Cefnogaeth barhaus ar gyfer ein myfyrwyr gwaith cymdeithasol
Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi darparu 30 lleoliad ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn ystod 2021-2022 ac yn ystod yr un cyfnod rydym wedi cyflogi pedwar o fyfyrwyr ar ôl iddyn nhw raddio.
Wrth gefnogi ein myfyrwyr gweithwyr cymdeithasol, rydym yn cael adborth gan fyfyrwyr yn rheolaidd, ac yn gwrando arno ac yn ymateb iddo. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau gyda Chonwy, gan arwain at ganlyniad cadarnhaol erbyn diwedd eu lleoliad. Rydym hefyd yn derbyn ac yn ymateb i adborth gan Addysgwyr Ymarfer a Goruchwylwyr ar y Safle, a sicrhau bod arferion da a syniadau da’n cael eu rhannu a’u rhaeadru.
Mae’r adborth am gynnal sesiynau rheolaidd ar gyfer grwpiau cefnogi gyda myfyrwyr, yn ogystal â fforymau myfyrwyr mwy ffurfiol gyda siaradwyr gwadd wedi bod yn gyson adeiladol. Maen nhw wedi gwerthfawrogi’r man diogel i rannu eu pryderon a materion sy’n peri penbleth iddyn nhw, a gallu eu trafod mewn amgylchedd diogel, heb gael eu beirniadu, er mwyn sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain os ydyn nhw’n teimlo emosiynau cryf ar brydiau, ac yn wynebu rhwystrau a heriau penodol, e.e. gweithio gartref, teimlo’n ynysig, diffyg ysgogiad. Maen nhw wedi gwerthfawrogi gallu cyfarfod â’u cyfoedion, a chael safbwynt ehangach drwy gymharu nodiadau gyda chyd-fyfyrwyr o Raglenni eraill. Yn bennaf, mae gennym fyfyrwyr o Raglen M.A. Bangor, ond bu’n llwyddiant pan ddaeth hyfforddeion/myfyrwyr mewnol y Brifysgol Agored i ymuno â nhw yn y grŵp hwn ar yr un lefel hyfforddiant. Yna maen nhw’n parhau i gyd-ddysgu gyda’i gilydd yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn ymarfer, gan arwain at y Rhaglen a’r Gweithdai Cyfuno.
Roedd cyflwyno system gyfeillio er mwyn paru myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyda myfyrwyr o’r ail flwyddyn hefyd yn ffynhonnell dda o gefnogaeth, ac mae hyfforddeion y Brifysgol Agored wedi gwerthfawrogi hyn yn fawr, gan fod gweithdrefnau’r Brifysgol yn benodol iawn. Roedden nhw’n teimlo ei fod yn werthfawr iawn gallu cysylltu â rhywun sydd wedi bod drwy union yr un systemau â nhw, er mwyn cael arweiniad a gwybodaeth.
Erbyn eleni, a ninnau wedi profi bron i ddwy flynedd o’r pandemig, rydym wedi dysgu ei bod yn hanfodol darparu gwybodaeth eglur a chyfredol i fyfyrwyr. Mae’r pandemig wedi newid y ffordd rydym yn gweithio ac felly ni allwn addo y gellir gweithio mewn swyddfa na chael cyfleoedd wyneb yn wyneb. Cyflwynwyd y neges hon drwy ein Haddysgwyr Ymarfer a’n Haddysgwyr ar y Safle drwy gynnal sesiynau gyda myfyrwyr cyn eu lleoliadau.
Rydym hefyd yn cael adborth gan Addysgwyr Ymarfer ynghylch yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn sydd heb weithio cystal. Yn yr hydref, fe wnaethom gynnal gweithdy hanner diwrnod dros y we, fel sesiwn ôl-drafodaeth ar ôl lleoliadau, yn ogystal ag edrych ymlaen at fyfyrwyr a lleoliadau eleni. Hefyd, y bwriad oedd manteisio i’r eithaf ar sesiynau goruchwylio dros y we yn ogystal â bod yn fwy creadigol gyda chyfleoedd dysgu ac arsylwadau uniongyrchol dros y we.
Llwybr Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol
Rhoddwyd rhaglen ar waith er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr di-waith y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cais am swyddi gofal cymdeithasol yn y sector yng Nghonwy. Mae staff CBSC yn cwrdd yn rheolaidd â Chanolfannau Gwaith, PACE a’r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn eu briffio am y rhaglen ac anghenion y sector. Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr i:
- Ddysgu am y gwahanol swyddi ym maes gofal cymdeithasol.
- Dysgu am y prif sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio ym maes gofal cymdeithasol.
- Darparu sesiynau blasu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
- Darparu cefnogaeth i ymgeisio am swyddi.
- Cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Ers sefydlu’r gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2021 rydym wedi gweithio gydag 19 o unigolion a chefnogi tri i gael swyddi yn y sector gofal cymdeithasol.
Beth oedd yr heriau?
Os nad oes gan unigolion fynediad at eu cludiant a’u technoleg eu hunain, rydym wedi canfod y gall hyn gyfyngu ar eu cyfleoedd i ganfod swydd. Mae hyder unigolion i ddefnyddio technoleg, a’u hyder yn eu galluoedd eu hunain hefyd yn ffactor. Os nad yw rhywun wedi cael gwaith ers peth amser, efallai y bydd arnyn nhw angen cryn dipyn o waith mentora er mwyn eu cefnogi drwy’r broses gyflogi.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn adolygu dewisiadau er mwyn cynyddu ein capasiti i gynnig hyd yn oed mwy o gefnogaeth i recriwtiaid a chyflogwyr. Yn ogystal â hyn, rydym yn cefnogi’r Grŵp Tasg a Gorffen Rhanbarthol ar gyfer Recriwtio a Chadw Staff sy’n edrych ar y meysydd canlynol er mwyn mynd i’r afael â phrinder Gweithwyr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol:
- Strwythur cyflog cenedlaethol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol .
- Nid yw’r niferoedd uchel o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sy’n cymryd lle gweithwyr cymdeithasol profiadol yn gynaliadwy.
- Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol – diffyg sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer ymarfer yn yr hyn a ddysgir yn y brifysgol.
Rydym hefyd yn llunio cynllun cyfathrebu a marchnata er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y gwasanaeth.
Ymgynghori’n barhaus gyda phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau a chael cyfranogiad parhaus ganddyn nhw
Mae cynnal dulliau cyfathrebu ystyrlon gydag unigolion rydym ni’n eu cefnogi’n sicrhau ein bod wedi parhau i fonitro ansawdd ein gwasanaethau, er gwaethaf yr heriau a gafwyd yn sgil cyfyngiadau Covid dros y flwyddyn ddiwethaf. Yma rydym yn rhoi manylion am rywfaint o’r gwaith ymgynghori a gynhaliwyd gennym gydag amryw o unigolion mewn lleoliadau gwahanol.
Preswylwyr cartrefi gofal a’u teuluoedd
Fe wnaethom ymgynghori gyda phobl ifanc a oedd yn byw mewn tri lleoliad cartref gofal er mwyn trafod effeithiau’r cyfnod clo, a sut maen nhw’n llwyddo i oresgyn yr anawsterau roedden nhw’n dod ar eu traws yn ystod y pandemig, yn cynnwys sut roedden nhw’n cael eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Fe wnaethom hefyd ymgynghori gyda theuluoedd pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal er mwyn trafod ffyrdd y gallen nhw gadw mewn cysylltiad, yn ogystal ag effaith y pandemig ar eu perthnasoedd, eu safbwyntiau a’u teimladau. Mae caniatáu i bobl siarad am eu profiadau’n llywio’r gwaith y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol.
Beth oedd yr heriau?
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, dim ond cyfran fach o’n cartrefi gofal roedden ni’n gallu ymgysylltu â nhw oherwydd y problemau roedden nhw’n eu hwynebu, ond fe wnaethom barhau i gynnal y gwaith ymgynghori hwn er mwyn clywed barn pobl a siarad gyda phobl a’u teuluoedd. Roedd canfod ffyrdd newydd i gefnogi gwaith ymgysylltu’n heriol, er hyn, cafwyd llwyddiant wrth gyflwyno dyfeisiau iPad ym mhob cartref gofal yng Nghonwy er mwyn hwyluso sgyrsiau wyneb yn wyneb gydag aelodau o’r teulu. Hefyd, roedd rhai cartrefi gofal yn gwahodd aelodau o’r teulu i ymuno â gweithgareddau cymdeithasol ar-lein, a chawson nhw fwynhad mawr o wneud hynny.
Beth sydd nesaf?
Yn 2022 rydym yn cynllunio gwaith ymgynghori pellach gyda phreswylwyr mewn lleoliadau cartrefi gofal a’u teuluoedd gan fod y cyfyngiadau nawr yn caniatáu ar gyfer mwy o gysylltiad wyneb yn wyneb.
Statws Cyngor sy’n Deall Dementia i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Yn 2021 cawsom gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer’s am ein hymdrechion i ddeall dementia’n well. Daeth hyn o ganlyniad i waith ymgysylltu cyson a wnaed gyda chymunedau lleol, grwpiau dementia a gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia. Fe wnaethom greu Cefnogwyr Dementia drwy’r Cyngor, trefnu Bws Dementia i fynd ar daith o amgylch y sir, a chynnal sesiynau rheolaidd i godi ymwybyddiaeth am Dementia ar gyfer staff y Cyngor a grwpiau staff eraill.
Beth oedd yr heriau?
Yn ystod y pandemig, nid oedd grwpiau cymunedol yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb, ac roedd yna lawer llai o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau cymdeithasol i bobl a oedd yn byw gyda dementia, neu cawsant eu canslo’n gyfan gwbl, er enghraifft dangos ffilmiau yn y sinema mewn ffordd a oedd yn deall dementia.
Beth sydd nesaf?
Yn 2022 rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda dinasyddion a gofalwyr yng Nghonwy er mwyn parhau â’r gwaith i godi ymwybyddiaeth am ddementia drwy gynnwys cymunedau yng Nghonwy.
Cyd-gynhyrchu gyda phobl sy’n gadael gofal
Over the past twelve months the Personal advisor Team has looked to develop service delivery. In order to do this it has been important to include the young people themselves in the process. We have undertaken the following pieces of work:
- Anfonwyd arolygon at y bobl ifanc i ofyn eu barn am sut y gwnaethom berfformio yn ystod y pandemig a’r cyfnod clo, felly fe’u holwyd beth wnaethom ni’n dda, ddim cystal, a’r hyn y dylem fod yn ei wneud wrth symud ymlaen.
- Gofynnwyd sut y dylen ni wario’r grant Dydd Gŵyl Dewi gan Lywodraeth Cymru.
- Gofynnwyd am eu barn a’u dymuniadau o ran datblygu gwefan benodol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal.
- Rydym ar hyn o bryd yn y broses ymgeisio i gael arian a fydd yn ein galluogi i gwblhau gwaith ymchwil penodol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor ac awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad dros y we ar gyfer pobl sy’n gadael gofal er mwyn canfod safbwyntiau a meddyliau’r bobl ifanc eu hunain o ran y testun ymchwil.
We have had excellent responses to all of these work streams.
Beth oedd yr heriau?
Nid yw pob person ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw eisiau ymgysylltu â ni a gall hyn gyfyngu ar nifer yr ymatebion. Er hyn, er nad oedd rhai pobl ifanc eisiau cymryd rhan, roedd yr ymatebion a gawsom yn gadarnhaol iawn ac maen nhw wedi tynnu sylw at bethau y gallwn ni fod yn falch ohonyn nhw a phethau i ni weithio tuag atyn nhw.
Beth sydd nesaf?
Mae cyd-gynhyrchu gyda’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw yn un o’r meysydd blaenoriaeth sefydlog ar gyfer y tîm a’r bwriad yw cryfhau hyn. Hoffem ddatblygu sampl bach, cyson o bobl ifanc sydd wedi ymrwymo i’n cynorthwyo ni i lunio’r datblygiadau yn y gwasanaeth.
Gweithio mewn Partneriaeth
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn datblygu Fframwaith Sicrwydd Ansawdd newydd a Memorandwm o Ddealltwriaeth ynghylch rhannu gwybodaeth am gartrefi gofal annibynnol ac asiantaethau gofal cartref. Mae cyfarfodydd misol wedi dechrau cael eu cynnal lle gellir cael trafodaethau a gellir datblygu cynlluniau gweithredu addas, wedi’u cydlynu. Mae hyn wedi helpu Conwy i gefnogi gwelliannau gyda nifer o ddarparwyr gofal ers mis Ebrill 2021.
Rheoli’r gyllideb a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor i reoli ei gyllid ac mae’n amlinellu rhai o’r problemau ariannol a fydd yn wynebu’r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf.
Mae cyflawni’r strategaeth yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth sicrhau bod yr adnoddau’n cyd-fynd â’i nodau a’i flaenoriaethau.
Yn 2021-22, rhagamcanir y bydd y sefyllfa derfynol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn y gyllideb. Ar gyfer 2022-23, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy’r broses achosion busnes, wedi gwneud cais ac wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau’r costau cynyddol rhagweledig sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion (£1,489,000) a Phlant, Teuluoedd a Diogelu (£626,000), yn ogystal â chynnydd mewn costau’n gysylltiedig â ffioedd uwch a delir i ddarparwyr annibynnol gofal preswyl, gofal nyrsio, gofal cartref a byw â chymorth (£3,500,000). Mae’r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o £1,060,000, ond mae’r arbedion hyn wedi eu targedu er mwyn lleihau’r effaith ar ddarpariaeth gofal ar y rheng flaen.
Gweithio mewn partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir.
Yng Nghonwy, rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yng Nghynllun Corfforaethol Conwy. Mae’r saith nod a’r pum ffordd o weithio yn cyfateb i wyth Canlyniad Dinasyddion Conwy.
Ceir camau gweithredu ataliol yn y Cynllun Corfforaethol, sydd â’r nod o weithio tuag at effaith mwy hirdymor, ac sydd wedi’u llunio drwy ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles. Mae’r camau gweithredu hyn hefyd yn gydweithredol yn y modd y maent yn canolbwyntio ar weithio’n agos gyda chymunedau fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau ar gyfer Dinasyddion a’u bod yn rhan o’r cydweithio i’w cyflawni.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) hefyd yn diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel ffordd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gwneud i ni ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud, sut rydym yn ei gyflawni a sut rydym yn cyfathrebu. Fel gwasanaeth, rydym yn cyfrannu drwy fyfyrio ar y modd yr ydym yn defnyddio’r pum ffordd o weithio yn ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. Mae’r broses hon hefyd yn galluogi Awdurdodau Lleol i wella’u gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio ac atal.
Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi penodi dau Ddeilydd Portffolio sy’n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden. Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu eu hadolygu a’u herio. Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn i oruchwylio a herio perfformiad. Cynhelir cyfarfodydd gyda’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.
Rheoleiddio ac Arolygu
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) wedi newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu harolygu, sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a’r cymorth yr ydym yn ei ddarparu, a’r modd yr ydym yn rheoleiddio ein gweithlu. Mae’n sicrhau bod ansawdd gwasanaethau a dulliau arolygu wrth wraidd gwaith rheoleiddio; sy’n cryfhau mesurau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac mae’n sicrhau bod gwasanaethau’n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel. Ers 2018, o fewn y Gwasanaethau Oedolion, dechreuwyd cofrestru rheolwyr yn y sector cartrefi gofal ledled Cymru, o dan y rheoliadau RISCA newydd. Rydym wedi cynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno RISCA. Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai Cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar i gefnogi dulliau cofrestru ar gyfer y gweithlu gofal cartref. Rydym wedi sefydlu grŵp polisi RISCA sy’n cwrdd bob mis er mwyn adolygu’r polisïau sy’n ofynnol o dan y rheoliadau newydd. Rydym hefyd yn cynnal Grŵp Hyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu ym mhob rhan o’r Sector.
O fewn maes gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Trosolwg Cenedlaethol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal. Bu i ni gymryd rhan yn yr adolygiad hwn ac rydym wedi edrych ar sut y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn gweithio i wella profiadau drwy ddefnyddio’r canfyddiadau allweddol.
Gwiriad Sicrwydd AGC
Ym Mehefin 2021 fe gynhaliwyd Gwiriad Sicrwydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn adolygu pa mor dda mae Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Fe wnaethon nhw ein hasesu yn ôl y pedair egwyddor yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a chofnodi eu barn a’u canfyddiadau yn erbyn: Llais a rheolaeth; Atal; Llesiant; Partneriaethau ac integreiddio. Roedd yr adroddiad yn hynod o gadarnhaol am y ffordd y gwnaethom ymateb i’r pandemig a pharhau i gefnogi unigolion diamddiffyn yng Nghonwy. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- “Mae gan bobl lais cryf a rheolaeth dros y gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn, a’r dulliau ymarfer yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r unigolion, y canlyniad yr hoffen nhw ei gyflawni, a sut gallan nhw ddefnyddio’u cryfderau a’u hadnoddau eu hunain i hyrwyddo eu lles.”
- “Mae rheolwyr yn ymgysylltu yn sicrwydd ansawdd y gweithgareddau gwaith, ac roedd hi’n chwa o awyr iach gweld dulliau eglur i archwilio gwaith achos a lledaenu addysg.”
- “Roedd y darparwyr yn siarad yn gadarnhaol am y gefnogaeth a gawson nhw gan yr awdurdod lleol yn ystod y pandemig. Roedden nhw’n gwerthfawrogi lefel y cyfathrebu ac ansawdd y cyngor a’r cymorth a gafwyd.”
Bydd AGC yn parhau i fonitro ein perfformiad drwy gynnal cyfarfodydd gwerthuso perfformiad parhaus gyda’r Penaethiaid Gwasanaeth a’r Cyfarwyddwr.
Arolygu’r cartref plant
Fe ymwelodd AGC â’n cartref plant mewnol, sef Glan yr Afon, ym mis Tachwedd 2021 er mwyn cynnal arolygiad heb ei gyhoeddi ymlaen llaw. Fe wnaethon nhw ddilyn cynllun er mwyn siarad â’r plant, adolygu nifer o ddogfennau, archwilio’r amgylchedd ac adolygu arweinyddiaeth a dulliau rheoli’r gwasanaeth.
Roedd yr arolygwyr yn fodlon fod yr asesiadau a’r gefnogaeth i’r bobl ifanc, a’r gefnogaeth i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, yn gweithio’n dda yn y cartref. Fe wnaethon nhw hefyd nodi bod y bobl ifanc yn gallu mynegi eu safbwyntiau a’u barn, a’u bod yn cael eu hannog a’u cefnogi gyda’u haddysg, drwy fynychu ysgolion yng Nghonwy. Fe wnaethon nhw nodi bod yr amgylchedd cartref yn dda, ac mae yna gyfleoedd rheolaidd i gynnal gweithgareddau i bobl ifanc.
Ers yr arolygiad, cyflwynwyd nifer o welliannau a argymhellwyd yn y lleoliad, yn cynnwys cofnodi materion iechyd a diogelwch, adolygu polisïau’r cartref, a hyfforddiant staff ychwanegol i gefnogi anghenion newidiol pobl ifanc.
Arolygu Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Ym mis Ebrill 2021, fe gymerodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy ran mewn arolygiad ar y cyd o wasanaethau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn y Timau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi, Estyn ac Ofsted, ac roedd yn cynnwys sawl Awdurdod Lleol o Loegr.
Oherwydd pandemig Covid-19, cynhaliwyd rhai arolygiadau dros y we a rhai eraill wyneb yn wyneb, os oedd y cyfyngiadau’n caniatáu hynny. Archwiliwyd achosion plant a oedd yn ymwneud â Thimau Troseddau Ieuenctid, ynghyd ag achosion a fu yn y llys ac achosion lle cafwyd datrysiad y tu allan i’r llys. Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda staff, partneriaid a rhanddeiliaid, a chynhaliodd Estyn ac Ofsted gyfweliadau gyda darparwyr addysg.
Roedd yr arolygiad yn gadarnhaol am berfformiad gweithredol Conwy, a’r gefnogaeth a’r ymgysylltiad a gafodd eu cynnig a’u derbyn gan blant a phobl ifanc. Nodwyd hefyd bod plant sy’n gweithio gyda Thimau Troseddau Ieuenctid yn derbyn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd da ar y cyfan. Casglwyd enghreifftiau da o arferion effeithiol ac roedd y rhain yn hawdd i’w diffinio ym mhob un o’r Timau Troseddau Ieuenctid a gafodd eu harolygu.
Yn dilyn yr arolygiad, rydym wedi rhoi argymhellion ar waith er mwyn gwella, er enghraifft ym maes arweinyddiaeth a llywodraethu a sicrhau bod gan y byrddau rheoli drosolwg gwell. Rydym hefyd yn sicrhau bod pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael lleisio eu barn wrth lunio ein gwasanaeth drwy ymgysylltu a chymryd rhan.
Mwy na Geiriau: Darparu’r ‘Cynnig Gweithredol’
Mae’r ‘Cynnig Gweithredol’ yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dyma ddywedodd Mark Drakeford (y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd) yn 2016:
“Sicrhau bod diogelwch, urddas a pharch siaradwyr Cymraeg wrth wraidd darparu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn y Gymraeg. Nid cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig sy’n bwysig, ond gwella ansawdd y gofal a diwallu anghenion ieithyddol pobl, yn ogystal â darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy’n canolbwyntio ar unigolion.”
Yng Nghonwy rydym yn chwarae ein rhan drwy sicrhau bod y Cynnig Gweithredol yn cael ei ymgorffori yn ein diwylliant, a sicrhau ansawdd a diogelwch ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y sir. Mae sicrhau bod unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth gennym ni yn gallu cyfathrebu â staff cymorth yn eu dewis iaith yn hynod bwysig.
Yn dilyn Gwiriad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru ym Mehefin 2021, adroddwyd:
Mae’r awdurdod lleol yn rhagweithiol yn y ffordd mae’n ymdrin â ‘Chynnig Gweithredol’ y Gymraeg. Ar y dechrau, gofynnir am wybodaeth am iaith ddewisol yr unigolyn. Daethom ar draws asesiadau a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg i gyd-fynd â dymuniadau pobl.
Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru
Mae adroddiad Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Y bwriad oedd cael gwell dealltwriaeth o’n poblogaeth a sut y gallai newid dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn yr ardal. Wedi’u creu gan Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, maen nhw’n adolygu ystadegau, siarad gyda chymunedau a defnyddio ystod eang o wybodaeth a gesglir gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau.
Mae’r adroddiad yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, pobl hŷn, iechyd, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, anableddau dysgu, iechyd meddwl, gofalwyr, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yr ystad ddiogeledd, cyn-filwyr, digartrefedd ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, a darparu negeseuon ac argymhellion pwysig ynghylch pob testun yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.
Lluniwyd yr adroddiad cyfredol yn 2017, serch hynny, bydd adroddiad newydd ar gyfer 2022 yn cael ei gyhoeddi’n fuan a bydd ar gael i’w ddarllen ar wefan y Gydweithredfa Gwelliannau.