Rydym yn ystyried safon ein gwaith yn ddifrifol iawn. Nid faint rydym ni’n ei wneud yn y mae’n ei olygu’n unig, ond pa mor dda rydym ni’n ei gyflawni. Drwy gyfres fanwl o wiriadau ac archwiliadau, rydym yn profi agweddau amrywiol o’n gwaith yn drefnus ac yn rheolaidd ac yna’n mynd ati i wella’r gwasanaeth yn dibynnu ar yr hyn rydym wedi’i ddarganfod.
Yn ychwanegol i’r archwiliadau rheolaidd rydym yn eu cynnal, bu nifer o brosiectau ychwanegol eleni megis gwaith “Ymgysylltu â Thadau”, a darn penodol o waith yn edrych ar yr atgyfeiriadau a ddaw i’r adran Plant a Theuluoedd.
Archwiliad Plant mewn Angen 2013-14
Cefndir
Cynhaliwyd yr archwiliad hwn gan Bennaeth Gwasanaeth, Rheolwr Gwasanaeth Gwaith Maes, Prif Ymarferwyr a’r Swyddog Cynllunio a Datblygu.
Diben yr archwiliad oedd adnabod meysydd o arfer da a meysydd o bryder i ddarparu gwaelodlin o berfformiad. Roedd yna ffocws clir ar effaith a chanlyniadau, yn unol ag archwiliadau llawn AGGCC o blant mewn angen a phlant mewn gofal.
Archwiliwyd cyfanswm o 16 achos Plant mewn Angen. Ystyriodd y teclyn archwilio’r meysydd canlynol o ymarfer gan gynnwys:
- Safon Cynllunio ac Adolygu Gofal o fewn y broses Plant mewn Angen
- Safon Asesiadau
- Safon ymglymiad Tîm Ymyrraeth Teuluoedd
- Safon Goruchwylio Rheolaeth
- Canlyniadau ar gyfer y Plentyn a’r Teulu
Crynodeb o Gasgliadau
Ar y cyfan roedd safon yr asesiadau cychwynnol yn dda. Roedd gwaith partneriaeth gyda theuluoedd ac asiantaethau eraill yn amlwg ym mhob asesiad cychwynnol. Achos o bryder a gafodd ei nodi mewn perthynas â’r asesiadau oedd yr oedi cyn cychwyn yr asesiad craidd. Ym mhedwar o’r achosion, oherwydd cymhlethdod yr achos, roedd yr archwilwyr yn credu bod angen asesiad craidd mwy manwl i gynorthwyo â phroses gynllunio Plant mewn Gofal.
Cafodd y cynlluniau cychwynnol Plant mewn Gofal eu hystyried yn briodol, er mae angen rhagor o waith i wella eglurdeb canlyniadau o fewn y cynllun cychwynnol. Canfuwyd ymgysylltu da â’r plentyn/person ifanc yn yr archwiliad, ond nid â’r aml asiantaethau yn ystod y cyfnod cynllunio cychwynnol.
Yn neuddeg o’r achosion, ystyriwyd bod y broses adolygu Plant mewn Angen yn effeithiol wrth asesu gweithrediad, cynnydd a chanlyniadau ar gyfer plant. Yn yr achosion hyn, daeth yr archwiliad o hyd i ymgysylltu clir â’r plentyn/person ifanc, teulu ac aml asiantaethau.
Cafodd safon gwaith Tîm Ymyrraeth Teuluoedd ei gysylltu’n uniongyrchol â safon yr atgyfeiriad i’r tîm. Yn yr achosion ble roedd yr atgyfeiriad o safon dda, ac wedi rhestru tasgau a chanlyniadau clir, roedd safon yr ymyrraeth yn dda. Cafodd ei nodi hefyd bod safon cofnodi achosion gan y Gweithiwr Ymyrraeth Teuluoedd yn dda. Cyflawnwyd ffocws clir wrth gofnodi’r canlyniadau ar ôl pob sesiwn.
Roedd cofnodi achosion ar y cyfan yn adlewyrchu lefel y gweithgaredd yn yr achos.
Yn wyth o’r achosion, llwyddodd yr archwilydd i ganfod canlyniadau gwell i’r plentyn a’r teulu ers i’r broses gynllunio Plant mewn Angen cychwyn. Mewn pum achos arall gwelsom welliannau cyfyngedig ar gyfer y plentyn a’r teulu.
Llyfrynnau Ymgynghori Plant mewn Angen ar gyfer Plant a Theuluoedd
Yn rhan o ddiwrnodau adborth Sicrhau Ansawdd, dywedodd staff gwaith cymdeithasol bod angen llunio llyfrynnau ymgynghori Plant mewn Angen er mwyn ymgynghori â phlant/pobl ifanc a’u teuluoedd yn well. Bydd y llyfrynnau a gaiff eu llunio yn debyg i lyfrynnau ymgynghori Plant sy’n Derbyn Gofal.
Ymgysylltu â Thadau
Cefndir
Yng Nghonwy, rydym wrthi’n gweithio mewn partneriaeth â Fatherhood Institute er mwyn gwerthuso arferion o fewn yr adran o ran sut rydym yn ymgysylltu yn effeithiol â thadau/gofalwyr sy’n ddynion o fewn y broses amddiffyn plant.
Yn rhan o’r gwaith yma, fe wnaethom archwilio un ar hugain o achosion ble roedd y plentyn yn destun cynllun amddiffyn plant. Roedd yr archwilwyr yn cynnwys gweithwyr aml asiantaeth gan Dîm Iechyd a Thîm Troseddu Ieuenctid. Daeth yr archwiliad o hyd i fylchau yn arferion yr adran o ran y meysydd canlynol:
- Cofnod prin o fanylion y tad ar system TG Paris
- Ymgysylltu prin â’r Tadau yn ystod y broses asesu
- Presenoldeb gwael gan Dadau mewn cynadleddau achos
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw lleihau lefelau o risg a chodi lefelau gofal i blant pan fo yna bryderon diogelu/rhianta, drwy ddatblygu arferion gweithio gwell o wasanaethau gofal cymdeithasol ac asiantaethau partner drwy ymgysylltu’n fwy effeithiol â thadau. Er mwyn cyflawni’r nod yma mae angen i ni ddylanwadu’n uniongyrchol ar yr arfer ar draws Conwy.
Datblygiadau
Lluniwyd cynllun gweithredu lleol sydd yn rhestru’r meysydd canlynol o waith:
- Diweddaru Strategaeth Rhianta Conwy er mwyn canolbwyntio ar ymgysylltu â thadau gan bob asiantaeth – cwblhawyd y weithred hon
- Wrth gomisiynu rhaglenni rhianta dylid ystyried priodoldeb y rhaglen i gefnogi tadau – gwaith yn parhau o fewn strategaeth Rhianta Conwy
- Hyfforddiant aml asiantaeth ar gyfer ymarferwyr ynglŷn ag ymgysylltu â thadau (wedi’i gwblhau)
- Cyflwyniad i grŵp polisi Amddiffyn Plant Cymru Gyfan i sicrhau bod pob polisi yn berthnasol i amddiffyn plant, pa unai ar gyfer Gwasanaethau Plant Conwy, neu asiantaethau partner yn BLlDP, dylent sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag anghenion a phrofiadau tadau, a dylent ategu datblygiad ymarfer sy’n cynnwys tadau – gweithred wedi’i chwblhau
- Cydlynwyr Amddiffyn Plant i sicrhau bod adroddiadau cynhadledd yn adlewyrchu’r drafodaeth ynglŷn â rôl y Tad – gweithred wedi’i chwblhau – rhagor o dystiolaeth o gyfranogiad y tad mewn cynadleddau Amddiffyn Plant
Archwiliad Atgyfeiriad
Cefndir
Mae Gwasanaethau Plant yn cynnal archwiliad atgyfeiriad dwywaith y flwyddyn er mwyn edrych ar safon gwneud penderfyniadau cychwynnol. Wrth werthuso safon yr atgyfeiriadau, roedd yr archwilwyr yn edrych am dystiolaeth bod yr atgyfeiriadau yn cynnwys y wybodaeth berthnasol i gefnogi’r broses gwneud penderfyniadau.
Mae’r teclyn archwilio yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
- Safon yr Atgyfeiriadau
- Effeithiolrwydd yr ymateb
- Ystyried atgyfeiriadau blaenorol
- A oedd yr ymateb yn seiliedig ar ddadansoddiad o risg
- A oedd yr archwilwyr yn gytûn â’r penderfyniad
Crynodeb o Gasgliadau
Rhestrwyd y materion canlynol yng nghasgliadau’r ddau archwiliad o fewn y 12 mis diwethaf:
- Fe restrodd yr archwiliadau ymarfer gwell mewn perthynas â safon yr atgyfeiriadau, serch hynny, bydd gwaith yn parhau ag asiantaethau partner er mwyn cynnal y gwelliannau yn safon yr atgyfeiriadau
- Roedd taflenni penderfyniad manwl y rheolwyr yn brawf i’r archwilwyr pam bod rhai achosion yn symud ymlaen i asesiad cychwynnol a pham nad oedd rhai eraill
- Bu gwelliannau ymarfer wrth i’r cyfeiriwr dderbyn gwybodaeth ynghylch canlyniad yr atgyfeiriad
- Roedd yr archwilwyr yn gytûn â phenderfyniad y prif/uwch ymarferwyr.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld gwelliant o ran safon yr atgyfeiriad ac wrth gofnodi ar y daflen penderfyniad rheolwyr.