a myfyrwyr Lefel A.

Drwy gydol y broses mae defnyddwyr gwasanaeth wedi’u hawdurdodi i arwain, gan ddweud sut maent eisiau i’r strategaeth ddatblygu, ac yn ystod gweithgareddau ymarferol, maent wedi cysylltu â sefydliadau, bwcio, trefnu a chyflwyno sesiynau codi ymwybyddiaeth.

Mae grwpiau sydd wedi cymryd rhan yn y sesiynau ymwybyddiaeth wedi adrodd yn ôl yn dweud bod y DVD wedi bod yn arbennig o bwerus yn cynyddu eu dealltwriaeth o’r hyn mae pobl ag anableddau dysgu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Cymerwyd y siart canlynol o daflenni gwerthuso a ddosbarthwyd mewn coleg.pie-chart-p31

Roedd y sylwadau canlynol ar y ffurflenni gwerthuso o’r un darllediad.
comment-bubbles-p31

Mae’r tîm cynhyrchu defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi bod yn rhan o’r Strategaeth Lleihau Stigma wedi mynd o nerth i nerth. Maent yn arbennig o falch o’r gwaith maent yn ei wneud ac mewn cyfnod byr maent wedi magu hyder. Ychydig iawn o gefnogaeth maent yn ei dderbyn gan y Cydlynydd Ymgysylltu bellach pan fyddant yn cyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth, ac mae ganddynt  gymhelliant ac angerdd pan fyddant yn dysgu pobl eraill am y Stigma y maent yn ei wynebu.

Ffeiliwyd dan: Ymateb i anghenion

Search

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English