Mae cyllid yn brin, felly mae’n rhaid i ni fod yn hyderus ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau yn ddoeth i sicrhau bod pobl Conwy yn cael gwerth am arian gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym angen cynlluniau ariannol sydd yn addas i’w pwrpas nawr, a chan edrych ymlaen at y dyfodol, i ddiwallu anghenion ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn y gyllideb a roddir i ni. Mae datblygiad paneli amrywiol yng Nghonwy wedi bod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau bod gwasanaethau yn gost effeithiol.
Panel Oedolion Diamddiffyn
Cefndir
Sefydlwyd y panel oedolion diamddiffyn yn rhan o wasanaeth disylw, anghonfensiynol fel ymateb i gefnogi pobl ddiamddiffyn a oedd wedi ‘llithro drwy’r rhwyd’ yn y gorffennol gan nad oeddynt yn bodloni’r meini prawf statudol. Mae’r panel yn cwrdd bob mis ac mae’n derbyn atgyfeiriadau i bobl 16+ oed sydd heb dderbyn diagnosis pendant ac sydd ddim yn diwallu’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau traddodiadol. Mae Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion Diamddiffyn a chynrychiolwyr o Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Anableddau Dysgu a Thîm Dewisiadau a Chefnogaeth Tai, etc yn mynychu ac yn cydweithio â MAPPA. Fe drafodir achosion a’u clustnodi ar sail angen. Mae’r bobl sy’n cael eu clustnodi i’r Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion Diamddiffyn yn derbyn ymyrraeth 6 wythnos i’w galluogi i ymdopi â mater pwysig yn syth a llunio strategaethau a rhwydweithiau mynediad i’w galluogi i ymdrin â materion a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Beth sydd wedi newid?
Mae poblogrwydd y panel wedi tyfu ac mae presenoldeb yn parhau i gynyddu. Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl ar gyfer y Panel a chaiff ei ystyried yn faes o arfer da, ac mae asiantaethau amrywiol yn gofyn i gael anfon eu myfyrwyr draw i arsylwi. Yn rhan o’r Rhaglen Trawsnewid, mae’r maes hwn o angen wedi’i gydnabod yn llawn a bydd yn wasanaeth sefydledig prif ffrwd, gyda staff llawn. Bydd y gwasanaeth yn cydweithio’n agos â’r gwasanaeth Lles Cymunedol a bydd yn cefnogi’r rhaglen ataliol.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae pobl ddiamddiffyn wedi derbyn cymorth yn gynt, gan eu hatal rhag cyrraedd argyfwng a bod yn ddibynnol ar wasanaethau statudol. Mae’r ymyrraeth yn fyr ac mae’n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i adeiladu gwydnwch a rheoli ei bywydau a’u hamgylchiadau o ddydd i ddydd yn well. Yn aml mae’r panel yn amlygu’r ffaith bod unigolion yn hysbys i wasanaethau eraill, ee, camddefnyddio sylweddau, Iechyd Meddwl etc, ac mae modd eu hatgyfeirio yn ôl i’r gwasanaethau hyn gyda rhywfaint o gydweithio. Mae hyn yn atal dyblygu ac yn cynorthwyo â newidiadau mwy esmwyth. Mae’r panel hefyd yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau gan bob asiantaeth wrth i achosion gael eu hadolygu’n fisol a’u bod yn parhau ar yr agenda nes i’r mater ddod i ben.
Panel Anableddau Dysgu ar gyfer ceisiadau am gyllid
Cefndir
Yn hanesyddol, cafodd ceisiadau am gyllid Anableddau Dysgu eu hystyried gan Reolwr Gweithredol neu Ben Ymarferydd, ar wahân i aelodau eraill o’r tîm. Cafodd cyfle i wella’r ffordd rydym yn ystyried ceisiadau ei adnabod, drwy gynnwys panel o bobl allweddol. Byddai hyn yn darparu ymagwedd fwy cadarn, tryloyw a chyson wrth ystyried ceisiadau cyllid, ac yn helpu i sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio’n hyblyg i ddiwallu anghenion sy’n cael eu hadnabod.
Beth sydd wedi newid?
Sefydlwyd y panel ac mae’r rheolwr cefnogaeth gymunedol fewnol, y rheolwr iechyd, rheolwr tîm, ymarferwyr a’r uwch swyddog cyllid yn mynychu’n rheolaidd.
Mae ymarferwyr yn sicrhau bod yna sail resymegol o ran ‘datblygiad’ unigolyn yn eu cais. Fe gedwir cofnod o ystyriaethau’r panel, gan gynnwys y risgiau sy’n gysylltiedig o beidio â chymeradwyo ceisiadau am gyllid. Y panel, nid yr ymarferydd sydd yn gadael i bobl wybod am benderfyniadau ynghylch cyllido.
Os nad ydi’r cyllid yn cael ei gymeradwyo, mae’r panel yn gwneud argymhellion ynglŷn â ‘beth i’w wneud nesaf’.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
- Mae modd i ni ragweld gwariant yn well ar ddiwedd bob chwarter, ac yn amlwg mae hyn yn effeithio ar sefydlogrwydd cynllunio ariannol.
- Mae’r panel yn darparu adroddiadau ar bethau fel a gafodd asesiadau eu cofnodi ar y system client (PARIS), ac a gynhaliwyd adolygiadau o fewn yr amserlenni. Mae hyn wedi arwain at reolaeth fwy cadarn o’r mathau yma o faterion perfformiad.
- Mae gan reolwyr tîm syniad gwell o ystod y ceisiadau, a nawr maent mewn sefyllfa well i siapio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.
- Mae ymarferwyr yn dweud, er bod y panel yn heriol ar y cychwyn, caiff ei ystyried yn gefnogol ac yn broffesiynol heriol mewn modd cadarnhaol erbyn hyn.
- Mae defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol bod yna broses gadarn ar waith er mwyn ystyried eu ceisiadau am gyllid.
Astudiaeth Achos
Mae’r panel wedi cyflwyno cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol. Er enghraifft, gwnaed cais i gael cymorth ychwanegol i gynorthwyo defnyddiwr gwasanaeth i ddod o hyd i waith gwirfoddol. Roedd y defnyddiwr gwasanaeth wedi defnyddio prosiect Taith i Waith yn flaenorol ac roedd wedi cwblhau pob lefel o ddyfarniad cadwraeth John Muir. Cafodd ei ddisgrifio gan y rheini oedd yn ei gefnogi ar y pryd fel rhywun oedd yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth eraill i gyflawni ei golau, tuag at ddiwedd y prosiect. Gan fod y gwasanaeth yn parhau â dyfarniad John Muir, cynigiodd Rheolwr y Tîm leoliad gwirfoddoli iddo i fentora defnyddwyr gwasanaeth eraill.
Panel Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau
Cefndir
Sefydlwyd Panel Lleoliadau Adferiad Camddefnyddio Sylweddau sawl blwyddyn yn ôl i ystyried a chymeradwyo ceisiadau am gyllid o Grantiau Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth oedd yn oedolion. Mae’r Panel yn cwrdd bob mis ac mae’n derbyn atgyfeiriadau ar gyfer oedolion sydd yn barod i ymrwymo i gychwyn Rhaglen Triniaeth neu Leoliad Preswyl. Os bo’n briodol, mae’r panel yn ceisio cyllido llefydd o fewn y rhanbarth. Os oes gan unigolyn faterion cymhleth, mae’r Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Allweddol a chydweithwyr o BIPBC yn ceisio comisiynu lleoliadau priodol o amryw o ddarparwyr gwasanaeth priodol y tu allan i’r sir neu du allan i Gymru.
Mae’r Panel yn cynnwys Rheolwr Gwasanaeth Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheolwr Tîm BIPBC, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Allweddol, Swyddog Arweiniol Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Conwy, cefnogaeth weinyddol adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a chedwir cofnodion ffurfiol o benderfyniadau, achosion a drafodwyd, ac adroddiadau cynnydd am unigolion sydd eisoes yn derbyn triniaeth.
Beth sydd wedi newid?
Mae gan Gonwy Cylch Gorchwyl ar waith ar gyfer panel Tîm Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau.
Bydd angen Cylch Gorchwyl newydd er mwyn adlewyrchu sut y caiff trefniadau llywodraethu newydd Strwythur Tîm Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol, yr awdurdod cynnal ar gyfer cyllido yn y dyfodol (Wrecsam), a threfniadau arfer da lleol sydd yn bodoli’n bresennol eu cefnogi yn y dyfodol. Oni bai y dywedir fel arall, bydd trefniadau Conwy (panel lleol) yn parhau yn ystod y cyfnod nesaf o waith rhanbarthol, a chaiff ei adolygu â budd-ddeiliaid allweddol, ar ôl i’r materion staffio ar gyfer swyddogion presennol, ac ar ôl i benodiadau newydd gael eu cwblhau.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Cefnogwyd pobl sydd â phroblemau iechyd a lles difrifol drwy’r panel ceisiadau am gyllid, i ymgysylltu â gwasanaethau a all ddarparu ystod gynhwysfawr o raglenni dadwenwyno/ ymataliad a sgiliau bywyd o ddydd i ddydd a mentora.
Mae rhai unigolion yn llwyddo i gwblhau sawl wythnos/mis mewn lleoliadau preswyl a symud ymlaen i raglenni cefnogol eraill ar eu taith i wella o broblemau camddefnyddio sylweddau. Mae unigolion eraill yn rhyddhau eu hunain adref yn fuan o leoliadau ar adegau amrywiol yn y cynllun. Pan fo hyn yn digwydd, mae comisiynwyr y gwasanaethau hyn yn trafod â’r Darparwr Gwasanaeth i ddarparu’r gwasanaeth eto i unigolyn addas sydd wedi’u hasesu.
Mae’r gwasanaethau Haen 4 yng Nghymru o safon eithriadol o uchel ac maent yn creu amgylchedd i roi pob cyfle i unigolion gael gwellhad llwyddiannus a chynaliadwy o gamddefnyddio sylweddau. Fe anogir Byrddau Cynllunio Ardal i gefnogi a chynnal argaeledd darpariaeth gwasanaeth o safon uchel yng Nghymru sydd yn cydymffurfio â’r Safonau Craidd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.