Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn cynnwys dyletswydd newydd i gynnig y cyfle i unrhyw Blentyn sy’n Derbyn Gofal Maeth aros yn eu hamgylchedd teuluol sefydlog, lle maent yn cael eu meithrin nes eu bod yn barod i symud ymlaen. Yn hytrach na bod y person ifanc yn symud allan yn 18 oed, gallant bellach aros mewn Gofal Maeth nes eu bod yn 21, neu hyd at 25 oed os ydynt mewn addysg amser llawn. Mae’r cynllun Pan Fydda i’n Barod hefyd yn ymestyn dyletswydd newydd i’r bobl ifanc hynny sy’n byw gyda Gofalwyr Maeth o Fewn y Teulu ac Unigolion Cysylltiedig, sy’n gadarnhaol iawn.
Rydym wedi cyfrannu’n ymarferol at greu polisi rhanbarthol ar draws y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.
- Crëwyd taflenni gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc, Gofalwyr Maeth a brodyr a chwiorydd.
- Darparwyd hyfforddiant i staff allweddol sy’n ymwneud â “Pan Fydda i’n Barod”. Darparwyd sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr hefyd er mwyn cyrraedd y gweithlu ehangach.
- Er mwyn ein helpu i ddiwallu anghenion o ran “Pan fydda i’n Barod”, datblygwyd protocolau newydd ar y cyd â Budd-dal Tai a hawliau Lles i sicrhau bod Gofalwyr Maeth a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau ac nad ydynt o dan anfantais yn ariannol.
- Cafwyd ymagwedd ranbarthol tuag at ymgysylltu gyda darparwyr annibynnol, yn enwedig o ran yr angen iddynt drosglwyddo i’r Awdurdod Lleol os ydynt yn dod yn Ofalwyr Maeth “Pan Fydda i’n Barod”.
- Anfonwyd gwybodaeth am “Pan Fydda i’n Barod” at bob person ifanc (16+) trwy’r newyddlen a ddatblygwyd gan y tîm Ymgynghorwyr personol, sy’n targedu pob person ifanc (16+) sydd â hawl i gael gwasanaeth gadael gofal.
Wrth edrych ymlaen o ran y galw tebygol, dros y 12 mis nesaf, mae gennym hyd at chwech o bobl ifanc sy’n debygol o fod angen parhau yn eu lleoliad o dan drefniant “Pan Fydda i’n Barod”, a deg yn rhagor o bobl ifanc y flwyddyn ganlynol.