Beth a ddysgom ni o’r Arolwg Dinasyddion?
Fe ofynnom i bobl a oeddent yn medru gwneud beth sy’n bwysig iddynt a chafwyd gwahanol ymatebion gan yr amryw garfannau. Dywedodd 44% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur eu bod yn medru, a dywedodd 40% mai dim ond weithiau y medrant. Mae’r sylwadau ategol bron i gyd yn sôn sut mae anableddau neu gyfyngiadau corfforol yn effeithio ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau, neu hyd yn oed fynd allan o’r tŷ.
Mae anabledd yn cyfyngu ar beth fedra i ei wneud.
Rwy’n medru cael mynediad at y pethau sy’n bwysig imi gyda chymorth y staff, gan y mod i’n cael trafferth symud.
Roedd yr oedolion hynny a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o’r holiadur yn fwy bodlon ar y cyfan, a dywedodd 81% ohonynt y medrant wneud eu hoff bethau. Ni ddywedodd neb o’r garfan hon na fedrai wneud rhai o’i hoff bethau, ond mae’r sylwadau ategol yn awgrymu y byddai pobl yn falch o gael mwy o glybiau a gweithgareddau, gan gynnwys pêl-droed, criced, teithiau yn y car a garddio.
Roedd mwy o anfodlonrwydd ymysg Gofalwyr, a dim ond 41% ohonynt a ddywedodd y gallant wneud y pethau sy’n bwysig iddynt. Mae pobl yn y garfan hon yn aml yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y sawl sy’n derbyn gofal dros eu hanghenion eu hunain, ac o ganlyniad maent yn ei chael yn anodd dilyn eu diddordebau. Mae rhai gofalwyr yn ymdopi â chyflyrau iechyd eu hunain hefyd, yn ogystal â chyflyrau’r sawl sy’n derbyn gofal.
Rydw i wedi byw ers blynyddoedd yn gwylio’r cloc, gan nad ydych chi’n cael unrhyw amser i chi’ch hun fel Gofalwr.
Mae Gofalu’n mynd â’r rhan fwyaf o amser rhywun, felly does dim amser i wneud eich pethau eich hun.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cydnabod fod gan Ofalwyr yr un hawl i gael asesiad o’u hanghenion. Gall pob Gofalwr gael asesiad, sy’n gyfle iddynt siarad am y pethau sy’n bwysig iddynt a chlywed am ba wybodaeth, cymorth neu wasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi.
Roedd 55% o blant yn cytuno y gallant wneud eu hoff bethau. Ymddengys mai prinder arian yn bennaf sy’n eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau, a bod hynny’n gysylltiedig â gorbryder cymdeithasol a diffyg gweithgareddau addas.
Fe ofynnom i bobl a oeddent yn fodlon â’r rhwydweithiau cymdeithasol/pobl o’u cwmpas. Dywedodd 84% o oedolion eu bod yn fodlon â’r gefnogaeth gan eu teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. Roedd y sylwadau ategol yn cadarnhau fod rhwydweithiau teuluol yn bwysig, a bod pobl yn croesawu a gwerthfawrogi ymweliadau gan deulu a ffrindiau. Mae llawer o bobl, serch hynny, yn teimlo’n unig ac yn ddieithr am eu bod yn byw’n bell oddi wrth eu teuluoedd, neu os nad oes perthynas agos rhyngddynt, neu os nad ydynt wedi integreiddio yn eu cymunedau .
Mae’r teulu’n bell i ffwrdd ac ddim yn ymweld yn aml.
Mae fy ngwraig yn fy nghefnogi. Tydw i bydd yn gweld fy nghymdogion a does gen i ddim teulu gerllaw
Rwy’n cadw mewn cysylltiad â fy nheulu dros y ffôn gan nad ydynt yn byw’n lleol. Wedi gwneud ffrindiau â’r bobl sy’n byw wrth fy ymyl.
Roedd 90% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o’r holiadur yn fodlon â’r bobl o’u cwmpas.
Dim ond 66% o Ofalwyr oedd yn cytuno â’r datganiad, fodd bynnag. Mae llawer ohonynt yn byw yn bell oddi wrth eu teuluoedd, neu’n cydnabod fod pobl eraill yn brysur gyda’u bywydau a’u cyfrifoldebau eu hunain.
Mae pawb yn fy nheulu’n gweithio ac nid ydynt ond yn medru ymweld o bryd i’w gilydd ar y penwythnos.
Does dim teulu gan fy ngwraig na finnau, ac felly rydym yn dibynnu ar gymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn ddiolchgar dros ben amdano.
Dywedodd 73% o blant eu bod yn fodlon â’r gefnogaeth gan eu teuluoedd, ffrindiau a chymdogion.
Gwella cyfathrebu i bawb
Canolbwyntio ar Namau ar y Synhwyrau
Bu’r Gwasanaeth Anableddau’n gweithio â Fforwm Pobl Fyddar Conwy a Thîm Gwella a Datblygu Corfforaethol y Cyngor i ddatblygu dull i’w weithredu gydol y sefydliad er mwyn bodloni anghenion cyfathrebu pobl â nam ar y synhwyrau. Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn canolbwyntio ar sicrhau fod pobl â nam ar y synhwyrau’n cael mynediad cyfartal at wasanaethau. Wrth ymgynghori â’r aelodau, canfu’r Fforwm fod cyfathrebu’n allweddol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl fyddar. Rydym wedi buddsoddi mewn hyfforddiant i staff a darparu gwasanaeth cyfieithu ‘Interpreterslive’ ar dderbynfeydd y Cyngor, a hefyd ar y wefan a’r ap. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n awr i gyfieithu gwybodaeth allweddol i Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer fideos ar ein gwefan, a phrofi meddalwedd Browsealoud a Recite er mwyn gwneud pethau’n haws i bobl â nam ar y golwg neu ddyslecsia. Gwnaethpwyd cynnydd gwerth chweil hyd yn hyn.
Ar ben hynny, ar sail ymgynghori â phobl fyddar drwy Fforwm Conwy, mae’r Gwasanaeth Anableddau mewn partneriaeth â Cydweithredu i Ofalu wedi mynd ati i gefnogi grŵp o unigolion wrth iddynt sefydlu Gwasanaeth Cyfieithu a Chymorth i Bobl Fyddar Conwy, gan gynnal sesiwn galw heibio ar gyfieithu bob pythefnos. Diben y Gwasanaeth Cyfieithu a Chymorth yw goresgyn y rhwystrau sydd o flaen pobl fyddar wrth iddynt geisio dod o hyd i wybodaeth, cyngor a chymorth. Mae unigolion yn medru archebu sesiynau personol gyda chyfieithydd ymlaen llaw. Bydd y grŵp yn gweithio yn swyddfeydd newydd y Cyngor eleni.
Beth oedd yr heriau?
- Roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn rhoi sylw cyfartal i farn ein rhanddeiliaid wrth lunio’r cynllun gweithredu.
- Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i fagu hyder staff wrth gyfathrebu â phobl fyddar.
Beth nesaf?
Byddwn yn dal i ddatblygu’r cynllun gweithredu mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chymorth a’r sefydliadau yn y trydydd sector sy’n gweithio yn y maes hwn. Byddwn yn ystyried beth arall y mae angen i’r Cyngor Sir ei wneud er mwyn cyflawni’r camau gweithredu amrywiol ynghylch cydraddoldeb a nodir yn y fframwaith newydd, Gweithredu ynghylch Anabledd: yr hawl i Fyw’n Annibynnol. Byddwn yn magu hyder holl staff y Cyngor i ‘roi cynnig ar’ gyfathrebu â phobl fyddar gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, yn hytrach na gweld hyn fel rhywbeth arbennig y dylai rhywun ym maes Gofal Cymdeithasol ymdrin ag ef.
Cymorth Eirioli
Pan mae eiriolaeth yn troi’n gyfeillgarwch
Sefydlwyd Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu ym 1997, er mwyn helpu i hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau dysgu yng Nghonwy a ledled gogledd Cymru.
Mae ‘M’, cyn-ddefnyddiwr y gwasanaeth Livability, yn gweithio fel eiriolwr dros bobl anabl Cymru, ac fe ffurfiodd grŵp ffrindiau ddeng mlynedd yn ôl sydd bellach â 90 o aelodau. Yn sgil ei llwyddiant fe’i hetholwyd yn gynrychiolydd ar Gyngor Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru, sy’n cwrdd yng Nghaerdydd i drafod materion sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl ag anableddau.
Ym mis Rhagfyr 2018 bu ‘M’ yn enillydd yng ngwobrau Dimensions, gan ddod i’r brig fel Arweinydd Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth yn y categori Newid Cymunedau. Pan ofynnwyd iddi beth oedd yn ei sbarduno, dywedodd ‘M’: “fy nod ydi fod pobl yn magu mwy o hyder i fynd allan â chymysgu gydag eraill. Dw i’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth yma – fyddai ’na ddim grŵp ffrindiau hebdda i.”
Helpu pobl i gyflawni’u potensial
Tîm Anableddau Dan 25
Mae’r Tîm Anableddau Dan 25 yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl a’u cynorthwyo i adnabod:
- Eu targedau personol;
- Unrhyw rwystrau rhag eu cyflawni;
- Unrhyw risgiau os na chyflawnir y targedau;
- Cryfderau a galluoedd y plentyn/unigolyn ifanc.
Mae’r astudiaeth achos ganlynol yn sôn am un o’n hymyriadau llwyddiannus
Mae ‘C’ yn ŵr ifanc 21 mlwydd oed sydd ag anabledd dysgu sylweddol. Fe fu’n mynychu ysgol arbenigol leol cyn treulio tair blynedd mewn coleg preswyl, gan ddatblygu ei sgiliau byw’n annibynnol a chael cyfleoedd i gael gwaith a meithrin sgiliau byd gwaith. Rhoddodd y Gwasanaeth Anableddau gymorth i ‘C’ gyflawni ei darged personol o fyw’n annibynnol a gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae bellach yn byw mewn fflat ar ei ben ei hun heb fawr ddim cymorth, ac fe’i hatgyfeiriwyd at raglen waith. Roedd arno angen ychydig o gefnogaeth wrth symud i mewn i’r fflat a threfnu taliadau debyd uniongyrchol, ond mae’n annibynnol iawn erbyn hyn ac yn amlwg yn ei gymuned leol. Mae’n mynd i siopa, yn defnyddio cludiant cyhoeddus, ac ar ôl gwneud ychydig o ffrindiau mae’n mwynhau gweithgareddau cymdeithasol.
Anableddau – darpariaeth addysgol ar y cyd
Ers Medi 2018 mae’r Gwasanaeth Anableddau a Choleg Llandrillo wedi cynnig darpariaeth addysgol ôl-19 ar y cyd ar gyfer pobl ifanc ag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog. Cynllun peilot yw hwn a sefydlwyd er mwyn canolbwyntio ar ddulliau lleol o ddatrys y diffyg darpariaeth addysgol ar ôl 19 oed, fel nad oes yn rhaid i bobl ifanc ag anghenion cymhleth fynd i golegau preswyl y tu allan i’r sir. Erbyn hyn mae tri o bobl ifanc yn elwa ar y ddarpariaeth.
Y ffordd y mae hyn yn gweithio yw bod y coleg yn darparu tiwtor a’r Gwasanaeth Anableddau’n darparu’r cyfleusterau a’r gweithwyr cymorth ychwanegol. Darperir y gwasanaeth yng Nghanolfan Marl, a adnewyddwyd yn ddiweddar. Yn sgil y gwaith adnewyddu mae’r ganolfan yn medru bodloni anghenion pobl ifanc ag anableddau corfforol, ac mae yno ystafell celf synhwyraidd o’r radd flaenaf.
Mae’r ddarpariaeth yn rhoi dilyniant i bobl ifanc a’u teuluoedd. Er enghraifft, bu tiwtoriaid y coleg yn gweithio’n agos gyda staff addysgu Ysgol y Gogarth er mwyn sicrhau fod cynlluniau effeithiol ar waith ar gyfer pontio rhwng yr ysgol a’r ddarpariaeth ôl-19. Diolch i’r ddarpariaeth hon gall pobl aros yn yr ardal a chynllunio’n effeithiol ar gyfer eu dyfodol, ac mae Gweithwyr Cymdeithasol a phartneriaid eraill mewn meysydd fel Iechyd yn medru dod i’w hadnabod yn dda. Mae’r staff hefyd yn dysgu sgiliau newydd drwy weithio gyda thiwtoriaid y coleg.
Ar ben hynny, mae’r Gwasanaeth Anableddau wedi agor drysau fflat yng Nghanolfan Marl i bobl ifanc ar y cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Llandrillo. Mae hynny’n golygu fod cyfranogwyr y cwrs yn cael dysgu sgiliau byw’n annibynnol mewn fflat go iawn sy’n agos at gyfleusterau lleol.
The Toddlers Who Took on Dementia
Fis Mehefin 2018 roeddem yn falch o fod yn rhan o ffilm ddogfen ar y BBC a oedd yn dilyn arbrawf unigryw gan seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor. A fedr bod yng nghwmni plant bach liniaru ar effeithiau dementia? Daethpwyd ynghyd ag oedolion yn eu 70au a’u 80au a phlant bach, a oedd i gyd yn derbyn gofal dydd o ryw fath neu’i gilydd, i gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhannu straeon ac atgofion yng nghanolfan ddydd Llys Elian. Bu’r amser a dreuliodd pawb gyda’i gilydd yn fuddiol iddynt oll mewn ffyrdd annisgwyl, ac erbyn hyn mae’r arbrawf wedi troi’n gynllun rheolaidd sy’n golygu bod y naill garfan a’r llall yn dal i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Gallwch weld ‘Clips from the show’ ar wefan y BBC.
Cefnogaeth Deuluol ac Ymyrraeth
Tîm Ymyriadau Teuluol
Mae’r Tîm Ymyriadau Teuluol yn darparu gwasanaeth i deuluoedd ag anghenion gofal a chymorth pan mae pethau’n troi’n argyfwng. Diben pennaf y gwasanaeth yw darparu ymyriadau i deuluoedd ar sail asesiad a chynllun gofal a chymorth gan Weithiwr Cymdeithasol. Mae gennym amrywiaeth o raglenni a sesiynau i helpu teuluoedd, gan gynnwys:
- Siarad â Phobl Ifanc yn eu Harddegau – cwrs chwe wythnos i rieni a ddarperir ar y cyd â’r Canolfannau Teuluoedd.
- Bydda’n Ddoeth, Bydda’n Wych, Bydda’n Bositif – rhaglen sy’n helpu plant i gadw eu hemosiynau dan reolaeth.
- Arferion Magu Plant – gweithio gyda theuluoedd unigol sy’n ei chael yn anodd gosod ffiniau a threfn.
- Seibiant i Ofalwyr Maeth – gweithgareddau i blant lle mae perygl mawr y bydd y lleoliad yn mynd ar chwâl.
Beth nesaf?
Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn gwneud ymdrech i gydweithio â’r Canolfannau Teuluoedd. Byddwn yn datblygu adnoddau ar gyfer darparu’r rhaglen Tadau Gofalgar.
Gadael Gofal
Dymunwn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ifanc sy’n gadael gofal, a’u helpu i gyflawni eu llawn botensial mewn cymdeithas drwy ddarparu cymorth amserol ac addas. Os gweithredir strategaethau effeithiol bydd yno lai o bobl ifanc yn cael eu dosbarthu fel Pobl Nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) a bydd llai o ferched yn eu harddegau’n mynd yn feichiog. Drwy hybu sgiliau byw a chadernid a darparu dewis o lety gwahanol, gan gynnwys cymorth â thenantiaethau, gellir lleihau digartrefedd ac arwain pobl i ffwrdd o fyw mewn anhrefn. Er enghraifft, darparwyd sgiliau byw’n annibynnol i wyth o bobl ifanc, a bwriedir cynnal sesiwn hyfforddiant arall ym mis Medi. Mae’r hyfforddiant yn helpu’r bobl ifanc i ddysgu’n gynt am sut i reoli’r cartref, gan gynnwys cadw at gyllideb.
Cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i gyflawni eu potensial
Sefydlwyd Cronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd yng ngofal awdurdod lleol, neu wedi bod, a’u galluogi i fanteisio at gyfleoedd a fydd yn eu harwain at fywydau annibynnol a llwyddiannus. Mae cymorth ar gael yn y meysydd canlynol:
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iechyd a lles
- Tai
- Mynediad at gyngor a chymorth parhaus.
Gall pobl ifanc wneud cais i’r panel am grant o dan unrhyw un o’r categorïau hyn. Yn ystod y chwe mis cyntaf o’r flwyddyn mae 35 o bobl ifanc wedi elwa ar y cynllun.
Astudiaeth Achos
Mae ‘B’ yn 19 mlwydd oed ac wedi cael babi yn ddiweddar. Roedd hi’n teimlo’n unig yn y tŷ ar ôl geni’r babi, gan nad oedd modd iddi fynd o le i le heb wynebu’r drafferth o ddal y bws. Roed cariad ‘B’ yn gweithio oriau hir ac felly roedd hi gartref ar ei phen ei hun bron drwy’r dydd. Fe basiodd hi ei phrawf gyrru cyn geni’r babi ac roedd ganddi gar, ond heb ddigon o arian i dalu’r yswiriant.
Awgrymodd ei Chynghorydd Personol iddi wneud cais i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi, ac fe lwyddodd gyda’r cais hwnnw. Roedd ‘B’ wrth ei bodd, ac erbyn hyn mae’n teimlo fod medru gyrru wedi rhoi hwb i’w lles ac wedi rhoi llawer mwy o annibyniaeth iddi, gan fod modd iddi ymweld â’i theulu a’i ffrindiau’n amlach, a mynd i apwyntiadau meddygol a dosbarthiadau gyda’r babi.
Beth oedd yr heriau?
Grant bach yw hwn ac felly bu’n heriol rhannu’r arian yn deg rhwng plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal, a sicrhau y gellid defnyddio’r arian ychwanegol i wneud y gwahaniaeth mwyaf posib yn eu bywydau.
Fodd bynnag, mae Cronfa Dydd Gŵyl Dewi bellach yn rhan o’r cynllun Ariannu Hyblyg, sy’n ein galluogi i wneud y gorau o’r arian sydd ar gael ar gyfer gwahanol gynlluniau, a sicrhau llwybr mwy pendant i bobl ifanc o ran y ddarpariaeth sydd ar gael iddynt. Po fwyaf o arian a drosglwyddir i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi, po fwyaf o bobl ifanc a fedr elwa.
Beth nesaf?
Rydym yn ymchwilio i gynlluniau prentisiaeth priodol i bobl ifanc sy’n gadael gofal, a byddwn yn arfarnu’r rhai sydd wedi datblygu yn y flwyddyn sydd i ddod, er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bobl ifanc sy’n gadael gofal ac efallai o dan anfantais yn y maes cystadleuol o ganfod gwaith. Rydym yn cydweithio’n agosach â’r Cynghorwyr Personol drwy gynnal cyfarfodydd yn fwy rheolaidd i drafod y paratoadau ar gyfer pan fydd yr unigolyn ifanc yn gadael gofal. Byddwn hefyd yn cwrdd yn gynharach yn y broses – pan fydd y bobl ifanc yn 16 yn hytrach na 17 mlwydd oed – a hynny er mwyn sicrhau paratoadau effeithiol ac i helpu’r Cynghorydd Personol i feithrin perthynas â’r unigolyn ifanc yn gynt, fel bod popeth yn mynd yn esmwyth wrth drosglwyddo i’r gwasanaethau oedolion.
Mae mwy o bwyslais bellach ar atal digartrefedd, ac mae’r tîm yn ymchwilio i ffyrdd o wneud y gorau o’r grantiau posib sydd ar gael er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n deillio o ddigartrefedd. Rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o efelychu rhaglen flaengar gan Glwb Pêl-droed Tottenham Hotspur, yn benodol er mwyn helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i fagu cadernid personol, dysgu dulliau o ymdopi a meithrin sgiliau byw.
Datblygu cynllun prentisiaeth i bobl ifanc sy’n gadael gofal
Er mwyn sicrhau fod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn teimlo’n barod am fyd gwaith, fe gynhaliom ddigwyddiad cyd-gynhyrchu er mwyn ennyn eu diddordeb mewn prentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau ar y diwrnod, gan gynnwys gwaith ‘camau bychain, dyfodol mawr’ a oedd yn dangos mor bwysig oedd prentisiaethau a chydnabod y gall pobl gyflawni eu huchelgeisiau heb ddilyn y llwybr arferol o’r ysgol ↠ prifysgol ↠ gwaith. Fe wnaeth cyfraniad Coleg Llandrillo helpu hefyd i ddarbwyllo’r bobl ifanc ynglŷn â phethau a oedd yn eu tyb nhw’n eu rhwystro rhag cael mynediad at brentisiaethau.
Rydym wrthi’n cynnal cwrs peilot i bobl ifanc sy’n gadael gofal, Paratoi ar gyfer Cyflogaeth, mewn partneriaeth â Creu Menter (rhan o Gartrefi Conwy). Drwy hyn bydd pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael profiad gwaith wythnosol ar un o brosiectau Cartrefi Conwy. Gan fod Cartrefi Conwy’n sefydliad mor fawr mae amrywiaeth o swyddi ar gael, gan gynnwys gweinyddu, arlwyo a chynnal a chadw. Bydd y cwrs hefyd yn helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i ddysgu dulliau o ymdopi tra byddant yn y gwaith, a byddant yn meithrin llu o sgiliau dros gyfnod o wyth wythnos:
- Gosod targedau a bod yn frwdfrydig ac uchelgeisi
- Sgiliau cyllidebu a deall hawliau o ran budd-daliadau
- Ymwybyddiaeth ddigidol er mwyn gwneud y gorau o dechnoleg mewn ffordd ddiogel
- Bod yn bendant a magu hyder
- Cyfathrebu a sefyllfaoedd heriol
- Ysgrifennu CV
- Chwilio am swyddi a llenwi ffurflenni cais
- Paratoi ar gyfer cyfweliadau.
Defnyddiwyd y dulliau hyn yn rhai o’r achosion mwyaf cymhleth gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghonwy, a gobeithiwn ddatblygu’r cynllun ymhellach a rhoi cyfle i’r bobl ifanc ddylanwadu arno. Yn y diwrnod cydgynhyrchu cawsom glywed am rai pethau sy’n rhwystro pobl rhag llwyddo, ac felly byddwn yn gwneud ein gorau glas i fynd i’r afael â’r materion hynny er mwyn sicrhau fod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn meddu ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt gael y profiad gorau posib, a bod yn ddigon hyderus i siarad â gweithwyr proffesiynol a sicrhau cymorth parhaus, boed hynny ar ffurf cymorth ariannol neu fentora.
Prosiect OPUS
Mae prosiect OPUS Conwy’n cefnogi pobl 25 oed a hŷn i ddod o hyd i waith. Mae’r tîm yn darparu mentora, cyngor ar hawliau lles a therapi galwedigaethol, ac yn cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau rhag dod o hyd i waith, cyfleoedd i wirfoddoli neu gymwysterau ar gyfer gwaith. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi bron i ddau gant o bobl ddechrau eu gyrfaoedd.
- Mae 58% wedi cwblhau hyfforddiant
- Mae 12% wedi gwirfoddoli
- Mae 10% wedi cael gwaith am fwy nag 16 awr yr wythnos.
Fe gawsom hefyd ymateb da iawn gan yr unigolion hynny’r ydym wedi’u cefnogi:
Wn i ddim beth fyddwn i wedi’i wneud heb gymorth a charedigrwydd holl staff OPUS.
Roeddwn i’n cael trafferth ag iselder, ond rwy’n hapusach bellach. Rydw i wedi dysgu i fod yn fwy cadarnhaol ac agored fy meddwl.
Astudiaeth Achos
Roedd B yn gweithio yn y byd manwerthu, yn yr un siop ers 25 mlynedd, ac yna fe gollodd ei swydd, a gafodd gryn effaith ar ei hyder. Roedd arni eisiau ailhyfforddi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond wyddai hi ddim ble i gychwyn.
Cofrestrodd B gyda’r Prosiect OPUS a chael anogaeth gan ei Chynghorydd i gymryd rhan yn y rhaglen STEPS, ac roedd hi wrth ei bodd. Roedd y grŵp yn gyfeillgar ac fe roddodd hwb i hunanhyder B. Yna cafodd B gymorth gan ei Chynghorydd i wneud cais am arian drwy OPUS i gael hyfforddiant, a chefnogaeth gyda lleoliad gwaith.
Ar hyn o bryd mae B yn myfyrio’n rhan-amser ac yn gweithio’n rhan-amser mewn swydd y mae’n ei mwynhau.