Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi’i ddweud wrthym
Pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o’u cymuned
Mae 50% o ofalwyr, 83% o blant a 54% o oedolion yn teimlo eu bod yn rhan o’u cymuned gyda nifer yn teimlo eu bod yn methu allan ar weithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu gartref, diffyg symudedd neu salwch. Mae llawer o sylwadau yn awgrymu bod pobl yn teimlo yn unig ac â chyswllt cyfyngedig ag eraill, hyd yn oed pan maent yn byw yn agos at gymdogion.
Rwy’n methu allan ar nifer o bethau yn y gymuned a byddwn yn cymdeithasu llawer mwy pe bawn i ddim yn ofalwr
Rydym yn teimlo’n unig er ein bod yn byw mewn llety â warden
Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod cael eu cefnogi i barhau â’u rôl gofalu
Cytunodd 70% o ymatebwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth a nododd 16% arall bod hyn yn wir weithiau. Eto, mae’r sylwadau ychwanegol yn tynnu sylw at y gwerth a roddir ar gymorth effeithiol gan y rhai sy’n darparu gofal di dâl yn ein cymunedau.
Rŵan bod gen i’r gefnogaeth rwyf ei hangen, rwy’n teimlo yn llai ynysig ac yn hapus iawn i barhau â’m swyddogaeth fel gofalwr llawn amser
Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o gynllunio’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt
Roedd 85% o ofalwyr yn cytuno gyda’r datganiad hwn, ond nid oedd rhai yn teimlo bod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol bob tro. Mae newidiadau mewn gweithwyr allweddol, a’r farn am pa mor ystyriol ydym fel adran yn ddau ffactor a all effeithio ar sut y mae gofalwyr yn teimlo.
Mae’r person sy’n penderfynu pa gefnogaeth fydd fy ngwraig yn ei gael wedi newid bob blwyddyn felly mae hi’n teimlo fel ystadegyn
Rwyf wedi derbyn ymgynghoriad ar bob mater. Hapus iawn
Pa mor dda ydym ni’n gwneud?
Gwnaethom helpu 71% o’r plant y gwnaethom eu cefnogi i aros gartref gyda’u teulu (PMC25), sydd ychydig yn well na chyfartaledd Cymru. Dychwelodd 8% o blant dan ofal gartref o ofal yn ystod y flwyddyn, sy’n well na’r llynedd (PMC26). Cafodd 8% o blant dan ofal (ar 31 Mawrth) 3 neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn – mae hyn yn gwella ac yn well na chyfartaledd Cymru (PMC33).
Prosiect Gwasanaethau Cefnogi Uwch ar gyfer Plant Dan Ofal
Mae profi Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod cyn bod Dan Ofal yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad plentyn neu berson ifanc, yn gofyn am ofal a chefnogaeth arbenigol i leihau’r ymyriadau a’r risg y bydd lleoliad yn methu.
Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Uwch ar gyfer Plant Dan Ofal wedi’i gynllunio i ddarparu gofal diogel i blentyn neu berson ifanc mewn amgylchedd mwy strwythuredig na lleoliad maeth neu deulu ‘arferol’. Mae’n darparu gwell canlyniadau ac yn ddewis cost effeithiol yn hytrach na gofal preswyl, sydd bob amser yn ‘ddewis olaf’. Bydd y gwasanaeth yn darparu:
- Cefnogaeth i blant gamu i lawr o leoliadau preswyl i leoliadau gofal maeth, neu ailsefydlu gartref gyda’u teulu gyda chefnogaeth uwch.
- Gwell cefnogaeth ar gyfer gofalwyr maeth mewnol presennol, lleoliadau gyda rhieni, personau cysylltiedig a phobl eraill arwyddocaol sy’n gofalu am blant gydag anghenion cymhleth.
- Agwedd gefnogol, therapiwtig sy’n sicrhau bod lleoliadau yn aros yn sefydlog a bod gofalwyr plant yn teimlo eu bod wedi’u cefnogi yn eu cymunedau lleol, gan annog hyder ac annibyniaeth. Mae’r agwedd therapiwtig wedi’i chefnogi gyda threfniadau seibiant ymarferol a rheolaidd, gan gynnwys dros nos.
- Agwedd gyson ynghylch lleoliadau fel addysg, y cartref a’r gymuned a bydd yn helpu gofalwyr i deimlo eu bod yn fwy gwydn ac wedi’u cefnogi i ofalu am blentyn gydag anghenion cymhleth.
- Agwedd radical at gynnal a chefnogi plant gydag anghenion cymhleth mewn lleoliadau gofal maeth lleol gyda gwasanaethau cefnogi amlddisgyblaeth. Bydd hyn yn lleihau’r angen i gomisiynu lleoliadau preswyl annibynnol a lleoliadau maethu annibynnol nad yw’r gwasanaeth yn gyfrifol am reoli’r ansawdd.