Rwy’n ysgrifennu’r crynodeb hwn o’r adroddiad yn ystod argyfwng cenedlaethol digynsail ledled y Byd. Mae pandemig Covid-19 wedi taro’r boblogaeth a thrawsnewid ein bywydau bob dydd y tu hwnt i bob amgyffred. Ers canol mis Mawrth, mae ein byd Gofal Cymdeithasol yn edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn, er fy mod yn falch o gael dweud bod popeth yn cael ei wneud yn ôl yr arfer hyd yma, a lle bu’n rhaid i ni wneud addasiadau, y gobaith yw nad yw hynny wedi cael effaith rhy llym ar ein staff na defnyddwyr ein gwasanaeth.
Mae edrych yn ôl ar weithgarwch 2019/20 ar ei hyd wedi bod yn brofiad gwerth chweil ar adeg mor anodd i’r genedl. Mae’n teimlo fel bod mwy na deuddeg mis wedi mynd heibio ers nifer o’n cerrig milltir a’n cyflawniadau, ond fe fyddaf yn cyfeirio at rai o’r uchafbwyntiau.
Mae yna ddatblygiadau sylweddol wedi digwydd yn ein gwaith yn weithredol gyda’r Bwrdd Iechyd, yn enwedig o ran gwasanaethau Pobl Hŷn, gyda chronfa trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i hyrwyddo mwy o integreiddio ac ystyried modelau rheoli ar y cyd. Rydym wedi rhoi rhywfaint o hyn ar brawf gyda staff a bwriadwn archwilio’r manteision o safbwynt dinasyddion hefyd.
Canolbwyntiwyd hefyd ar amrediad o ddatblygiadau llety â chymorth yn ystod y flwyddyn, sydd wedi bod yn rhan o’n dull cynllunio fel gwasanaeth ers rhai blynyddoedd. Mae gennym gynlluniau ar gyfer y Gwasanaethau Plant, Anableddau a Phobl Hŷn, a gobeithiwn weld y rhain yn datblygu ymhellach yn ystod 2021.
Un maes gwasanaeth yn benodol sy’n wynebu amodau gwaith gwirioneddol heriol yn ystod y pandemig yw ein gweithwyr cymorth cymunedol, sy’n rhoi gofal yng nghartrefi pobl ac yn cael eu cyflogi gan Gonwy a’u comisiynu drwy fusnesau. Dyma weithlu hanfodol a phenderfynol sydd, er gwaethaf rhwystrau ac anawsterau di-rif dros y blynyddoedd, fel eira, llifogydd a nawr y pandemig, wedi dal ati i sicrhau gofal parhaus, ac mae hynny’n dipyn o gamp. Rydym yn cyfeirio at eu gwaith gwych yn yr adroddiad ac yn rhannu adborth hyfryd a gawsom gan ddinasyddion. Diolchwn o waelod ein calonnau i’r grŵp hwn o staff wrth iddynt barhau i roi gofal i’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein sir.
Rydym yn parhau i hyrwyddo llais y dinesydd ac roeddem wrth ein boddau’n gweld tri o gynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc Conwy wedi’u hethol i Senedd Ieuenctid Cymru y llynedd. Rydym hefyd wedi dathlu agor ein canolfan gymunedol iCan gyntaf yn y sir, a ddatblygwyd gan ddinasyddion ac unigolion sydd wedi byw gyda phrofiadau iechyd meddwl. Er mwyn canolbwyntio o ddifrif ar brofiadau pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, rydym wedi comisiynu’r Bws Dementia poblogaidd ar gyfer staff, aelodau teulu a gofalwyr sydd wedi cael profiad o Dementia yn eu bywydau. Fe fynychais i sesiwn yn bersonol, ac mae wedi newid fy marn a fy ffordd o feddwl yn fwy nag unrhyw hyfforddiant arall rwyf wedi’i fynychu; mae’r profiad yn gadael i’r cyfranogwr ymgolli’n llwyr ym mywyd rhywun sy’n dioddef o ddementia.
Mae yna lawer mwy o uchafbwyntiau nad wyf wedi eu crybwyll, felly gobeithio y gallwch chi roi rhywfaint o’ch amser i ddarllen cynnwys yr adroddiad. Y cyfan sydd ar ôl i mi ei wneud yw diolch i’r tîm anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghonwy, a diolch hefyd i ddarparwyr y gwasanaethau rydym yn cydweithio â nhw yn y trydydd sector a’r sector annibynnol. Heb os, bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwn ac yn gweld sut y bu i ni gael ein cefn atom a dychwelyd at ryw lefel o normalrwydd.
Diolch i chi oll a chadwch yn ddiogel.
Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy