Yn ogystal â’r gefnogaeth y soniwyd amdano yn safon ansawdd 4, rydym hefyd yn cefnogi pobl drwy’r cynlluniau canlynol:
Grŵp Cyfeillgarwch Cyswllt Conwy: Mae’r Grŵp Cyfeillgarwch ar agor i bob oedolyn gydag anableddau dysgu sy’n byw yng ngogledd Cymru ac mae’n darparu cefnogaeth gyda gweithgareddau cymdeithasol. Mae enghreifftiau o weithgareddau sy’n cael eu trefnu yn cynnwys canlyn cyflym, disgos, teithiau cerdded, teithiau i’r sinema neu theatr.
Cysylltu cyfeillion: Y nod yw paru gwirfoddolwyr gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu i fynd i ddigwyddiadau gyda nhw megis y theatr, tafarndai, clybiau a gigs cerddoriaeth.
Cludiant: Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau dydd ac yn cefnogi unigolion i fynd i siopau a rhwydweithiau/gweithgareddau grŵp. Mae hyn yn hyrwyddo annibyniaeth, yn annog symudedd a rhyngweithio cymdeithasol.
Mynediad at gyngor ariannol a chymorth
Pan fydd asesiad gofal yn cael ei gynnal, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn egluro’r goblygiadau ariannol a chost y gofal. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan. Caiff y mater ei atgyfeirio i’n tîm hawliau lles i ystyried a oes modd i’r unigolyn elwa o hawlio’r budd-dal llawn.
Yna fe gynhelir asesiad ariannol sydd yn ystyried faint o gyfraniad y gall y defnyddiwr gwasanaeth ei fforddio tuag at eu gofal. Fe benderfynir faint fydd cyfraniad yr unigolyn drwy ddefnyddio canllaw Llywodraeth Cymru yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn ogystal, mae gennym ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer pobl sy’n gadael gofal, ac mae gennym swydd benodol i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc o dan 25 oed sydd yn cyd-fynd â’r tîm presennol drwy gefnogi unigolion sydd anghenion ychwanegol.
Mynediad at wasanaethau yn y Gymraeg ac ieithoedd dewisol eraill
Caiff iaith ddewisol unigolyn ei bennu yn ystod ‘Sgwrs Beth sy’n Bwysig’ fel rhan o’r cynnig gweithredol. Bydd unrhyw ohebiaeth neu asesiad dilynol yn cael ei gynnal yn eu dewis iaith. Yng Nghonwy, mae darpariaeth gwasanaethau yn eu dewis iaith yn heriol, yn enwedig pan fydd darpariaeth yn cael ei anfon allan. Serch hynny, mae ein Cytundebau Lefel Gwasanaeth bellach yn cynnwys datganiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac rydym yn ceisio cynyddu siaradwyr Cymraeg yn rhan o’r broses recriwtio. Ein bwriad yw cynyddu’r Cynnig Gweithredol, ac mae ein Cynllun Gweithredu 3 blynedd yn ystyried amcanion y fframwaith. Caiff y Gymraeg ei hyrwyddo ar e-bost ac mae staff yn gwisgo llinynnau gwddf gan gynnwys llinynnau gwddf i ddysgwyr Cymraeg. Yn ogystal â hyn, mae rhaglen ‘Cysill’ ar gael i staff yng Nghonwy. Fe deimlir fod Conwy ar y blaen o ran y cwrs meistr dwyieithog sydd ar gael drwy Brifysgol Bangor.
Mynediad i lety preswyl
Strategaeth Rhianta Corfforaethol
Gyda’n partneriaid, rydym wedi datblygu Strategaeth ‘Rhianta Corfforaethol’. Mae’r strategaeth yn nodi gweledigaeth a chynlluniau Conwy i gyflawni ei ddyletswyddau a chyfrifoldebau fel Rhiant Corfforaethol i’r holl Blant sy’n Derbyn Gofal yng Nghonwy, ac mae’n cysylltu â nifer o ddogfennau pwysig.
Er mwyn i ‘Rianta Corfforaethol’ gopïo ansawdd y gofal a roddir gan ”riant da”, mae angen i bob asiantaeth a gweithiwr proffesiynol ystyried sut y gallant fod yn rhagweithiol, o fewn eu cylch gwaith eu hunain, ar ran plant sy’n derbyn gofal, a’r holl asiantaethau, i ymdrechu i gydweithio’n gryf fel y gall y ‘rhiant corfforaethol’ cyfan fod yn fwy na chyfanswm ei rannau.
Caiff cyfrifoldeb rhianta corfforaethol ei rannu gan y Cyngor cyfan. Mae pob aelod, nid y rhai sydd â diddordeb yn y Gwasanaethau Plant yn unig, yn ‘Rieni Corfforaethol’. Mae gan bob Aelod fandad cyfiawn i ofyn “a fyddai hyn yn ddigon da i fy mhlentyn i?”
Mae’r Strategaeth yn gosod y safonau uchel rydym yn gobeithio eu cyflawni fel Rhieni Corfforaethol, ac yn rhestru’r saith addewid sydd wedi cael eu blaenoriaethu:
- Atal ac Ymyrryd yn Fuan
- Cartref
- Iechyd
- Addysg
- Hamdden
- Gadael Gofal
- Diogelu
Ein nod yw gwella cyfleoedd bywyd y plant a phobl ifanc rydym yn gofalu amdanynt yn sylweddol, a sicrhau bod ein strategaeth yn cyfrannu at y saith addewid o fewn y Strategaeth Gorfforaethol 2016-2019. Rydym yn cydnabod amrywiaeth plant a phobl ifanc yn ein gofal a byddwn yn sicrhau bod anghenion unigol o ran eu hoedran, ethnigrwydd, credoau, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol ac anableddau gwahanol yn cael eu diwallu.
Tra y bydd plentyn neu berson ifanc yn ein gofal ac yn derbyn gofal, rydym eisiau i’w profiadau fod yn rhai cadarnhaol a phleserus, gan alluogi iddynt deimlo’n ddiogel, yn iach ac i gael dysgu – i roi sylfaen gadarn iddynt ar gyfer gweddill eu bywydau.
Strategaeth Llety Anabledd
Nod y Strategaeth Llety Anabledd yw adolygu pawb sydd wedi cael eu lleoli mewn prosiectau 24/7 – sef y mwyafrif o’n cleientiaid. Y nod yw ystyried addasrwydd, angen yn y dyfodol, a defnyddio adnoddau gyda’r bwriad o greu arbedion a rhoi mwy o ffocws ar ganlyniadau. Un opsiwn ydi edrych ar ddarpariaeth sy’n seiliedig ar ardal.
Pan fydda i’n barod
Fe lansiwyd ‘Pan fydda i’n Barod’ ym mis Ebrill, a chafodd cam allweddol ei nodi yn ystod adolygiad mis Hydref yn ymwneud â datblygu hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth a staff, gan sefydlu’r cytundeb tenantiaeth a sefydlu prosesau allweddol gyda chyllid.
Mae’r cynllun hwn yn bwysig gan ei fod yn galluogi pobl ifanc i gael mynediad i ragor o gefnogaeth nes eu bod mewn sefyllfa well i symud ymlaen. Rydym yn gweithio gyda’r adran Tai i ganfod unrhyw anghenion llety posibl yn fuan er mwyn gallu cynllunio unrhyw drefniadau trosglwyddo. Fe fydd y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys adolygiad ffurfiol o gynllun ‘Pan fydda i’n Barod’ yn lleol, ac mae gweithdy rhanbarthol wrthi’n cael ei gyd-drefnu.
Llwybr Cadarnhaol
Mae gennym brosiect corfforaethol yng Nghonwy sydd yn edrych ar anghenion llety pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Rydym yn mabwysiadu’r model llwybr cadarnhaol, a fydd yn canolbwyntio ar 5 maes allweddol.
Kickstart
Mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio’n agos gyda darparwyr tai cymdeithasol Wales and West i sefydlu rhaglen gefnogi Kickstart, sydd yn cynnig tŷ pedwar ystafell wely i bobl iau (18-30 oed) a 6 fflat un ystafell wely gyda’r nod o helpu pobl ddiamddiffyn i ennill y sgiliau maent eu hangen i fod yn annibynnol, delio â bywyd bob dydd ac yna mynd ati i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n rhan o gynllun tai fforddiadwy yn Abergele sydd â staff cymorth wrth law i gynorthwyo’r preswylwyr i fod yn annibynnol.
Fe agorodd y cynllun yn 2016 ac mae wedi bod yn llawn ers hynny. Mae cael amgylchedd cartref diogel a chroesawgar yn fantais enfawr i’r preswylwyr ac mae’n agwedd sylfaenol o allu symud ymlaen tuag at olau bywyd a byw’n annibynnol. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, daith o amgylchedd y cynllun ym mis Rhagfyr 2016, ac roedd yn hapus iawn gyda’r datblygiad a chafodd y bobl ifanc yn y tŷ gyfle i ddisgrifio wrtho yr effaith roedd symud i Kickstart wedi ei gael ar eu bywydau.
Roedd un preswylydd oedd yn 20 oed wedi bod mewn 17 tŷ gwahanol cyn symud i’r tŷ yma ac roedd wedi cael trafferth â sawl agwedd o fywyd. Dywedodd, “Weithiau gall fod yn anodd hyd yn oed mynd i’r siop, ond ers i mi symud yma dwi wedi setlo i lawr a dwi’n gallu mynd allan i weld fy ffrindiau a theulu. Dwi newydd ennill cymhwyster NVQ mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Llandrillo”.
Mae tai addas digonol yn bwysau allweddol o fewn y gwasanaeth ac mae gweithio gyda’n partneriaid tai cymdeithasol ar gynlluniau megis Kickstart yn creu mantais enfawr drwy gynnig lleoliadau priodol i bobl sy’n gadael gofal a defnyddwyr Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn. Mae cael cefnogaeth barhaol ar y safle yn sicrhau y gall pobl ennill y sgiliau bywyd sydd ei angen i fyw’n annibynnol, ac yn sgil eu cyfnod mewn lleoliad Kickstart mae preswylwyr eisoes wedi symud ymlaen i’w fflatiau eu hunain.
Wrth symud ymlaen yn 2018, ein nod yw parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i gynnal y cynllun Kickstart ac edrych am gyfleoedd eraill i ailadrodd y model tai yma mewn mannau eraill er mwyn i ddefnyddwyr gwasanaeth gael eu cefnogi i gyflawni eu dyheadau, bod yn annibynnol ac i gysylltu â’u cymunedau.
Datblygiad Canolfan Marl
Rydym yn defnyddio cyllid cyfalaf y Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn ailwampio Canolfan Marl. Fe fydd yn lleoliad ar gyfer Canolfan Adnoddau Anableddau, Uned Asesu Therapi Galwedigaethol Anableddau, a naw Rhandy Byw’n Annibynnol i Bobl Anabl. Fe fydd yna hefyd swyddfa a chyfleusterau lles ar gyfer y tîm staff gofal a fydd ar gael i gefnogi’r rhai sy’n byw yn y rhandai yn ogystal â gweithredu fel gwasanaeth allgymorth i bobl eraill sy’n byw yn y gymuned ehangach.
Astudiaeth achos
Gofynnodd teulu am gymorth i symud tŷ am eu bod eisiau helpu eu plentyn oedd ag anableddau dysgu yn ystod y nos ac am fod ganddynt anawsterau gyda’u llety presennol. Roedd y rhieni yn cymryd eu tro i gysgu yn yr un ystafell â’u plentyn. Cafodd botwm larwm Teleofal a galwr cymorth gofal eu rhoi i’r plentyn, felly bellach mae’r plentyn yn gallu galw am gymorth yn y nos heb fod rhywun yn gorfod bod yn yr ystafell gyda nhw. Ni fu’n rhaid i’r teulu symud (fe ragwelir y byddai hyn wedi cymryd cryn amser), felly fe allant barhau i ddefnyddio’r rhwydweithiau cymorth presennol yn y gymuned, yn yr ysgol ac ati. Mae’r rhieni’n gallu cysgu yn yr un ystafell, ac mae gan y plentyn fwy o ymdeimlad o annibyniaeth.
Data perfformiad sy’n ategu’r safon ansawdd yma
Ansoddol
Pobl yn dweud eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw Mae 84% o oedolion yn cytuno bod eu cartref yn cefnogi eu lles. Mae’r sylwadau ychwanegol yn dangos bod y mwyafrif llethol o ddinasyddion yn awyddus i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl a bod addasiadau megis cawodydd, mynediad i gadeiriau olau a rampiau yn cynorthwyo â hynny. Pan mae pobl yn dweud eu bod yn dymuno symud, fe fyddai’n well ganddynt gael byngalo fel nad yw grisiau yn broblem.
Mae 88% o oedolion gydag anableddau dysgu yn rhannu’r farn hon; mae nifer yn byw gartref gyda rhieni/aelodau eraill o’r teulu.
Mae 78% o ofalwyr yn teimlo bod eu cartrefi yn cefnogi eu lles orau, ac roedd sylwadau ychwanegol yn cyfeirio at yr angen am fyngalo ac addasiadau i ysgafnhau cyflyrau meddygol a chyfyngiadau ar symudedd. Unwaith eto, roedd nifer yn hapus i aros yn eu cartrefi eu hunain, gyda chefnogaeth.
Plant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn hapus gyda’r bobl y maent yn byw â nhw
Dywedodd 85% o blant eu bod yn hapus gyda’r bobl maent yn byw â nhw.
Pobl yn dweud eu bod wedi derbyn gofal a chymorth drwy eu dewis iaith
Dywedodd 95% o oedolion eu bod yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith, ac roedd hyn yn cynyddu i 97% mewn oedolion gydag anableddau dysgu, 98% ymysg gofalwyr a 100% ar gyfer plant.
Oedolion ifanc yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth i’w paratoi i fod yn oedolyn
O’r rhai a ymatebodd o’r grŵp oedran yma, roedd pawb yn cytuno â’r datganiad hwn. Dywedodd un eu bod yn gwneud eu hymchwil eu hunain ‘na fyddai’n rhagfarnllyd’ er mwyn iddynt ddod i’w casgliadau eu hunain.
Pobl yn dweud eu bod yn dewis byw mewn cartref gofal preswyl
O garfan yr oedolion, dywedodd 76 o bobl eu bod yn byw mewn cartref gofal preswyl. O’r rhain, roedd 47 yn cytuno mai eu dewis nhw oedd byw yna, gan gynrychioli 62%. Roedd 22% yn teimlo nad eu penderfyniad nhw oedd hyn.
O’r garfan oedolion gydag anableddau dysgu, dywedodd 12 o bobl eu bod yn byw mewn cartref gofal preswyl. Roedd 50% o’r rhain yn teimlo mai eu dewis nhw oedd hyn, gyda 25% yn teimlo bod rhywun arall wedi gwneud y penderfyniad ar eu rhan.
Meintiol
- Canran yr holl bobl sy’n gadael gofal sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis a 24 mis ar ôl gadael gofal ydi 50% a 44%.
- Canran yr holl bobl sy’n gadael gofal sydd wedi bod yn ddigartref yn ystod y flwyddyn ydi 17.11%