Mae diogelu yn fater i bawb. Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i gadw golwg ar ein teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a phobl o fewn ein cymunedau. Os ydym ni’n meddwl y gallai unigolyn fod mewn perygl, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth i’w wneud, ac wrth bwy i ddweud.
Mewn materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, mae’r Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant yn chwarae rhan fawr i sicrhau bod gwasanaethau yn gwneud hyn yn dda. Mae Diogelu Oedolion Diamddiffyn (POVA) yn ymwneud mewn modd tebyg â lles oedolion.
Ymwybyddiaeth o Ddiogelu Oedolion Diamddiffyn
Roedd Diwrnod Byd-eang Codi Ymwybyddiaeth am Gamdriniaeth Pobl Hŷn, ar 15 Mehefin 2013, yn ddigwyddiad rhyngwladol i wella ymwybyddiaeth ymysg unigolion sy’n gweithio gyda, ac yn gofalu am oedolion hŷn sy’n ddiamddiffyn. Darparodd Sir Conwy, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wybodaeth a chyngor ym mhrif dderbynfa Ysbyty Glan Clwyd ac ar stondinau gyda gwybodaeth a thaflenni ym mhob mynedfa ym mhrif adeiladau’r Cyngor.
Tynnodd y digwyddiad sylw at yr angen i bobl ddeall beth yw camdriniaeth pobl hŷn a sut y gellir ei atal, ac y dylid trin pobl hŷn gydag urddas a pharch. Roedd gwybodaeth ar gael ar y stondinau ynglŷn â beth i’w wneud os oedd rhywun yn bryderus am oedolyn diamddiffyn a pha arwyddion i gadw llygad amdanynt. Cododd y digwyddiad ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd bod yna broses i helpu oedolion diamddiffyn a bod modd dweud wrth rywun am eu pryderon. Cyfrannodd y digwyddiad at strategaeth ataliaeth Conwy o ran amddiffyn oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth.
Bwrdd Lleol Diogelu Plant
Cefndir
Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych (BLlDP) yn Fwrdd statudol, sydd yn golygu bod swyddogaethau BLlDP wedi eu nodi mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Un o swyddogaethau BLlDP yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i ddiogelu plant ar draws yr ardal y mae’n gweithredu ynddo.
Beth sydd wedi newid?
Mae gan BLlDP dudalennau yn rhan o wefan Conwy, sydd yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Cynhyrchodd BLlDP boster sydd yn dweud wrth bobl â phwy i gysylltu â nhw os ydynt yn bryderus am blentyn. Mae’r poster i’w weld ar draws y ddwy sir mewn archfarchnadoedd, meddygfeydd teulu, llyfrgelloedd etc.
Mae’r neges yr un fath bob amser: mae diogelu plant yn fater i bawb.