Croeso i Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018-19. Mae’n braf gweld ffocws cryf ar ddechrau’r adroddiad ar y gweithgarwch sylweddol i feithrin cyswllt â phobl gydol y flwyddyn trwy arolygon, siarad gyda phobl a chefnogi digwyddiadau o bwys. Rydym wedi llunio adroddiad ymgysylltu y byddwn yn ei rannu’n eang er mwyn dangos ein hymrwymiad go iawn i barchu barn a safbwyntiau ein cwsmeriaid.
Mae’r adroddiad eleni yn datgan ein hymrwymiad i iechyd a lles emosiynol ein preswylwyr wrth i ni symud at fodel sy’n cydnabod ‘help cynnar ar yr amser sydd ei angen arnom’ fel cysyniad allweddol sy’n bwysig i bobl. Mae cadw’n brysur, cael mynediad at gyfleoedd chwarae a datblygu grwpiau targed i hyrwyddo gweithgarwch corfforol i’r rheiny sy’n defnyddio ein gwasanaethau i gyd yn allweddol yn hyn o beth. Rydym yn gweithio’n galed gyda’n partneriaid i hybu gwytnwch emosiynol ac iechyd meddwl ‘da’ ar draws nifer o feysydd gwasanaeth mewn gwahanol ffyrdd, ac mae llawer o enghreifftiau da i’w gweld yn yr ail ran o’r adroddiad.
Mae diogelu yn dal i fod yn ymrwymiad corfforaethol ac rydym yn falch ein bod wedi llwyddo i ennill Gwobr Gofal Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn am ein hymgyrch i atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, wrth i ni gydweithio â’n partneriaid allweddol a phobl ifanc sydd wedi byw trwy’r profiad.
Mae gweithio i hybu annibyniaeth a gwytnwch yn un o’n haddewidion ac mae’r adroddiad yn cyfeirio at amryw o weithgareddau sy’n cefnogi hyn, gan gynnwys ymyriadau i gefnogi teuluoedd, datblygu a hyfforddi gofalwyr maeth, a chynlluniau i hybu sgiliau pobl i gael gwaith.
Fe soniom am ein darpariaeth o ran ymyrraeth gynnar yn adroddiad y llynedd ac rydym yn falch o weld bod y datblygiadau wedi dwyn ffrwyth, gan gynnwys ein mosaig cefnogaeth, canolfannau teuluoedd a thimau cefnogi teuluoedd wedi’u sefydlu mewn cymunedau.
Ni allaf sôn am y llwyddiannau hyn heb dalu teyrnged i’r tîm ardderchog sy’n ein galluogi i gyflawni ein dyheadau a rhagori arnynt, gan gynnwys y gweithlu cyfan, ein tîm ansawdd a monitro, y tîm comisiynu a’n tîm cymorth busnes. Mae yno heriau inni hefyd wrth i ni ddal i wynebu prinder adnoddau sy’n golygu bod yn rhaid i ni ddarparu mwy gyda llai flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Sut ydym ni’n gwybod a ydym ar y trywydd cywir? Mae’r atodlen berfformiad ar ddiwedd yr adroddiad yn dangos patrwm sefydlog a chyson, ac mae hynny’n dod i’r amlwg pan fydd cyrff rheoleiddio’n ymweld â ni gydol y flwyddyn i gynnal amryw arolygon.
I gloi, hoffwn ddiolch i’r tîm a gefnogodd y gwaith o greu’r adroddiad hwn a hefyd am y gefnogaeth ddemocrataidd yr ydym yn dal i’w derbyn wrth i ni geisio darparu gofal cymdeithasol o safon dda i drigolion Conwy.
Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy