Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl
Sut rydym yn prynu a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn
Yn adroddiad y llynedd, fe soniom wrthych am Brosiect Trawsnewid Pobl Hŷn, er mwyn gwella’r ffordd mae gwasanaethau gofal cartref yn cael eu darparu yng Nghonwy. Pwrpas hyn yw:
- Sicrhau bod unigolion yn derbyn gwasanaeth hyblyg, modern, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Sicrhau bod darpariaeth y gwasanaeth yn cyd-fynd â newidiadau yn y ddeddfwriaeth a rheolau Gofal Cymdeithasol
- Addasu i’r heriau recriwtio a chadw staff sy’n wynebu’r farchnad gofal yn y cartref
- Sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol yn cydweithio mewn ffordd gyson a chydgysylltiedig
- Diogelu’r gwasanaeth at y dyfodol ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn y galw
Ers y diweddariad diwethaf, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgynghori er mwyn llywio’r newidiadau sydd angen eu gwneud. Roedden nhw’n cynnwys y materion canlynol:
- Rydym wedi edrych ar wersi a ddysgwyd o’r modelau mae awdurdodau eraill wedi eu rhoi ar waith, a dysgu pa mor bwysig yw sicrhau bod newidiadau’n cael eu cyflwyno’n raddol.
- Rydym wedi cynnal cynllun peilot i weithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda 50 o unigolion sy’n derbyn gofal cartref.
- Fe ddysgom nad yw prosesau busnes Conwy yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer y ffordd newydd hon o weithio a pha mor bwysig yw cael dull cyson.
- Rydym wedi ymgynghori gyda 450 o unigolion allan o 700 sy’n derbyn gwasanaethau gofal cartref ar hyn o bryd drwy gynnal arolwg. Roedd 95.2% o’r rhai a ymatebodd yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda’r gofal maen nhw’n ei dderbyn ar hyn o bryd. O’r rhai hynny sy’n anfodlon, roedd nifer o’r rhesymau’n ymwneud ag amser a chysondeb, sydd wedi cael eu hymgorffori yn hyblygrwydd y model newydd, ac yn yr hyfforddiant.
- Fe wnaethom gynnal digwyddiad ‘cwrdd â’r prynwr’ ar gyfer darparwyr er mwyn esbonio diben y newidiadau rydym yn eu gwneud. Gofynnwyd am adborth am dri chynnig gwahanol, a chynhaliwyd cyfarfodydd un-i-un i ymgynghori ymhellach yn eu cylch.
- Rydym wedi ymgysylltu â staff gweithredol, ymarferwyr, Timau Adnoddau Cymunedol a’r holl dimau eraill sy’n rhan o’r broses, megis Safonau Ansawdd a Sicrwydd, Mân Ddyledwyr ac Asesiadau Ariannol. Rydym wedi cynnwys eu hadborth yn y model newydd, boed hynny’n newid i system TG neu ganfod datrysiad gwell i ateb y math o ymholiadau mae unigolion yn ein ffonio amdanynt amlaf.
- Rydym hefyd wedi ymgynghori gyda rheolwyr allweddol yn BIPBC ac Aelodau i gael eu hadborth ar y newidiadau rydym yn eu gwneud.
Edrychwch ar yr adran Edrych ymlaen tuag at 2022-23 a thu hwnt i gael rhagor o fanylion am y prosiect wrth i ni symud i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Cael adborth gan bobl sy’n derbyn ein gwasanaethau
Fel rhan o’r prosiect i foderneiddio sut rydym yn prynu a darparu gwasanaethau i bobl hŷn, fe wnaethom ofyn am adborth gan bobl sy’n derbyn gofal a chymorth yn y cartref, a gofalwyr di-dâl sy’n derbyn gofal a chymorth. Roedd ymatebwyr yn derbyn rhwng 1 awr a 56 awr o gymorth uniongyrchol bob wythnos; gallai’r cymorth gael ei ddarparu gan ein timau mewnol, neu gan asiantaethau gofal allanol sy’n cael eu comisiynu gennym ni. Ar y cyfan, roedd yr adborth yn hynod o gadarnhaol, gyda 94% o’r ymatebwyr yn datgan eu bod yn fodlon gyda’r gofal a’r cymorth roedden nhw wedi ei dderbyn. Mae pobl yn gwerthfawrogi cysondeb yn y ddarpariaeth gofal, pan fydd yr un tîm neu’r un unigolion yn ymweld ar amseroedd penodol, a theimlir yr effaith pan fydd y gofalwyr yn newid neu pan na fydd amseroedd neu hyd yr ymweliadau yn ôl y disgwyl.
O ran cynorthwyo pobl i gyflawni eu canlyniadau personol, nododd 95% o’r ymatebwyr fod y gofal a’r cymorth maen nhw’n eu derbyn yn eu cynorthwyo i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Heb ofalwyr, fyddwn i methu dod o fy ngwely
Mae ymatebwyr yn gwerthfawrogi bod y gofal a’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn yn eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain a mwynhau rhywfaint o annibyniaeth na fyddai’n bosibl fel arall. Gall gofalwyr anffurfiol gymryd seibiant o’u dyletswyddau gofal gan wybod bod eu hanwyliaid yn cael y gofal gorau.
Mae cael y gofal a’r cymorth yn fy ngalluogi i gael y rhyddid i ddadflino ac ymlacio gan wybod bod rhywun yn gofalu am fy ngŵr.
Gofalwr anffurfiol
Gofynnwyd i bobl beth fydden nhw’n ei newid am y gwasanaeth os gallen nhw, a daeth sawl thema i’r amlwg yn ymwneud â:
- Gweithwyr cefnogi’n gallu treulio mwy o amser ar yr alwad a pheidio â gorfod brysio at y cleient nesaf.
- Mwy o hyblygrwydd o ran amseroedd a hyd y galwadau.
- Gweld yr un gweithwyr cefnogi’n rheolaidd.
- Oedran, sgiliau a phrofiad gweithwyr cefnogi yn eu rôl.
- Trefniadau seibiant, gan y byddai llawer o ofalwyr anffurfiol yn gwerthfawrogi mwy o amser i’w hunain.
Bu’r ymarfer ymgysylltu hwn yn hynod o werthfawr a bydd yn ein cynorthwyo i lunio penderfyniadau am sut byddwn yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol, fel rhan o’r prosiect ehangach.
Gwasanaethau Pobl Hŷn – Heriau Staffio
Mae ein Gwasanaeth Pobl Hŷn yn cydlynu gofal a chymorth o bump Tîm Adnoddau Cymunedol wedi’u lleoli yn Llanfairfechan, Llandudno, Llanrwst, Bae Colwyn ac Abergele. Fe wnaeth ein gwasanaethau asesu a gofal cartref barhau i weithredu yn ôl yr arfer drwy gydol pandemig Covid-19, a chynhaliwyd asesiadau dros y we er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd. Wedi dweud hynny, mae’r pwysau sy’n wynebu’r gwasanaeth nawr yn gwbl ddigynsail, ac rydym yn ei chael yn anodd ymdopi â nifer yr achosion sydd gennym, yn enwedig os ydyn nhw’n rhai cymhleth ac angen ymyrraeth a goruchwyliaeth gan Weithiwr Cymdeithasol Cymwys. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, roedd gennym 320 o achosion heb eu dyrannu, a gall hyn fod yn rhannol am nad oedd unigolion eisiau dod atom i ofyn am gymorth yn ystod y pandemig ac yn lle hynny wedi ceisio rheoli eu hanghenion eu hunain. Mae nifer o unigolion nawr wedi cyrraedd pwynt argyfyngus ac angen cymorth ar frys; pe na bai’r pandemig wedi eu hatal rhag cael mynediad at rwydweithiau cefnogi anffurfiol a theulu, ni fyddai llawer o achosion wedi cyrraedd lefelau anghenion mor uchel. Mae ein timau felly’n ymdrin â niferoedd cynyddol o achosion brys ac yn ymdopi â’r rhwystrau i gomisiynu pecynnau gofal.
Mae’r argyfwng staffio ym maes Gofal Cymdeithasol wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau, ac nid yw Conwy yn eithriad. Yn ein timau Gwaith Cymdeithasol rydym wedi bod yn defnyddio staff locwm a staff asiantaethau i ymdrin â rhywfaint o’r llwyth gwaith, ond oherwydd y gost sy’n gysylltiedig â hynny, nid dyma’r dewis rydym yn ei ffafrio. Mae ein partneriaid allanol yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff, ac o ganlyniad bu’n rhaid iddyn nhw ddychwelyd pecynnau gofal nad oedden nhw’n gallu eu darparu. Mae ein timau mewnol wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rhain, ond maen nhw hefyd yn profi eu hanawsterau eu hunain o ran recriwtio staff.
Beth nesaf?
Rydym yn gobeithio y gallwn ni recriwtio unigolion i swyddi wedi’u targedu yn y timau Gwaith Cymdeithasol ac Ailalluogi er mwyn cynorthwyo i leihau rhestrau aros a chefnogi’r cynnydd yn y galw yn y gymuned. Nod yr ymgyrch recriwtio genedlaethol Gofalwn yw codi proffil Gofal Cymdeithasol fel gyrfa werth chweil, boed hynny gyda’r Awdurdod Lleol neu gyda darparwr preifat. Yn ogystal â’r gobaith y gellir manteisio ar yr ymgyrch genedlaethol, rydym yn rhagweithiol yn ein hagwedd at recriwtio a chadw staff ym maes Gofal Cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar dri phrif faes:
Hyfforddeiaethau Gwaith Cymdeithasol Conwy
- Cyflwynwyd rhaglen yn 2009 er mwyn ymdrin â heriau recriwtio ym maes gofal cymdeithasol drwy ddull ‘meithrin eich talent eich hun’.
- Mae hyfforddeion yn aros yn eu swyddi gwreiddiol ac yn ennill eu cymhwyster drwy’r Brifysgol Agored.
- Yn nwy flynedd gyntaf y rhaglen roeddem yn cefnogi dau weithiwr y flwyddyn. Yn y drydedd flwyddyn, fe wnaethom gynyddu’r cymorth ariannol ar gyfer y rhaglen er mwyn cynyddu nifer yr hyfforddeion i dri bob blwyddyn.
- Er mwyn cydnabod yr anawsterau recriwtio cynyddol, sy’n arwain at bwysau aruthrol ar yr adnoddau staffio presennol, byddwn yn cynnig lle ar gyfer pump o hyfforddeion gwaith cymdeithasol yn 2022.
Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso
- Mae Conwy yn un o dri phartner yn y cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, felly rydym yn croesawu myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn. Gan gydnabod y pwysau sydd ar ein cronfa bresennol o Addysgwyr Ymarfer rydym wedi buddsoddi’n fawr er mwyn cefnogi gweithwyr cymdeithasol profiadol i ennill dyfarniad achrededig Addysgwyr Ymarfer.
- O fewn y bartneriaeth dair ochrog rydym wedi cynnal gweithdai gyda’n gweithwyr cymdeithasol a Phrifysgol Bangor i ddiwygio’r cynnwys dysgu ar y cwrs MA. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y modelau damcaniaethol gwaith cymdeithasol a ddysgir i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol, a’r modd y cânt eu rhoi ar waith, yn cyd-fynd â’r arfer orau bresennol ym maes gwaith cymdeithasol.
- cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yw traean o’r rhai a gafodd eu penodi. O ganlyniad, mae angen i staff gwblhau Fframwaith y Tair Blynedd Gyntaf yn Ymarfer (Gofal Cymdeithasol Cymru). Mae ein Cydlynydd Ymarfer yn arwain y gwaith i gefnogi’r gweithwyr newydd a’u rheolwr drwy’r fframwaith, yn cynnwys cwblhau ‘Cyfuno Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus’.
Cefnogi dulliau recriwtio i’r sector Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy
- Rydym wedi darparu adnoddau ar gyfer gwasanaeth newydd, GofalwnCymru.Conwy i gynorthwyo pobl i gael swyddi ar draws y sector gofal, gyda swydd newydd ar gyfer Mentor Cyflogaeth Gymunedol i gefnogi’r gwasanaeth.
- Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy i sicrhau bod y sector Gofal Cymdeithasol yn elwa o raglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru.
- Rydym yn cydweithio gyda Choleg Llandrillo a chyflogwyr Gofal Cymdeithasol i gydlynu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Byddwn yn trafod ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu’n fanwl yn ddiweddarach yn yr adroddiad, serch hynny, yn fyr byddwn yn edrych ar:
- Ganolbwyntio ar iechyd a lles staff wrth i ni adfer o’r pandemig, yn cynnwys cadw staff a rhannu arfer orau.
- Darparu strategaeth ar ei newydd wedd ar gyfer y gweithlu sy’n ymgorffori’r hyn a ddysgwyd o’r pandemig.
- Croesawu ffyrdd o weithio newydd a mwy cynhyrchiol sy’n creu cyfleoedd i staff weithio’n hyblyg.
- Edrych ar y pwysau sy’n cael ei greu oherwydd maint y llwyth gwaith ar draws yr adran.
- Hybu gofal cymdeithasol fel dewis gyrfa.