Beth a ddysgom ni o’r Arolwg Dinasyddion?
Roedd 81% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur ac 85% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno mai bod gartref a oedd yn hybu eu lles fwyaf. Roedd llawer o’r sylwadau ychwanegol yn sôn mor bwysig oedd addasiadau i’w gwneud yn haws mynd o le i le, gan alluogi’r unigolyn i aros gartref yn hwy. Roedd bod yn agos at deulu, ffrindiau a chyfleusterau lleol yn ddymunol hefyd.
Hoffwn fyw’n nes at gludiant cyhoeddus.
Mae trosi’r ystafell ymolchi a gwella’r fynedfa tu allan wedi gweddnewid fy mywyd yn llwyr.
Mae Tai â Chymorth Ychwanegol yn dda gan mod i’n treulio cymaint o amser mewn cadair olwyn, ac mae’n addas ar gyfer hynny.
Roedd 86% o Ofalwyr yn cytuno mai bod gartref a oedd yn hybu eu lles fwyaf. Roedd y sylwadau ategol gan y garfan hon yn dangos mor niweidiol y gall cartref anaddas fod i rywun sy’n gofalu, a bod cartref pwrpasol neu addasiadau yn medru gwneud byd o wahaniaeth.
Roedd 74% o blant yn cytuno eu bod yn byw mewn cartref lle’r oeddent yn hapus. Roedd y sylwadau ychwanegol yn awgrymu y gallai natur y berthynas bersonol rhwng pawb ar yr aelwyd gael mwy o effaith ar hapusrwydd y plentyn na’r eiddo ei hun, ond gallai arwahanrwydd cymdeithasol fod yn broblem mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd 77% o blant a phobl ifanc eu bod yn hapus gyda’r bobl y maent yn byw â nhw.
Maen nhw’n anhygoel o dda.
Mae fy nheulu’n garedig a gofalgar.
Gofynnwyd i bobl a oeddent yn derbyn gofal a chymorth yn yr iaith o’u dewis ac ymhob carfan roedd dros 90% yn cytuno.
Gofynnwyd i bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal preswyl ai hwy eu hunain oedd wedi dewis byw yno. Cytunodd 77% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur, a rhai ohonynt wedi seilio’u penderfyniad i symud ar gyngor pobl eraill.
Fe fyddwn wedi bod wrth fy modd yn aros gartref, ond gan fy mod yn anabl dyma oedd y peth gorau imi, ac mae gennyf atgofion melys o fy hen gartrefi.
Fe wnaed y penderfyniad ar fy rhan gan fy mod yn rhy sâl ar y pryd. Rwy’n hapus i fod yma rwan. Mae fy iechyd wedi gwella gan fy mod yn y lle iawn ac yn cael gofal da.
Roedd 58% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o’r holiadur wedi dewis byw mewn cartref gofal preswyl, ond ni chafwyd unrhyw sylwadau ychwanegol i ehangu ar hynny.
Yn 2018-19 rydym wedi bod yn ymchwilio i gyfleoedd i ddarparu llety modern, graenus ac addas i bobl sy’n hŷn, yn fregus, yn anabl neu’n dechrau cynllunio ar gyfer bod yn oedolion annibynnol.
Cefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd
Cymorth hyblyg i bobl â dementia a’u teuluoedd
Rydym wedi dechrau cynllunio ar gyfer gwella’r ffordd yr ydym yn darparu gofal a chymorth i bobl â dementia a’u teuluoedd. Dymunwn wella Llys Elian, sef ein canolfan fewnol ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl, a’i datblygu’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer yr ardal. Byddwn hefyd yn cyflwyno Tîm Cymorth Dementia er mwyn darparu gwasanaeth allgymorth hyblyg sy’n ffurfio ‘tîm o amgylch yr unigolyn’ ar gyfer pobl â dementia. Bydd y gwasanaeth yn darparu:
- Cymorth i alluogi pobl i gael bywydau da gyda dementia o’r adeg y ceir y diagnosis cyntaf, a hynny yn eu cartrefi eu hunain;
- Y gallu i gyfeirio pobl at wasanaethau eraill a chynnig eiriolaeth i bobl â dementia a’u gofalwyr;
- Y gallu i gyflawni dyletswyddau gofal iechyd wedi’u dirprwyo;
- Man cyswllt allweddol i deuluoedd sydd angen cymorth gyda chymhlethdodau’r system iechyd a gofal;
- Cymorth i gael mynediad at wasanaethau seibiant dros nos ac yn y dydd yn Llys Elian;
- Cymorth a hyfforddiant i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnwys hyrwyddo technoleg ddigidol;
- Cysylltiadau gwaith agos â’r tîm Adnoddau Cymunedol a’r amryw dimau ardal;
- Cysylltiadau â’r nyrsys ardal o ran gofal diwedd oes.
Rhaid fydd bod yn hyblyg, a bydd y gweithwyr yn ymateb i anghenion yn hytrach na darparu cymorth yn ôl amserlenni gwaith. Yn unol â Strategaeth Dementia Llywodraeth Cymru byddwn yn datblygu a darparu rhaglen hyfforddiant mewn partneriaeth â phobl y mae dementia wedi effeithio arnynt, er mwyn sicrhau bod staff yn meddu ar sgiliau i’w helpu i adnabod pobl â dementia, a theimlo’n hyderus a chymwys i fodloni anghenion pobl wedi iddynt gael diagnosis.
Y Sector Gofal a Llety Priodol
Fis Mehefin 2018, cymeradwywyd Datganiad Siapio’r Farchnad ar Gartrefi Gofal i Bobl Hŷn yng Ngogledd Cymru, a oedd yn dangos sut rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sector cartrefi gofal a fedr ymdopi â’r galw yn y dyfodol a darparu gofal i bobl yn nes at adref. Bydd mwy o bobl dros 85 oed yn byw ar eu pennau’u hunain gydag iechyd gwael, a bydd mwy o bobl dros 65 yn byw â dementia. Felly bydd y galw am leoedd mewn cartrefi gofal yn cynyddu.
Y nod yw gweithio gyda chartrefi gofal er mwyn:
- Cyfrifo’r pris iawn am ofal, gan sicrhau ei fod yn fforddiadwy ond bod y costau wedi’u talu;
- Eu cefnogi i arfer y dulliau gorau o weithio;
- Cefnogi busnesau bach lleol i aros yn gynaliadwy;
- Canfod faint o staff Cymraeg sydd mewn cartrefi gofal;
- Canfod faint o bobl sy’n derbyn gofal yn yr iaith o’u dewis;
- Gwella’r gofal iechyd a ddarperir mewn cartrefi gofal.
Sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc a phobl ifanc sy’n gadael gofal
Llety i bobl iau
Yn y gorffennol rydym wedi defnyddio Canolfan Marl ar gyfer lleoli pobl anabl. Fe gynigiom gyfle i ‘B’, unigolyn ifanc yn gadael gofal, i gael profiad o fyw’n annibynnol yn un o fflatiau Canolfan Marl, gan na fedrai’r Gofalwyr Maeth ymrwymo i fod yn ‘Lleoliad Pan Fydda i’n Barod’. Nod y lleoliad hwn yw bod ‘B’ yn magu’r profiad a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw heb ofal. Darperir cymorth ar y safle, a bydd rhywun yn cadw golwg ar ‘B’ o 9am tan 5pm rhag ofn y bydd angen mwy o gefnogaeth arni. Mae ‘B’ hefyd wedi cael Cynghorydd Personol sy’n goruchwylio’r drefn o adael gofal a dechrau byw’n annibynnol. Mae’r Cynghorydd Personol wedi llunio Cynllun Llwybr ar ei chyfer ac yn darparu cymorth gydag amrywiaeth o wahanol bethau.
Cafodd ‘B’ gymorth gyda rheoli cyllideb a deall mor bwysig yw rhoi arian o’r neilltu, gyda chymorth ei Chynghorydd Personol. Ar ôl cael cyfle i ddefnyddio Canolfan Marl fel hyn i hybu ei sgiliau byw’n annibynnol, bydd ‘B’ yn gwneud cynlluniau ar gyfer symud i’w chartref ei hun. Mae’r Cynghorydd Personol yn darparu cymorth ychwanegol i sicrhau llety parhaol.
Gellid defnyddio’r fflat yn yr un modd ar gyfer y bobl ifanc hynny nad ydynt yn hollol barod eto am lety annibynnol parhaol, ond sy’n methu ag aros â’i Gofalwyr Maeth mwyach.
Beth nesaf?
Mae’r Gwasanaeth Anableddau’n datblygu amryw fathau o lety yn y gymuned, gan gynnwys rhannu bywydau, rhannu llety â chymorth, fflatiau unigol a llety tebyg i Ofal Ychwanegol. Yng Nghanolfan Marl gallwn asesu anghenion unigolion yn well o ran llety a chymorth. Rydym hefyd yn ymchwilio i ddatblygu darpariaeth seibiant amrywiol i gefnogi gofalwyr fel y gallant ddal i ddarparu gofal i’w teuluoedd, gan gynnwys seibiannau byr Rhannu Bywydau.
Llwybr Cadarnhaol i Bobl Ifanc
Yn yr adroddiad y llynedd fe soniom ein bod wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc, yn enwedig o ran dewisiadau llety. Dros y deuddeg mis diwethaf bu yno nifer o ddatblygiadau calonogol.
- Datblygwyd hyfforddiant ar gyfer Gofalwyr Maeth er mwyn hybu gwell dealltwriaeth o’r farchnad dai.
- Estynnwyd yr hyfforddiant i bobl ifanc sy’n gadael gofal, er mwyn hybu eu sgiliau dinasyddiaeth a chefnogi eu tenantiaethau.
- Datblygwyd negeseuon allweddol i bobl ifanc, Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd wedi’u cyhoeddi ar y wefan Byw yn Annibynnol. Defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol i ledaenu negeseuon allweddol. Mae Gweithiwr Cymdeithasol Byw yn Annibynnol hefyd yn ymweld ag ysgolion a sefydliadau addysgol eraill i addysgu myfyrwyr ynglŷn â dewisiadau tai ac agweddau ariannol ar fyw’n annibynnol.
- Buom yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd i olrhain cynnydd pobl ifanc mewn gofal o bymtheg oed ymlaen, er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn oedolion yn ddi-drafferth, a chael gwared ar y perygl o ddigartrefedd.
- Rydym wedi gweithredu ‘Lloches Dros Nos’ ac mae Cynllun Tai Lloches â Chymorth ar waith.
TÎM ADTRAC
Mae tîm ADTRAC Gwasanaeth Lles Cymunedol Conwy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed i symud i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli a chyflawni eu nodau. Hyd yma mae’r tîm wedi cefnogi mwy na chant o bobl ifanc sydd wedi ennill cymwysterau Lefel 3, mynd ymlaen i addysg bellach a chael gwaith am dros 16 awr yr wythnos.
Fe gawsom ymateb da iawn gan rai o’r bobl ifanc hynny’r ydym wedi’u cefnogi:
Diolch am fy helpu i fynd i’r coleg. Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i wneud hynny, ac roeddwn i’n poeni na fyddwn i’n deall dim byd yn y gwersi.
Astudiaeth Achos
Pan ymunodd ‘A’ â’r prosiect roedd hi’n anhrefn gartref, ac roedd yn gofalu am ei fam yn answyddogol. Roedd y teulu’n dibynnu ar gyflog ei dad. Un tawel a dihyder oedd ‘A’. Mae wedi gweithio mewn swyddi tymhorol yn y gorffennol ac mae ‘A’ yn cael trafferth â’i leferydd a’i iaith, sy’n golygu fod llunio CV/ffurflenni cais/cyfweliadau yn medru bod yn drech nag ef.
Ar y dechrau fe dreulion ni gryn amser yn gweithio gyda Hawliau Lles a Chanolfan Byd Gwaith fel bod ‘A’ yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith wrth iddo chwilio am swyddi. Roedd ‘A’ yn awyddus iawn i gael gwaith.
Ymhen ychydig rhoddwyd cymorth i ‘A’ gysylltu ag asiantaeth gyflogi leol, ac fe gafodd waith ar brawf ar loriau ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cafodd ychydig o drafferthion ar y cychwyn o ran cymdeithasu, ond gyda chymorth fe ddatryswyd hynny cyn diwedd yr wythnos gyntaf.
Mae ‘A’ wedi bod yn gweithio dros 16 awr yr wythnos ers bron i ddau fis. Mae’n llawn balchder a hyder bellach; yn ogystal â bod yn annibynnol a chael mwy o incwm, mae ‘A’ wedi gwneud ffrindiau hefyd.