Yma byddwn yn edrych yn ôl ar y meysydd gwaith roeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2021-22, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd.
Cynllun peilot y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
Y llynedd buom yn sôn am gynllun peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, lle bydd swyddogion o’r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghonwy. Cafodd y cynllun peilot ei lansio ym Mehefin 2021, gan brosesu adroddiadau diogelu oedolion yn unig yn y lle cyntaf, ac yna adroddiadau plant yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.
Rydym eisoes yn gweld manteision gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol, gan fod cydweithio’n cynnig:
- Trefn well i lunio penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy gael cyfuniad o wybodaeth am bob asiantaeth.
- Dull ‘y darlun ehangach’ sy’n sicrhau bod pob ffactor wedi cael ei hystyried yn ystod y broses sgrinio pan dderbynnir adroddiadau am unigolion sydd mewn perygl.
- Llai o oedi, a fyddai’n digwydd yn y gorffennol pan fyddai penderfyniadau’n cael eu gwneud ar eu pen eu hunain, neu os byddai’r wybodaeth yn anghyflawn.
- Ffyrdd o weithio mwy effeithiol ac effeithlon.
- Nodi pryderon sy’n cael eu hailadrodd a fyddai heb gael eu canfod am gyfnod hirach yn y gorffennol.
Yn y dyfodol fe hoffem gynyddu ein cydleoliadau wyneb yn wyneb yn y swyddfa, ac yn benodol caniatáu i Ymchwilydd Heddlu Gogledd Cymru weithio ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol er mwyn ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth. Wrth i ni ddechrau Cam Dau y cynllun peilot, rydym yn gobeithio y gallwn ni groesawu asiantaethau eraill, a bwriadwn gysylltu â’r adran Addysg, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’r gwasanaeth Iechyd i benderfynu pa gyfraniadau y gallen nhw eu gwneud i’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol.
Rhoi ap ‘Mind of My Own’ ar waith
Yn adroddiad y llynedd fe ddywedom wrthych am ein cynlluniau i gyflwyno ap ‘Mind of My Own’ sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud eu dweud a lleisio’u barn (yn ogystal â dulliau cyfathrebu eraill). Lansiwyd yr ap yn 2021 ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dod i gysylltiad â’n gwasanaethau. Gellir defnyddio’r apiau ar ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur personol/gliniadur. Gall plant mor ifanc â thair oed ddefnyddio’r apiau a gellir naill ai cefnogi plant a phobl ifanc i’w defnyddio neu gallan nhw barhau ar eu pen eu hunain. Mae’r ffigyrau’n awgrymu bod nifer dda’n defnyddio’r ap ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau gwell, er enghraifft, ymgysylltiad gwell gyda phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, mwy o ddulliau cyfathrebu i asesu diogelwch plant, a dulliau ymgysylltu mwy modern a dulliau eraill a ffefrir.
Beth oedd yr heriau?
Y prif heriau a welwyd oedd hybu defnydd o’r apiau ymhlith ystod oedran eang o blant a phobl ifanc, a sicrhau bod yr apiau’n cefnogi ein gwaith gyda phlant a theuluoedd er mwyn cryfhau llais y plentyn. Serch hynny, ers mis Mehefin 2021, rydym wedi gweld cynnydd graddol yn nifer y plant ac aelodau staff sy’n defnyddio’r apiau.
Beth nesaf?
Rydym yn trefnu sesiynau hyfforddi a fydd yn dechrau’n fuan. I godi mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff, rydym wedi creu tudalen ar y fewnrwyd i ganfod rhagor o wybodaeth am ‘Mind of My Own’, ynghyd â dolenni i staff gadw lle ar sesiynau hyfforddi. Rydym wedi cofrestru ar gyfer cynllun ‘Mind of My Own’ am ddwy flynedd, ac rydym yn gobeithio gwerthuso’i effeithiolrwydd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Canoli dulliau mewnbynnu absenoldeb gan y Ganolfan Staffio
Y tro diwethaf fe soniom fod y Ganolfan Staffio wedi ei chreu er mwyn ymateb i’r angen i gasglu data staff, yn enwedig cyfraddau absenoldeb staff, o ganlyniad i effaith pandemig Covid-19. Cafodd y Ganolfan Staffio ei chreu er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau ar y rheng flaen pe bai nifer fawr o achosion yn codi. Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r Ganolfan Staffio bellach yn rhan annatod o’n gwaith arferol ac mae’n rhan o lwyth gwaith tîm Cymorth Busnes y Gweithlu. Mae’r tîm nawr yn gyfrifol am fewnbynnu pob absenoldeb staff dros y gwasanaeth cyfan.
Defnyddio staff banc i ddarparu cymorth ychwanegol
Mae’r pandemig wedi creu prinder brys ac annisgwyl o weithwyr gofal mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru. Fel rhan o femorandwm o ddealltwriaeth gyda BIPBC, cytunwyd y byddai staff banc BIPBC yn cael eu defnyddio i gefnogi cartrefi gofal. Conwy fu’n arwain ar ran awdurdodau lleol Gogledd Cymru er mwyn gweithio gyda BIPBC i sefydlu’r trefniadau hyn.
Beth nesaf?
Rydym yn gweithio tuag at ddatblygu asiantaeth gofal cymdeithasol ranbarthol sy’n ymgorffori staff banc BIPBC. Byddai hyn yn helpu i liniaru prinder staff mewn unrhyw sefyllfaoedd o argyfwng yn y dyfodol, a chryfhau’r gweithlu. Rydym yn parhau i gwrdd â’n cydweithwyr yn BIPBC er mwyn gweithio ar bapur dewisiadau ar gyfer y Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol, a chaiff ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd yn fuan.
Mabwysiadau Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru
Rydym eisoes wedi dweud wrthych am God Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru. Mae’r Cod a’r Fframwaith Perfformiad newydd wedi cael eu rhoi ar waith ers mis Ebrill 2020. Mae’r fframwaith yn cynnwys set newydd o fetrigau perfformiad cenedlaethol statudol, sy’n disodli ein dangosyddion blaenorol. Mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad am y metrigau hyn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ein system rheoli cleientiaid yn gallu casglu ac adrodd am y wybodaeth sydd ei hangen. Mae ein prif feysydd gwaith wedi canolbwyntio ar lunio’r adroddiadau angenrheidiol er mwyn casglu’r wybodaeth a sicrhau bod ein data’n gywir. Rydym hefyd wedi trafod gyda Llywodraeth Cymru os oedd angen esboniad neu ganllawiau pellach.
Mae’r Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd nawr wedi cael ei ymgorffori yn ein prosesau busnes fel rhan o’n trefn arferol. Rydym yn parhau i lunio adroddiadau ar gyfer y metrigau newydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau cywirdeb data a monitro perfformiad ar lefel leol.
Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant
Rydym eisoes wedi sôn am bwrpas Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant. Y nod yw rhoi newidiadau ar waith er mwyn sicrhau gwasanaeth diogel, effeithiol ac ariannol gynaliadwy. Mae’r cynllun prosiect yn canolbwyntio ar bedair thema:
- • Gweithlu ac ymarfer
- • Lleihau’r niferoedd cynyddol o Blant sy’n Derbyn Gofal
- • Y gallu i ddad-uwchgyfeirio plant sydd ag anghenion cymhleth
- • Sicrhau bod cymorth a lleoedd digonol, sefydlog o ansawdd uchel ar gael i Blant sy’n Derbyn Gofal.
Gweithlu ac Ymarfer
Ym maes Gweithlu ac Ymarfer, gwelwyd cynnydd mewn nifer o ffrydiau gwaith, yn cynnwys dechrau ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol. Byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd hyn ar wahân yn ddiweddarach yn yr adroddiad. Rydym wedi gweithredu model newydd y Tîm Maethu a’r Tîm Unigolion Cysylltiedig. Mae’r timau yn eu lle ac yn darparu’r gwasanaeth sydd wedi’i ailfodelu. Drwy ddatblygu’r gwasanaeth hwn rydym yn disgwyl gweld llai o blant sy’n byw gyda theulu neu unigolion cysylltiedig yn destun Gorchmynion Gofal.
Lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal
Wrth leihau nifer cynyddol y Plant sy’n Derbyn Gofal, rydym wedi datblygu Polisi Aduno. Mae’r polisi’n amlygu pa mor bwysig yw sicrhau, lle bo hynny’n briodol, bod plentyn yn cael ei aduno gyda’i deulu, a manylion am ba bryd y dylid ystyried hyn. Mae’r polisi wedi’i lunio a chynhelir ymgynghoriad yn ei gylch yn sgil nifer o newidiadau polisi cenedlaethol.
Mae sicrhau bod mwy o leoliadau maethu ar gael yn un o flaenoriaethau’r awdurdod. Ledled y rhanbarth, gwelir gostyngiad yn nifer y bobl sy’n mynegi diddordeb mewn maethu. Crëwyd brand rhanbarthol newydd gan Maethu Cymru ym Medi 2021 a oedd yn cynnwys ymgyrch deledu. Rydym yn disgwyl i weld effaith yr ymgyrch genedlaethol hon, ac yn parhau gyda’n hymgyrch farchnata ein hunain ar yr un pryd.
Y gallu i ddad-uwchgyfeirio plant sydd ag anghenion cymhleth
Rydym wedi datblygu Gwasanaeth Cryfhau Teuluoedd ar gyfer Anghenion Cymhleth ac Ar Ymyl Gofal. Mae’r tîm yn ei le ac yn darparu’r gwasanaeth sydd wedi’i ailfodelu. Rydym yn disgwyl y bydd mwy o deuluoedd yn derbyn ymyraethau prydlon ac felly’n cryfhau eu gwytnwch a datblygu eu hatebion eu hunain.
Rydym wedi gweithredu Model Cefnogaeth Therapiwtig Cam i Fyny / Cam i Lawr ar gyfer Anghenion Cymhleth. Mae therapydd chwarae allanol hefyd wedi cael ei recriwtio dros dro tan fis Mawrth 2022. Ceir nifer o ganlyniadau disgwyliedig, megis creu rhaglen dysgu a datblygu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr, ac uwchsgilio gweithwyr cymdeithasol i ddefnyddio dulliau therapiwtig.
Sicrhau bod cymorth a lleoedd digonol, sefydlog o ansawdd uchel ar gael i Blant sy’n Derbyn Gofal
Er gwaethaf oedi gyda chamau cyntaf y prosiect, mae’r tîm yn parhau i weithio gyda’r plant mwyaf cymhleth a’u teuluoedd ym mhob rhan o Gonwy a Sir Ddinbych, gan anelu at atal llety hirdymor a chadw teuluoedd gyda’i gilydd.
Rydym yn anelu at gynyddu dewisiadau llety ‘symud ymlaen’ i rai sy’n gadael gofal. Cynhelir dadansoddiad ar hyn o bryd er mwyn canfod faint o lefydd sydd gennym fel Awdurdod yn y ddarpariaeth llety sydd: (a) ar gael i blant 16 ac 17 oed (rhai sy’n gadael gofal a rhai ifanc sy’n ddigartref) a’r nifer a lenwir gan Blant sy’n Derbyn Gofal (b) ar gael i oedolion 18-25 oed ac, o’r rhai hynny, faint sydd wedi’u llenwi gan rai sy’n gadael gofal. Mae dogfen weithio wedi ei chreu ar gyfer pob person ifanc rhwng 16 a 18 oed, i ystyried y sefyllfa dai bresennol ac anghenion tai yn y dyfodol. Bydd yn cael ei hadolygu bob chwarter.
Unedau Llety i Unigolyn Sengl
Yn ein hadroddiad diwethaf, fe wnaethom gyfeirio at y diffyg llety i bobl ifanc fyw ynddyn nhw yn y brifysgol yn ystod y gwyliau, yn ogystal â diffyg llety seibiant ar gyfer lleoliadau ‘Pan fydda i’n Barod’. Gall diffyg llety addas arwain at orfod aros mewn gwely a brecwast. Fe wnaethom lunio cyswllt gyda Chartrefi Conwy i fod yn rhan o’u cynllun Passivhaus, sy’n cynnwys wyth o unedau llety i bobl sengl. Fe wnaeth y Tîm Ymgynghori Personol dreialu un uned.
Mae’r POD nawr yn rhan o’n dewisiadau llety sydd ar gael i bobl sy’n gadael gofal ac sydd angen llety a chymorth.
Mae gennym berson ifanc yn y pod ar hyn o bryd a fu’n byw mewn gwely a brecwast argyfwng cyn hynny. Roedd byw yn y gwely a brecwast wedi effeithio ar ei iechyd meddwl oherwydd yr her o gwblhau tasgau dyddiol megis coginio. Mae’r person ifanc wrth ei fodd gyda’r POD ac mae’n teimlo bod cael rhywle i goginio a byw ynddo heb unrhyw beth i amharu arno (megis sŵn) wedi helpu ei les a’i iechyd meddwl yn fawr. Mae’r person ifanc wedi gallu canolbwyntio ar ymgysylltu â gwasanaethau megis Therapi Galwedigaethol.
Beth yw’r heriau?
Yn ystod cyfnodau cynnar y prosiect, roeddem yn wynebu heriau o ran sicrhau bod gennym y trwyddedau cywir gan mai dyma’r tro cyntaf i’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn gynnal prosiect o’r fath.
Oherwydd dyluniad y POD, bu’n rhaid i ni ymgorffori rhai elfennau megis peidio â drilio na gwneud tyllau yn y waliau gan y byddai hyn yn peryglu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y POD.
Bu’n rhaid cydbwyso rhywfaint hefyd o ran y galw ac amserlenni. Er enghraifft, mae’r person ifanc yn y POD wedi cael fflat newydd ar gyfer Mai 2022 yn y gobaith y bydd gennym berson ifanc yn dychwelyd o’r brifysgol ym Mehefin 2022.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i adolygu Strategaeth Llety Pobl Ddiamddiffyn. Bydd y gwasanaeth yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol i ddiwallu anghenion llety a chydweithio gyda sefydliadau gwahanol. Er enghraifft, rydym ar hyn o bryd yn cydweithio ar brosiect gyda Gwasanaethau Anabledd a Thai Gogledd Cymru yn Llanrwst. Neilltuwyd fflat un ystafell wely ar gyfer y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn ym mhrosiect anabledd Ysgol Llanrwst.
Ail-lansio’r gwasanaeth rhandiroedd
Yn adroddiad y llynedd, fe soniom am welliannau i’r gwasanaeth rhandiroedd sydd wedi cael ei gynnal am gryn amser o fewn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn. Serch hynny, oherwydd pandemig Covid-19 a sawl cyfnod clo, bu’n rhaid i’r gwasanaeth ohirio gwaith grŵp, gan ganiatáu i’r gweithwyr cefnogi ddatblygu’r gwasanaeth.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Gweithwyr Ymyrryd a Chefnogi o fewn y Tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio’n hynod o galed i gynnal y rhandiroedd a sicrhau eu bod yn cynnig hafan ddiogel i’r unigolion sy’n eu defnyddio. Ar adegau, bu’n rhaid cau’r rhandiroedd i unigolion oherwydd Covid-19. Rydym wedi cynnal asesiad risg a’i adolygu’n barhaus ochr yn ochr â chanllawiau’r llywodraeth.
Cafodd y rhandiroedd eu hailagor yn ddiweddar ac ar hyn o bryd mae gennym bedwar unigolyn yn ymweld yn rheolaidd ac yn defnyddio’r rhandir er mwyn helpu eu lles corfforol a meddyliol.
Beth yw’r heriau?
Yr her fwyaf oedd y cyfyngiadau Covid-19 parhaus ynghylch cyswllt wyneb yn wyneb. Mae hyn wedi atal unigolion rhag gallu mynd i’w rhandiroedd ac mae staff gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi bod yn eu cynnal yn y cyfamser.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i adolygu ein hasesiadau risg yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Bydd y rhandiroedd yn cael eu hailagor yn llawn, a bydd y Tîm Lles Meddyliol yn dechrau eu defnyddio fel rhan o’u gwaith therapiwtig gydag unigolion.
Rydym yn edrych ymlaen at gynllunio sesiynau coginio am fwyta’n iach gydag unigolion, gan ddefnyddio bwyd a dyfir yn y rhandiroedd.