Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau llesiant personol y dymuna pobl eu cyflawni
Beth a ddysgom ni o’r Arolwg Dinasyddion?
Fe holon ni bobl a oeddent wedi derbyn y wybodaeth a’r cyngor iawn pan roedd angen hynny arnynt.
Roedd 73% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur a 72% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno eu bod wedi cael y wybodaeth a’r cyngor iawn, a chytunodd 23% arall fod hynny wedi digwydd weithiau. Fe sylwom fod rhai ymatebwyr wedi cyfeirio at gyswllt a gawsant ag asiantaethau a sefydliadau heblaw am Ofal Cymdeithasol, ac felly mae’n anodd dehongli’r ymatebion i ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol Conwy yn benodol.
Gall cyfathrebu fod yn wael pan mae gofalwyr yn hwyr.
Rhaid dweud, os gewch chi’r person iawn maen nhw’n dda.
Hapus fy mod yn medru cael yr wybodaeth a’r cyngor iawn pan oeddwn ei angen.
Roedd 68% o’r Gofalwyr a ymatebodd i’r holiadur yn cytuno eu bod wedi derbyn gwybodaeth a chyngor pan roedd angen hynny arnynt, a 25% wedi cael gwybodaeth a chyngor weithiau. Mae’r sylwadau ychwanegol yn dangos cymysgedd o rwystredigaeth a gwerthfawrogiad ynglŷn â’r cymorth a dderbyniwyd.
Nid yw bron dim o’r gwasanaethau’n ei gwneud yn amlwg sut i gysylltu a nhw, as fe fyddai rhifau ffôn wedi bod yn ddefnyddiol.
Rwy’n teimlo fod yno dipyn o beryglon, a’ch bod yn colli rheolaeth o ran eich dymuniadau.
Rydym yn cydnabod fod cyfathrebu’n rhywbeth y gallwn bob amser ei wella, ac mae ein timau’n gwneud eu gorau glas i roi manylion cyswllt uniongyrchol i bobl sy’n cael gofal a chymorth gennym. Mae gan ein timau brofiad helaeth o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a gweithio gyda phobl i ganfod beth sy’n bwysig iddynt a pha ganlyniadau y dymunant eu cyflawni. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan i bobl sy’n dymuno cysylltu â ni, p’un a ydym yn gwybod amdanynt neu beidio.
Fe holon ni a oedd pobl wedi cael eu trin â pharch ac urddas wrth dderbyn gofal a chymorth gennym. Roedd 95% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur a 91% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno.
Rhoddwyd cyngor mewn fford garedig bob amser.
Yn ddi-eithriad roedd y tîm yn barod eu cymwynas ac yn barchus. Rydyn ni’n eu gweld nhw fwy fel ffrindiau na swyddogion. Mae’n braf gwybod fod rhywun yn malio.
Ydw, rwy’n cael fy nhrin â pharth ac urddas yma bob amser. Nid felly’r oedd hi bob tro yn y cartref diwethaf neu’r ysbyty. Rwy’n falch o fod yma.
Roedd 94% o Ofalwyr yn cytuno y cawsant eu trin â pharch ac urddas, ac 84% o blant.
Fe holon ni bobl â chynlluniau gofal a chymorth a oeddent yn gwybod pwy i gysylltu â nhw yn y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol. Roedd 82% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol ac 85% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn gwybod pwy i gysylltu â nhw, ond yn ôl rhai o’r sylwadau ychwanegol gallem wneud yn well o ran galluogi i ddefnyddwyr ein gwasanaethau i gysylltu â ni.
Mae’n annheg iawn eu bod nhw’n newid gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol mor aml, a byth yn dweud dim i ni.
Dim bob amser. Fe gefais amryw rifau ffôn ond oherwydd materion staffio a gwaith dydych chi bron byth yno. Dim bai arnoch chi, dim ond un o ffeithiau bywyd yn anffodus.
Roedd 70% o blant yn cytuno eu bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw, ond roeddent fel arfer yn gwneud hynny drwy eu rhieni, rhieni maeth neu’r ysgol.
Fe holon ni bobl a oeddent yn teimlo’n rhan o unrhyw benderfyniadau a wnaethpwyd am eu gofal a’u cymorth. Roedd 78% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur a 73% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno y buont yn rhan o’r penderfyniadau. Roedd 77% o Ofalwyr yn cytuno hefyd, ond yn ôl rhai o’r sylwadau ategol mae pobl yn rhwystredig ynglŷn â’r hyn y gellir ei gyflawni o fewn eu pecynnau gofal a chymorth.
Mae’n ymddangos imi fod pobl â dementia’n ei chael yn haws derbyn gofal gan rywun cyfarwydd – ond mae’r wynebau’n newid o hyd.
Pam na fedrwn gael seibiant ar y penwythnos o bryd i’w gilydd?
Mae ein tîm o Weithwyr Cymorth Cymunedol yn arbennig mewn gweithio â phobl a dementia er mwyn sicrhau y cânt ofal a chymorth o’r radd flaenaf. Mae panel yn cwrdd yn rheolaidd i ystyried ceisiadau am ofal seibiant, ac mae’r penderfyniadau’n seiliedig ar y polisi seibiant rhanbarthol, gan ystyried amgylchiadau pob unigolyn hefyd.
Roedd 69% o blant yn cytuno y gwrandawyd ar eu safbwyntiau, ac roedd y sylwadau ychwanegol yn gymysgedd o rai cadarnhaol a negyddol.
Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn gwrando.
Mae nhw’n gwrando os oes angen cymorth arnaf.
Gofynnwyd yn yr arolwg a oedd pobl yn fodlon gyda’r gofal a chymorth yr oeddent wedi’i dderbyn. Dywedodd 86% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur eu bod yn fodlon, ac roedd 84% o’r rhai a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen yn cytuno.
Mae’r diolch i’r gofal a chymorth a gefais yma am fod fy iechyd meddwl wedi gwella cymaint.
Gan amlaf – ond angen gwybod pwy fydd yn fy nghefnogi – yn aml mae’n rhywun gwahanol bob dydd.
Dywedodd 73% o Ofalwyr eu bod yn hapus gyda’r gofal a chymorth a dderbyniont. Ymddengys bod Gofalwyr yn dibynnu ar amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer cyngor a chymorth, a gall ymyriadau priodol wedi’u targedu wneud byd o wahaniaeth o ran ansawdd eu bywydau.
Roedd beth a gynigiwyd mor gefnogol â phosib, ond roedd y terfyn amser yn creu pwysau.
Roedd y gweithwyr gofal a ddaeth i mewn yn rhy ifanc/dibrofiad i ddarparu’r ‘cwmpeini’ y’u penodwyd i ddarparu.
Dywedodd 76% o blant eu bod yn hapus gyda’r gofal a chymorth a roddwyd, ac ar sail y sylwadau ychwanegol mae’n amlwg ei bod yn bwysig iddynt fod yn ganolog i’r broses fel unigolion.
Fe ges i fy nhrin fel rhif ar restr, yn hytrach nag unigolyn.
Mae’r rhestr aros yn rhy hir, ac wedyn mae’r gwasanaeth ei hun yn gyfyng iawn, dim ond awr yr wythnos efallai.
Mae gweithio’n unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn golygu ein bod yn gosod yr unigolyn yn ganolog i’r drefn asesu, ac yn sicrhau y gallant fynegi eu safbwyntiau a’u dymuniadau ar bob cam wrth iddynt dderbyn gofal a chymorth. Fe wnawn ein gorau glas i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib gyda’r adnoddau sydd gennym, a chyfeirio pobl at sefydliadau neu wasanaethau eraill perthnasol a fedrai gynnig mwy o gymorth.
Ym mha ffyrdd eraill ydym ni’n cyflawni’r Safon Ansawdd hon?
Meithrin Cyswllt â Gwasanaethau i Bobl Hŷn
Monitro Ansawdd y Gwasanaethau Ailalluogi
Mae ein Tîm Pobl Hŷn yn arbenigo mewn gwasanaethau ailalluogi sy’n cefnogi pobl am gyfnodau byr i adennill eu hannibyniaeth. Wedi i’n gwaith ni ddod i ben byddwn yn gofyn am ymateb gan bawb sydd wedi cael cymorth, gan holi i ba raddau y cawsant eu cynnwys wrth bennu canlyniadau personol, i ba raddau y cyflawnwyd y canlyniadau hynny, a sut brofiad oedd gweithio gyda’r tîm yn gyffredinol. Dyma fraslun o’r ymateb a gafwyd ers mis Hydref 2018:
Roedd 98% o bobl a dderbyniodd wasanaeth ailalluogi’n cytuno eu bod wedi’u cynnwys yn y drefn o gytuno ar eu cymorth a’i gynllunio.
Teimlai 98% y bodlonwyd eu disgwyliadau o’r gwasanaeth.
Dywedodd 97% fod Gofal Cymdeithasol Conwy wedi pennu eu canlyniadau gyda nhw pan ddechreuodd y gwasanaeth.
Teimlai 96% eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau a bennwyd erbyn i’r cymorth ddod i ben.
Teimlai 67% y rhoddwyd ystyriaeth i’w dymuniadau diwylliannol/crefyddol yn ystod yr ymyrraeth, ond nid oedd hynny’n berthnasol i 32% o’r rhai hynny a dderbyniodd y gwasanaeth.
Teimlai 96% fod y cymorth a roddwyd yn hyblyg, er enghraifft, o ran amserau ymweld, hyd pob ymweliad ac yn y blaen.
Roedd 93% yn cytuno fod y cymorth a gawsant yn gyson, hynny yw, mai’r un aelod o staff a fu’n ymweld â hwy gydol y cyfnod ymyrryd.
Teimlai 97% fod y cymorth a gawsant wedi’u galluogi i wneud cymaint â phosib drostynt eu hunain.
Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.
Fe wnaethon nhw’n fendigedig.
Cymorth gwych.
Caredig a gofalgar dros ben.
Gweithio’n fwy effeithlon gyda’n partneriaid Iechyd
Yn y flwyddyn aeth heibio rydym wedi adolygu’r drefn atgyfeirio ar gyfer cleifion sy’n trosglwyddo o Ysbyty Glan Clwyd i wasanaethau Gofal Cymdeithasol Conwy. Yn y gorffennol byddai pob atgyfeiriad o Ysbyty Glan Clwyd yn mynd yn syth at Weithiwr Cymdeithasol, a gallai hynny beri ychydig o oedi i bobl. Wedi penderfynu bwrw golwg ar bob un o’r achosion hyn fe welom nad oedd angen Gweithiwr Cymdeithasol o gwbl ar lawer iawn o’r bobl dan sylw.
O ganlyniad i hyn, y Therapydd Galwedigaethol Iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd sydd bellach yn cymryd yr awenau gyda chynlluniau pobl ar gyfer dod allan o’r ysbyty. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn gwneud asesiad ac yn nodi unrhyw anghenion, er enghraifft, o ran ailalluogi.
Mae’r broses newydd yn symlach, yn fwy effeithlon ac yn fwy prydlon i’r unigolyn. Caiff unigolion hefyd eu hasesu gyda’r nod o bennu canlyniadau y dymuna’r unigolyn eu cyflawni yn y pen draw.
Meithrin Cyswllt â Phlant sy’n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal
Fforwm Lleisiau Cryf
Er mwyn sicrhau fod llais gan Blant a Phobl Ifanc sy’n derbyn gofal gennym, rydym wedi hwyluso dau fforwm ymgynghorol rheolaidd yng Nghonwy. Mae’r Fforwm Lleisiau Cryf yn agored i bob plentyn sy’n derbyn gofal rhwng 5 a 15 mlwydd oed. Caiff y Fforwm ei gefnogi a’i gydlynu gan Swyddog Cyfranogi Ieuenctid a Swyddogion Adolygu Annibynnol, a chynhelir y cyfarfodydd mewn clwb ieuenctid lleol yn rheolaidd. Nod y fforwm yw dysgu gan ein plant a phobl ifanc beth sy’n digwydd yn eu bywydau a gweld beth arall y gallwn ni, fel gweithwyr proffesiynol, ei ddysgu ganddynt.
Mae’r grŵp wedi trafod a lleisio barn ynglŷn â chreu proffil un tudalen ar gyfer pob gweithiwr – taflen wybodaeth ‘Popeth Amdanaf I’. Roedd y plant yn rhan o benderfynu pa gwestiynau y dylid eu cynnwys, a’r wybodaeth y dymunant i’r Gweithwyr Cymdeithasol ei darparu
Siapio Dyfodol
Siapio Dyfodol yw’r grŵp sy’n cynrychioli pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed sy’n derbyn gofal ac yn paratoi i adael gofal. Mae’r grŵp yn gweithio ar bynciau a syniadau y mae’r bobl ifanc eu hunain yn eu cynnig. Dan sylw mae pethau fel cynlluniau gofal, adolygiadau, cyfweliadau ymadael ac ymgyngoriadau allanol rheolaidd. Y nod yw rhoi llais i’r holl blant a phobl ifanc yng Nghonwy sy’n derbyn gwasanaeth Gofal Cymdeithasol, a mynegi eu hanghenion a’u safbwyntiau. Yn y flwyddyn aeth heibio bu’r grŵp yn gweithio’n galed wrth gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgyngoriadau a gweithdai. Dyma rai enghreifftiau:
- Ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy;
- Sesiwn Deall dy Hawliau, Deall dy Fudd-daliadau;
- Cwrdd ag Arolygiaeth Gofal Cymru fis Medi 2018;
- Gweithdai ymgynghori gyda Voices from Care;
- Rhoi sylwadau i Gomisiynydd Plant Cymru ar yr Adroddiad Breuddwydion Cudd.
Beth Nesaf?
Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd inni feithrin cyswllt â phlant a phobl ifanc. Bydd y gwaith yn cynnwys ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol a gweithio’n agos â phobl ifanc sy’n gadael gofal er mwyn sicrhau y gallant gael gafael ar y wybodaeth iawn.
Cynadleddau Amddiffyn Plant
Pan fyddwn yn cynnal Cynadleddau Amddiffyn Plant rydym yn annog plant i fod yn bresennol os ydyn nhw’n ddigon hen, ac os ydynt yn dymuno bod yno. Cyn y cyfarfod bydd ein Cydlynydd Amddiffyn Plant yn cynnig cwrdd â’r plentyn i glywed ei safbwyntiau a sicrhau y clywir llais y plentyn ac y caiff dymuniadau’r plentyn eu hystyried. Gobeithiwn gryfhau pethau ymhellach yn y maes hwn drwy greu swyddi Diogelu ac Adolygu Annibynnol a byddwn yn sôn am y cynnydd yn hyn o beth yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.
Diwrnod Dathlu i Blant sy’n Derbyn Gofal
Yn yr haf fe gynhaliom ddiwrnod o ddathlu ac adloniant i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Fe fuom yn ymgynghori â hwy ymlaen llaw i gael gwybod pa fath o weithgareddau y dymunant eu gweld ar y diwrnod, gan sicrhau fod yno rywbeth at ddant plant a phobl ifanc o bob oed. Roedd y plant hŷn yn arbennig o hoff o’r gweithgareddau ‘Boom Box’ a oedd yn gyfle iddynt arddangos eu sgiliau rapio! Hefyd fe gynhaliom sesiynau crefft er mwyn annog y plant i gyd i gymryd rhan, a mynd â’u creadigaethau adref. Yn y prynhawn cafodd y plant dystysgrifau i gydnabod beth oeddent wedi’i gyflawni.