Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi’i ddweud wrthym
Pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel
Mae 79% o ofalwyr, 90% o blant a 77% o oedolion yn teimlo’n ddiogel rhag unrhyw fath o gamdriniaeth, niwed corfforol neu godwm y tu mewn neu’r tu allan i’w cartref. Mae llawer o’r sylwadau cefnogi gan ofalwyr ac oedolion yn cyfeirio at ofn cael codwm oherwydd cartref anaddas, salwch, oedran neu oherwydd eu bod eisoes wedi cael codwm.
Ofn syrthio y tu allan i’m cartref
Rwy’n baglu yn aml ac rwyf ofn y gallaf frifo fy hun trwy syrthio eto
Pa mor dda ydym ni’n gwneud?
- Rydym yn dal i weithio ar gynnwys ein harferion mewn perthynas ag ymholiadau diogelu oedolion, a chadw llygad ar ein perfformiad (PMA18)
- Roedd 11% o’r plant ar y Gofrestr Diogelu Plant wedi’u hailgofrestru (PMC27)
- Roedd plant ar y Gofrestr Diogelu Plant am gyfartaledd o 216 diwrnod (PMC28)
Sut mae Conwy yn cefnogi blaenoriaethau Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru
- Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE)
Mae Conwy wedi buddsoddi amser ac ymdrech sylweddol i wella ymwybyddiaeth a sicrhau cyfathrebu ar draws asiantaethau yn y 12 mis diwethaf. Mae’r Fforwm Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn cael ei arwain gan ofal cymdeithasol, ac yn parhau i gael ei gynnal yn rheolaidd gyda chyfraniad amlasiantaeth a chynghorau eraill. Mae Conwy hefyd yn gweithio yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig PC/PCSO gan mai dyma’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant o ddydd i ddydd.
Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdy amlasiantaeth i helpu i wella ymwybyddiaeth ynghylch Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant. Roedd y prynhawn yn cynnwys cynhyrchiad drama ‘Mirror Mirror’ gan Collingwood Learning Solutions Ltd, cynhyrchiad a ddangoswyd mewn ysgolion uwchradd yng Ngogledd Cymru i wella ymwybyddiaeth ar gyfer pobl ifanc. Cafodd hyn ei ddilyn gan gyflwyniad fideo gan Ms. Gladman, a oedd ynghlwm â datgelu’r hyn a ddigwyddodd yn Rotherham. Roedd cyfle hefyd i rwydweithio a thrafod beth mwy y gellir ei wneud i helpu i leihau risgiau o’r fath yng Nghonwy. Roedd presenoldeb yn cynnwys dros 100 o gynrychiolwyr o aelodau’r Cyngor, adrannau’r Awdurdod Lleol, Arweinwyr Diogelu, Penaethiaid Ysgolion Cynradd, Unedau Atgyfeirio Disgyblion, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd, Gwasanaethau Ieuenctid, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a’r rhai o’r sector preifat neu’r trydydd sector.
Mae’r Tîm Ymyriadau Teuluol [FIT] wedi datblygu rhaglen waith grŵp Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a elwir yn “Rhaglen Arfogaeth”.
Mae’r rhaglen yn cynnwys perthnasau iach, iechyd rhywiol, meithrin a chamelwa rhywiol, seiberdroseddu/cyfryngau cymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, datgelu a gwaith ‘cadw’n ddiogel’, ac mae pwynt cyswllt gydag Addysg, Iechyd, heddlu lleol a gwasanaethau ieuenctid os oes angen cefnogaeth ar ôl y rhaglen.
Cafodd Conwy eu cynrychioli mewn Cynhadledd cenedlaethol Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn Llundain, ac maent wedi ychwanegu CSE i’r Llwybr Dysgu Gofalwyr Maeth.
Blaenoriaeth Allweddol: I’r dyfodol, cynhelir Setiau Dysgu bob chwech i wyth wythnos ar gyfer achosion Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant i staff mewnol a gweithwyr proffesiynol allanol sydd ynghlwm. Byddwn hefyd yn gweithredu’r cynllun gweithredu rhanbarthol, ac ychwanegu at y canllawiau statudol, trwy Grŵp Tasg a Gorffen Llywodraeth Cymru.
- Ymddygiad Rhywiol Niweidiol
Darparodd Conwy gwrs Ymddygiad Rhywiol Niweidiol ar gyfer Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol a Staff Cefnogi ac mae wedi comisiynu G Map i ddarparu hyfforddiant arbenigol i Weithwyr Cymdeithasol ar y model asesu ‘Nod 2’. Mae hwn yn faes lle rydym wedi nodi’r angen am wybodaeth ac arbenigedd penodol. Rydym hefyd yn cyfrannu at archwiliad ymddygiad rhywiol yr NSPCC.
- Ymateb Rhanbarthol Strategol Ymddygiad Cymryd Risgiau
Arweiniodd Conwy wrth ddatblygu’r ymateb strategol i blant a phobl ifanc sydd ynghlwm â’r ymddygiad cymryd risgiau mwyaf cyffredin, fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ymddygiad rhywiol niweidiol, mynd ar goll, agored i gael eu radicaleiddio/eithafiaeth ayyb. Mae’r polisi yn cynnig agwedd holistaidd at ddiogelu’r plant mwyaf diamddiffyn neu mewn perygl, i liniaru’r gofynion cynyddol ar adnoddau rheng flaen yn y sector cyhoeddus a thrydydd sector.
- Cam-drin domestig
Mae Conwy yn cyfrannu at y Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC) sy’n cefnogi diogelu plant trwy ddatblygu cynlluniau gweithredu effeithiol, rhannu gwybodaeth yn amserol ac asesu risgiau i blant. Bydd effaith camdriniaeth domestig ar blant yn lleihau oherwydd y gallant hwy, eu teuluoedd a throseddwyr gael mynediad at ystod ddigonol o wasanaethau lleol wedi’u comisiynu.
Mae modiwl dysgu ar-lein, Trais yn erbyn Merched, Camdriniaeth Ddomestig a Chamdriniaeth Rhywiol (VAWDASA), wedi’i gyflwyno i holl staff y Cyngor ac mae’n ddysg gorfodol ar gyfer staff newydd a phresennol yn yr Awdurdod Lleol. Yn rhanbarthol, mae Conwy yn cyfrannu at ddatblygu cwrs ‘Gofyn a Gweithredu’ VAWDASA Lefel 2.
- Addysg yn y Cartref
Mae Conwy wedi sefydlu arferion mewn perthynas ag Addysg yn y Cartref. Bob tymor ysgol, mae Conwy yn cynnal Panel Addysg Cartref sy’n amlasiantaeth. Mae’r Panel yn adolygu unrhyw deuluoedd sydd ddim wedi rhoi tystiolaeth o’r gwaith a gwblhawyd gartref o fewn y cyfnod amser o ddeuddeg mis ac yn ystyried a oes unrhyw bryderon diogelu. Os oes pryderon diogelu, bydd gofal cymdeithasol yn gwneud ymholiadau priodol.
Rydym yn aros am ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Adroddiad Cascade – adolygiad seiliedig ar dystiolaeth o’r risgiau i blant a phobl ifanc sy’n cael addysg yn y cartref a’r argymhellion sydd wedi’u cyflwyno.
- Codi Ymwybyddiaeth
Bu ymdrech i sicrhau bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb yng Nghonwy. Mae nifer o gamau gweithredu wedi’u cymryd, gan gynnwys hyfforddiant staff ac Aelodau Etholedig, y 3ydd Sector a’r Gweithlu Gofal Uniongyrchol, a gwella arferion rheoli, sicrwydd ansawdd a rhoi gwybod.
Blaenoriaeth allweddol wrth symud ymlaen yw parhau ar y llwybr gwelliant.
- Mae canlyniadau ar gyfer oedolion sy’n destun cynlluniau amddiffyn oedolion wedi gwella o ganlyniad i’r holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau amddiffyn oedolion o ansawdd yn gyson yn unol â’r arfer gorau a gytunwyd.
Trwy wella proffil diogelu oedolion a gwella gwaith amlasiantaeth, mae’r nifer cynlluniau diogelu ar gyfer diogelu oedolion wedi codi o 76 yn 2016/17 i 114 yn 2017/18. Mae agwedd fwy cyson a dealltwriaeth gyffredin at ddiogelu oedolion trwy ymwybyddiaeth a darpariaeth hyfforddiant.
- Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru (BDGC) yn sicr o ansawdd gwasanaethau diogelu ar draws Gogledd Cymru
Bydd achosion diogelu yn cael eu harchwilio a bydd canlyniad yr archwiliadau yn cael eu rhannu gyda BDGC
- Mae’r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu’n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae’r cyhoedd yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu ac amddiffyn, ac yn gwybod beth i’w wneud os oes mater diogelu.
Rydym yn darparu sesiynau hyfforddiant i staff, yn cynnal sesiynau goruchwylio un i un, yn annog trafodaethau cyfoedion, ac yn cefnogi mynd at reolwyr atebol a’r arweinydd diogelu yn syth os bydd unrhyw bryderon diogelu yn codi yn ein grwpiau staff.
Rydym yn atgoffa holl staff Conwy bod “diogelu yn fusnes i bawb” a bod rheolwyr ymroddedig ar gyfer diogelu ym mhob maes gwasanaeth yn y cyngor. Mae’r rhain yn cael eu harddangos ar ein mewnrwyd.
Mae ein gwefan yn rhoi cyfle i’r cyhoedd roi gwybod am bryderon diogelu ar gyfer oedolion a phlant trwy ein hadran ‘Rwy’n pryderu am rywun’.
- Datblygu ymagwedd amlasiantaeth Gogledd Cymru i ddeall digwyddiadau o hunan-esgeuluso ac anghenion y rhai yr effeithir arnynt
Mae ein Polisi Hunan Esgeuluso wedi’i ddyfeisio a’i weithredu ymysg timau staff a’i fabwysiadu fel y weithdrefn ranbarthol. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth ynghlwm â darparu’r hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth.
Mae hefyd wedi’i gyflwyno am wobr Acolâd.