Datblygu Polisi Oedolion mewn Perygl
Yn rhan o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda Diogelu Oedolion, mae’r Awdurdod Lleol wedi diweddaru ei Bolisi Oedolion mewn Perygl. Mae’r polisi newydd yn pwysleisio pwysigrwydd cadw’r oedolion yn ganolbwynt i’r cyfan. Mae’r oedolyn yn y sefyllfa orau i adnabod risgiau, darparu manylion ynglŷn â’i effaith ac a ydynt yn ystyried fod y mesurau lliniaru yn dderbyniol. Mae gweithio gyda’r oedolyn i arwain a rheoli lefel y risg y maent yn nodi sy’n dderbyniol yn creu diwylliant lle:
- Mae oedolion yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth;
- Mae oedolion yn cael eu grymuso ac mae ganddynt berchnogaeth dros y risg;
- Mae gwell effeithiolrwydd a gwydnwch wrth ddelio â sefyllfa;
- Mae gwell perthnasau gyda gweithwyr proffesiynol;
- Mae rhannu gwybodaeth yn dda i reoli risg, gan gynnwys yr holl fudd-ddeiliaid allweddol;
- Gellir diogelu agweddau allweddol o ansawdd bywyd a lles y person.
Yn y rhan fwyaf o achosion, oni bai ei bod yn anniogel gwneud hynny, bydd pob ymchwiliad yn dechrau drwy sgwrsio â’r oedolyn mewn perygl. Bydd y Swyddog Ymholiadau yng Nghonwy yn sicrhau os oes sgyrsiau eisoes wedi cael eu cynnal a’u bod yn ddigonol, ni ddylai’r oedolyn a/neu eu heiriolwr orfod ailadrodd eu stori. Mewn sawl achos mae’n bosibl iawn mai staff / sefydliadau sydd eisoes yn adnabod yr oedolyn yn dda fydd yn y sefyllfa orau i arwain yr ymchwiliad. Efallai eu bod yn weithiwr cefnogi tai, Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd arall fel y nyrs gymunedol neu weithiwr cymdeithasol. Er y bydd angen mewnbwn sylweddol gan ymarferydd gofal cymdeithasol mewn nifer o ymholiadau, bydd sawl agwedd a ddylai ac a allai gael eu hymgymryd gan weithwyr proffesiynol eraill.
Er mwyn monitro gweithrediad effeithiol y polisi, byddwn yn cyfeirio at Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol ac yn adrodd yn ôl ar berfformiad ynghylch faint o bobl sy’n teimlo’n ddiogel ar ôl derbyn cymorth drwy Gynllun Gofal a Chymorth. Byddwn yn parhau i sefydlu ymagwedd Gwneud Diogelu’n Bersonol i ymarfer Oedolion mewn Perygl.
Rôl y Cydlynydd Diogelu Oedolion
Mae Conwy wedi parhau i ddatblygu rôl Cydlynydd Diogelu Oedolion i sicrhau gwell arolygiaeth o brif themâu ymarfer Oedolion mewn Perygl. Fe wnaed hyn drwy weithredu’r canlynol:
- Sesiynau ymgynghori wythnosol gyda’r Cydlynydd i’r holl staff sy’n gweithio ar waith achos
- Y Cydlynydd yn mynychu cyfarfodydd tîm ar draws y gwasanaeth
- Sesiynau hyfforddi i reolwyr ynghylch rôl yr Arweinydd Dynodedig
- Archwiliadau thematig rheolaidd ynghylch Ymarfer Oedolion mewn Perygl
- Ail ddylunio’r Model Diogelu Oedolion yn Paris. Mae’r modiwl diogelu yn cydymffurfio â gofynion canllawiau Delio ag Achosion Unigol.
Mae’r Cadeirydd hefyd yn cadeirio Fforwm Diogelu Oedolion a gynhelir yn chwarterol, gan arwain ar Adroddiad Rhanbarthol Diogelu Oedolion mewn Perygl. Roedd y newidiadau hyn yn ymateb i Archwiliad Adroddiad Diogelu Oedolion mewn Perygl diweddar.
Drwy lansio’r Ffurflen Adrodd Diogelu Rhanbarthol, rydym yn disgwyl gweld gwelliant yn ansawdd y wybodaeth ynghylch pryderon diogelu. Bydd archwiliad dilynol yn cael ei gynnal yn 2017/18.
Rôl newydd Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu yng Nghonwy
Mae’r cynllun peilot newydd Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu (a ariannwyd drwy Gronfa Gofal Canolraddol) o fewn y gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr achosion sydd angen cyfarfod Strategaeth Oedolion mewn Perygl.
- Gyda dim ond 14% (cyfartaledd blynyddol) o Bryderon Diogelu bellach yn symud ymlaen i’r broses Strategaeth Oedolion mewn Perygl, mae hi’n amlwg y bu manteision syth i reolwyr. Mae pob gwasanaeth wedi cydnabod hyn ac wedi canmol y newid yn y broses.
- Nid yw’r term ‘NFA’ (No Further Action) bellach yn cael ei ddefnyddio. Fe ymchwilir i bob Pryder Diogelu a dderbynnir ac mae hyn yn unol â’r Ddeddf.
- Ym mis Chwefror 2017, fe gynhaliodd y Cydlynydd Diogelu Oedolion archwiliad o’r 52 ymholiad gan dynnu sylw at arfer da, yn enwedig ynghylch sicrhau fod barn Oedolion Mewn Perygl yn cael eu casglu.
Dysgu a Datblygu Gweithlu
Mae llawer o hyfforddiant wedi cael ei ddarparu i ymarferwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac asiantaethau darparwyr dros y deuddeng mis diwethaf. Mae’r digwyddiadau dysgu canlynol wedi cael eu cynnal:
- Cadeirio Cyfarfodydd Diogelu Oedolion
- Ymarfer Oedolion mewn Perygl i Reolwyr Arweinwyr Penodedig
- Oedolion mewn Perygl i Ddarparwyr
- Hyfforddiant Ymchwiliad ac Ymholiadau i Weithwyr Cymdeithasol/Therapyddion Galwedigaethol
Nod y Canlyniadau a nodwyd yn y Digwyddiadau Dysgu oedd sicrhau pwysigrwydd cadw’r Oedolyn yn ganolbwynt y broses ddiogelu.
Oedolion ar Goll
Mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, mae’r Awdurdod Lleol wedi bod yn treialu Protocol Oedolion Ar Goll newydd (a elwir yn Herbert Protocol) gyda’r nod o “arbed munudau a bywydau” pan mae unigolion sy’n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Gartrefi Gofal Nyrsio yn mynd ar goll.
Mae’r cynllun, wedi’i enwi ar ôl cyn-filwr a oedd yn dioddef o ddementia, wedi cael ei dreialu mewn cartrefi gofal ar draws Conwy cyn cyflwyno’r cynllun ar draws Gogledd Cymru.
Yn unol â’r cynllun, mae gofyn i aelodau o’r teulu neu ofalwyr lenwi proffil person ‘oedolyn mewn perygl’ am eu hanwyliaid, sydd yn cynnwys gwybodaeth megis eu henw, dyddiad geni, arferion a mynediad i gludiant. Mae’r ffurflen wedi’i chreu i helpu swyddogion yr Heddlu gyrchu gwybodaeth bwysig a all fod o gymorth i leoli person coll, sy’n byw mewn cartref gofal, cyn gynted â phosib.
Yn 2017/18, mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd y protocol ac yn adrodd yn ôl i Fwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Gogledd Cymru cyn dod i benderfyniad ynghylch cyflwyno’r protocol ledled gogledd Cymru.
Polisi Hunan esgeulustod a chelcio
Mewn ymateb i Adolygiad Ymarfer Oedolion, mae Conwy wedi cymryd arweiniad wrth ddatblygu Protocol Hunan Esgeulustod Rhanbarthol a datblygu Polisi Celcio Lleol.
Nod y Protocol Hunan esgeulustod ydi atal anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth unigolion sy’n ymddangos i fod yn hunan-esgeuluso trwy sicrhau fod:
- unigolion yn cael eu grymuso cyn belled â phosibl, er mwyn deall goblygiadau eu gweithredoedd;
- Bod yna ddealltwriaeth ranedig, aml-asiantaeth a chydnabyddiaeth o’r materion;
- Pryderon yn derbyn blaenoriaeth briodol;
- Asiantaethau a sefydliadau yn cynnal eu dyletswyddau gofal;
- Bod yna ymateb cymesur i lefel y perygl i’w hunain ac i eraill.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd yn cefnogi hawl yr unigolyn i gael ei drin gyda pharch ac urddas, ac i fod mewn rheolaeth, a chyn belled a’i fod yn bosibl, i fyw bywyd annibynnol; hyrwyddo ymagwedd gymesur i asesu a rheoli risg; ac egluro cyfrifoldebau gwahanol asiantaeth ac ymarferydd a hyrwyddo lefel briodol o ymyrraeth drwy ddull aml asiantaeth.
Nod y polisi celcio lleol ydi ymchwilio a rhannu gwybodaeth am y problemau sy’n gysylltiedig â chelcio o wahanol safbwyntiau proffesiynol a chymunedol. Ymdrin â digwyddiadau ar sail tystiolaeth, mewn ffordd strwythuredig, systematig, cydlynol a chyson.
Mae’r Cyngor yn cynnal dau weithdy aml asiantaeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r polisi. Bydd y ffocws ar Hunan esgeulustod a Diogelu. Yn ogystal, oherwydd y nifer sylweddol o achosion, fe fydd y Cyngor yn peilota Panel Hunan-esgeulustod Aml Asiantaeth. Fe fydd y panel yn ystyried cyflwyniadau achos ac yn cefnogi asiantaethau partner i gydweithio gyda’r nod o leihau a rheoli risgiau.
Diffiniad o lwyddiant fydd bod oedolion yn teimlo eu bod yn cael eu diogelu mewn modd sy’n eu cefnogi i wneud dewisiadau a chael rheolaeth am sut maent eisiau byw. Bydd llwyddiant hefyd yn golygu ymwybyddiaeth gynyddol gyda phartneriaid aml asiantaeth er mwyn i bawb atal, adnabod ac ymateb i bryderon diogelu.
Byrddau Diogelu Rhanbarthol
Fel Awdurdod Lleol, mae Conwy wedi cyflwyno dau adroddiad blynyddol i Fwrdd Rhanbarthol Plant ac Oedolion. Mae’r adroddiadau yn nodi’r gwaith sydd wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â diwallu blaenoriaethau’r Bwrdd yn 2016/17.
Blaenoriaethau Rhanbarthol Bwrdd Oedolion
- Mae BDOGC yn gweithredu’n effeithiol ac yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol.
Mae CBSC yn cyfrannu at weithrediad y bwrdd
- Mae canlyniadau ar gyfer oedolion sy’n destun cynllun amddiffyn oedolion wedi gwella o ganlyniad i’r holl asiantaethau ar draws Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau amddiffyn oedolion o ansawdd yn gyson yn unol â’r arfer gorau a gytunwyd.
Mae hon yn flaenoriaeth bwysig i Gonwy, rydym yn canolbwyntio ar wella’r Cynllun Amddiffyn Oedolion dros y deuddeng mis nesaf drwy ddigwyddiadau ymarfer dysgu ac adborth archwilio. Rydym wedi parhau i ddatblygu ymarfer gan sicrhau fod yr Oedolyn yn ganolbwynt i’r broses. Mae datblygu Model Arwyddion Diogelwch yng Nghonwy yn gam pwysig tuag at gefnogi’r amcan hon.
- Mae’r BDOGC yn sicr o ansawdd gwasanaethau diogelu ar draws gogledd Cymru.
Mae gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion amserlen archwilio ar waith ac mae’n darparu adborth i’r grŵp cyflawni ymarfer. - Mae’r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu’n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae’r cyhoedd yn ymwybodol o’r angen i ddiogelu ac amddiffyn, ac yn gwybod beth i’w wneud os oes mater diogelu.
Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr i wella ymarfer. - Mae canlyniadau i oedolion diamddiffyn yn gwella oherwydd mae’r gweithlu yn ddiogel, yn fedrus, yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar deuluoedd.
Mae Conwy wedi cymryd arweiniad mewn Datblygiadau Gweithlu Rhanbarthol. Rydym wedi darparu nifer o ddigwyddiadau hyfforddi i’n staff yn fewnol sy’n ymwneud ag ymarfer Oedolion mewn Perygl.
Blaenoriaethau Rhanbarthol Bwrdd Plant
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) a Phlant ar Goll
Mae llawer o waith wedi cael ei gynnal o fewn CBSC ynghylch agenda CSE a Phlant ar Goll. Mae ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol wedi sefydlu fforwm misol CSE. Mae’r fforwm yma’n trafod materion ymarfer. Mae panel Fframwaith asesu risg o gam-fanteisio rhywiol (SERAF) wedi cael ei sefydlu hefyd; mae pob achos plentyn sy’n destun SERAF yn cael ei gyflwyno i’r panel a’i adolygu.
Mae’r cynllun gweithredu Rhanbarthol CSE yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yng ngrŵp Plant Coll a CSE Conwy a Sir Ddinbych.
Mae archwiliad o achosion SERAF wedi cael ei gwblhau yn CBSC. Fe gyflwynwyd y casgliadau canlynol i’r grŵp cyflenwi ymarfer:
- Ers yr archwiliad diwethaf yn 2014, mae’n amlwg bod gwelliannau i ymarferion wedi digwydd ynghylch y broses SERAF. Gellir dangos hyn drwy:
- Asesiad SERAF yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod a rhesymeg clir dros y sgorio yn amlwg;
- Cyfarfod adolygu SERAF ar gyfer pob achos yn cael ei gynnal yn fwy aml;
- Rhaid nodi ansawdd cofnodion SERAF;
- Mwy o Berchenogaeth Aml Asiantaeth ynghylch proses SERAF.
- Mae’n amlwg iawn nad yw unrhyw ymyrraeth a ddarparwyd pan fo sgôr SERAF yn nodi risg sylweddol, yn gallu bod yn ddarn o waith tymor byr. Mae’n amlwg yn y sgôr ar gyfer pob un o’r achosion yma bod gwelliannau i’w gweld ar ôl tua 6-9 mis o ymglymiad.
- Cyflwynodd diffyg ymgysylltu gan rieni mewn dau achos her sylweddol.
- Mewn achosion pan fo’r plentyn yn destun Cynllun Amddiffyn Plant/ Cynllun Cefnogaeth Gofal a Chymorth, cynhelir sawl cyfarfod, er bod y broses SERAF yn cael sylw yn y Gynhadledd ac Adolygiad Plant sy’n Derbyn Gofal, mae hi’n bwysig bod Cynllun Gofal a Chymorth y Plentyn yn tynnu sylw at faterion a nodwyd yn y broses SERAF.
- Un o’r heriau a nodwyd yn un o’r achosion, yw mai dim ond am nifer penodol o oriau yn y bore y mae un person ifanc yn mynychu, oherwydd eu hymddygiad yn amgylchedd yr ysgol. Mynegwyd pryderon bod gan y person ifanc yma fwy o amser rhydd yn y prynhawn.
Plant sy’n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol
Dyma faes sydd yn parhau i fod yn un heriol i ysgolion/unedau addysg o fewn CBSC. Mae gwaith eisoes wedi cael ei gynnal ynghylch cyflwyno hyfforddiant i staff aml asiantaeth ac i blant a phobl ifanc. Mewn ysgolion, mae’r Uwch Unigolion Dynodedig (Cydlynwyr Amddiffyn Plant) wedi cael Hyfforddiant Pellach ar ‘Defnyddio’r Fframwaith i Ddadansoddi a Rheoli Ymddygiad Rhywiol Niweidiol’. Mae amrywiaeth o waith cadw’n ddiogel wedi cael ei gynnal gyda phlant a phobl ifanc. Mae hyfforddiant ar gael i deuluoedd hefyd drwy’r Tîm Ymyriadau Teuluol.
Cam-drin domestig
Mae’r maes yma’n parhau yn flaenoriaeth allweddol i CBSC. Mae gwaith aml asiantaeth yn parhau ar waith drwy fforymau megis Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC). Mae gan staff yn CBSC fynediad at hyfforddiant mewn cysylltiad â’r maes yma.
Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 – mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar draws CBSC mewn cysylltiad â’r maes yma.
Bydd y Panel Diogelu Corfforaethol yn monitro cydymffurfedd.
Polisi Diogelu Corfforaethol
Un o Flaenoriaethau Corfforaethol Conwy ydi bod Pobl yng Nghonwy yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel. Fel cymunedau rydym yn cadw llygad am ein gilydd ac mae pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu. Ein nod yw sicrhau nad yw cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl ac yn meddwl y dylem fod wedi gwneud mwy i ddiogelu pobl.
Ers rhoi’r Polisi Diogelu Corfforaethol ar waith ym mis Gorffennaf 2014, mae’r pecynnau diogelu canlynol naill ai wedi cael eu cwblhau neu mae camau gweithredu wedi cychwyn.
Yn 2016/17 nod y flaenoriaeth oedd sicrhau bod yr holl aelodau etholedig wedi mynychu hyfforddiant diogelu y Cyngor Gofal – mae pob aelod etholedig bellach wedi derbyn hyfforddiant diogelu.
Mae Grŵp Arweinwyr Dynodedig (arweinwyr diogelu ym mhob adran) yn cwrdd bob deufis. Arweinwyr Penodedig i gael mynediad at hyfforddiant arbenigol ynghylch Diogelu.
Mae’r grŵp wedi cwrdd tair gwaith dros y chwe mis diwethaf gan dderbyn hyfforddiant ar y meysydd canlynol:
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014
- Ymarfer Oedolion mewn Perygl
- Rheoli Honiadau yn erbyn Gweithwyr Proffesiynol
- Eithafiaeth Dreisgar
Cynhelir Gweithdai Hyfforddiant Recriwtio Diogel Corfforaethol drwy gydol 2016/17 ar gyfer rheolwyr sy’n ymwneud â’r broses recriwtio – mae hi bellach yn orfodol bod rheolwyr ar draws y Cyngor yn mynychu Hyfforddiant Recriwtio Diogel.
Bydd gwybodaeth perfformiad allweddol mewn perthynas â Diogelu yn cael ei fonitro gan y Panel Diogelu Corfforaethol (gweler y Cynllun Corfforaethol).
Bydd gweithgaredd archwilio diogelu sy’n cael ei gynnal mewn adrannau unigol yn cael ei adrodd i’r Panel Diogelu Corfforaethol – mae pob Arweinydd Diogelu Penodol yn llenwi archwiliad ar-lein er mwyn monitro cydymffurfiaeth ynghylch Diogelu Corfforaethol.
Plentyn mewn Perygl
Dros y deuddeng mis diwethaf mae Conwy wedi parhau i fonitro penderfyniadau wrth ymateb i atgyfeiriadau drws ffrynt er mwyn adnabod gwelliannau mewn ymarfer ynghylch Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth. Mae dau archwiliad wedi cael eu cwblhau; archwiliad mewnol gan uwch reolwyr ac archwiliad aml-asiantaeth.
Prif Gasgliadau o’r ddau archwiliad
- Daeth yr archwiliad o hyd i ymarfer anghyson (o fewn y sampl o achosion a archwiliwyd) mewn cysylltiad ag ansawdd yr atgyfeiriadau y derbyniodd yr aml-asiantaethau.
- Prawf o gydymffurfio gydag amserlenni statudol ynghylch ymateb i atgyfeiriad.
- Gwelwyd gwelliannau mewn cofnodi achosion bod atgyfeiriadau blaenorol wedi cael eu hystyried yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau.
- Mewn perthynas ag archwiliad Conwy a Sir Ddinbych 2014; gwelwyd gwelliannau mewn cysylltiad â chyfeirio at wasanaethau eraill, ond mae rhagor o waith i’w wneud.
- Ar y cyfan, roedd yr archwilwyr yn cytuno â phenderfyniadau Rheolwyr Tîm yng Nghonwy mewn ymateb i atgyfeiriadau.
Rôl Sicrhau Ansawdd Cydlynydd Diogelu Plant
Ar ôl pob cynhadledd, bydd y Cadeirydd yn cwblhau archwiliad ar-lein mewn cysylltiad ag ansawdd y broses gynhadledd. Bydd yr archwiliad yn edrych ar:
- Ansawdd adroddiadau’r gweithiwr cymdeithasol ac adroddiadau eraill ar gyfer y gynhadledd;
- Pa mor brydlon y mae’r gweithwyr cymdeithasol yn rhannu’r adroddiadau;
- Presenoldeb pobl ifanc yn y gynhadledd;
- Presenoldeb aelodau’r teulu;
- Presenoldeb yr asiantaeth yn y gynhadledd.
– Prif gasgliadau o’r Archwiliad dros y 12 mis diwethaf
– Mae ansawdd adroddiadau Gwaith Cymdeithasol ar gyfer y gynhadledd yn dda;
– Mae ymgysylltiad yr asiantaeth partner gyda phroses y gynhadledd hefyd yn dda;
– Mae grwpiau craidd wedi bod yn gweithredu’n dda;
– Mae angen gwelliant ym mhresenoldeb tadau/dynion o bwys yn y gynhadledd.
Ymgysylltiad Plant/Teuluoedd yn y Gynhadledd
Fel awdurdod byddwn yn parhau i wella lefelau ymgysylltu gyda’r plentyn/person ifanc yn y broses Amddiffyn Plant. Dros y ddwy flynedd nesaf, fe fydd Conwy yn rhoi Model Arwyddion Diogelwch ar waith.
Mae eisoes o fewn maes y gynhadledd, mae’r Cadeirydd yn ffocysu’r agenda ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau. Caiff plant/pobl ifanc eu hannog i lenwi Pecyn Gwaith Three Houses cyn y gynhadledd.
Ar ddiwedd pob cynhadledd, gofynnir i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n bresennol i lenwi holiadur i edrych ar ffyrdd o wella proses y gynhadledd.
“Dwi’n meddwl bod y Cadeirydd wedi ymdrin â phethau yn ardderchog heddiw; achos cymhleth ac roedd tad y plentyn hynaf wedi teithio o bell i fynychu, ond fe weithiodd y Cadeirydd yn dda gyda’r ddau dad heddiw” Gweithiwr Iechyd
“Hapus gyda phopeth; dwi’n teimlo’n ddiogel iawn; does dim angen i’r cyfarfod boeni” Barn plentyn
Cyfraddau Ail-gofrestru Amddiffyn Plant
Mewn cysylltiad â chyfanswm y nifer o blant a gafodd eu hychwaneg i’r Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn a oedd wedi bod ar y gofrestr yn flaenorol, dim ond naw achos oedd gan Gonwy, sef yr ail ffigur isaf yng Nghymru gyfan.
Mae hyn yn dangos yr ymagwedd bresennol yng Nghonwy i sicrhau bod plant sydd yn cael eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn parhau i dderbyn cefnogaeth drwy Gynlluniau Gofal a Chymorth Plant mewn Angen.
- Mae’r gwasanaethau yn parhau i fod ar gael tri mis ar ôl i enw’r plentyn gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
- Caiff dyddiad cyfarfod adolygu Chynllun Gofal a Chymorth Plant mewn Angen ei drefnu yn y gynhadledd olaf
Data perfformiad sy’n ategu’r safon ansawdd yma
Ansoddol
Pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel
Roedd 76% o oedolion a ymatebodd yn cytuno eu bod yn teimlo’n ddiogel. Y thema mwyaf cyffredin yn y sylwadau ychwanegol ydi ofn disgyn, yn hytrach nag unrhyw ffactorau allanol.
Mae 86% o oedolion gydag anableddau dysgu yn teimlo’n ddiogel.
Mae 87% o ofalwyr yn teimlo’n ddiogel, ac unwaith eto mae’r sylwadau ychwanegol yn sôn am fod ofn disgyn a delio â’u cyflyrau meddygol eu hunain. Mae’n rhaid iddynt hefyd ddelio ag ymddygiad y bobl y maent yn gofalu amdanynt, a gall hyn fod ar ffurf cam-drin geiriol.
Mae 93% o blant yn teimlo’n ddiogel, a chafwyd sylwadau cadarnhaol iawn i ategu’r farn hon, ee, “Dwi’n teimlo’n ddiogel iawn iawn yma” a “Dwi’n teimlo’n gwbl ddiogel”.
Meintiol
- Canran yr ymholiadau amddiffyn oedolion sydd yn cael eu cwblhau o fewn amserlenni statudol (7 diwrnod) ydi 89.04%.
- Canran ailgofrestru plant ar gofrestri amddiffyn plant awdurdodau lleol ydi 17.91%
- Hyd cyfartaledd ar gyfer yr holl blant a oedd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn ydi 246 diwrnod.