Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw
Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Mae’r tîm Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi cynnal dull ‘busnes fel arfer’ ac mae’r asesiadau wedi parhau yn ystod y pandemig. Fe wnaeth yr Aseswyr Budd Pennaf a’r cartrefi gofal addasu eu harferion er mwyn hwyluso asesiadau dros y we pan nad oedd hi’n ymarferol cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Mae newidiadau sylfaenol hefyd ar y gweill, a symud o Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Ebrill 2022. Cafodd y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid eu cyflwyno yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) 2019 i ddisodli system Diogelu rhag Colli Rhyddid, ac fe’u lluniwyd er mwyn gosod hawliau a dymuniadau’r bobl hynny wrth wraidd pob penderfyniad a wneir ar golli rhyddid. Yn bennaf oherwydd effaith y pandemig, bydd yn cael ei roi ar waith yn hwyrach, a bydd ymgynghoriad cyhoeddus dros ddeuddeg wythnos yn cael ei lansio’n ddiweddarach yn y flwyddyn.
Er hyn, rydym yn parhau i baratoi ar gyfer y newidiadau i’r system ac rydym wedi defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i:
- Brynu Codau Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gyfer Cartrefi Gofal ac Ymarferwyr.
- Ymestyn oriau gweinyddu’r tîm er mwyn sicrhau bod ein rhestr aros yn gyfredol a bod y broses yn cael ei rheoli mor effeithiol â phosibl.
- Darparu rhaglen hyfforddi ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant ac Oedolion er mwyn diweddaru a meithrin dealltwriaeth gadarn o Alluedd Meddyliol, sy’n mynd i fod yn allweddol wrth roi’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid ar waith wrth edrych tua’r dyfodol.
- Creu oriau ychwanegol o amser BIA i reoli’r asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid presennol er mwyn bod yn barod i bontio i’r system newydd.
Beth yw’r heriau?
Y prif heriau oedd cynnal awdurdodiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ystod y pandemig, pan oedd cartrefi gofal a lleoliadau eraill yn ei chael yn anodd cyflawni eu swyddogaethau craidd. Yn amlwg roedd yna heriau logisteg o ran ymgysylltu â’r cartrefi gofal, creu’r isadeiledd a defnyddio technoleg dros y we er mwyn cynnal asesiadau.
Yn ogystal â hyn, roedd ceisio cynllunio a pharatoi ar gyfer pontio i’r Trefniadau Diogelu Rhyddid, gyda gwybodaeth gyfyngedig am lefel y newid, y codau ymarfer neu hyd yn oed sicrhau dyddiad eglur i’w roi ar waith yn un o’r prif heriau.
Beth nesaf?
Bydd y tîm yn parhau i reoli’r broses Diogelu rhag Colli Rhyddid a rheoli ôl-groniad yr achosion er mwyn parhau i baratoi ar gyfer pontio i’r system Trefniadau Diogelu Rhyddid yn fuan a sicrhau ein bod yn ymateb mor gyflym ac effeithiol â phosibl, ar ôl i’r rhaglen weithredu newydd gael ei hamlinellu.
Cefnogi Pobl ag Anableddau
Mae’r Gwasanaeth Anabledd yn wasanaeth hyd oes sy’n gweithio gydag unrhyw unigolyn sydd ag anabledd hirdymor sy’n effeithio ar ei allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am gynnal asesiadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ogystal â darparu gwasanaethau gofal uniongyrchol drwy ein darpariaeth fewnol.
Yn ystod 2021-2022 rydym wedi parhau i weithio gyda’n partneriaid mewn modd rhagweithiol a chreadigol yn y sector annibynnol a’r trydydd sector er mwyn darparu gwasanaethau rheng flaen o ansawdd uchel i bobl sy’n gymwys i gael gofal a chymorth a reolir. Gwneir hyn mewn amgylchedd lle mae Covid-19 yn parhau i fod yn gryn broblem, ac effeithir ar nifer y staff sydd ar gael yn y sector i’r fath raddau fel na allwn ni bob amser drefnu’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen. Mewn achosion fel hyn rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid a chyda’r unigolion a’u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed. O ran gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, rydym wedi comisiynu dros 96 o asesiadau codi a symud yn gorfforol gyda darparwr annibynnol.
Ochr yn ochr â’n gweithgareddau gweithredol o ddydd i ddydd, rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaethau. Rydym wedi cynorthwyo pobl i symud i fflatiau anabledd Ysgol Maelgwn ac mae’r adborth cychwynnol yn gadarnhaol.
Mae’n braf cael fy lle fy hun, rydw i’n hoffi treulio amser gyda’r bobl eraill sy’n byw yma hefyd. Rydw i’n gallu gwneud pethau drosof fy hun, yn fy amser fy hun, mae’n fwy hamddenol, dim cymaint o straen â lle ro’n i’n byw ynddo o’r blaen.
Defnyddiwr Gwasanaeth
Rydym yn falch ei bod wedi cael fflat, roeddem eisiau ei gweld yn blodeuo a chael yr annibyniaeth hwnnw.
Rhieni
Beth nesaf?
Mae ein grŵp strategol cynllunio llety yn parhau i weithio gyda’n partneriaid Tai i ganfod rhagor o lety er mwyn cynnig gwasanaethau byw â chymorth newydd. Eleni, mewn partneriaeth â First Choice Housing, byddwn wedi darparu cynllun person sengl ychwanegol ar gyfer unigolyn gydag anghenion cymhleth iawn ac ymddygiad heriol, sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Dai Clwyd Alyn i ddarparu tri fflat ar gyfer pobl ddiamddiffyn a phobl anabl yn Llanrwst.
Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT)
Mae LIFT yn dîm arbenigol amlasiantaethol, ymyrraeth gynnar sy’n defnyddio arferion yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi teuluoedd sy’n ei chael yn anodd rheoli ymddygiad heriol a/neu niweidiol yn eu cartref. Nod LIFT yw cefnogi teuluoedd:
- sy’n ei chael yn anodd rheoli ymddygiad heriol a niweidiol
- i ddeall gweithredoedd yr ymddygiad heriol
- i ddeall yr hyn sy’n sbarduno’r ymddygiad posibl
- datblygu a chynorthwyo i weithredu cynllun ymddygiad neu gynllun synhwyraidd cadarnhaol
- datblygu rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid a chael mynediad at hyfforddiant drwy sesiynau cydweithredol
Mae lleihau ymddygiad heriol yn debygol o alluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’u cyfoedion ac oedolion, cefnogi hunan-barch a hyder, a lleihau’r tebygolrwydd o gael anhwylderau iechyd emosiynol.
Mae LIFT yn gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer teuluoedd am dechnegau, offer, gweithgareddau, grwpiau a sefydliadau a allai eu cynorthwyo, yn ogystal â darparu gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a chefnogaeth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.
Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021, fe wnaeth y tîm ymdrin â chyfanswm o 184 o atgyfeiriadau (sy’n amlygu’r galw am gymorth i reoli ymddygiad heriol).
Beth oedd yr heriau?
Roedd hi’n her dechrau gyda thîm newydd ar brosiect newydd sbon yn ystod pandemig Covid-19. Roedd hi’n anodd cysylltu gydag aelodau eraill o’r tîm a defnyddwyr y gwasanaeth. Roedd yna hefyd heriau’n ymwneud â datblygu tîm amlasiantaethol oedd â strwythurau sefydliadol a dulliau gweithio gwahanol, a dod ynghyd fel uned gydlynol.
Mae yna hefyd gymhlethdodau’n gysylltiedig â chefnogi teuluoedd i reoli ymddygiad heriol gan nad dyma’r unig broblem yn y teulu fel arfer. Gall teuluoedd hefyd gael trafferth gyda thrawma, tlodi, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Rydym wedi mabwysiadu dull ‘dim drws anghywir’ sy’n atal teuluoedd rhag cael eu cyfeirio o un gwasanaeth i’r llall.
Beth nesaf?
Mae LIFT wedi cael cychwyn cadarnhaol a bydd y tîm yn parhau i adeiladu ar eu cynnydd hyd yma, gan ddatblygu’r gwasanaeth a sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori yn yr isadeiledd gofal cymdeithasol. Bydd plant a phobl ifanc yn ei chael yn haws rheoli cerrig milltir datblygiadol cymdeithasol ac emosiynol a chyflawni’r cyrhaeddiad addysgiadol a ddisgwylir, i gyd-fynd â’u hoedran a’u gall