Pwrpas yr adroddiad blynyddol yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i breswylwyr Conwy. Mae’r adroddiad yn ceisio dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles a rhoi cyfrif am ddarparu safonau llesiant. Mae’n rhoi gwybod am feysydd datblygiad newydd – yn hytrach na phob agwedd o’n gwaith, ac yn gwerthuso ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r adroddiad blynyddol yn ofyniad ar bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae ein blaenoriaethau gwasanaeth wedi’u halinio i chwe Safon Ansawdd Cenedlaethol y deilliannau llesiant, ac yn erbyn y meysydd hyn rydym yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn erbyn y chwe maes, trwy roi gwybodaeth am ddatblygiadau, astudiaethau achos, canlyniadau arolwg ac adborth, a mesuryddion perfformiad. Y chwe safon yw:
- Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni.
- Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
- Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
- Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas.
- Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel.
- Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.
Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i ystod eang o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, ein rheoleiddwyr a Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymgysylltu yn rheolaidd â’n budd-ddeiliaid ac yn gwerthfawrogi adborth gan y bobl rydym ynghlwm â nhw, ac mae enghreifftiau o’r adborth hwn drwy gydol yr adroddiad hwn. Mae dyluniad yr adroddiad yn seiliedig ar fformat yr oedd ein Cyngor Ieuenctid ynghlwm â’i ddewis.