Mae COG 3 yn parhau i weithio ar eu blaenoriaethau; codymau, dementia ac ynysu cymdeithasol. Cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth atal codymau, sy’n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer unigolion sydd mewn perygl o gael codymau i’w helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol. Cynhaliwyd digwyddiad ‘Galw Heibio Dementia’ yn Llanrwst er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoddodd gyfle i’r cyhoedd gael sgwrs gyda gweithwyr proffesiynol ar ddatblygu Llanrwst fel cymuned gyfeillgar i ddementia yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd mae’r Grŵp Tasg a Gorffen Unigrwydd ac Ynysu Cymdeithasol yn adolygu sut mae pobl yn edrych ar ymddeol. Amlygodd gwybodaeth a gasglwyd gan y grŵp nifer o enghreifftiau lle mae pobl wedi symud i Gonwy i ymddeol gyda’u partneriaid ond i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill o’r teulu. Mewn rhai achosion efallai y bydd un partner yn mynd yn sâl, neu’n marw sydd felly’n gadael unigolion sydd mewn perygl o gael ei ynysu’n gymdeithasol oherwydd unigrwydd, afiechyd neu leoliad. Yn dilyn hynny mae’r grŵp wedi datblygu dau holiadur er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae pobl yn cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad. Un ‘holiadur cyn ymddeol’ i ddarganfod a yw pobl yn cynllunio, pa oedran, ac am beth. Mae’r holiadur arall ‘ar ôl ymddeol’ i gael dealltwriaeth o safbwyntiau’r rhai sydd eisoes wedi ymddeol. Bydd y canlyniadau’n galluogi cyflogwyr a gweithwyr i gael dealltwriaeth o realiti ymddeoliad, nid yn unig yr elfen ariannol, ac annog unigolion i ystyried, cyn iddynt ymddeol, agweddau emosiynol a lles eu bywydau yn y dyfodol.