Gall Tîm o Amgylch y Teulu gynnig ymyrraeth gyda Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd i edrych ar faterion megis rhianta, problemau gyda pherthnasau a phroblemau ymddygiad.
Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol Conwy (SAA) hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi plant i gadw cysylltiad lle y bo’n briodol gydag aelodau’r teulu (gweler yr adroddiad blynyddol i ddarllen enghreifftiau pellach o achosion). Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol wedi cynnal sawl gweithdy ledled yr awdurdod dros y deuddeg mis diwethaf. Mae’r rhain wedi darparu gwybodaeth ynghylch rôl yr SAA, eu cyfrifoldebau, y ddeddfwriaeth ddiweddaraf, ‘pwerau’ y SAA wrth sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu, a’u gallu i drafod materion gydag uwch reolwyr a Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) os oes angen, ac os ydynt yn teimlo nad yw anghenion y plant yn cael eu diwallu drwy’r Cynllun Gofal a Chymorth.
Astudiaeth Achos: Rôl yr SAA wrth sicrhau bod anghenion hunaniaeth y plentyn yn cael eu diwallu – cyswllt gyda brodyr a chwiorydd
Cefndir
Cafodd pump o blant eu hadleoli oherwydd esgeulustod hir dymor. Cafodd y plant eu lleoli mewn pedwar lleoliad maethu gwahanol, roedd hyn oherwydd anghenion ac oedran y plant; mae gan y plentyn hynaf anableddau corfforol a dysgu sylweddol a chafodd ei leoli mewn lleoliad maeth hir dymor priodol, cafodd dwy chwaer sydd yn agos o ran oedran eu lleoli gyda’u gilydd mewn lleoliad maethu gyda’r bwriad o chwilio a dod o i hyd i leoliad mabwysiadu, a chafodd y ddau blentyn ieuengaf eu lleoli mewn lleoliad unigol gyda’r bwriad o’u mabwysiadu. Yn ystod gwrandawiadau llys ac oedi wrth ddod o hyd i fabwysiadwyr addas ar gyfer y ddwy chwaer, y cynllun ar eu cyfer nhw yw eu bod yn aros mewn gofal maeth hir dymor.
Ymyrraeth
Yn ystod Adolygiad Plant sy’n Derbyn Gofal ar gyfer y ddwy chwaer sydd wedi’u lleoli gyda’u gilydd, fe drafodwyd bod mabwysiadwyr posibl wedi tynnu yn ôl o’r broses, o bosibl oherwydd ymddygiad y plant, ac roedd yna deimlad y byddai chwilio/dod o hyd i fabwysiadwyr posibl newydd yn dasg anodd, roedd tua 18 mis wedi mynd heibio yn chwilio am fabwysiadwyr posibl ar gyfer y plant yma.
Gofynnodd ac argymhellodd y swyddog adolygu annibynnol bod y gweithiwr cymdeithasol yn galw Cyfarfod Cynllunio Cyfreithiol ar gyfer y ddwy yma er mwyn llunio cynllun parhad ar eu cyfer, gan gofio bod y plant yn heneiddio a bod y tebygolrwydd o ddod o hyd i fabwysiadwyr posibl yn prinhau. Yn ogystal, dylid trafod ac ystyried cyswllt y plant gyda’u rhieni; nid oedd unrhyw gyswllt wedi bod gyda’r rhieni ers i’r Gorchymyn Lleoli gael ei roi.
Dygwyd Adolygiad Plant sy’n Derbyn Gofal yn ei flaen i drafod y penderfyniadau ac argymhellion o’r Cyfarfod Cynllunio Cyfreithiol. Fe fydd y plant nawr yn aros mewn gofal maeth tymor hir.
Yn ystod adolygiad ar gyfer un o’r plant iau sydd mewn lleoliad mabwysiadu, roedd yna drafodaeth ynghylch ei gysylltiad gydag aelodau’r teulu ar ôl i’r broses fabwysiadu ddod i ben. Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol mai’r cynllun ar ei gyfer o fyddai cael cysylltiad gyda dau o’r plant (un gydag anabledd sylweddol ac un a fydd hefyd yn cael ei fabwysiadu, ond ddim yn cynnwys y ddau blentyn mewn gofal maeth hir dymor).
Cafodd y gweithiwr cymdeithasol ei herio ynghylch y cynllun yma, a gofynnwyd iddo/iddi feddwl eto am y cynllun cysylltiad.
Canlyniadau
Dyna wnaeth y gweithiwr cymdeithasol gyda chefnogaeth y rheolwr tîm, ac mae bellach wedi trefnu cyfarfod gyda darpar fabwysiadwyr y ddau blentyn ifanc a’r gofalwyr maeth sydd wedi ymrwymo i ddarparu lleoliad tymor hir ar gyfer y chwiorydd, i drafod beth maent yn ei feddwl ac ymarferoldeb sicrhau bod cyswllt rhwng y brodyr a’r chwiorydd yn digwydd, fe allai hyn fod yn gyswllt wyneb i wyneb blynyddol neu’n gyswllt anuniongyrchol.
Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Mae gennyn Dîm Diogelu Rhag Colli Rhyddid yng Nghonwy. Mae’r tîm wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau’r defnyddiwr gwasanaeth. Mae’r enghraifft ymarfer canlynol yn dangos y gwaith sydd wedi digwydd yn yr awdurdod:
Cafodd Defnyddiwr Gwasanaeth ei roi mewn cartref gofal oherwydd fod perygl y byddai’n cael ei anfon i ysbyty meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Cafodd ei ddarbwyllo i fynd i gartref gofal nyrsio oherwydd hunan-esgeulustod yn ei gartref ei hun. Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn ffarmwr ac mae’n gwerthfawrogi ei annibyniaeth. O’r dechrau, mae’r defnyddiwr gwasanaeth wedi dweud ei fod yn dymuno dychwelyd gartref ar ôl iddo wella. Fe gysylltodd y cartref gofal â’r Awdurdod Lleol (Corff Goruchwylio) ar gyfer atgyfeiriad er mwyn Awdurdodi Diogelu Rhag Colli Rhyddid gwrthrychol.
Daeth asesiadau i’r casgliad nad oedd gan y defnyddiwr gwasanaeth allu meddyliol yn y maes allweddol o ddeall yr angen iddo fod dan reolaeth a goruchwyliaeth barhaol wrth ddiogelu ei iechyd a lles. Daeth yr Aseswr Lles Gorau i’r casgliad fod y defnyddiwr gwasanaeth yn gwrthwynebu i’r lleoliad parhaol yn y cartref gofal nyrsio. Cafodd cyfarfod Lles Gorau ei alw gyda’r holl fudd-ddeiliaid – Gweithiwr Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd, deilydd Atwrneiaeth Arhosol ac Eiriolydd Galluoedd Meddyliol Annibynnol 39D (IMCA) a staff y cartref gofal nyrsio. Fe benderfynwyd y byddai’r Atwrneiaeth Arhosol ac IMCA yn siarad gyda’r defnyddiwr gwasanaeth am sut y gellir ei ddychwelyd gartref.
Mae’r broses wedi galluogi’r defnyddiwr gwasanaeth i herio ei leoliad drwy’r Llys Gwarchod. O dan Erthygl 5 Deddf Hawliau Dynol 1998 mae gan bawb yr hawl i ryddid a diogelwch. Gellir defnyddio Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol) yn yr achos hwn hefyd.
Gweithio mewn partneriaeth i amddiffyn Oedolion Ifanc
Mae’r achos canlynol yn dangos rhywfaint o’r gwaith sydd wedi digwydd yng Ngwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn i helpu oedolyn ifanc i gydnabod perthynas anniogel ac i amddiffyn eu hunain.
Roedd cleient ifanc yn cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol niweidiol posibl. Fe arweiniodd hyn at Waith Cymdeithasol Diogelu yn Nhîm Mynediad Conwy, gyda Thîm Oedolion Diamddiffyn, Heddlu Gogledd Cymru a Chlinig Iechyd Rhywiol yn cydweithio i adnabod a lleihau ymddygiad drwy gynnwys y person ifanc yn y broses cynllunio risg.
Fe roddodd yr awdurdod lleol ffôn symudol i’r defnyddiwr gwasanaeth er mwyn iddi allu cysylltu, ac fe roddodd hi ei manylion i weithwyr proffesiynol er mwyn iddynt allu cysylltu drwy gyfryngau cymdeithasol. Fe aeth y Gweithiwr Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, drwy beryglon safleoedd cyfryngau cymdeithasol penodol a chynnig cefnogaeth i ddileu cyfrifon lle roedd y cleient yn cydnabod y gellir camfanteisio ar y defnyddiwr gwasanaeth. Gwnaed trefniadau i’r heddlu gynnal gwiriad lles os nad ydi’r defnyddiwr gwasanaeth wedi cysylltu neu os nad oes galwad wedi cael ei wneud. Os na fyddai modd dod o hyd i’r defnyddiwr gwasanaeth, fe fyddent yn cael eu cofnodi ar goll. Roedd yna gyfarfodydd diogelu rheolaidd i sicrhau fod y cynllun amddiffyn risg yn gweithio er mwyn i’r cleient i gysylltu os oedd y defnyddiwr gwasanaeth eisiau aros allan dros nos, gan adael gwybodaeth am bwy roeddynt yn aros â nhw ac ymhle.
Data perfformiad sy’n ategu’r safon ansawdd yma
Ansoddol
Pobl yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o’u cymuned
Dim ond 47% o oedolion a ymatebodd yn dweud eu bod yn rhan o’u cymuned. Mae’r sylwadau ychwanegol yn rhoi cipolwg i ddinasyddion sy’n teimlo na allant fynd allan, yn aml oherwydd problemau iechyd, ac felly yn arwain at arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg cyfranogiad mewn gweithgareddau lleol.
I gyferbynnu, roedd oedolion gydag anableddau dysgu yn teimlo’n llawer mwy cadarnhaol am eu lle yn y gymuned, gyda 93% yn cytuno gyda’r datganiad.
Roedd 61% o ofalwyr yn teimlo’n rhan o’r gymuned, gyda sylwadau ychwanegol yn awgrymu fod y rôl ofalu yn ffactor i’w hatal rhag bod yn rhan mewn gweithgareddau yn yr ardal leol. Mae hyn yn broblem ychwanegol i bobl sydd wedi symud i’r ardal gan nad ydynt yn gallu dod o hyd i amser i feithrin rhwydweithiau cymdeithasol ac felly nid oes ganddynt ymdeimlad o berthyn.
Roedd 82% o blant yn teimlo eu bod yn perthyn i’r ardal maent yn byw ynddi. Dim ond un ddywedodd yr hoffent symud yn ôl i Loegr gan mai yno mae eu teulu.
Rhieni yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o unrhyw benderfyniad a wneir am ofal a chymorth eu plentyn
O’r 7 a ymatebodd, cytunodd 1 eu bod wedi bod yn rhan o’r broses benderfyniad, gan gynrychioli 14%. Roedd 57% yn teimlo mai dim ond rhan o’r amser roeddynt wedi bod yn rhan o’r broses.
Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo eu bod cael eu cefnogi i barhau â’u rôl gofalu
Roedd 68% yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rôl gofalu, gyda nifer yn darparu sylwadau ychwanegol am eu hamgylchiadau, sydd yn amrywio o ran profiad ac ansawdd bywyd. Mae hi’n amlwg bod angen cefnogaeth ar gyfer gofalwyr a’i fod yn cael ei werthfawrogi’n fawr pan gaiff ei ddarparu. Dywedodd un person mai’r cwbl y mae hi ei angen ydi rhywun i eistedd i lawr gyda hi a gwrando ar gerddoriaeth fel rhyw fath o seibiant o’i dyletswyddau dyddiol. Mae cost y gwasanaeth yn achos o straen phryder.
Gofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o gynllunio’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt
Roedd 79% o ofalwyr yn cytuno â’r datganiad hwn.
Meintiol
Canran y plant sy’n cael eu cefnogi i barhau i fyw gyda’u teulu ydi 74.01%
- Canran y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref o ofal yn ystod y flwyddyn ydi 7.33%
- Canran y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn ydi 12.92%