Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr

Mae blwyddyn gynhyrchiol arall wedi mynd heibio ac mae tîm Gofal Cymdeithasol Conwy yn sicr wedi bod yn brysur. Y prif ddatblygiad ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru oedd gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ym mis Ebrill 2016, ac roedd Conwy mewn sefyllfa dda i ddiwallu dyletswyddau a gofynion ymagwedd wahanol tuag at ddarpariaeth.

Mae’r cysyniad o ganolbwyntio ar ganlyniadau, lles a lleihau rhwystrau at wasanaethau wrth wraidd ein hail-ddyluniad, a phedair blynedd yn ddiweddarach, rwy’n falch o weld bod rhai o’r llwyddiannau hyn i’w gweld, megis y gwasanaeth Lles Cymunedol sydd wedi gweld ystod arloesol o brosiectau cymunedol yn cael eu cefnogi ar gyfer oedolion hŷn, ac mae hyn wedi cael ei gydnabod fel arfer da ac fe fydd yn cael ei ddangos yng Nghynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol 2017. Mae’r Gwasanaethau Anabledd i bob oedran wedi cael ei sefydlu, ac o dan arweinyddiaeth ofalus y rheolwr gwasanaeth, mae wedi datblygu i dîm sy’n ffynnu sydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau clir i bawb sydd ag anabledd. Mae alinio Gofal Cymdeithasol ac Addysg wedi datblygu fel rhaglen glir o ddatblygiad, un maes yw datblygu’r tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a chydweithio’n agosach i sicrhau ymagwedd gadarn tuag at y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2018.

Fe ganolbwyntiodd y gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn ar y model adferiad ar gyfer oedolion o bob oedran sydd yn teimlo effeithiau ffactorau diamddiffynedd meddyliol, megis iechyd meddwl gwael neu ddigartrefedd. Mae’r tîm bychan hwn wedi bod yn arloesol iawn ac maent wedi cael eu canmol sawl tro am eu ymyriadau. Yn amlwg mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn ffocws ar gyfer gwelliant yn dilyn y pwysau y gwnaethant eu hwynebu fis Hydref diwethaf, mae yna gynllun gwella ac adnodd penodol ar waith i sicrhau bod pryderon yn cael eu monitro gan y bwrdd iechyd a phroses ddemocrataidd yr awdurdodau lleol.

Rydym yn gweithio mewn modd llawer mwy rhagweithiol gyda’n darparwyr a gomisiynwyd, ac rydym yn cwblhau ein strategaeth gomisiynu at y diben hwnnw, sy’n canolbwyntio’n drwm ar y ffaith mai pobl hŷn yw’r boblogaeth fwyaf yng Nghonwy, ac yn eu mysg nhw y mae’r galw mwyaf am wasanaethau.

Rwyf wedi bod yn falch ofnadwy o weld datblygiad y tîm cyfranogi, yn enwedig gwaith cyngor yr ifanc, ac mae’r rhwydwaith cyfranogi wedi creu argraff ac wedi bod yn werthfawr i’r gwasanaeth, partneriaid ac i ailadroddiad cyntaf Cynllun Corfforaethol newydd Conwy.

Mae heriau yn parhau i fod o’n blaenau, yn arbennig o ran y pwysau ariannol, ond yn ogystal, mae’r cymhlethdod newidiol a’r galw am ofal cymdeithasol yn gofyn am ymagwedd newydd a ffyrdd gwahanol o ymyrraeth ar gyfer gwaith cymdeithasol. At y diben hwn, rydym yn dymuno buddsoddi i newid y system gyfan a gweithredu’r ymagwedd seiliedig ar gryfderau – Arwyddion Diogelwch ym mhob maes gwasanaeth.

Mae ein gweithlu yn bwysig i ni ac er ein bod wedi lleihau mewn nifer, rydym wedi parhau i fod yn dîm eithaf sefydlog, er ein bod wedi cael anhawster recriwtio i ambell swydd Gwaith Cymdeithasol. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor i sicrhau bod ein rheolwyr rheng flaen yn dylanwadu ac yn siapio’r rhaglen gradd meistr, ac mae nifer fechan ohonynt wedi ymuno â’r tîm.

Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod, yn benodol at ddefnyddio’r fframwaith canlyniadau newydd i gael gwell dealltwriaeth o sut mae ein gwasanaethau yn diwallu’r angen, a sut y gallwn ni wella mewn unrhyw fodd. Diolch yn fawr i’r holl staff ac am yr adborth rydym yn ei dderbyn yn rheolaidd sydd yn allweddol i’n llwyddiannau.

 

Jenny Williams, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Chwilio

Adroddiad 2017-18

Acronymau Cyffredin


Cyflwyniad


Crynodeb o Berfformiad gan y Cyfarwyddwr


Sut mae Pobl yn Siapio ein Gwasanaethau?


Safon Ansawdd 1 – Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chyd-gynhyrchu canlyniadau lles personol y mae pobl yn dymuno eu cyflawni


Safon Ansawdd 2 – Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol


Safon Ansawdd 3 – Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed


Safon Ansawdd 4 – Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas


Safon Ansawdd 5 – Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau domestig, teuluol a phersonol diogel


Safon Ansawdd 6 – Gweithio gyda a chefnogi pobl i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion


Sut Ydym ni’n Cyflawni yr Hyn Rydym ni’n ei Wneud


Edrych ymlaen at 2018-19 a thu hwnt


Rhagor o Wybodaeth a Dogfennau Pwysig

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English